Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg a Phwrpas

Cymru yw’r ‘Genedl Noddfa’ gyntaf erioed. Wrth i bobl o Wcráin gyrraedd Cymru, rydym eisiau sicrhau eu bod yn cael cymorth gyda gwasanaeth cofleidiol llawn i sicrhau eu diogelwch, eu noddfa a’u bod yn gallu cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus i’w cynorthwyo.

Mae gan awdurdodau lleol ran hollbwysig i’w chwarae yn y gwaith o gynorthwyo pobl o Wcráin sy’n cyrraedd Cymru, ac maent mewn sefyllfa unigryw i gefnogi cymunedau lleol i gynnig y croeso cynhesaf posibl i’r bobl hyn ar ôl iddynt gyrraedd.

Nod y canllawiau hyn yw rhoi gwybodaeth i awdurdodau lleol am eu rôl i gyflwyno’r cynllun Cartrefi i Wcráin yng Nghymru mewn perthynas â noddwyr unigol. Bydd y canllawiau’n cael eu diweddaru wrth i wybodaeth newydd ddod i’r fei.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi creu dau lwybr fisa newydd ar gyfer pobl o Wcráin: Cynllun Teuluoedd o Wcráin a’r Cynllun Cartrefi i Wcráin

Mae’r canllawiau hyn yn canolbwyntio ar y Cynllun Cartrefi i Wcráin (y Cynllun) i bobl sy’n ffoi o Wcráin nad oes ganddynt gysylltiadau teuluol ag unrhyw un yn y Deyrnas Unedig, ac maent yn amlinellu rôl awdurdodau lleol ar draws Cymru o ran cefnogi’r Cynllun.

Nid yw’r canllawiau hyn yn berthnasol i bobl sy’n cael eu dadleoli sy’n dod i mewn drwy’r Cynllun Teuluoedd o Wcráin.

Mae canllawiau’r Cynllun ar gyfer noddwyr unigol wedi cael ei gyhoeddi ar wahân a byddant hefyd yn cael eu diweddaru’n rheolaidd. Mae gwefan Noddfa Llywodraeth Cymru yn darparu gwybodaeth groeso i bobl sy’n cyrraedd o Wcráin, gan gynnwys dolenni at amrywiaeth o wasanaethau eraill. Rhagwelir y bydd awdurdodau lleol yn cynnwys rhagor o wybodaeth am eu gwasanaethau lleol eu hunain ar eu gwefannau.

Cefndir

Sefydlodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y cynllun Cartrefi i Wcráin i alluogi pobl i gynnig llety am o leiaf chwe mis ac i hynny gael ei gyfateb i bobl o Wcráin sydd eisiau dod i’r Deyrnas Unedig. Mae angen i’r noddwr a’r unigolyn o Wcráin gysylltu y tu allan i’r system ac enwebu ei gilydd yn ystod y broses ymgeisio. Mae sefydliad o’r enw RESET wedi cael ei gomisiynu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i helpu i hwyluso cysylltiadau rhwng pobl o Wcráin a noddwyr nad oes ganddynt gysylltiadau blaenorol.

Mae’r Cynllun yn agored i ddinasyddion o Wcráin a oedd yn breswylwyr yn Wcráin cyn 1 Ionawr 2022 a hefyd i aelodau eu teulu agos (er enghraifft, priod/partner a phlant o dan 18 oed) a allai fod o genhedloedd eraill, iddynt gael eu noddi i ddod i’r Deyrnas Unedig.

Gall ymgeiswyr wneud cais o Wcráin neu o unrhyw drydedd wlad arall. 

Nid oes cyfyngiad ar nifer y bobl sy’n gallu manteisio ar y Cynlluniau. Bydd pobl o Wcráin yn gallu byw a gweithio yng Nghymru am hyd at dair blynedd a manteisio ar fudd-daliadau, gofal iechyd, cyflogaeth a chymorth arall.

Archwiliadau

Bydd y rheini sy’n cyrraedd o dan y Cynllun wedi bodloni’r archwiliadau diogelwch safonol cyn cael fisa. Bydd noddwyr a phob oedolyn mewn aelwydydd noddwyr hefyd yn destun archwiliadau cychwynnol Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC), cofnodion troseddol a’r Mynegai Rhybuddion gan y Swyddfa Gartref.

Rydym yn gwybod y bydd archwiliadau PNC ond yn canfod unigolion sydd wedi cael eu harestio, sydd wedi bod ar remand neu sydd wedi cael euogfarn neu rybudd. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid yr Heddlu yng Nghymru i ganfod a allwn sicrhau gwybodaeth o’r PND (Cronfa Ddata Genedlaethol yr Heddlu) a fydd yn nodi a oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw am unigolyn, gan gynnwys rhybuddion a gwybodaeth a fyddai’n peri pryder i ni ynghylch eu haddasrwydd i weithredu fel noddwyr.

Bydd gofyn i awdurdodau lleol gynnal archwiliadau sylfaenol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer pob oedolyn yn yr aelwyd sy’n noddi. Mewn achosion lle mae’r bobl sy’n cyrraedd yn blant a neu’n oedolion agored i niwed, bydd angen archwiliad DBS manwl gyda rhestrau gwahardd a bydd angen hynny’n gyflym ar gyfer pob oedolyn yn yr aelwyd sy’n noddi. Pan fo’n bosibl, dylid gwneud y rhain cyn i bobl ddechrau byw yng nghartref y noddwr. Ond, efallai na fydd modd gwneud hynny bob tro. 

Gall noddwyr yng Nghymru fod o unrhyw genedligrwydd, gydag unrhyw statws mewnfudo, ar yr amod bod ganddynt o leiaf chwe mis o ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig a’u bod yn pasio’r archwiliadau cefndir.

