Canllawiau ar yr hyn y mae angen i awdurdodau lleol ei ystyried wrth ailgartrefu pobl o'r Wcráin.
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae'r fframwaith yn rhan o'n casgliad o ganllawiau ar gyfer awdurdodau lleol. Mae'r fframwaith yn nodi sut y caiff pobl sy'n cyrraedd drwy lwybr Uwch-noddwr Llywodraeth Cymru yn cael eu lletya ar ôl cyrraedd, eu lleoli ledled Cymru a'u cefnogi i symud i lety mwy hirdymor.
Mae'r fframwaith hefyd yn nodi'r egwyddorion y mae angen i awdurdodau lleol eu hystyried wrth gefnogi pobl o Wcráin i symud i lety mwy hirdymor neu pan fydd lleoliadau presennol yn chwalu.
Mae'r fframwaith yn berthnasol i'r rhai sy'n cyrraedd Cymru drwy'r canlynol:
- llwybr Uwch-noddwr Llywodraeth Cymru
- y cynllun Cartrefi i Wcráin
- y cynllun fisa Teuluoedd o Wcráin, sydd bellach wedi cau
Datblygwyd y fframwaith i ddarparu prif egwyddorion er mwyn helpu awdurdodau lleol i ymdrin â'r broses heriol o gydbwyso ein hymrwymiad i bobl Wcráin ac aelwydydd digartref mewn llety dros dro.
Mae Cymru yn ceisio bod yn Genedl Noddfa, ac rydym yn parhau i gynnig llety a chymorth i unigolion a theuluoedd sy'n dianc rhag y rhyfel yn Wcráin er mwyn cynnig sefydlogrwydd iddynt a chydnabod ein dynoliaeth gyffredin ar yr adeg echrydus hon. Rydym yn cydnabod y pwysau sylweddol ar y ddarpariaeth dai yng Nghymru ar hyn o bryd, ar adeg pan fo mwy o bobl nag erioed mewn llety dros dro ac yn chwilio am dai parhaol. Rydym yn cydnabod bod awdurdodau lleol delio â phwysau ychwanegol yn sgil camau gan y Swyddfa Gartref i symud a lletya rhai eraill sy'n ceisio noddfa yng Nghymru.
Ar ddechrau'r cynllun Cartrefi i Wcráin, sefydlwyd safleoedd llety cychwynnol ledled Cymru i groesawu niferoedd mawr o newydd-ddyfodiaid. Mae'r safleoedd hyn bellach wedi cau oherwydd y cyfraddau uchel o bobl sydd wedi symud ymlaen yn llwyddiannus a gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl sy'n cyrraedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu strategaeth ddiwygiedig sy'n canolbwyntio ar leoli gwesteion yn uniongyrchol gyda lletywyr. Os nad oes lletywr ar gael, caiff llety croeso tymor byr ei sicrhau.
Caiff pobl o Wcráin y cymeradwywyd eu cais am fisa aros yn y DU am hyd at dair blynedd. Felly, dylid ceisio atebion mwy hirdymor ar gyfer ailgartrefu pobl o lety croeso neu drefniadau gyda lletywyr ymateb cyn gynted â phosibl. Gall atebion mwy hirdymor gynnwys trefniadau lletya, y sector rhentu preifat, llety dros dro ac, mewn rhai achosion, tai cymdeithasol. Ni fyddai llety gwely a brecwast, llety gwyliau rhent fel Airbnb na llety gwesty yn cael eu hystyried yn ateb addas yn y tymor hwy.
Mae gan bobl o Wcráin sydd â fisa hawl i symud a setlo yn unrhyw ran o'r DU.
Y prif egwyddorion
Mae'r fframwaith hwn yn nodi cyfres o egwyddorion y disgwyliwn i awdurdodau lleol eu harfer. Mater i awdurdodau lleol fydd eu cymhwyso yn eu cyd-destun lleol, gan arfer eu barn broffesiynol yn unol â fframweithiau cyfreithiol a pholisi cyfredol.
Mae’r prif egwyddorion fel a ganlyn:
- Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am bennu cyfran deg a chymesur o westeion drwy'r llwybr Uwch-noddwr i'w ‘dosbarthu’ i awdurdodau lleol ledled Cymru.
- Bydd gwesteion ond yn cael eu lleoli mewn llety croeso, sydd ar gael am 75 diwrnod yn unig, os nad oes lletywr ar gael i'w lletya. Mae awdurdodau lleol sydd â gwesteion mewn llety croeso neu gyda lletywyr ymateb yn eu hardal yn gyfrifol am gefnogi'r gwesteion hynny i symud ymlaen i lety mwy hirdymor.
- Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynnal asesiadau o anghenion llety (gan gynnwys asesiadau o fforddiadwyedd) ar gyfer pob gwestai sy'n cyrraedd eu hardal y mae angen eu cefnogi i symud i lety mwy hirdymor. Bydd hyn yn sicrhau y gellir cefnogi gwesteion i symud ymlaen yn effeithiol.
- Awdurdodau lleol fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a'r gwiriadau diogelu lleol angenrheidiol wedi'u cwblhau ar gyfer pob un sy'n cynnig llety a bod pob eiddo wedi'i archwilio, cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol.
- Disgwylir i bob awdurdod lleol gymryd rhan yn rhagweithiol yn y dull gweithredu 'Tîm Cymru' i gefnogi awdurdodau lleol eraill.
- Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am sicrhau bod gwesteion mewn llety croeso yn llofnodi Cod Ymddygiad.
- Os nad yw awdurdodau lleol yn gallu sicrhau llety i westai sy'n cyrraedd eu hardal symud ymlaen iddo, dylent gydweithio ag awdurdodau lleol, asiantaethau a sefydliadau eraill i helpu'r gwestai i symud ymlaen. Mater i awdurdodau lleol yw ‘dyrannu’ tai i unigolion a theuluoedd pan fydd trefniadau lletywyr neu lety croeso yn chwalu; wrth wneud hyn, rhaid i awdurdodau lleol ystyried anghenion yr holl boblogaethau y mae angen tai arnynt yn eu hardal, yn enwedig y rhai sydd mewn llety dros dro.
- Dylid ystyried pob opsiwn priodol ar gyfer symud pobl ymlaen yn y tymor hwy os yw eu lleoliad cychwynnol (mewn llety croeso neu gyda lletywr) wedi dod i ben neu wedi chwalu, megis trefniant lletya, llety yn y sector rhentu preifat, a thai cymdeithasol gan gynnwys llety dros dro.
- Bydd awdurdodau lleol yn egluro i'r gwesteion bod yn rhaid iddynt dderbyn eu cynnig o lety addas.
- Efallai y bydd modd ystyried yr hyn sydd orau gan y gwesteion unigol o ran llety, ond dylid ei gwneud yn glir i westeion na ellir gwarantu dewis yr unigolyn o ystyried y pwysau ar y sector tai ledled Cymru. Mae'n bwysig bod gwesteion yn deall y galw mawr am dai ledled Cymru.
- Bydd awdurdodau lleol yn cefnogi'r gwesteion i symud ymlaen i lety mwy hirdymor cyn gynted â phosibl ac atal digartrefedd.
- Unwaith y bydd pobl yn gadael eu lletywyr neu lety croeso, bydd yr awdurdod lleol perthnasol yn gyfrifol am asesu unrhyw angen o ran cymorth digartrefedd yn yr un modd ag ar gyfer unigolion eraill sy'n gymwys ar gyfer gwasanaethau tai a digartrefedd.
- Dylai awdurdodau lleol ystyried cydlyniant cymunedol wrth ailgartrefu pobl, gan gynnwys ystyried Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
Neilltuo unigolion yn uniongyrchol i letywyr, llety croeso a llety symud ymlaen
Prif ddisgwyliadau
Disgwylir i awdurdodau lleol sy'n lletya gwesteion mewn llety croeso neu sydd wedi lleoli gwesteion gyda gwesteiwr ymateb yn eu hardal:
- gynnal asesiad o anghenion tai, gan gynnwys asesiad o fforddiadwyedd, ar gyfer yr holl westeion sydd mewn llety croeso neu gyda gwesteiwr ymateb a gweithio gyda'r gwesteion hynny i nodi opsiynau symud ymlaen yn eu hardal. Mae symud ymlaen i lety mwy hirdymor yn flaenoriaeth ac mae angen i drafodaethau ddechrau gyda'r gwesteion cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt gyrraedd Cymru
- rheoli disgwyliadau gwesteion ynghylch pwysigrwydd symud ymlaen i lety mwy hirdymor yn ogystal â gallu'r awdurdodau lleol i fodloni'r hyn y mae pobl yn chwilio amdano o ran llety oherwydd y galw sylweddol uchel am dai
- sicrhau bod datganiadau o ddiddordeb gan letywyr ar gael i awdurdodau lleol eraill eu hystyried wrth geisio symud gwesteion ymlaen o lety neu ailbaru gwesteion â lletywyr
O ran gwesteion mewn llety croeso, disgwylir i awdurdodau lleol:
- roi cod ymddygiad i westeion wrth iddynt fynd i mewn i lety croeso. Gweler y templed yn atodiad c.
- gweithredu'r Polisi Cynigion Llety (gweler y polisi llawn yn atodiad b)
- rheoli achosion o dorri'r Cod Ymddygiad yn unol â'r Canllawiau Rheoli achosion dorri rheolau (gweler atodiad c am fanylion)
Disgwylir i bob awdurdod lleol gymryd rhan weithredol yn ymdrechion 'Tîm Cymru' gan helpu awdurdodau lleol eraill i symud pobl ymlaen o lety croeso. Byddai hyn yn cynnwys nodi lletywyr a helpu i nodi a sicrhau eiddo rhent preifat neu lety arall (megis llety dros dro) i ddiwallu anghenion gwesteion.
Neilltuo unigolion yn uniongyrchol i letywyr
Caiff pobl sy'n cyrraedd Cymru drwy'r llwybr Uwch-noddwr eu neilltuo'n uniongyrchol i letywyr sydd wedi'u fetio ymlaen llaw cyn iddynt gyrraedd y DU, oni bai nad oes lletywyr ar gael i'w lletya. Bydd Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol Cenedl Noddfa Cymru yn cydlynu'r broses o neilltuo pobl yn uniongyrchol i letywyr a'r awdurdod lleol cysylltiedig. Bydd hyn yn cynnwys cynnal asesiad cychwynnol o anghenion llety pobl unwaith y bydd fisa wedi'i roi iddynt a chyn iddynt deithio i'r DU. Bydd hyn yn caniatáu i'r Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol nodi unrhyw ofynion eraill, er enghraifft gofynion meddygol, addysgol a chrefyddol a gofynion deietegol arbennig.
Bydd pobl yn cael eu neilltuo'n uniongyrchol i letywr sy'n barod i letya'r gwesteion am o leiaf chwe mis. Fodd bynnag, yng Nghymru mae gennym nifer fach o letywyr sy'n barod i letya newydd-ddyfodiaid ar drefniant lletya tymor byrrach o hyd at 75 diwrnod. Gelwir y rhain yn "letywyr ymateb". Pwrpas y cyfnod 75 diwrnod hwn yw croesawu gwesteion i Gymru a sicrhau bod ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt i ailadeiladu eu bywydau yng Nghymru. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bydd y gwesteion yn cael help gan eu hawdurdod lleol i ddod o hyd i lety mwy hirdymor addas. Mae'r cyfnod 75 diwrnod hwn yn cyd-fynd â'r cyfnod ar gyfer llety croeso.
Disgwylir i awdurdodau lleol weithio gyda'r Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol i hwyluso'r broses o baru pobl â lletywr. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y rhestrau o letywyr sy'n mynegi diddordeb a'r llety sydd ar gael yn cael eu diweddaru'n barhaus. Bydd y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol yn cysylltu ag awdurdodau lleol o bryd i'w gilydd i sicrhau bod y rhestrau mynegi diddordeb yn cael eu diweddaru yn gyson, ac yn cael eu rhyddhau.
Os nad oes lletywr addas ar gael, neu os nad yw trefniant lletya yn briodol oherwydd gofynion llety penodol cymhleth, neu os yw unigolion o Wcráin yn cael eu hailuno â'u teulu, cynigir llety croeso iddynt a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.
Os bydd lleoliad gyda lletywr yn chwalu o fewn y 75 diwrnod cyntaf ar ôl cyrraedd ac nad yw'n bosibl ailbaru gwesteiwr gyda lletywr, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried darparu llety croeso. Bydd hyn yn cael ei ystyried fesul achos.
I gael rhagor o wybodaeth am drefniadau lletya ac ail-baru, gweler adrannau perthnasol yn y fframwaith hwn.
Canllawiau i awdurdodau lleol ar drefniadau lletya.
Llety croeso
Os na ellir nodi lletywr, bydd llety croeso'n cael ei drefnu drwy asiant archebu y cytunwyd arno. O ystyried y gostyngiad yn nifer y newydd-ddyfodiaid ers dechrau'r cynllun, bydd llety croeso yn cael ei archebu fel unedau llety unigol yn hytrach na chaffael cyfleusterau cyfan, a oedd yn ofynnol pan ddechreuodd y llwybr Uwch-noddwr. Bydd Llywodraeth Cymru yn talu am 75 diwrnod o lety croeso.
Efallai y bydd angen trefniadau penodol ar aelwydydd ag anghenion arbennig o gymhleth a bydd y rhain yn cael eu hystyried fesul achos. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o achosion mae angen cefnogi newydd-ddyfodiaid i symud ymlaen o fewn 75 diwrnod. Bydd awdurdodau lleol yn gallu cael cymorth ychwanegol gan y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol i helpu i sicrhau llety lle bo angen.
Y nod yw cefnogi'r holl westeion i symud ymlaen i lety mwy hirdymor cyn gynted â phosibl ac atal digartrefedd. Os oes angen cefnogi teulu drwy wasanaethau digartrefedd lleol, bydd yr awdurdod lleol dan sylw yn gallu hawlio cyllid ychwanegol ar gyfer pob aelwyd y maent yn ei chefnogi drwy lety dros dro.
Bydd llety croeso yn cael ei ymestyn dros 75 diwrnod mewn amgylchiadau eithriadol yn unig a dim ond gyda chytundeb Llywodraeth Cymru. Bydd awdurdodau lleol yn anfon unrhyw geisiadau yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru neu drwy'r Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol a byddant yn cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru fesul achos.
Ceir canllawiau ar gymorth cofleidiol yn ystod y cyfnod croesawu yma Cartrefi i Wcráin: canllawiau awdurdodau lleol.
Y gyfran o'r boblogaeth
Yn nyddiau cynnar y cynllun Cartrefi i Wcráin, cytunodd Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ar ymateb cyffredin i Gymru gyfan, ac ymrwymodd pob awdurdod lleol i chwarae ei ran drwy gynnig llety mewn ffordd deg a chymesur i'w amgylchiadau. Er mwyn hwyluso hyn, datblygwyd a chytunwyd ar fformiwla sy'n seiliedig ar boblogaeth ym mis Mai 2022 a'i diweddaru ym mis Mai 2023. Ceir rhagor o wybodaeth yn atodiad a.
Defnyddiwyd y fformiwla hon, neu'r 'gyfran o'r boblogaeth', fel canllaw i lywio'r broses o symud pobl sy'n cyrraedd drwy'r llwybr Uwch-noddwr ymlaen o'u llety cychwynnol i awdurdodau lleol ledled Cymru. Nawr bod ein holl safleoedd llety cychwynnol wedi cau, byddwn yn defnyddio'r data ar y cynnydd a wnaed i benderfynu ble y dylid lleoli newydd-ddyfodiaid. Mae hyn yn golygu y byddwn yn ceisio osgoi gosod newydd-ddyfodiaid mewn ardaloedd awdurdodau lleol sydd eisoes wedi cefnogi eu cyfran nhw o'r boblogaeth neu ragori arni lle bynnag bod hynny'n bosibl. Fodd bynnag, byddwn yn ceisio manteisio i'r eithaf ar y lletywyr ymatebol sydd ar gael, a gallai hynny olygu neilltuo pobl yn uniongyrchol i awdurdodau sydd wedi rhagori ar eu cyfran o'r boblogaeth.
Ar ben hynny, dylid nodi y gallai fod gan rai gwesteion anghenion llety penodol cymhleth a allai gyfyngu ar yr ardaloedd y gallwn eu lleoli ynddynt. Mewn achosion o'r fath, byddwn yn hysbysu'r awdurdod lleol perthnasol a byddai'r Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol yn gallu helpu i'w symud ymlaen y tu allan i'r ardal awdurdod lleol hwnnw.
Symud ymlaen
Bydd awdurdodau lleol yn gweithio gyda gwesteion sydd mewn llety croeso neu gyda lletywr ymateb yn eu hardaloedd i nodi unrhyw anghenion llety, ynghyd â gwybodaeth allweddol arall, y dylid eu hystyried hefyd wrth benderfynu i ble y dylid symud pobl. Gall gwybodaeth allweddol arall gynnwys:
- cyfansoddiad y teulu
- gofynion addysg
- cyflogaeth
- fforddiadwyedd
Wrth wneud cynigion llety addas, dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr eiddo yn diwallu anghenion penodol y teulu neu'r unigolyn. Er y gellir ystyried yr hyn sydd orau gan y gwesteion unigol wrth symud ymlaen, nid yw hyn yr un fath ag anghenion llety, ac ni fydd bob amser yn bosibl darparu ar eu cyfer. Er enghraifft, gallai gwestai fod am fyw mewn lleoliad penodol neu fath penodol o lety.
Disgwylir i'r awdurdod lleol sy'n derbyn y newydd-ddyfodiad symud yr aelwyd ymlaen yn eu hardal nhw er mwyn cefnogi cyfran deg o'r newydd-ddyfodiaid ledled Cymru a helpu'r gwesteion i ymgartrefu ac integreiddio yn y gymuned. Fodd bynnag, yn unol â'n blaenoriaeth i gefnogi pob gwestai i symud i lety mwy hirdymor, dylid archwilio'r posibilrwydd o'u symud y tu allan i'r sir os oes angen. Ni fydd disgwyl i awdurdodau lleol sydd eisoes wedi cyrraedd eu cyfran o'r boblogaeth gynnig llety symud ymlaen yn eu hardal eu hunain. Bydd y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol yn gallu darparu cyngor a chymorth i awdurdodau lleol ar symud pobl ymlaen i lety y tu allan i'r sir. Mae'r Gwasanaeth yn monitro'r cynnydd a wneir o ran helpu gwesteion ar draws Cymru a gall sicrhau bod modd osgoi'r ardaloedd hynny sydd wedi llwyddo i gefnogi eu cyfran nhw o'r boblogaeth lle bo'n bosibl.
Bydd angen rhannu anghenion tai, ynghyd â gwybodaeth allweddol arall, mewn ffordd ddiogel gydag awdurdodau lleol eraill i baru teuluoedd i lety mwy hirdymor addas os oes angen eu symud y tu allan i'r sir.
Os bydd llety addas yn cael ei sicrhau y tu allan i'r sir, bydd awdurdodau lleol yn cydweithio i hwyluso'r trefniadau i symud ymlaen.
Bydd pob awdurdod lleol yn derbyn dyraniad o gyfran Cymru o Gronfa Atal Digartrefedd Llywodraeth y DU, a fwriedir i gefnogi pobl i symud ymlaen ac atal digartrefedd.
Bwriad Cronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru yw cefnogi awdurdodau lleol i helpu gwesteion mewn llety croeso i symud i lety mwy hirdymor. Gallai hyn gynnwys cymorth i westeion i sicrhau llety rhent preifat neu symud i lety rhent preifat (o fewn a thu allan i'r awdurdod lleol) megis darparu blaendal tenantiaeth a dodrefnu'r eiddo.
Dylid rhoi o leiaf wythnos i deulu symud i'w cartref newydd a llofnodi gwaith papur priodol sy'n ymwneud â'r math o gartref a gynigiwyd iddynt. Os bydd angen, dylai'r awdurdod lleol drefnu i gael cyfieithydd i roi gwybodaeth a chyngor i esbonio'r hyn y maent yn cytuno iddo wrth lofnodi'r gwaith papur.
Efallai y bydd awdurdodau lleol am ystyried cynnwys sefydliadau trydydd sector perthnasol i helpu gwesteion i sicrhau llety mwy hirdymor a symud yno.
Pan fo cynnig rhesymol o lety newydd, ar sail anghenion llety, yn cael ei wrthod gan westai, dylid gweithredu'r polisi gwrthod (gweler atodiad b). Mae’r Cod Ymddygiad yn egluro ei bod yn ofynnol i bob gwestai sy'n byw mewn llety croeso gydweithredu â'r staff sy'n eu helpu i ddod o hyd i lety mwy hirdymor. Os bydd gwesteion yn methu â dilyn y Cod Ymddygiad bydd angen i'r awdurdod lleol gyfeirio at y canllawiau ar gyfer rheoli achosion o dorri'r Cod (atodiad c).
Dylai awdurdodau lleol egluro i westeion sy'n aros gyda lletywr ymateb bod gwrthod cynnig rhesymol o lety yn eu rhoi mewn perygl o beidio â chael llety i symud ymlaen iddo pan ddaw'r 75 diwrnod gyda'r lletywr ymateb i ben. Pan fo cynnig rhesymol o lety yn cael ei wrthod gan westai sy'n aros gyda lletywr ymateb, bydd yr awdurdod lleol yn esbonio'r cymorth tai amgen sydd ar gael.
Ceir canllawiau ar y ffrydiau cyllido sydd ar gael i awdurdodau lleol i gefnogi pobl o Wcrain yng Nghymru yma Cartrefi i Wcráin: cyllid.
Polisi cynigion llety symud ymlaen, gan gynnwys gwrthod
Gwesteion mewn llety croeso
Er mwyn cefnogi a helpu gwesteion i symud ymlaen i lety mwy hirdymor, ac er mwyn bod mor gyson â phosibl â'r cymorth llety a ddarperir i grwpiau eraill, mae'r Polisi cynigion llety yn berthnasol i gynigion llety symud ymlaen i westeion mewn llety croeso. Mae'r polisi yn nodi beth sy'n cael ei ystyried yn gynnig rhesymol, gan gymryd i ystyriaeth maint y teulu, anghenion iechyd penodol, a rhesymau dros wrthod neu apelio yn erbyn y llety.
Os bydd unigolion/teuluoedd sydd mewn llety croeso'n gwrthod cynnig llety rhesymol, bydd yr awdurdod lleol yn esbonio'r cymorth amgen sydd ar gael pan ddaw eu 75 diwrnod mewn llety croeso i ben.
Mae'r polisi llawn wedi'i amlinellu yn atodiad b.
Gwesteion gyda lletywr ymateb
Byddai'r egwyddorion a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud cynnig i westai gyda lletywr ymateb yr un fath â'r rhai mewn llety croeso. Fodd bynnag, nid yw gwrthod cynnig yn medru cael ei drin fel achos o dorri'r Cod Ymddygiad, gan nad yw'r Cod yn berthnasol i westeion sy'n aros gyda lletywyr.
Dylai awdurdodau lleol egluro i westeion sy'n aros gyda lletywr ymateb bod gwrthod cynnig rhesymol o lety yn eu rhoi mewn perygl o beidio â chael llety i symud ymlaen iddo pan ddaw'r 75 diwrnod gyda'r lletywr ymateb i ben. Pan fo cynnig rhesymol o lety yn cael ei wrthod gan westai sy'n aros gyda lletywr ymateb, bydd yr awdurdod lleol yn esbonio'r cymorth tai amgen sydd ar gael.
Dyrannu tai
Awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i ddeall anghenion tai aelwyd a gwneud penderfyniadau ynghylch dyrannu llety i bobl sy'n ymgartrefu yn eu hardal o lety croeso, pobl sydd wedi dod i Gymru drwy lwybrau eraill neu bobl y mae eu trefniadau lletya presennol wedi dod i ben.
Dylai awdurdodau lleol wneud y canlynol:
- cadw rhestr gyfredol o'r holl eiddo sydd ar gael yn eu hardal i'w paru, a nodi pan fydd eiddo'n cael ei baru
- sicrhau bod datganiadau o ddiddordeb gan letywyr ar gael i awdurdodau lleol eraill eu hystyried wrth geisio symud gwesteion ymlaen o lety neu ailbaru gwesteion â lletywyr
- sicrhau bod pob landlord yn y sector rhentu preifat sy'n cynnig llety wedi cydymffurfio â'r gofynion cofrestru a thrwyddedu o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014
- gofyn i'r landlord/asiant a fyddent yn ystyried gosod yr eiddo i bobl sy'n byw mewn llety dros dro
- cynnal archwiliadau eiddo ar lety
- cynnal archwiliadau eiddo ar lety croeso, os oes angen
- cynnal gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a gwiriadau diogelu lleol ar aelodau aelwyd cyn eu symud i lety
- cynnig llety i'r person/teulu sydd ei angen fwyaf pan fydd nifer y bobl a maint yr eiddo yn cyfateb
Trefniadau lletya
Mae'r awdurdod lleol yn gyfrifol am:
- gynnal gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, gwiriadau diogelu lleol a gwiriadau eiddo ar lety'r sawl sy'n lletya
- sicrhau bod lletywyr yn deall na allant godi rhent am y llety ond y dylent drafod a chytuno â'u gwesteion ynghylch unrhyw ddisgwyliadau o ran cyfraniadau ariannol i gostau rhedeg yr aelwyd
- rhoi cymorth i letywyr i hawlio'r taliad 'diolch' perthnasol
Mae Cartrefi i Wcráin canllawiau i westeion a noddwyr yn cynnwys manylion llawn ynghylch trefniadau cynnal a thaliadau 'diolch' i westeiwyr.
Ail-baru
Bydd rhai amgylchiadau lle bydd yr awdurdod lleol o'r farn bod angen dod o hyd i drefniant lletya newydd i berson neu deulu o Wcráin. Gall y rhesymau am hyn gynnwys:
- nad yw'n ymarferol i'r gwestai/gwesteion o Wcráin aros lle y maent
- bod gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, y gwiriadau diogelu lleol a'r gwiriadau llety yn aflwyddiannus
- bod y cyfnod lletya gwreiddiol wedi dod i ben ac na all y lletywyr ymestyn y trefniadau hyn
Cyn y gellir ail-baru gwesteion ag unrhyw letywr, dylai awdurdodau lleol gynnal gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, gwiriadau diogelu lleol a'r gwiriadau llety perthnasol cyn iddynt symud i mewn. Bydd angen cynnal gwiriadau ar ôl iddynt symud i mewn er mwyn sicrhau diogelwch a lles pawb.
Oherwydd hyn, mae'n hollbwysig bod awdurdodau lleol yn cynnal y gwiriadau perthnasol er mwyn galluogi pobl a theuluoedd i ddod o hyd i lety sefydlog gyda darpar letywyr sydd wedi cadarnhau eu bod yn awyddus i letya person neu deulu o Wcráin. Mae Cartrefi i Wcráin canllawiau i westeion a noddwyr yn cynnwys manylion llawn am wiriadau diogelu angenrheidiol.
Dylid hefyd hysbysu'r gwesteion o Wcráin fod angen i'r gwiriadau hyn gael eu cynnal cyn iddynt symud i'r llety newydd ac y bydd yr awdurdod lleol yn cysylltu â nhw pan fyddant wedi'u cwblhau. Gall hyn olygu y bydd angen dod o hyd i lety dros dro yn ystod y cyfnod hwn.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd y sawl sy'n cynnig llety a'r gwestai wedi nodi lletywr arall i gynnig llety i'r gwestai. Mewn sefyllfaoedd o'r fath, dylai'r awdurdod lleol geisio cadarnhau pwy fydd y lletywyr newydd hyn a'u cyfeiriad, fel y gellir cynnal gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a gwiriadau diogelu lleol priodol, neu (os yw'r noddwr newydd yn byw mewn ardal awdurdod lleol arall) drosglwyddo'r achos i'r awdurdod lleol arall er mwyn i'r gwiriadau diogelu a'r gwiriadau eiddo priodol gael eu cynnal.
Os bydd gwesteion o Wcráin yn cael eu hail-baru â rhywun sydd wedi noddi'n flaenorol drwy gynllun Cartrefi i Wcráin, ni fydd angen i awdurdodau lleol ail-gynnal gwiriadau ymlaen llaw, os na fyddant o'r farn bod angen gwneud hynny.
Os bydd trefniant noddi wedi chwalu yn sgil pryderon ynghylch ansawdd y llety neu faterion diogelu sy'n gysylltiedig â'r lletywr, ni ddylid ystyried y lletywr hwnnw ar gyfer ail-baru.
Os yw nawdd wedi torri i lawr oherwydd materion diogelu sy'n ymwneud â'r gwestai, dylai'r awdurdod lleol ystyried a yw ail-baru yn briodol.
Eiddo a gaiff eu gosod heb eu dodrefnu neu heb orchuddion llawr addas neu ddigonol
Bydd yr awdurdod lleol sy'n cynnig y llety yn rhoi gwybodaeth i'r unigolyn/teulu am opsiynau o ran dodrefn a gorchuddion llawr; bydd hyn yn cynnwys elusennau ailgylchu dodrefn a lloriau lleol ac unrhyw arian cyhoeddus y gallant fod yn gymwys i wneud cais amdano, er enghraifft y Gronfa Cymorth Dewisol.
Os caiff pobl gynnig cartref newydd, dylid cynnig cymorth priodol iddynt i'w helpu i addasu i fywyd yng Nghymru, megis cymorth gan dimau'r awdurdod lleol neu drwy gynlluniau cefnogi tenantiaid i'w helpu i ymdopi â'r newid hwn. Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru hefyd wedi cael ei gomisiynu i weithio gydag awdurdodau lleol a phobl Wcráin i gynnig cyngor a chefnogaeth arbenigol, a gellir cyrchu eu gwasanaethau fel adnodd ychwanegol lle mae hyn yn ddefnyddiol i awdurdodau lleol.
Lleoliadau brys
Os bydd pobl yn cysylltu â gwasanaethau i'r digartref neu os nodir bod angen llety brys arnynt, mater i'r awdurdod lleol o hyd fydd dod o hyd i lety addas yn eu hardal.
Cynyddu'r ddarpariaeth llety
Er mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am letya gwesteion, rydym am gynyddu'r opsiynau llety sydd ar gael i awdurdodau lleol.
Cymru yn croesawu: datganiadau o ddiddordeb gan bobl sydd am gynnig llety
Mewn ymateb i'r argyfwng yn yr Wcráin, sefydlodd Llywodraeth Cymru gynigion llety i gynorthwyo awdurdodau lleol i nodi pobl addas i letya dinasyddion a theuluoedd o Wcráin sydd wedi dod i Gymru i geisio noddfa drwy'r canlynol:
- Cartrefi i Wcráin:
- llwybr noddi unigolion
- llwybr Uwch-noddwr Llywodraeth Cymru
- Cynllun Noddi Teuluoedd
Rydym yn awyddus i gynyddu nifer y lletywyr ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd trefol a'r rhai sy'n gallu darparu ar gyfer teuluoedd mwy o faint ac anifeiliaid anwes.
Rydym yn awyddus i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i gynnig llety. Fel rhan o ddull diwygiedig Llywodraeth Cymru o gefnogi ein gwesteion o Wcráin, mae gennym bellach nifer fach o letywyr sy'n barod i ddarparu llety ar gyfer newydd-ddyfodiaid drwy drefniant tymor byrrach o hyd at 75 diwrnod, a elwir yn "letywr ymateb". Bydd y lletywyr hyn yn darparu llety am hyd at 75 diwrnod er mwyn galluogi gwesteion i ymgartrefu yng Nghymru pan fyddant yn cyrraedd a chael cymorth gan eu gweithiwr achos yn yr awdurdod lleol i ddod o hyd i lety mwy hirdymor addas.
Ar gyfer pob mynegiant o ddiddordeb a allai ddod yn gynnig llety, disgwylir i awdurdodau lleol gynnal gwiriadau eiddo, gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a gwiriadau diogelu lleol yn unol â'r disgwyliadau cyfredol i letywyr. Darllenwch Cartrefi i Wcráin canllawiau ar ddiogelu a chaethwasiaeth fodern.
Dylai awdurdodau lleol ddechrau cynnal gwiriadau cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau cyflenwad o letywyr wedi'u dilysu sy'n barod i letya pobl pan fydd angen.
Gall awdurdodau lleol ddefnyddio'r data a ddarparwyd iddynt yn ôl eu disgresiwn, ni waeth beth pa gynllun noddi a ddefnyddiwyd ar gyfer cais am fisa, i baru pobl a theuluoedd o Wcráin â lletywyr yng Nghymru. Er enghraifft, gall lletywyr gael eu defnyddio i letya unigolion neu deuluoedd:
- sydd, ar ôl gwneud cais am fisa drwy Gynllun Uwch-noddwr Llywodraeth Cymru, yn cael eu setlo yn lleol wrth iddynt symud ymlaen o'u llety croeso
- na allant, ar ôl gwneud cais am fisa drwy Gynllun Noddi Unigolyn Cartrefi i Wcráin, aros gyda'u noddwr gwreiddiol (yr hyn a elwir yn ‘ailbaru’)
Sector rhentu preifat
Rydym yn annog landlordiaid sydd ag eiddo ar gael i ddod ymlaen yn uniongyrchol i awdurdodau lleol. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cael gwybod am dai sydd ar gael, byddwn yn rhannu'r wybodaeth hon gyda'r awdurdod lleol perthnasol.
Gellir defnyddio eiddo sydd ar gael i'r awdurdod lleol yn y sector rhentu preifat ar gyfer pawb sydd angen tai. Mae angen i awdurdodau lleol ystyried sut y bydd yr eiddo hyn yn cael eu dyrannu i sicrhau bod pob grŵp sydd angen llety yn cael eu trin yn gydradd. Mae hyn hefyd yn berthnasol i eiddo sydd ar gael drwy Gynllun Prydlesu Cymru.
Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod landlordiaid wedi cwrdd â gofynion cofrestru a thrwyddedu Rhentu Doeth Cymru o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, a sicrhau bod eiddo'n cael ei ddyrannu yn unol â'r rheoliadau addasrwydd.
Tai Cymdeithasol a chynnydd mewn stoc
Dylai awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig barhau i ddyrannu tai ar sail eu polisi dyrannu unigol. Dylai hyn eisoes gynnwys ffocws ar osod eiddo i aelwydydd sy'n byw mewn llety dros dro yng Nghymru ar hyn o bryd yn unol â Cynllun Gweithredu Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd Llywodraeth Cymru.
Mae nifer sylweddol o bobl ddigartref mewn llety dros dro yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'r galw am dai cymdeithasol yn llawer mwy na'r cyflenwad, a hyd lleoliadau mewn llety dros dro yn cynyddu. Rhaid i asesiadau o anghenion llety fod yn ffactor sy'n cyfrannu at y broses flaenoriaethu wrth ddyrannu tai cymdeithasol.
Grant y rhaglen gyfalaf ar gyfer llety trosiannol
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i gynyddu nifer y tai cymdeithasol sydd ar gael yng Nghymru drwy adfer eiddo a darparu cymorth i ddatblygu tai o ansawdd uchel.
Lansiwyd y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro i helpu i hwyluso hyn, a'i bwriad yw cefnogi pawb sydd angen llety. O dan delerau'r cyllid, gall yr eiddo hyn gael eu gosod i'r rhai sydd mewn angen llety, gan gynnwys Wcreiniaid mewn llety croeso o dan y llwybr Uwch-noddwr. Gall llety sy'n cael ei ariannu drwy'r Rhaglen Gyfalaf hefyd gael ei ddefnyddio i ddarparu tai i Wcreiniaid sydd wedi dod i Gymru drwy lwybrau eraill.
Mater i awdurdodau lleol yw penderfynu sut y defnyddir cartrefi ychwanegol a ddarperir gan ddefnyddio cyllid y Rhaglen Gyfalaf er mwyn helpu pobl i symud ymlaen o lety dros dro yn seiliedig ar eu hanghenion a'u hamgylchiadau lleol.
Bwriad y cyflenwad tai ychwanegol hwn yw helpu unrhyw un sydd angen llety, a dylai awdurdodau lleol fod yn ymwybodol o'r angen am gydlyniant cymunedol wrth ei ddefnyddio.
Dyletswyddau cyfreithiol a chymhwystra
Mae Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn amlinellu'r ddyletswydd statudol a osodir ar awdurdodau lleol i helpu pobl sy'n ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd.
Rydym yn cydnabod mai awdurdodau lleol sydd â'r wybodaeth leol am dai ac sydd yn y sefyllfa orau i sicrhau y caiff yr angen am dai ei ddiwallu yn eu hardal leol. Mae'r Swyddfa Gartref wedi gwneud newidiadau i'r Rheolau Mewnfudo er mwyn nodi llwybrau penodol i bobl o Wcráin ymgartrefu yn y DU drwy dri phrif gynllun:
- Cynllun Teuluoedd o Wcráin, sy'n caniatáu i aelodau teulu agos ac estynedig dinasyddion Prydain, unigolion sydd wedi ymgartrefu yn y DU, ac eraill i ddod o Wcráin i'r DU, neu aros yma. Mae'r cynllun hwn bellach wedi cau.
- Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin, sy'n galluogi gwladolion o Wcráin a'u teulu agos i ddod i'r DU os oes ganddynt noddwr cymeradwy sydd wedi cytuno i ddarparu llety iddynt. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy'n dod o dan gynllun Uwch-noddwr Llywodraeth Cymru.
- Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin, sy'n galluogi gwladolion o Wcráin a'u partneriaid a'u plant a oedd yn y DU â chaniatâd ar 18 Mawrth 2022 (gan gynnwys y rhai sydd wedi aros ychydig yn hirach na chyfnod eu fisa) i aros yn y DU.
Er mwyn rhoi cymorth uniongyrchol i bobl sy'n cyrraedd i gychwyn, neu a oedd yng Nghymru cyn i'r rhyfel ddechrau, rhoddwyd ‘caniatâd i aros y tu allan i'r rheolau’.
Roedd hyn yn galluogi aelwydydd i fanteisio ar fudd-daliadau a gwasanaethau yn syth, gan gynnwys cymorth o ran tai a chymorth i'r digartref, heb orfod pasio'r prawf preswylfan arferol. Mae'r tri chynllun, sy'n rhoi sylfaen swyddogol i'r trefniadau 'caniatâd i aros y tu allan i'r rheolau', yn golygu bod ymgeiswyr llwyddiannus yn gymwys i gael tai cymdeithasol a chymorth digartrefedd yn unol â Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2022, a ddiwygiodd Rheoliadau 2014 er mwyn rhoi cymhwystra i'r grwpiau hyn gael cymorth digartrefedd a thai cymdeithasol o 28 Ebrill 2022.
Mae gan bobl sy'n cyrraedd o dan unrhyw un o gynlluniau fisa Llywodraeth y DU i bobl o Wcráin yr hawl i gael tai a gwasanaethau digartrefedd yn yr un modd â phobl eraill yng Nghymru. Felly, os na all pobl gael gafael ar dai, neu os bydd eu lleoliad cychwynnol yn chwalu neu os ystyrir ei fod yn anaddas, yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am ddiwallu eu hanghenion o ran tai.
Fel sy'n wir am Lywodraeth y DU, ni all Llywodraeth Cymru chwarae rôl uniongyrchol yn y broses o gartrefu pobl o dan y Cynllun Fisa i Deuluoedd na Chynllun Fisa Cartrefi i Wcráin, ac ystyrir mai mater i awdurdodau lleol yw datrys unrhyw broblemau o ran llety.
Yn ei hanfod, nid yw'r cynllun fisa y bydd unigolyn yn gwneud cais oddi tano yn pennu nac yn cyfyngu ar y mathau o lety y gall fanteisio arnynt neu gael ei symud iddynt.
Fodd bynnag, mae mathau gwahanol o gymorth ariannol yn gysylltiedig â gwahanol fisâu. Mae gwybodaeth am gymorth ariannol ar gyfer y cynlluniau fisa amrywiol ar gael yn Cartrefi i Wcráin cyllid.
Dyletswyddau digartrefedd statudol
Os bydd trefniant noddi'n chwalu ar gam cynnar, gall Wcreiniaid sy'n rhan o Gynllun Uwch-noddwr Llywodraeth Cymru gysylltu â'u hawdurdod lleol i gael asesiad digartrefedd. Mae'n bosibl y gall awdurdodau lleol ddod â dyletswydd atal neu liniaru digartrefedd i ben drwy hwyluso proses ailbaru, ar yr amod bod y lleoliad a'r llety yn addas a'i bod yn rhesymol debygol y bydd ar gael am chwe mis o leiaf.
Os bydd y gydberthynas â'r sawl sy'n lletya yn methu, gall pobl a theuluoedd o Wcráin gysylltu ag awdurdodau lleol i ofyn am gymorth digartrefedd. Lle bo'n berthnasol, rhaid cynnal asesiad digartrefedd, a rhaid i awdurdodau lleol barhau i roi ystyriaeth lawn i'w dyletswyddau digartrefedd statudol yn llawn. Dylai hyn ystyried amgylchiadau unigol pob aelwyd wrth asesu p'un a yw unigolyn yn ddigartref ac, os felly, p'un a yw llety (llety dros dro a/neu lety sefydlog mwy hirdymor) yn briodol. Gan fod digartrefedd statudol yn ddyletswydd i awdurdodau lleol, dylent geisio eu cyngor cyfreithiol mewnol eu hunain mewn sefyllfaoedd lle mae angen eglurder ar fater cyfreithiol wrth wneud penderfyniadau o'r fath.
Mewn achosion lle cynigir llety i unigolion sydd ar lwybr Uwch-noddwr Llywodraeth Cymr, ond mae'r unigolyn neu'r teulu yn dewis dweud wrth yr awdurdod lleol eu bod yn ddigartref, mae dal i fod yn ddyletswydd statudol ar yr awdurdod lleol i gynnal asesiad digartrefedd er mwyn dod i benderfyniad cyfreithlon. Dylid ystyried cymhwystra, pa mor fwriadus yw'r unigolyn/teulu a chysylltiad lleol yn ôl yr arfer.
Fodd bynnag, dylai'r awdurdod lleol archwilio ac esbonio'r holl opsiynau i'r unigolyn sy'n dod atynt, gan roi manylion cynigion llety addas. Bydd gwrthod cynnig yn ffactor yn asesiad yr awdurdod, ac fe allai gael effaith niweidiol ar y canlyniad. Dylid nodi nad yw llety croeso yn sefydlu cysylltiad lleol, ac felly gall gwesteion fod yn gymwys i gael cymorth mewn awdurdod lleol arall heblaw'r awdurdod lleol lle mae eu llety croeso .
Cymorth a chanllawiau
Mae angen cefnogaeth ar westeion o Wcráin wrth iddynt symud i'w cartrefi newydd, ailadeiladu eu bywydau a gwneud cyfraniad i gymdeithas Cymru. Bydd angen i awdurdodau lleol asesu anghenion cymorth pobl o Wcráin sy'n cael eu cartrefu yn eu hardal a chyfeirio'r bobl sy'n symud i Gymru a'r bobl sy'n eu lletya at gymorth. Mae'r canllawiau'n cael eu diweddaru'n rheolaidd, felly argymhellwn y dylid cyfeirio at wefan Llywodraeth Cymru am yr wybodaeth a'r cyngor diweddaraf mewn perthynas â helpu a chefnogi pobl o Wcráin. Ceir canllawiau pellach i awdurdodau lleol ar eu rôl wrth gyflwyno'r cynllun Cartrefi i Wcráin yng Nghymru Cartrefi i Wcráin canllawiau i awdurdodau lleol
Dylai awdurdodau lleol roi manyliongwefan Noddfa Llywodraeth Cymru i bawb o Wcráin wrth iddynt gyrraedd Cymru. Mae gwefan Noddfa yn darparu gwybodaeth am eu hawliau, eu bywyd yng Nghymru a ble i ddod o hyd i gymorth. Mae ar gael mewn Wcreineg, Rwsieg ac ieithoedd eraill.
Ceir canllawiau ar y ffrydiau cyllido sydd ar gael i awdurdodau lleol i gefnogi pobl o Wcrain yng Nghymru ymaCartrefi i'r Wcráin cyllid.
Hysbysu Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am newidiadau
Llywodraeth Cymru
E-bost ymholiad cyffredinol:
Tîm Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru: cymorth@noddfa.llyw.cymru / support@sanctuary.llyw.cymru
E-bost diogelu yn unig: Ukraine.Safeguarding@gov.wales
Llywodraeth y DU
Gall awdurdodau lleol fewngofnodi mewngofnodi i JIRA drwy'r porthol. Fel arall, ffoniwch y ddesg ffôn: 0303 444 4445.
Oriau agor: 09:00 i 18:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener heblaw am wyliau banc.
Atodiad a: dyrannu ar sail y boblogaeth
Ymmis Mai 2022 cytunodd pob awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru ar y Fframwaith Llety Cartrefi i'r Wcráin. Sefydlwyd y Fframwaith i nodi sut y byddai pobl o Wcráin sy'n cyrraedd trwy lwybr Uwch-noddwr Llywodraeth Cymru yn cael eu lletya ledled Cymru.
Cytunodd pob awdurdod lleol ar y gyfran o'r boblogaeth o Wcráin sy'n cyrraedd o dan y llwyr Uwch-noddwr y byddent yn ei chefnogi i gael llety mwy hirdymor fel rhan o'n dull gweithredu Tîm Cymru. Roedd hyn yn cydnabod dosbarthiad anwastad y llety cychwynnol ledled Cymru ac yn rhoi sicrwydd i'r awdurdodau lleol a oedd yn cefnogi llety cychwynnol yn eu hardal na fyddai ganddynt gyfrifoldeb am lety mwy hirdymor ar gyfer yr holl Wcreiniaid a oedd mewn llety cychwynnol drwy'r llwyr Uwch-noddwr.
Mae'r ffigurau isod yn rhoi nifer amcangyfrifedig y bobl yr oedd disgwyl i bob awdurdod lleol eu hailgartrefu o blith y 3,000 o bobl y disgwyliwyd iddynt ddod i Gymru drwy'r llwybr Uwch-noddwr. Bwriadwyd i hyn fod yn ddull 18 mis a osododd fframwaith i bob awdurdod lleol wneud cynnydd tuag at gefnogi eu cyfran nhw o'r boblogaeth i lety mwy hirdymor.
Mewn ymgynghoriad ag awdurdodau lleol, diweddarwyd y gyfran hon o'r boblogaeth ddiwethaf ym mis Mai 2023, ac mae'r fformiwla dyrannu wedi'i phwysoli ar sail cyfuniad o'r isod:
- poblogaeth yr awdurdod lleol (55%)
- unigolion o dan lwybr unigol Cartrefi i'r Wcráin sydd eisoes yn cael eu cefnogi yn yr ardal leol (15%)
- nifer y digartref mewn llety dros dro yn yr ardal leol (ar sail cyfartaledd o 3 mis) (25%)
- nifer y ceiswyr lloches a leolir yn y 4 prif ardal wasgaru (Caerdydd, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam) cyn cyflwyno Cynllun Gwasgaru Lloches Cymru ym mis Medi 2022 (5%)
Nawr bod ein holl safleoedd llety cychwynnol wedi cau, byddwn yn defnyddio data ar y cynnydd a wnaed i benderfynu ble y dylid lleoli a symud pobl sy'n cyrraedd o'r newydd. Disgwylir i'r awdurdod lleol sy'n derbyn y newydd-ddyfodiaid symud yr aelwyd ymlaen yn eu hardal, lle bo'n bosibl, er mwyn cefnogi cyfran deg o newydd-ddyfodiaid ledled Cymru a helpu gwesteion i ymgartrefu ac integreiddio yn y gymuned yn gyflym. Mae hyn yn golygu y byddwn yn osgoi gosod newydd-ddyfodiaid mewn ardaloedd awdurdodau lleol sydd eisoes wedi cefnogi eu cyfran nhw o'r boblogaeth neu ragori arni.
Nid yw'r fformiwla wedi'i diweddaru i adlewyrchu data mwy diweddar gan fod nifer y rhai sy'n cyrraedd wedi aros yn isel eleni (2024). Byddwn yn parhau i fonitro ac adolygu'n rheolaidd.
Ardal | Dyraniad cyfran y boblogaeth |
---|---|
Cymru | 3000 |
Ynys Môn | 69 |
Gwynedd | 112 |
Conwy | 80 |
Sir Ddinbych | 87 |
Sir y Fflint | 190 |
Wrecsam | 141 |
Powys | 113 |
Ceredigion | 64 |
Sir Benfro | 74 |
Sir Gaerfyrddin | 206 |
Abertawe | 241 |
Castell-nedd Port Talbot | 149 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 142 |
Bro Morgannwg | 124 |
Caerdydd, | 300 |
Rhondda Cynon Taf | 304 |
Merthyr Tudful | 40 |
Caerffili | 211 |
Blaenau Gwent | 77 |
Torfaen | 96 |
Sir Fynwy | 53 |
Casnewydd | 127 |
Atodiad b: polisi cynigion llety symud ymlaen
Y Cyd-destun
Cyflwynwyd y Polisi ynghylch Gwrthod Cynigion Llety ar 9 Ionawr 2023, gyda'r prif nod o gynyddu'r niferoedd sy'n symud ymlaen o lety cychwynnol a hefyd cefnogi dull gweithredu cenedlaethol cyson a gosod canlyniadau ar gyfer gwrthod cynigion llety addas. Ym mis Gorffennaf 2023, datblygwyd y polisi ymhellach i gyflwyno fframwaith codi tâl ar gyfer aelwydydd sy'n gwrthod dau neu fwy o gynigion llety addas.
Yn sgil cyfraddau symud uchel ac ychydig iawn o newydd-ddyfodiaid yn 2024, llwyddodd Llywodraeth Cymru i gau'r ystâd llety cychwynnol yn llwyr ym mis Gorffennaf 2024. Mae'r dull gweithredu ar gyfer croesawu ffoaduriaid o Wcráin bellach wedi'i ddiwygio a'i addasu i adlewyrchu'r nifer isel o newydd-ddyfodiaid. Nod y dull hwn yw cefnogi gwesteion i fyw'n annibynnol cyn gynted â phosibl. Os na ellir lletya newydd-ddyfodiaid gyda lletywr oherwydd nad oes un ar gael, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu llety croeso am hyd at 75 diwrnod. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd awdurdodau lleol yn darparu cymorth wedi'i dargedu i sicrhau'r cyfle mwyaf posibl i westeion ddod o hyd i lety i symud ymlaen iddo erbyn diwedd y cyfnod o 75 diwrnod.
Gan fod llety croeso ond ar gael am gyfnod penodol, nid yw'r Polisi ynghylch Gwrthod Cynigion Llety a sefydlwyd ar gyfer llety cychwynnol yn addas ar gyfer llety croeso. Felly, mae'r polisi hwnnw wedi'i ddisodli gan y Polisi ynghylch Cynigion Llety, gan gynnwys achosion o wrthod, sy'n weithredol o fis Tachwedd 2024.
Mae'r Polisi ynghylch Cynigion Llety (2024) yn rhan o becyn cymorth cynhwysfawr ar gyfer awdurdodau lleol a gwesteion. Mae'r polisi yn berthnasol i gynigion llety, llety rhent preifat neu lety addas arall (megis llety dros dro).
Nodau
Mae yna wahanol resymau pam mae aelwydydd yn gwrthod cynnig o lety. Mae'r rhain yn aml yn gymhleth, ond yn gyffredinol maent yn cynnwys dymuniad i fyw mewn lleoliad penodol neu nad yw'r cynnig llety nad yn diwallu anghenion yr aelwyd yn eu barn nhw. Yn aml, nid yw gwesteion yn deall yr opsiynau tai cyfyngedig sydd ar gael yng Nghymru. Mae'n bwysig i awdurdodau lleol helpu gwesteion i ddeall y galw am dai yn eu hardaloedd.
