Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, lansiwyd menter genedlaethol sydd â’r nod o annog pobl i helpu pryfed peillio, gan gynnwys gwenyn a gloÿnnod. Credir mai’r dyma’r gyntaf o’i bath yn y byd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi ymuno â Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wrth groesawu ‘Caru Gwenyn’, sef cynllun newydd sbon sy’n mynd ati i helpu’r pryfed peillio i gyd drwy greu cenedl o gymunedau a sefydliadau sy’n llesol i bryfed peillio. 

Mae ‘Caru Gwenyn’ wedi’i bwriadu ar gyfer cymunedau a sefydliadau cymunedol, ysgolion, cyrff cyhoeddus, trefi a chynghorau cymuned, busnesau, prifysgolion a cholegau, addoldai a nifer o sefydliadau eraill, ledled Cymru. 

Dyma bedwar nod Caru Gwenyn:

  1. Bwyd – darparu ffynonellau bwyd sy’n llesol i bryfed peillio.
  2. Llety Pum Seren – sicrhau lleoedd i bryfed peillio fyw.
  3. Peidio â defnyddio plaladdwyr na chwynladdwyr  ̶  ymrwymo i osgoi cemegau sy’n niweidio pryfed peillio.
  4. Hwyl – cynnwys y gymuned i gyd gan sôn wrth bobl am y rheswm dros helpu pryfed peillio.

Dywedodd Lesley Griffiths:

“Mae’n bleser gen i gynnig fy nghymorth wrth lansio ‘Caru Gwenyn’. 

“Tra bo’r ymgyrch yn canolbwyntio’n bennaf ar annog pobl i gymryd rhan mewn modd hwyliog, mae’n cynnig neges bwysig hefyd. Mae nifer y pryfed peillio yn gostwng ac mae hynny’n peryglu’n gallu i gynhyrchu bwyd, pren a ffibr.

“Drwy roi pedair thema Caru Gwenyn ar waith, gallwn ddiogelu pryfed peillio a sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ar gyfer cymunedau lleol."

Dywedodd Bleddyn Lake, siaradwr ar ran Cyfeillion y Ddaear:

“Unwaith eto, mae Cymru ar flaen y gad o ran mentrau amgylcheddol.

“Rydym yn gwybod bod gwenyn a phryfed peillio eraill yn wynebu problemau yn sgil ffactorau megis colli cynefinoedd, y defnydd o blaladdwyr a newid yn yr hinsawdd.

“Y newyddion da yw ein bod ni i gyd yn gallu helpu. Wrth i Weithlu Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Pryfed Peillio lansio ‘Caru Gwenyn’, mae’n gam arbennig ymlaen ac mae’r fenter yn rhywbeth y gallwn ni i gyd fod yn rhan ohono  ̶  yn yr ysgol, yn ein cymunedau, yn ein gweithleoedd neu’n haddoldai - mewn unrhyw le!”

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet:

“Hwn yw’r cynllun cenedlaethol cyntaf o’i fath yn y DU, ac o bosib, yn y byd. Dewch inni greu bwrlwm a sicrhau mai Cymru yw’r genedl sy’n caru gwenyn fwyaf yn y byd.”

Lansiwyd ‘Caru Gwenyn’ yn ystod Cynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru ym Mhrifysgol  Bangor. Gellir gweld manylion am sut i gymryd yn rhan ym menter ‘Caru Gwenyn’ maes o law drwy fynd i wefan Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru.