Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau i awdurdodau lleol ar y cyllid sydd ar gael i gefnogi'r cynllun Cartrefi i Wcráin.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Mae sawl ffrwd ariannu wahanol y gall awdurdodau lleol eu defnyddio i gefnogi pobl o Wcráin a ddaw i Gymru o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin. Mae’r cynllun Cartrefi i Wcráin yn cynnwys y rhai sy’n cael eu lleoli’n uniongyrchol gyda phobl sy’n cynnig llety, neu'r rhai a ddaw drwy'r cynllun "uwch-noddwr:

  • tariff cyffredinol fesul person
  • costau ychwanegol
  • tariff addysg, ar sail oedran
  • plant dan oed ar eu pen eu hunain
  • taliad diolch misol i’r rhai sy’n rhoi llety
  • llety cychwynnol

Roedd arian ar gael yn y gorffennol ar gyfer canolfannau cyrraedd, ond mae'r rhain bellach wedi cau ac ni fydd awdurdodau lleol yn derbyn arian ar eu cyfer mwyach.

Nid oes cyllid penodol ar gael i bobl sy'n cyrraedd o dan y cynllun Teuluoedd o Wcráin. Ond bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi arian i bobl sy’n rhoi llety er mwyn cefnogi’r rhai sy’n cyrraedd o dan y cynllun Teuluoedd o Wcráin pan na fo modd iddynt fyw gyda’r noddwyr sy’n deulu iddynt mwyach ac wedi gorfod cael eu hail-baru gyda phobl sy’n cynnig llety ond nad ydynt yn perthyn iddynt. 

Mae gwasanaeth canolfan gyswllt Cymru: Cenedl Noddfa wedi’i sefydlu drwy Gyngor Dinas Caerdydd ac mae'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. 

Nid oes unrhyw arian ychwanegol wedi’i ddarparu gan Lywodraeth y DU na Llywodraeth Cymru ar gyfer byrddau iechyd. 

Caiff y canllawiau hyn eu diweddaru o bryd i'w gilydd pan fydd materion yn cael eu nodi neu os bydd amgylchiadau'n newid.

Arian tariff cyffredinol

Mae’r cynllun Cartrefi i Wcráin yn darparu tariff fesul person ar gyfer awdurdodau lleol i gefnogi awdurdodau lleol i ddarparu cymorth cofleidiol i unigolion a theuluoedd er mwyn iddynt allu ailgydio yn eu bywydau ac integreiddio yn eu cymunedau. Dechreuodd hyn ar £10,500 fesul person ym mlwyddyn gyntaf cyrraedd ond ers 1 Ionawr 2023 mae wedi gostwng i £5,900. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, mae’r tariff yn cael ei gyfrifo ar gyfradd fesul person, ond ni ddylid ei gymhwyso'n benodol i unigolyn a gall y cyllid gael ei gydgrynhoi a'i ddefnyddio i ddarparu gweithgareddau i bob Wcreiniad o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin yn yr awdurdod hwnnw. Efallai y bydd gwasanaethau cymorth yn cael eu sefydlu a'u defnyddio gan Wcreiniaid o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin a'r cynllun Teuluoedd o Wcráin er mwyn elwa ar arbedion maint. 

Mae Llywodraeth y DU nawr yn darparu cyllid ar gyfradd o £5,900 fesul person o'r adeg y maent yn cyrraedd. Mae'r cyllid ar gyfer eu blwyddyn gyntaf yn y DU yn unig. Mae’r cyllid hwn yn cwmpasu’r cyfnod o 12 mis o ddyddiad cyrraedd, a gellir ei gario drosodd i’r flwyddyn ariannol nesaf. Mae swm y tariff yn pro rata am yr amser maent yng Nghymru os ydynt yn symud rhwng gwledydd y DU. Bydd yr arian yn cael ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r taliad tariff yn cael ei dalu i awdurdodau lleol bob chwarter mewn ôl-daliadau ar ôl cael a phrosesu hawliad dilys. Bydd y tariff yn daliad pro rata y mis ar gyfradd o £475 y mis ar gyfer y rhai sy’n cyrraedd ar ôl 1 Ionawr 2023 (£5,900, llai taliad argyfwng o £200, wedi rhannu gyda deuddeg) tra bo'r awdurdod lleol yn cefnogi unigolyn sy’n cael llety neu sydd mewn llety rhent. I'r Wcrainiaid hynny sy'n cyrraedd cyn 1 Ionawr 2023, bydd y taliad tariff yn parhau ar £858 y mis (£10,500, llai taliad argyfwng o £200, wedi rhannu gyda deuddeg) am weddill eu 12 mis cyntaf yng Nghymru. Tra bo’r unigolyn mewn llety cychwynnol brys, bydd yr elfen tariff yn cael ei chadw gan Lywodraeth Cymru gan fod y cymorth yn cael ei ddarparu drwy gyllid cofleidiol ar wahân. 