Mae gwrthod llety addas yn rhwystro ymdrechion i baru gwesteion â llety sefydlog, gan roi pwysau ar awdurdodau lleol ac arafu'r broses o integreiddio'r gwestai. Nod y Polisi ynghylch Cynigion Llety (2024) yw cefnogi gwesteion i symud ymlaen o lety croeso a'u hannog i fyw'n annibynnol cyn gynted â phosibl, drwy:
- atal gwrthod cynigion llety priodol lle bynnag y bo'n bosibl
- darparu cyfathrebiadau cynhwysfawr i sicrhau bod newydd-ddyfodiaid yn deall yr angen am lety symud ymlaen
Cefnogir y polisi hwn gan y Cod Ymddygiad ar gyfer gwesteion sy'n aros mewn llety croeso, sy'n nodi'n glir ei bod yn ofynnol i westeion ymgysylltu â'r broses symud ymlaen.
Asesu anghenion tai
Cyn paru teuluoedd neu unigolion â llety, bydd yr awdurdod lleol yn siarad â'r aelwyd i gasglu'r holl wybodaeth angenrheidiol am eu hamgylchiadau. Dylai awdurdodau lleol hefyd ganfod dewis iaith yr aelwyd i sicrhau y gellir cyflwyno cynigion llety mewn iaith hygyrch. Bydd hyn yn galluogi'r awdurdod lleol i wneud cynnig priodol o lety sy'n diwallu anghenion yr aelwyd. Dylai'r broses baru ystyried y meini prawf canlynol:
Addysg:
- ar gyfer aelwydydd sy'n cynnwys plant, bydd yr awdurdod lleol yn chwilio am lety o fewn pellter rhesymol i gyfleusterau addysg sy'n briodol i'w hoedran
- os yw'r awdurdod lleol yn ymwybodol bod gan blentyn anghenion addysgol ychwanegol, bydd hyn yn cael ei ystyried wrth ddyrannu llety
- nid yw cofrestru plant yn yr ysgol yn golygu y bydd yr aelwyd gallu aros yn yr un lleoliad yn y tymor hwy
Iechyd:
- bydd yr awdurdod lleol yn ystyried unrhyw anghenion hysbys o ran triniaeth feddygol, a bydd y llety a ddarperir o fewn pellter rhesymol i unrhyw wasanaethau angenrheidiol
- ar gyfer triniaeth feddygol arbenigol neu barhaus lle mae parhad gofal yn bwysig a'r gofal eisoes wedi dechrau, bydd yr awdurdod lleol yn darparu llety i'r aelwyd mor agos at y ddarpariaeth honno â phosibl. Ond os oes angen triniaeth fwy cymhleth ac arbenigol, mae'n bosibl y bydd gofyn teithio pellter sylweddol y tu hwnt i'r ardal
- bydd yr awdurdod lleol yn ystyried unrhyw addasiadau rhesymol sy'n ofynnol oherwydd anableddau
Ffydd:
- bydd yr awdurdod lleol yn ystyried unrhyw anghenion o ran ymarfer ffydd a bydd pob aelwyd yn gallu ymarfer eu ffydd os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Mewn trefi a dinasoedd, gall mynediad at gyfleusterau ffydd fod ar ffurf mosg, eglwys neu deml, ond mewn ardaloedd mwy gwledig gall fod drwy gyfleusterau fel canolfannau Islamaidd, imamau teithiol, grwpiau eglwysig neu gynulliadau cymunedol
Cyflogaeth:
- wrth fynd ati i baru llety, bydd yr awdurdod lleol yn ystyried lleoliad unrhyw waith cyflogedig sydd eisoes wedi dechrau neu gontract cyflogaeth sydd eisoes wedi'i lofnodi ac yn ei le
- pan fo un o'r oedolion mewn cyflogaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt fynychu lleoliad penodol i gyflawni'r rôl honno, a phan na all y rôl symud i leoliad arall, bydd yr awdurdod lleol yn ystyried effaith y symud arfaethedig a'r amser teithio ar y gyflogaeth honno, ac yn ceisio darparu llety sydd o fewn pellter teithio rhesymol, lle bo modd. Nid yw hyn yn golygu y bydd bod mewn swydd yn gwarantu y gall gwestai aros mewn ardal benodol, nac y byddai'r swydd yn cael ei ystyried yn rheswm "da" dros wrthod llety
- bydd disgwyl i aelwydydd dalu costau unrhyw deithio angenrheidiol i ac o'u cyflogaeth eu hunain
- ni fydd cynigion damcaniaethol o gyflogaeth neu gynigion na chadarnhawyd yn cael eu hystyried at ddibenion paru llety
Cysylltiadau teuluol:
- bydd yr awdurdod lleol yn cymryd cysylltiadau teuluol agos i ystyriaeth wrth baru llety, cyn belled ag y bo'n rhesymol bosibl
- bydd yr awdurdod lleol yn ceisio darparu llety yn yr un ardal leol, neu yn y cyffiniau, lle mae trefniadau gofalu a chymorth presennol yn eu lle ar gyfer aelodau o'r teulu
Aelwydydd mawr:
- ar gyfer aelwydydd mwy o faint, lle nad yw'n bosibl nodi un opsiwn llety fforddiadwy sy'n ddigon mawr ar gyfer holl aelodau'r aelwyd gyda'i gilydd, bydd yr awdurdod lleol yn ymgynghori â'r aelwyd i ystyried a ellir lletya'r teulu, gyda'u caniatâd, ar draws dau eiddo ar wahân
- bydd oedran aelodau'r aelwyd, unrhyw anghenion gofalu neu hyglwyfedd, a dewisiadau personol y teulu yn cael eu hystyried wrth rannu'r teulu. Bydd yr eiddo a gynigir yn agos iawn at ei gilydd fel y gall pob aelod o'r aelwyd gadw mewn cysylltiad agos â'i gilydd
Cynnig llety
Y broses ar gyfer cynnig llety:
Bydd yr awdurdod lleol yn ymgysylltu â'r teulu/unigolyn i asesu eu hanghenion o ran llety ac yn cynnig llety addas. Er nad oes modd bodloni dewisiadau'r gwesteion ar gyfer llety symud ymlaen bob amser, dylid gwneud pob ymdrech i ddod o hyd i eiddo sy'n cyd-fynd â meini prawf yr aelwyd ei hun lle bo hynny'n bosibl. Bydd angen i awdurdodau lleol gefnogi gwesteion a rheoli eu disgwyliadau er mwyn sicrhau bod cynigion addas yn cael eu derbyn.
- Bydd yr awdurdod lleol yn anfon llythyr cynnig ysgrifenedig ffurfiol i'r aelwyd drwy e-bost gyda manylion y llety a rhywfaint o wybodaeth am yr ardal y mae wedi'i leoli ynddi. Bydd y llythyr yn egluro bod disgwyl i'r gwestai dderbyn y cynnig o lety, yn unol â'r cod ymddygiad, oni bai bod ganddynt 'reswm da' i beidio â gwneud hynny (manylir ar hyn yn ddiweddarach yn y polisi hwn) neu eu bod yn gallu dangos tystiolaeth eu bod wedi sicrhau eu llety eu hunain i symud ymlaen iddo.
- Rhaid rhannu'r diffiniad o 'gynnig addas' a'r hyn sy'n 'rheswm da' dros ei wrthod wrth gyfathrebu â'r gwesteion. Dylid hefyd egluro risgiau a chanlyniadau posibl gwrthod y cynnig heb reswm da (mae'r canlyniadau wedi'u hamlinellu o dan Gwrthod llety). Gellir darparu'r cynnig ysgrifenedig yn Gymraeg neu'r Saesneg ond dylid darparu fersiwn Wcreineg neu Rwseg os yw'r gwestai yn gofyn amdanynt. Pan fydd y cynnig wedi'i wneud, dylai'r awdurdod lleol gofnodi hyn yn y nodiadau achos ar gyfer yr aelwyd ar Lwyfan Data'r Wcráin.
Bydd yr awdurdod lleol yn trafod y cynnig ac yn rhoi rhagor o wybodaeth i'r aelwyd am y llety a'r ardal, yn ôl yr angen. Ar gyfer symud rhwng awdurdodau lleol, gall yr awdurdod lleol sy'n derbyn yr aelwyd hefyd gysylltu â'r teulu/unigolyn i ddarparu rhagor o wybodaeth am yr eiddo/ardal/cymorth a'u hannog i dderbyn y cynnig. Ar gyfer lleoliadau gyda lletywyr, efallai y bydd yn bosibl trefnu galwad gyda'r teulu sy'n cynnig y llety.
Gofynnir i'r teulu/unigolyn ymateb i'r cynnig ffurfiol o fewn yr amserlenni priodol a bennir gan yr awdurdod lleol, gan nodi a ydynt yn derbyn neu'n gwrthod y cynnig drwy e-bost. Lle nad yw hyn yn bosibl, gallant drafod hyn gyda staff cymorth yr awdurdodau lleol a llofnodi derbyniad neu wrthodiad. Dylid cofnodi'r ymateb ffurfiol, gan gynnwys yn y nodiadau achos ar gyfer yr aelwyd ar Lwyfan Data'r Wcráin.
- Os yw'r teulu/unigolyn yn derbyn y cynnig, bydd yr awdurdod lleol yn cytuno ar ddyddiad symud o fewn 5 diwrnod gwaith. Dylai unigolion/teuluoedd hefyd gael o leiaf 5 diwrnod gwaith o rybudd cyn y dyddiad symud.
Gwrthod
Os bydd y teulu/unigolyn yn gwrthod y cynnig, bydd yr awdurdod lleol yn ystyried a yw'r rhesymau dros wrthod yn rhesymol ac yn bodloni'r meini prawf (gweler yr adran isod ar Beth ellid ei ystyried yn 'rheswm da' dros wrthod?).
Os yw'r awdurdod lleol yn derbyn y rhesymau dros wrthod y cynnig yn dilyn adolygiad (gweler Y broses adolygu isod), byddant yn chwilio am gynnig amgen os oes amser ar ôl i wneud hynny o fewn cyfnod 75 diwrnod y llety croeso. Dylid esbonio'n glir wrth y gwesteion efallai na fydd yn bosibl dod o hyd i lety arall o fewn y cyfnod hwnnw. Os nad yw'n bosibl sicrhau llety i symud ymlaen, bydd yr awdurdod lleol yn esbonio'r cymorth tai amgen sydd ar gael i'r gwesteion pan ddaw y 75 diwrnod yn y llety croeso i ben.
Os nad yw'r awdurdod lleol yn derbyn bod y sail dros wrthod yn 'rhesymau da', neu os yw'r cynnig llety yn cael ei anwybyddu (h.y. ni dderbynnir ateb i'r cynnig), bydd hyn yn torri'r Cod Ymddygiad a bydd yr awdurdod lleol yn dilyn y canllawiau ar reoli achosion o dorri'r Cod (gweler Atodiad X). Er na fydd rheidrwydd ar yr awdurdod lleol ddarparu cymorth pellach i'r aelwyd, mae cefnogi gwesteion i symud ymlaen i lety mwy hirdymor yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Disgwylir i awdurdodau lleol wneud y defnydd gorau o'r cymorth ychwanegol sydd ar gael iddynt gan y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol neu asiantaethau trydydd sector i sicrhau bod y gwesteion yn symud ymlaen.
Dylai unrhyw benderfyniad i dynnu'r cynnig o lety croeso yn ôl oherwydd bod y Cod wedi'i dorri fod yn ddewis olaf a rhaid i Lywodraeth Cymru gytuno arno. Os penderfynir tynnu'r llety yn ôl, bydd yr awdurdod lleol yn esbonio'r cymorth tai amgen sydd ar gael i'r gwesteion pan ddaw eu hamser mewn llety croeso i ben.
- Gall yr awdurdod lleol hawlio £9,000 fesul aelwyd gan Lywodraeth Cymru i ategu eu cyllid atal digartrefedd os oes angen iddynt ddarparu llety dros dro i aelwyd sy'n ddigartref.
Proses adolygu
Os yw teulu neu unigolyn yn gwrthod cynnig llety, bydd yr awdurdod lleol yn adolygu'r cynnig ac yn ystyried eu rhesymau dros wrthod. Os oedd yn "rheswm da" dros wrthod, bydd y cynnig yn cael ei ddiystyru ac ni fydd yn cael ei ystyried fel cynnig addas. Caiff hyn ei benderfynu drwy'r broses adolygu sy'n dod i'r casgliad nad oedd y cynnig mewn gwirionedd yn gynnig addas a phriodol. Os yw'r adolygiad yn canfod bod y cynnig o lety yn rhesymol ac addas, bydd y cynnig yn cael ei gadarnhau.
Bydd y broses adolygu yn cael ei chynnal gan awdurdodau lleol a bydd yn dilyn yr un drefn ag sy'n cael ei defnyddio ar gyfer adolygiadau ac apeliadau digartrefedd a thai cymdeithasol. Bydd gan westeion hawl i ofyn am adolygiad gan yr awdurdod lleol mewn perthynas â'u gwrthodiad.
- Os bydd yr adolygiad yn canfod bod y cynnig yn briodol, bydd yr aelwyd yn cael gwybod am hyn. Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod teuluoedd/unigolion yn cael cymorth priodol i ystyried canlyniadau gwrthod. Yn dilyn canlyniad yr adolygiad, os canfyddir bod y cynnig yn addas, bydd y gwesteion yn cael eu cynghori bod yn rhaid iddynt ei dderbyn neu byddant mewn perygl o dorri'r Cod Ymddygiad ac o beidio â gallu sicrhau llety i symud ymlaen iddo.
Beth yw'r diffiniad o 'cynnig priodol'?
Bydd cynnig llety priodol yn:
- Bodloni'r holl ofynion iechyd a diogelwch perthnasol ac mewn cyflwr da.
- Bodloni amgylchiadau meddygol personol a sicrhau parhad mewn darpariaeth feddygol lle bo angen.
- Ystyried anghenion a chredoau crefyddol.
- Ystyried anghenion addysgol penodol.
Fel rhan o gynnig llety priodol, bydd yr eiddo a gynigir:
- Yn hygyrch. Lle bo angen, bydd addasiadau i'r eiddo yn cael eu gwneud cyn i'r teulu symud i mewn er mwyn sicrhau ei fod yn hygyrch i unrhyw breswylwyr anabl hysbys.
- Ar gael am o leiaf 6 mis.
- Yn fforddiadwy i'r aelwyd, gan ystyried yr adnodd ariannol sydd ar gael iddynt, gan gynnwys unrhyw gymorth gan y llywodraeth y maent yn gymwys ar ei gyfer.
- O faint addas i ddarparu ar gyfer yr holl aelodau.
Bydd y llety yn bodloni'r safonau gofynnol a amlinellir yn safon ansawdd tai Cymru gydag unrhyw lety mwy newydd yn mabwysiadu Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021 a rheolau budd-dal tai yr Adran Gwaith a Phensiynau. Pan fo llety wedi'i ddarparu o dan y Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol, yna bydd disgwyl iddo fodloni'r safonau cysylltiedig.
Beth ellid ei ystyried yn 'rheswm da' dros wrthod?
Mewn amgylchiadau eithriadol, gall fod rhesymau da dros wrthod 'cynnig llety addas'.
Bydd 'rhesymau da' yn cael eu hasesu fesul achos, ond gallant gynnwys y canlynol:
- Os bernir yn ddiweddarach nad yw'r llety'n 'gynnig llety addas' fel y nodir uchod, er enghraifft oherwydd anghenion penodol sy'n ymwneud ag addysg, iechyd, ffydd, cyflogaeth, teulu agos neu gyfrifoldebau gofalu.
- Pan fo gan y teulu/unigolyn anghenion penodol i fod mewn ardal wahanol i gael mynediad at gymorth meddygol neu addysg arbenigol nad yw ar gael yn ardal y cynnig nac o fewn pellter teithio rhesymol iddi.
- Pan fo gan aelod o'r teulu anghenion gofal neu gymorth sy'n cael eu diwallu gan aelodau agos o'r teulu sy'n byw mewn ardal wahanol.
- Pan fo aelod o'r teulu wedi cael cynnig swydd cyflogedig fel y'i diffinnir yn y diffiniad o gynnig derbyniol.
Pan fo rhwystr tymor byr i'r teulu rhag symud, er enghraifft triniaeth feddygol wedi'i chynllunio, ac ni all y cynnig llety aros hyd nes y bydd hynny wedi'i gwblhau.
Mae'n bosibl y byddai modd ystyried bod cyflogaeth yn rheswm rhesymol i wrthod cynnig o lety os nad yw'r pellter teithio rhwng y llety a'r gweithle yn rhesymol. Byddai hyn yn cael ei asesu fesul achos.
Atodiad c: cod ymddygiad i westeion llety croeso
Mae'r awdurdod lleol yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl westeion sy'n cyrraedd llety croeso yn eu hardal yn derbyn Cod Ymddygiad. Darperir templed isod. Rhaid i awdurdodau lleol ymdrin â thoriadau i'r Cod Ymddygiad yn unol â'r canllawiau ar reoli achosion o dorri rheolau yn atodiad d.
Templed ar gyfer cod ymddygiad
Rydym am i bob preswylydd deimlo'n gyfforddus, yn ddiogel ac yn gyfforddus. Gofynnwn i chi barchu staff a phreswylwyr eraill. Cyn cyrraedd mae pob gwestai yn ymwybodol o'r rheolau ar gyfer llety croeso. Os byddant yn mynd i lety croeso, bydd yn drefniant dros dro am hyd at 75 diwrnod. Rhaid i bob gwestai ymgysylltu â'r awdurdod lleol i ddod o hyd i drefniadau tai tymor hwy. Mae'n rhaid i chi gydweithredu â'r staff sy'n eich cefnogi i ddod o hyd i lety tymor hwy. Mae hyn yn cynnwys dilyn y cod ymddygiad hwn.
Gall methu â gwneud hynny arwain at dynnu'ch cynnig llety croeso yn ôl. Os bydd hyn yn digwydd, efallai y bydd rhaid i chi adael eich llety. Mae'n rhaid i chi gytuno i'r cod ymddygiad hwn os ydych am aros yn y llety croeso am y cyfnod o 75 diwrnod. Diolch am eich cydweithrediad.
- Byddaf yn ymgysylltu â'm hawdurdod lleol i ddod o hyd i lety tymor hwy addas, ac wrth wneud hynny:
- byddaf yn onest am fy anghenion tai
- byddaf yn onest am fy sefyllfa ariannol
- byddaf yn darparu gwybodaeth yn ôl y gofyn, fel cyfriflenni banc a dogfennau eraill
- Byddaf yn mynychu cyfarfodydd rheolaidd gyda gweithwyr achos yr awdurdod lleol. Bydd hyn yn eu galluogi i gynnal asesiadau anghenion tai ac asesiadau fforddiadwyedd. Byddant hefyd yn trafod fy opsiynau llety.
- Byddaf yn mynd i weld eiddo pan drefnir apwyntiadau ar fy nghyfer.
- Byddaf yn parchu landlordiaid a lletywyr wrth edrych ar eiddo.
- Byddaf yn derbyn cynnig yr awdurdod lleol o lety addas i symud ymlaen iddo. Yr unig dro y gallaf wrthod cynnig addas yw os allaf ddangos tystiolaeth fy mod wedi trefnu llety fy hun,
- Byddaf yn barchus ac yn ystyriol o eraill. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr achos, staff llety a phreswylwyr eraill.
- Byddaf yn rhoi gwybod i'r staff os na fyddaf yn aros yn y llety dros nos.
- Byddaf ond yn teithio yn ystod fy 75 diwrnod mewn llety croeso os yw'r teithio yn hanfodol. Byddaf yn ceisio cytundeb gan yr awdurdod lleol cyn gwneud trefniadau teithio. Mae absenoldebau byr yn debygol o fod yn dderbyniol os nad yw eich cynlluniau teithio yn effeithio ar gynlluniau symud ymlaen. Bydd absenoldebau estynedig yn dderbyniol mewn amgylchiadau eithriadol yn unig. Os na chytunir ar yr absenoldeb ond eich bod yn dal i benderfynu teithio, gall eich cynnig o lety ddod i ben. Os bydd hyn yn digwydd, efallai y bydd rhaid i chi adael llety croeso.
- Byddaf yn parchu gofod personol pobl eraill. Byddaf yn parchu ffiniau personol pobl hyd yn oed os ydynt yn wahanol i'm rhai i. Byddaf bob amser yn cael caniatâd cyn i mi gyffwrdd â rhywun arall.
- Ni fyddaf yn defnyddio unrhyw iaith neu ymddygiad rhywiol amhriodol a digroeso.
