Neidio i'r prif gynnwy

Mae Canolfan Treftadaeth Doc Penfro, sy'n adrodd hanes y dref gan gynnwys ei rhan yn creu y Millennium Falcon eiconig ar gyfer Star Wars ym 1979, yn mynd o nerth i nerth diolch i ymroddiad ac ymrwymiad ei gwirfoddolwyr a'i hymddiriedolwyr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflawnodd yr amgueddfa annibynnol, sydd wedi'i lleoli yng Nghapel hanesyddol y Doc Brenhinol, Safon Achredu Amgueddfeydd y DU ym mis Gorffennaf 2023. Mae'r Safon, sy'n helpu amgueddfeydd i fod yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol ac yn diogelu eu casgliadau, yn cael ei rheoli yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru.

Mae gan y Ganolfan gasgliad unigryw sy'n adrodd hanes 200 mlynedd y dref a'r Dociau Brenhinol enwog, gan gynnwys arddangosfa barhaol i ddathlu adeiladu y Millennium Falcon ar gyfer ffilm Star Wars, a adeiladwyd yn Noc Penfro. Mae'r arddangosfa'n olrhain taith lawn y llong ofod eiconig, o'i dyluniadau cynnar i'r broses adeiladu i'r logisteg o gludo'r llong ofod wedi'i chwblhau ledled y wlad.

Mae yna hefyd replica maint llawn o gaban peilot llong hedfan Short Sunderland, a oedd unwaith yr awyren enwocaf yn hen Ddoc RAF Penfro.

Mae achrediad amgueddfeydd hefyd yn helpu i sicrhau gofal o safon uchel, fel y gall cenedlaethau'r dyfodol fwynhau eu casgliadau. Mae cymorth datblygu amgueddfeydd yng Nghymru yn cael ei ddarparu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.

Mae Blaenoriaethau drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwylliant, sydd allan ar hyn o bryd ar gyfer ymgynghoriad, yn pwysleisio pwysigrwydd amgueddfeydd bach, annibynnol ar warchod treftadaeth leol ac adrodd stori cymuned. Mae hefyd yn tynnu sylw at werth gwirfoddolwyr yn y sector diwylliant, yn enwedig mewn sefydliadau sy'n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr fel Canolfan Treftadaeth Doc Penfro.

Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant: 

"Mae Canolfan Treftadaeth Doc Penfro yn chwarae rhan allweddol wrth adrodd straeon diddorol ei chymuned. Mae'n amlwg bod gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr yn angerddol am hanes yr ardal ac wedi ymrwymo i sicrhau bod ei stori'n cael ei hadrodd.

"Mae Safon Achredu Amgueddfeydd yn bwysig wrth gefnogi amgueddfeydd i sicrhau y gallant ffynnu i'r dyfodol ac mae'r Ganolfan yn haeddu cael y dyfarniad.

"Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ei Blaenoriaethau ar gyfer y diwylliant yng Nghymru i osod cyfeiriad y sector yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i gael y Blaenoriaethau'n iawn a dim ond trwy weithio gyda'n gilydd y gallwn wneud hynny felly rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i roi eu barn ar ein gweledigaeth erbyn dydd Mercher 4 Medi pan fydd yr ymgynghoriad yn cau."

Dywedodd Graham Clarkson, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth: 

"Fel amgueddfa sy'n cael ei harwain a'i rhedeg gan wirfoddolwyr, rydym wrth ein bodd ein bod bellach yn cael ein cydnabod ar yr un lefel ag amgueddfeydd mwy a phroffesiynol Cymru. Roedd y prosiect yn cynnwys adeiladu storfa arteffactau newydd ddiogel, gweithdrefnau newydd i sicrhau bod y casgliad yn cael ei fonitro a'i arddangos yn briodol ac ysgrifennu llawer o bolisïau newydd i ymdrin â phob agwedd ar redeg amgueddfa yn yr 21ain ganrif."