Bydd y pecyn cyllido hwn yn cynnwys (nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ac mae’r mathau o wasanaethau yn dibynnu ar yr angen ac ar asesiad awdurdod lleol): 

  • integreiddio mewn cymunedau: bydd awdurdodau Lleol a'u partneriaid yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o integreiddio teuluoedd o Wcráin yn eu cymunedau lleol. Gallai integreiddio gynnwys cymorth gwaith achos i oresgyn rhwystrau neu fynd i’r afael â phryderon, darpariaeth Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), mynediad at wasanaethau cyfieithu ar y pryd, datblygu digwyddiadau cymunedol, defnyddio hyrwyddwyr cymunedol yn y sector gwirfoddol neu’r sector ffydd a helpu i gyfeirio pobl at gymorth perthnasol
  • atgyfeiriadau i wasanaethau arbenigol: pan fo angen neu'n ddoeth gwneud hynny, dylai cynghorau hwyluso atgyfeiriadau at wasanaethau iechyd cyhoeddus arbenigol, ee gwasanaethau iechyd meddwl, gofal cymdeithasol i oedolion a gwasanaethau plant
  • gwaith a budd-daliadau: dylai cynghorau gefnogi gwesteion i gael mynediad at apwyntiadau yn y Ganolfan Byd Gwaith leol ar gyfer asesiadau budd-daliadau a chyfleoedd ceisio gwaith, gan gynnwys unrhyw fudd-daliadau ychwanegol y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi'u galluogi
  • taliadau brys cychwynnol: gofynnir i'r awdurdod lleol lle lleolir y llety ddarparu taliad dros dro o £200 i bob gwestai. Mae'r taliad o £200 yn rhan o'r tariff o £5,900 ac nid oes angen i’r gwestai ei ad-dalu. Bydd gan awdurdodau lleol hefyd ddisgresiwn o fewn y tariff i roi rhagor o arian neu gefnogaeth i westeion gyda thaliadau ychwanegol neu rai dros dro a fydd yn dod o'u dyraniad misol o gyllid tariff. Mae'r £200 yn daladwy i'r Wcreiniad ac nid i'w noddwr
  • llety: cymorth i'r rhai sy'n symud i'r sector rhentu preifat gyda bondiau, rhent ymlaen llaw a sicrwydd rhent. Cyfrifoldeb yr awdurdod derbyn yw hyn pan fo unigolion yn symud rhwng awdurdodau. Gweler y canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol: llety, paru a symud ymlaen am fwy o wybodaeth
  • costau cludiant i apwyntiadau ysbyty, llety newydd
  • ail-baru: helpu i ddod o hyd i lety arall pan fo trefniadau noddi yn methu
  • plant dan oed ar eu pen eu hunain: cefnogaeth i bobl ifanc dan oed nad ydynt yn teithio gyda’u rhieni neu’n ymuno â’u rhieni yn y DU

Pan fo unigolion yn symud yn ffurfiol rhwng ardaloedd awdurdodau lleol (gan gynnwys o lety cychwynnol) i ardaloedd awdurdodau lleol gwahanol yng Nghymru, bydd y tariff yn cael ei dalu ar sail pro rata i'r awdurdod lletya newydd. Bydd cymodi yn digwydd ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol. Mae hawlio ar sail pro rata 12 mis yn golygu nad oes angen trosglwyddo arian rhwng awdurdodau. Mae hefyd yn golygu, pan fo unigolyn yn symud o Gymru i Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon yn ystod y flwyddyn gyntaf, bydd cyllid yn cael ei ddal gan Lywodraeth Cymru at ddibenion cysoni. 

Er enghraifft os bydd unigolyn yn cyrraedd ym mis Ebrill 2023, yn aros mewn llety cychwynnol ym Mhowys am ddeufis, yn symud at rywun sy’n cynnig llety yng Nghaerdydd am chwe mis ac yna’n symud i lety rhent yng Nghaerffili, bydd yr arian fel a ganlyn: 

  • Llywodraeth y DU yn talu £5,900 i Lywodraeth Cymru
  • Powys yn gwneud taliad o £200 ac yn ei hawlio gan Lywodraeth Cymru
  • Llywodraeth Cymru yn cadw tariff o ddeufis (£950) i gefnogi gwasanaethau cofleidiol
  • ALl Caerdydd yn hawlio chwe mis o daliadau tariff (£2,850)
  • ALl Caerffili yn hawlio pedwar mis o daliadau tariff (£1,900)

Efallai na fydd y costau’n gyfartal ar draws y flwyddyn, ond bydd yr effaith yn wahanol yn dibynnu ar symudiadau’r unigolyn yn ystod y flwyddyn. Felly mae sail pro rata sefydlog wedi cael ei chymhwyso.

Costau ychwanegol

Rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol ddefnyddio'r tariffau ariannu (tariff cyffredinol yr ALl a'r tariff addysg) i dalu'r holl gostau cysylltiedig (ar gyfer darparu gwasanaethau ac am weinyddu taliadau). Gwyddom, fodd bynnag, y gall nifer bach o awdurdodau lleol wynebu costau hanfodol ychwanegol y tu hwnt i'r hyn y gellid ei ystyried yn rhesymol fel gwariant arferol a lle nad oes cyllid amgen ar gael drwy drefniadau cyllido prif ffrwd eraill. 

Rydym yn barod i ystyried achosion lle bydd angen cyllid pellach ac rydym yn barod i roi ystyriaeth gychwynnol i geisiadau am gostau o'r fath dim ond ar sail eithriadol, ond byddwn yn monitro goblygiadau’r costau hyn yn ofalus. Rhaid cael cytundeb i'r costau hyn ymlaen llaw ac eithrio mewn achosion o frys eithafol. Ni ellir sicrhau y cytunir iddynt ar ôl i’r awdurdod fynd i’r costau hyn.

Y tariff gwasanaethau addysg

Mae'n ofynnol i Awdurdodau Lleol ddarparu lleoedd mewn ysgolion ar gyfer plant oedran ysgol. Darparodd Llywodraeth y DU gyllid i holl awdurdodau lleol y DU ddarparu gwasanaethau addysg i blant a phobl ifanc ar sail pob disgybl yn y flwyddyn ariannol 2022 i 2023 yn unig.  Nid oes cyllid ar gael o 1 Ebrill 2023. Gall cyllid a gafodd ei dderbyn gan awdurdodau lleol yn 2022 i 2023 gael ei gario drosodd i'r flwyddyn ariannol nesaf os nad oes modd ei ddefnyddio.

Gall Awdurdodau Lleol wario’r cyllid ar y canlynol: 

  • darparu lle mewn ysgol (gan gynnwys amser ar gyfer adnodd staff a theithio) 
  • cynnal darpariaeth addysg i blant 2-4 oed a phlant a phobl ifanc ôl-16 
  • ariannu lle i glystyrau mwy o blant mewn ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar, gan gynnwys cyflogi staff ychwanegol ac arbenigol sy’n addysgu a rhai nad ydynt yn addysgu 
  • darparu cludiant i leoliadau addysg ac oddi yno  
  • darparu gwasanaethau arbenigol a phwrpasol, megis cefnogaeth i blant ag anghenion ychwanegol, ac adnoddau (gall hyn gynnwys deunyddiau addysg i ysgolion) 
  • prydau ysgol a gwisg ysgol am ddim (gan gynnwys bagiau/darpariaethau ysgol, ee poteli dŵr ac ati) 
  • darparu mynediad at weithgareddau allgyrsiol, ee gweithgareddau chwaraeon 
  • gwasanaethau cymunedol y mae eu darpariaeth o fudd i'r plant 
  • unrhyw gostau rhesymol eraill sy'n gysylltiedig â darparu addysg a gofal plant (er enghraifft darpariaeth clybiau ar ôl ysgol/ gwasanaethau cofleidiol) 
  • darpariaeth addysg a ddarperir mewn llety cychwynnol drwy gynllun uwch-noddwr Llywodraeth Cymru 

Plant dan oed ar eu pen eu hunain

Mae plant dan oed sydd ar eu pen eu hunain yn gymwys i gael yr un cyllid ag unrhyw un arall o’r un oed sy’n cyrraedd, gyda rhai gwahaniaethau: 

  • taliad "diolch" o £350  i noddwyr am hyd at dair blynedd, hyd y fisa, yn cael ei dalu'n uniongyrchol gan Lywodraeth y DU
  • £5,900 y plentyn, fesul awdurdod lleol, y flwyddyn. Tybir y bydd elfennau o'r cyllid a fwriedir ar gyfer oedolion (er enghraifft mewn perthynas â gofal cymdeithasol a chymorth cyflogaeth), yn cael ei ddefnyddio yn hytrach fel arian ychwanegol i gefnogi plant 
  • £64,150 y flwyddyn am bob plentyn sy'n cael ei gymryd i ofal oherwydd bod trefniadau noddi yn methu, neu bod yr awdurdod lleol o’r farn bod hynny er budd y plentyn, a delir trwy Lywodraeth Cymru
  • £16,850 am blentyn sy’n cael ei gymryd i ofal, y flwyddyn sydd wedyn yn dod yn berson sy'n gadael gofal, a delir drwy Lywodraeth Cymru

Bydd y cymorth ar gyfer plentyn sy’n cael ei gymryd i ofal yn cael ei ddarparu bob wythnos, pro rata. 

Dim ond ar gyfer y flwyddyn gyntaf y mae'r plentyn yn cael ei gymryd i ofal y mae’r cyllid ar gael.

Os bydd plentyn yn gadael gofal, bydd y cyllid yn ôl-daliad untro, sydd ar gael am y flwyddyn gyntaf yn unig.

Taliadau ‘diolch’ misol i’r rhai sy’n rhoi llety

Bydd awdurdodau lleol hefyd yn gweinyddu'r taliadau 'diolch' i westeion Cartrefi i Wcráin (boed hynny'n uniongyrchol drwy'r cynllun noddi neu drwy gynllun uwch-noddwr Cymru ac maent nawr mewn trefniadau gwesteiwr). Mae Llywodraeth y DU yn talu'r cyfraddau canlynol:

  • £350 am bob cartref sy'n noddi fesul mis am y 12 mis cyntaf ar ôl cyrraedd y DU
  • £500 am bob cartref sy'n noddi fesul mis o fis 13 ar ôl cyrraedd y DU

Mae'r cyfraddau ariannu hyn yn seiliedig ar nifer y misoedd y mae'r person / teulu Wcreinaidd wedi bod yn y DU nid ar nifer y misoedd y mae gwesteiwr wedi'u cynnal ar eu cyfer. Er enghraifft, os oes gan westeiwr un teulu a gyrhaeddodd ym mis Ebrill 2022 am 9 mis ac yna un arall a gyrhaeddodd ym mis Rhagfyr 2022 am 9 mis dim ond £350 y mis y byddant yn ei dderbyn. Ond, os oes ganddynt un teulu a gyrhaeddodd ym mis Ebrill 2022 am 18 mis, byddai'r gwesteiwr yn derbyn 12 taliad o £350 a chwe thaliad o £500. Os byddent yn cynnal yr un teulu am 18 mis eto byddent yn cael £350 am y 12 mis cyntaf a £500 am y chwe mis diwethaf. Bydd yr arian hwn yn dod yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU i’r rhai sy’n noddi Wcreiniaid yn uniongyrchol neu drwy lwybr uwch-noddwr Llywodraeth Cymru. Mae data yn cael eu casglu gan Lywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU o’r ffurflenni chwarterol gan Awdurdodau Lleol (gyda sicrwydd ansawdd gyda’r data perthnasol a gedwir yn Cenedl Noddfa: Platfform Data Wcráin). 

Mae canllawiau Llywodraeth y DU yn cadarnhau bod y taliadau'n dechrau o'r mis cyntaf pan fo'r cyfnod lletya yn 15 diwrnod neu fwy. Mae'r taliadau'n dod i ben pan fydd y trefniant lletya yn dod i ben yn barhaol am 15 diwrnod neu fwy (hy bydd yn dal i gynnwys gwyliau pythefnos).

Mae canllawiau Llywodraeth y DU yn nodi’r canlynol: 

Rhaid i noddwyr fod yn sicr eu bod mewn sefyllfa ddiogel i gynnig cartref sefydlog i rywun sydd ei angen. Mae gan noddwyr yr opsiwn i dderbyn taliad misol o £350, neu £500 lle mae'n gymwys, a delir mewn ôl-daliadau, cyhyd â'u bod yn rhoi llety i westeion a chyhyd â bod y llety a ddarperir o safon addas. Bydd noddwyr yn gymwys am y taliad misol cyntaf unwaith y bydd y cyngor lleol wedi ymweld â’r llety i wirio ei safon. I noddwyr sy'n derbyn taliadau lles, mae'r llywodraeth yn sicrhau nad yw taliadau 'diolch' yn effeithio ar eich hawl i gael budd-daliadau. Ni fydd taliadau 'diolch' yn effeithio ar unrhyw ostyngiadau i’r dreth gyngor i feddiannaeth unigol. Ni fyddant yn cael eu trethu. Os bydd gwestai noddwr yn symud allan o'u cartref am unrhyw reswm, rhaid iddynt roi gwybod i'w cyngor lleol cyn gynted â phosibl gan y bydd angen iddynt roi gwybod nad ydynt bellach yn gymwys ar gyfer y taliadau misol. Dim ond tra bo’r gwestai/gwesteion yn parhau i fyw yn eu llety y byddant yn gymwys. Dim ond un taliad misol fydd yn cael ei roi fesul cyfeiriad preswyl, waeth beth fo nifer y gwesteion sy'n cael llety, a waeth beth fo maint na lleoliad yr eiddo. 

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau bod "cyfeiriad preswyl" yn cyfeirio at y breswylfa sy'n cael ei feddiannu gan yr unigolyn/teulu o Wcráin nid y gwesteiwr, ac felly mae noddwyr/gwesteiwyr yn gymwys i gael "un taliad fesul cyfeiriad preswyl y mae gwesteion yn byw ynddo.”

Rydym hefyd wedi cytuno i ddarparu'r taliadau diolch i’r rhai sy’n cynnig llety ac yn noddi pobl o Wcráin a gyrhaeddodd yn wreiddiol drwy’r cynllun Teuluoedd o Wcráin ond y mae eu trefniadau gwreiddiol wedi chwalu ac maent wedi cael eu rhoi gyda theulu sy’n cynnig llety ond nad ydynt yn perthyn iddynt. Mae hyn er mwyn sicrhau nad yw’r rhai sy’n cyrraedd o dan y Cynllun Teuluoedd o Wcráin yn cael eu gadael heb gyfleoedd i gael llety.

Felly, rhaid i ffurflenni data nodi'r achosion hyn ar wahân ar ffurflen hawlio cyllid Llywodraeth Cymru ac ni ddylid eu cynnwys yn y data er mwyn lywio'r hawliad i Lywodraeth y DU am y taliadau diolch. Os bydd awdurdod yn canfod ei fod wedi hawlio mewn camgymeriad naill ai gan Lywodraeth y DU neu gan Lywodraeth Cymru, dylid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru fel bod modd gwneud addasiadau pan fo'n briodol. Gweler casgliad data 6 isod. 

