Neidio i'r prif gynnwy

Menter er mwyn sicrhau bod Cymru’n wlad sy’n caru pryfed peillio yw Caru Gwenyn.

Dyma’r cynllun cenedlaethol cyntaf o’i fath. Hoffem weld holl sefydliadau Cymru yn cymryd rhan, gan gynnwys:

  • cymunedau a sefydliadau cymunedol
  • ysgolion
  • cyrff cyhoeddus
  • cynghorau tref a chynghorau cymuned
  • busnesau
  • prifysgolion a cholegau
  • mannau addoli

Nid cynllun ar gyfer gwenyn yn unig mohono Caru Gwenyn. Hoffem weld pobl yn cymryd camau er mwyn helpu ein holl bryfed peillio.