Neidio i'r prif gynnwy

1. Eich hawliau

Mae gan berchenogion cartrefi mewn parc a pherchenogion safleoedd hawliau yn ôl y gyfraith. Mae perchenogion cartrefi symudol yn berchen ar eu cartrefi, ond perchennog y safle (y person sydd yn berchen ar y tir y mae’r cartref yn sefyll arno) sy'n berchen ar y safle. Rhaid i berchenogion cartrefi mewn parciau dalu rhent i berchennog y safle i gael defnyddio’r tir y mae eu cartrefi'n sefyll arno.

Os ydych yn ystyried prynu neu werthu cartref mewn parc, dylech gael cyngor cyfreithiol.