Yn unol â chanllawiau'r DU bydd amgylchiadau lle mae pobl o Wcráin (na ddaethant drwy'r cynllun Teuluoedd o Wcráin) yn cael eu hail-baru â rhywun arall sy’n cynnig llety. Mewn amgylchiadau o'r fath, bydd y taliad o £350 neu £500 y mis ar gael i'r taliad eilaidd (neu drydyddol etc.). Er enghraifft, efallai y bydd y noddwr cyntaf yn cael 2 fis o daliadau nes i'r trefniant chwalu, a’r ail noddwr yn cael 14 mis o daliadau os yw'r ail leoliad yn para cyhyd.

Taliadau ychwanegol

Rydym wedi cytuno ar godiad i’r taliad "diolch" i bob gwesteiwr o £350 i £500 y mis yn ystod eu blwyddyn gyntaf. Bydd hyn yn cael ei dalu drwy'r ffurflenni hawlio cyllid chwarterol gan Lywodraeth Cymru, yn hytrach nag yn uniongyrchol o Lywodraeth y DU i awdurdodau lleol. Mae hyn yn weithredol o 1 Ebrill 2023.

Bydd awdurdodau lleol yn talu swm ychwanegol o £150 a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn uniongyrchol i westeion yn ogystal â'r taliad diolch o £350 gan Lywodraeth y DU (cyfanswm o £500). Os yw awdurdod lleol wedi gwneud penderfyniad i gynyddu taliadau diolch dros £500, cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw ariannu unrhyw swm ychwanegol o'u cyllideb.

Canolfannau coeso, llety cychwynnol arall a chanolfannau cyrraedd

Rydym wedi gwneud trefniadau penodol gyda'r awdurdodau lleol perthnasol ar gyfer llety cychwynnol. Mae llythyrau grant sy'n cynnwys manylion telerau ac amodau wedi eu rhoi i'r awdurdodau perthnasol. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, ni chaiff llety cychwynnol eu hariannu oni bai bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno y dylid eu sefydlu. 

Mae'r arian ar gyfer y llety cychwynnol yn cynnwys llety pan fo hynny'n berthnasol a chyllid ar gyfer y gwasanaethau cofleidiol cysylltiedig. Mae'r cyllid hwn yn ceisio sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i ddarparu gwaith achos a chymorth pwrpasol i'r rhai y mae Llywodraeth Cymru wedi eu noddi yn uniongyrchol o dan lwybr uwch-noddwr Cartrefi i Wcráin. 

Darperir cyllid fel ffi sefydlog untro gychwynnol ar gyfer y symudiadau cychwynnol (taliad untro ar raddfa y cytunwyd arni yn ôl capasiti cyffredinol y lleoliad, gweler y tabl isod) ac uchafswm cyfradd tariff yn seiliedig ar £20 y person y dydd am hyd at 60% o’r feddiannaeth gytunedig. Bydd lefelau meddiannaeth yn cael eu monitro. 

Capasiti uchaf

£

<50

20,000

51-100

40,000

101-200

60,000

201+

80,000

Er enghraifft, os oes gan lety cychwynnol gapasiti o 100 o westeion, byddai cyllid gwasanaethau cofleidiol yn 60% o £20 y person x 100 o westeion, sy'n cyfateb i £1,200 y diwrnod, yn ogystal â thaliad untro o £40,000 (y lefel ar gyfer capasiti o 100).

Os bydd mwy o bobl na’r capasiti uchaf mewn llety cychwynnol, mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau ac yn ariannu llety ychwanegol (yn bennaf drwy westai). Mae angen tebyg am wasanaethau cofleidiol gan awdurdodau lleol i bobl sy'n aros o dan y trefniadau dros dro hyn.

O dan gytundebau ar raddfeydd llai neu rai tymor byr ar gyfer llety cychwynnol, ni fyddai'r taliad untro cyfradd sefydlog yn cael ei ddarparu. Fodd bynnag, byddai'r gyfradd lawn o £20 y pen y dydd yn cael ei darparu i'r awdurdod lleol sy'n derbyn, heb unrhyw ddidyniadau ar sail ystyriaeth o feddiannaeth gyfartalog i sicrhau defnydd gwirioneddol o’r cyfleusterau, a bod anwadalrwydd y ddarpariaeth yn cael ei ystyried yn deg.

