Neidio i'r prif gynnwy

2. Prynu neu werthu cartref mewn parc

Cam 1. Os ydych yn gwerthu eich cartref mewn parc, rhaid ichi gwblhau ffurflen gwybodaeth i brynwr a'i hanfon at y prynwr i'w chwblhau.

Cam 2. Rhaid i chi a’r prynwr gwblhau'r ffurflen hysbysiad o fwriad i werthu  a'i rhoi i berchennog y safle. Mae'r ffurflen hon yn rhoi gwybod iddyn nhw am y gwerthiant arfaethedig.

Cam 3. Rhaid i chi a'r prynwr gwblhau ffurflen aseinio. Mae'r ffurflen hon yn cadarnhau bod y cartref wedi ei drosglwyddo i'r perchennog newydd.

Cam 4. Rhaid i chi a’r prynwr gwblhau’r ffurflen hysbysiad o aseiniad a'i hanfon at berchennog y safle. Y ffurflen hon sy'n cadarnhau'n derfynol bod y cartref wedi ei drosglwyddo i'r perchennog newydd.