- Rwy'n deall bod aflonyddu a cham-drin rhywiol yn droseddau. Nid yw'r rhain byth yn dderbyniol.
- Byddaf yn siarad yn garedig ag eraill, heb ymddygiad ymosodol ond gyda pharch ac ystyriaeth.
- Byddaf yn sicrhau bod y plant yr wyf yn gyfrifol amdanynt yn cael eu goruchwylio bob amser.
- Ni fyddaf yn defnyddio cosb gorfforol ar blant. Mae hyn yn cynnwys smacio, bwrw, slapio ac ysgwyd. Rwy'n deall bod pob math o gosb gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru.
- Os byddaf yn yfed alcohol yn y llety, byddaf yn yfed yn gyfrifol. Byddaf yn sicrhau nad yw fy ymddygiad yn tarfu ar breswylwyr eraill, nac yn peri gofid iddynt.
- Ni fyddaf yn defnyddio unrhyw sylweddau anghyfreithlon. Os caf fy nghanfod gyda sylweddau anghyfreithlon yn fy meddiant, bydd yr heddlu'n cael eu hysbysu. Rwy'n deall efallai y byddaf yn cael fy arestio.
- Ni fyddaf yn dod ag arfau tanio, arfau tramgwyddus na thân gwyllt o unrhyw fath i'm llety. Ni chaniateir arfau tanio, arfau tramgwyddus na thân gwyllt o unrhyw fath.
- Byddaf yn cadw cyn lleied o sŵn â phosibl, fel nad yw'n tarfu ar eraill, yn enwedig rhwng 23.00 ac 8.00 o'r gloch.
- Byddaf yn ymgyfarwyddo â rheolau'r darparwr llety. Fy nghyfrifoldeb i fydd unrhyw niwed neu anaf a achosir gan fy anifeiliaid anwes neu blant.
- Ni fyddaf yn caniatáu i ymwelwyr heb awdurdod aros dros nos yn fy llety.
- Os oes gan fy llety deulu gyda phlant, byddaf yn ymddwyn mewn ffordd ystyriol.
- Ni fyddaf yn ysmygu nac yn defnyddio e-sigaréts/fêps y tu mewn i'r llety .
- Byddaf yn defnyddio mannau dynodedig i ysmygu neu fepio, neu byddaf yn ysmygu oddi ar y safle.
- Byddaf yn sicrhau bod sigaréts yn cael eu diffodd a bod e-sigaréts/vapes yn cael eu gwaredu. Byddaf yn eu gwaredu fel y cynghorir ar y pecynnu. Os oes modd ailwefru'r e-sigarét/fêp, byddaf yn sicrhau ei fod yn gwefru mewn lle diogel.
- Byddaf yn cadw ardaloedd cymunedol yn lân ac yn daclus ac yn cadw fy eiddo personol yn fy ystafell.
- Rwy'n deall mai fi sy'n gyfrifol am fy eiddo personol. Rwy'n deall na dderbynnir atebolrwydd am ddifrod i eiddo personol na'i golli.
- Os yn berthnasol, byddaf yn cloi fy nrws wrth adael fy ystafell.
- Byddaf yn sicrhau fy mod yn gwybod ble mae fy man ymgynnull brys os oes tân.
- Byddaf yn rhoi gwybod i'r staff cyfrifol am unrhyw broblemau cynnal a chadw neu iechyd a diogelwch.
- Ni fyddaf yn ceisio trwsio unrhyw beth fy hun yn fy ystafell neu ar y safle.
- Byddaf yn gwaredu gwastraff yn gywir yn unol â gofynion cyfreithiol a rheolau llety.
Gall Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ddileu'r cynnig o lety croeso. Bydd hyn yn digwydd os bydd y Cod Ymddygiad yn cael ei dorri, ac ystyrir bod y toriad yn ddifrifol neu'n ailadroddus. Bydd hefyd yn digwydd os bydd y gwestai yn gwrthod cytuno ar y Cod Ymddygiad pan ofynnir iddo. Ar gyfer achosion difrifol o dorri'r Cod, efallai y byddwn yn cynnwys yr heddlu. Os torrwyd y gyfraith, efallai y cewch eich erlyn.
Os ydych yn achosi difrod sydd angen ei atgyweirio, glanhau neu ei amnewid, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu tuag at y costau. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu os caiff ei achosi gan blant neu anifeiliaid anwes yn eich gofal. Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd dalu os caiff ei achosi gan ymwelwyr anawdurdodedig.
Diolch am ein helpu i greu noddfa i bobl o Wcráin sy'n cyrraedd Cymru.
Llofnod y gwestai:
Enw'r gwestai:
Atodiad d: canllawiau ar gyfer rheoli achosion o dorri'r cod ymddygiad
Mae'r canllawiau a'r templed o Gytundeb Ymddygiad yn adeiladu ar y Cod Ymddygiad ar gyfer pobl o Wcrain sy'n aros mewn llety croeso a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Cyn mynd i'r afael ag ymddygiad heriol, mae'n hanfodol sicrhau bod yr holl breswylwyr yn deall y Cod Ymddygiad a'u cyfrifoldebau yn llawn. Dylai'r awdurdod lleol gymryd camau i gyfathrebu'n glir ac addasu eu dull o ddiwallu anghenion unigol, yn enwedig i breswylwyr sy'n agored i niwed fel y rhai sydd â rhwystrau iaith, anableddau dysgu, problemau iechyd meddwl neu drawma. Gall hyn gynnwys cynnig cyfieithiadau, esboniadau symlach, neu sgyrsiau unigol i sicrhau dealltwriaeth a hygyrchedd. Trwy sicrhau cyfathrebu effeithiol ymlaen llaw, gellir datrys neu atal llawer o faterion cyn iddynt waethygu.
Unwaith y bydd cyfathrebu clir, y cam cyntaf fydd cymryd mesurau ataliol. Gall asesu beth sbardunodd yr ymddygiad drwy drafod gyda'r unigolyn ac edrych a oes modd datrys hyn atal ymddygiad heriol pellach. Er nad yw hyn bob amser yn ymarferol, dylid ystyried yr awgrymiadau canlynol ar gyfer lliniaru ymddygiad annerbyniol. Dylai awdurdodau lleol gadw cofnod o'r holl gamau a gymerir i ddatrys y mater gyda'r gwestai.
Dad-ddwysáu
Mewn sefyllfaoedd lle mae ymddygiad heriol yn codi, gall defnyddio technegau dad-ddwysáu fod yn hanfodol i ymdrin â thensiwn ac atal y sefyllfa rhag gwaethygu. Dylai staff roi cyfle i unigolion fynegi eu pryderon neu eu rhwystredigaethau i drydydd parti niwtral, fel llinell gymorth CALL neu wasanaeth lleol arall. Gallwch ddefnyddio gwefan infoengine i ddod o hyd i wasanaethau trydydd sector yn eich ardal.
Dull gweithredu wedi ei lywio gan drawma
Mae cael eich gorfodi i ddadleoli oherwydd rhyfel yn brofiad trawmatig. Dylai'r holl staff fabwysiadu dull gweithredu sy'n ystyriol o drawma wrth gyfathrebu â'r holl breswylwyr, gan gynnwys y rhai sy'n dangos ymddygiadau anodd ac annerbyniol. Mae adnoddau ar gael yma Cymru sy'n Ystyriol o Drawma. Mae hyfforddiant rhagarweiniol ar gael yn Youtube.
Cytundeb ymddygiad derbyniol
Mewn achosion lle nad yw mesurau ataliol wedi llwyddo i ddatrys ymddygiad gwael, dylid trafod a chytuno ar "Gytundeb Ymddygiad Derbyniol" ffurfiol gyda'r gwestai a dylai'r gwestai ei lofnodi. Mae'r templed yn pennu cytundeb ffurfiol rhwng y preswylydd a'r awdurdod lleol gan gynnwys gofynion penodol o ran ymddygiad a chanlyniadau peidio â chadw at y rhain. Gellir teilwra'r templed i gynnwys ymddygiad penodol ychwanegol os nad yw eisoes wedi'i gynnwys yn y templed pan fo hyn yn broblem gydag unigolyn, os bydd Llywodraeth Cymru yn cytuno.
Gellir tynnu'r cynnig o lety croeso yn ôl ar unrhyw adeg os caiff y Cod Ymddygiad neu'r Cytundeb Ymddygiad Derbyniol ei dorri neu os yw'r gwestai yn gwrthod cytuno i'r Cod Ymddygiad neu'r Cytundeb Ymddygiad Derbyniol pan ofynnir iddo wneud hynny. Os yw gwesteion yn gwrthod llofnodi'r Cytundeb Ymddygiad Derbyniol, dylid ystyried y byddent wedi cael gwybod am y disgwyliadau o ran eu hymddygiad. Dylai awdurdodau lleol atgoffa gwesteion y gellir tynnu'r cynnig o lety croeso yn ôl ar unrhyw adeg os byddant yn gwrthod cytuno i'r Cod Ymddygiad neu'r Cytundeb Ymddygiad Derbyniol pan ofynnir iddynt wneud hynny.
Gan ddibynnu ar fath a/neu ddifrifoldeb yr achos o dorri'r Cod neu'r Cytundeb, efallai y bydd angen hysbysu'r heddlu. Bydd hyn yn angenrheidiol os amheuir bod trosedd wedi'i chyflawni.
Os yw torri'r Cod yn golygu bod preswylydd neu aelod arall o staff yn teimlo'n anniogel, a bod sail resymol dros awgrymu efallai bod perygl i ddiogelwch rhywun, dylid mynd â'r gwestai o'r llety cyn gynted â phosibl.
Cyn tynnu llety croeso yn ôl, dylid cynnal trafodaeth gyda chydweithwyr o Lywodraeth Cymru ynghylch yr amgylchiadau arbennig dan sylw a'r camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol i fynd i'r afael â'r ymddygiad. Bydd Llywodraeth Cymru fel arfer yn cytuno â phenderfyniad yr awdurdod lleol cyn belled â bod digon o dystiolaeth ddogfennol yn cael ei darparu i ddangos bod y penderfyniad hwnnw'n rhesymol. Yn dilyn y drafodaeth hon, dylai'r awdurdod lleol hysbysu'r unigolyn o benderfyniad yr awdurdod lleol yn ysgrifenedig o fewn pum diwrnod gwaith a'i gyfeirio at wybodaeth i gael cymorth tai pellach. Dylid cofnodi unrhyw benderfyniadau a'r camau nesaf fel nodyn achos ar gyfer yr aelwyd ar Lwyfan Data'r Wcráin.