Cyllid i symud ymlaen

Yn dilyn newidiadau i'r cyllid tariff cyffredinol gan Lywodraeth y DU, rydym yn darparu £2m yn 2023 i 2024 i gefnogi gwesteion Wcráin i symud i lety tymor hwy.  Bydd £1.5m o'r arian yn cael ei roi i awdurdodau lleol i flaenoriaethu symud ymlaen.  Bydd awdurdodau lleol yn gallu defnyddio'r cyllid hwn yn ôl eu disgresiwn i gefnogi symudiadau llwyddiannus o lety cychwynnol i lety mwy hirdymor, gan gynnwys trefniadau cynnal, llety rhent preifat, a llety trosiannol.

Er nad yn gynhwysfawr, gallai enghreifftiau o gefnogaeth gynnwys darparu bondiau, rhent ymlaen llaw, benthyciadau i helpu talu costau rhent a dodrefn, a gwarantau rhent. Gellir defnyddio'r cyllid hefyd i helpu i gwrdd â chostau staffio i alluogi symud ymlaen i lety mwy hirdymor.

Mae hefyd yn briodol defnyddio'r cyllid hwn i gefnogi symud ymlaen yn fwy cyffredinol, er enghraifft rhoi cymorth i gael llety mwy hirdymor mewn rhan arall o Gymru neu y tu allan i Gymru. Yn ogystal, er mwyn blaenoriaethu hyn ymhellach, bydd cyfran o'r cyllid sy'n cael ei gadw'n ganolog yn cael ei ddefnyddio i ariannu tasglu cenedlaethol i gefnogi symud ymlaen o'r llety cychwynnol ar draws Cymru, a fydd yn darparu sgiliau a phrofiad gweithredol, yn ogystal â chapasiti ychwanegol i awdurdodau lleol.

Dosberthir yr arian ar sail y gyfran o bobl o Wcráin sy’n cael llety gan uwch-noddwr y mae pob awdurdod lleol wedi cytuno i’w cefnogi i gael llety mwy hirdymor.  Bwriad y dosbarthiad hwn yw galluogi pob awdurdod lleol i gael rôl wrth gefnogi’r bobl hynny sy’n cael llety gydag uwch-noddwr i symud ymlaen, fel y cytunwyd o dan fframwaith Cartrefi i Wcráin ar gyfer llety fel nad yw'r pwysau llawn ar awdurdodau lleol sydd â llety cychwynnol.

Bydd y cyllid yn cael ei ddarparu trwy'r hawliadau chwarterol.

Cronfa ddewisol

Crëwyd cronfa ddewisol o £1.95m i ddarparu cymorth wedi'i thargedu i helpu gydag integreiddio a llety i bobl sy’n cyrraedd o Wcráin. Gellir neilltuo’r cyllid hwn i fynd i'r afael â heriau penodol fel addysg, gwersi iaith a rhaglenni cyflogadwyedd.

Bydd yr arian yn cael ei ddosbarthu mewn dau gam ar sail nifer yr Wcrainiaid ym mhob awdurdod lleol sydd wedi cyrraedd trwy'r llwybr uwch-noddwr a'r llwybr Cartrefi ar gyfer Wcráin unigol ar 1 Mawrth 2023. Bydd y dyraniad cyllid cyntaf o fis Ebrill i fis Medi. Cynhelir adolygiad ddiwedd Awst i benderfynu ar yr ail ddyraniad ar gyfer y cyfnod o fis Hydref i fis Mawrth. Bydd arian yn cael ei ddarparu trwy'r hawliadau chwarterol ar ddiwedd y ddau gam.

Dosbarthu’r gronfa atal digartrefedd gwerth £150m

Mae ystyriaeth yn cael ei roi i ddosbarthiad cyfran Cymru o'r cyllid uchod. Mae disgwyl i hyn fod tua £8m i gyd.

Casglu data

Mae Llywodraeth y DU yn gofyn am ffurflenni data bob chwarter yn 2023 i 2024.

Mae'r ffurflenni hyn yn cynnwys nifer y rhai sy'n cyrraedd a dadansoddiad o oedrannau er mwyn llywio'r gwaith o drosglwyddo’r cyllid angenrheidiol i Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn cynnwys nifer y taliadau diolch a dalwyd o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin am y chwarter. Bydd yr olaf yn cael ei dalu'n uniongyrchol i awdurdodau lleol.

Bydd Cenedl Noddfa: Platfform Data Wcráin yn cipio data megis cadarnhau bod eiddo ar gael, cynnal y gwiriadau ar eiddo a chwblhau’r gwiriadau sylfaenol a manylach y Gwasanaethau Datgelu a Gwahardd. Efallai y bydd angen inni gasglu data ychwanegol at ddibenion ariannu, ond dim ond yr hyn sy’n angenrheidiol a byddwn yn adolygu hyn yn rheolaidd.

Trefniadau cyllido ar gyfer arian a ddaw gan Lywodraeth Cymru

Bydd un trefniant ariannu ar gyfer yr holl wasanaethau sy'n cael eu darparu ar gyfer yr ymateb i’r argyfwng yn Wcráin. Bydd hyn yn cynnwys y prif dariff, llety cychwynnol, pobl ifanc dan oed wrth eu hunain ac unrhyw gyllid ychwanegol sydd wedi'i gymeradwyo i’w dalu. Bydd hyn drwy hawliad chwarterol mewn ôl-daliadau gan ddefnyddio taenlen hawlio. Bydd pob chwarter ariannu fel a ganlyn: 

  • Ebrill 2023 i Mehefin 2023
  • Gorffennaf 2023 i Medi 2023
  • Hydref 2023 i Rhagfyr 2023
  • Ionawr 2024 i Mawrth 2024

Gan y gall pobl o Wcráin o dan y cynlluniau hyn symud rhwng ardaloedd awdurdodau lleol, rydym yn casglu rhifau misol trwy ffurflen hawlio cyllid Llywodraeth Cymru a byddwn yn parhau i ddyrannu cyllid yn unol â hynny. Mae hyn yn golygu nad oes disgwyl i'r awdurdodau reoli'r llif hwn o arian rhyngddyn nhw'u hunain. Bydd hyn hefyd yn helpu i gysoni taliadau gyda Llywodraeth y DU i adlewyrchu'r bobl sy'n symud ar draws gwahanol rannau o'r DU. 

Bydd y categorïau a ganlyn yn cael eu hariannu drwy'r ffurflen hawlio ar gyfer y rhai o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin (noddwyr unigol Cartrefi i Wcráin neu rai drwy’r llwybr uwch-noddwr): 

  • taliad cychwynnol brys o £200
  • tariff integreiddio awdurdod lleol: yn seiliedig ar le mae Wcrainiaid yn byw, ar gyfradd o £858 / £475 fesul mis calendr.
  • taliad o £350 y mis i’r bobl sy’n rhoi llety: sail eithriadol i'r rhai sy'n gadael y cynllun Teuluoedd o Wcráin ac yn symud at rywun sy’n cynnig llety
  • plant dan oed ar eu pen eu hunain: os mewn gofal ar gyfradd pro rata wythnosol yn seiliedig ar £64,150 ar gyfer 12 mis cyntaf y plant hynny mewn gofal, os yn gadael gofal ar gyfradd sefydlog o £16,850
  • llety cychwynnol: yn seiliedig ar gostau gwirioneddol a dalwyd gan awdurdodau lleol (mae rhai contractau yn rhai uniongyrchol â Llywodraeth Cymru)
  • costau cofleidiol ar gyfer llety cychwynnol: yn seiliedig ar £20 y pen y dydd am hyd at 60% o’r feddiannaeth y cytunwyd arni, yn ogystal â chyfandaliad symudiadau cychwynnol
  • lle defnyddir llety cychwynnol ond nad yw’n bosibl cynnig cymorth cofleidiol ehangach ar gyfer y llety, bydd cyfradd o £20 y pen y dydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer darparu gwasanaethau cofleidiol
  • costau ychwanegol: fel y cytunwyd arnynt gyda Llywodraeth Cymru ymlaen llaw ac eithrio mewn achosion eithriadol

Rydym yn rhagweld y bydd unrhyw ffrydiau cyllido eraill gan Lywodraeth Cymru yn cael eu darparu o fewn y trefniant hwn os yw'n briodol gwneud hynny.