Llety

Rhaid i noddwyr ddarparu llety am o leiaf 6 mis. Gall noddwyr hefyd dderbyn taliad ‘diolch’ dewisol o £350 y mis am hyd at y 12 mis cyntaf o nawdd. Mae’r taliad hwn wedi cael ei gyfyngu i un taliad misol ar gyfer pob cyfeiriad preswyl, ni waeth faint o unigolion a noddir. Bydd y taliadau’n dod i ben pan ddaw’r nawdd i ben, neu ar ôl 12 mis pa un bynnag sy’n digwydd yn gyntaf.

Rhaid i’r noddwyr beidio â chodi rhent. Ni fydd disgwyl iddynt dalu costau bwyd a chostau byw, er y byddant o bosibl yn dymuno cynnig hyn, yn enwedig yn yr wythnosau cynnar tra bydd pobl yn canfod eu traed yn y Deyrnas Unedig.

Cymorth cofleidiol

Mae potensial i nifer sylweddol o bobl ddod o hyd i noddfa yng Nghymru ac rydym am wneud yn siŵr bod awdurdodau lleol, gwasanaethau cyhoeddus eraill a’r trydydd sector yn chwarae rhan lawn er mwyn i ni allu sicrhau bod yr holl gymorth cofleidiol ar gael i bobl sy’n ffoi o’r gwrthdaro.

Pan fydd pobl yn dod i Gymru drwy drefniadau nawdd gan unigolyn, bydd data’n cael ei gasglu o systemau Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’i rannu ag awdurdodau lleol cyn gynted â phosibl. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol a phartneriaid eraill i sicrhau bod cymorth a gwasanaethau ar gael.

Y broses ymgeisio a’r camau

Bydd y Cynllun yn cael ei gyflwyno fesul cam. I ddechrau, gall aelodau unigol o’r cyhoedd noddi rhywun o Wcráin sy’n bodloni meini prawf cymhwysedd y Cynllun hwn. Yn y camau nesaf, bydd Llywodraeth Cymru, sefydliadau a grwpiau cymunedol yn gallu noddi mwy nag un unigolyn.

Ar 14 Mawrth 2022, gallai pobl o Wcráin gofrestru eu diddordeb ar-lein. Gallai darpar noddwyr (unigolion a sefydliadau) hefyd gofrestru eu diddordeb mewn noddi rhywun.

Ar ben hynny, o 25 Mawrth 2022 ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru yn dod yn Uwch-Noddwr ac yn gallu noddi pobl yn uniongyrchol i ddod i’r Deyrnas Unedig (gweler cam 2 isod).

Cam 1: Unigolion sy’n noddi unigolion a enwir

Ddydd Gwener 18 Mawrth, agorwyd ffurflen gan y Swyddfa Gartref ar gyfer ceisiadau fisa. Rhaid i noddwyr ar y cam hwn fod yn unigolion penodol.

Ar y cam hwn, bydd naill ai’r unigolyn sy’n dod o Wcráin neu noddwr yn gallu llenwi un cais am fisa. Bydd y ffurflen yn gofyn i’r unigolyn sy’n ei llenwi enwi’r ddau barti. Rhaid llenwi ffurflen ar wahân ar gyfer pob unigolyn o Wcráin, hyd yn oed os bydd un noddwr yn derbyn nifer o bobl.

Bydd noddwyr a phobl sy’n dod o Wcráin yn dod o hyd i’w gilydd ac yn cysylltu â’i gilydd yn allanol. Nid oes un llwybr ar gyfer cysylltu, a gallai’r ddau ddefnyddio nifer o gyfryngau i ddod o hyd i gyfatebiad. Er enghraifft, gallai fod ganddynt berthynas eisoes â ffrind yn y Deyrnas Unedig/Wcráin, gallent fod yn ffrindiau i ffrindiau, neu gallent ddod o hyd i noddwr neu unigolyn drwy gorff anllywodraethol, elusen neu gyfrwng arall.

Mae'r broses fel a ganlyn:

  1. Mae’r noddwr a’r unigolyn sy’n dod o Wcráin yn dod o hyd i’w gilydd ac yn cytuno ar gyfatebiad.
  2. Mae’r noddwr neu’r unigolyn yn llenwi’r ffurflen gais fisa sengl ar-lein gan ddefnyddio manylion y ddau barti.
  3. Bydd gofyn i’r unigolion a’r noddwyr lenwi’r ffurflen gais ar-lein gyda rhifau pasbort (ynghyd ag ateb cwestiynau cymhwysedd a manylion personol eraill). Bydd angen i’r unigolyn hefyd lwytho sgan o’i basbort i fyny. Os nad oes ganddynt basbort, bydd gofyn iddynt deithio i ganolfan gwneud cais am fisa i brosesu eu gwybodaeth fiometrig.
  4. Ar ôl cyflwyno’r cais, cynhelir archwiliadau diogelwch ar y noddwr, yr holl oedolion eraill yn aelwyd y noddwr, a’r sawl sy’n cyrraedd o Wcráin.
  5. Ar ôl i’r noddwr a’r sawl sy’n cyrraedd o Wcráin basio’r archwiliadau, bydd y Swyddfa Gartref yn rhoi trwydded i’r unigolyn deithio.
  6. Gall yr unigolyn wedyn deithio i’r Deyrnas Unedig a threfnu ei drefniadau o ran cyrraedd gyda’r noddwr.

Bydd angen noddwr arweiniol ar gyfer pob aelwyd. Er enghraifft, pan fydd cwpl wedi gwneud cais i noddi, dylid dynodi un ohonynt yn “noddwr arweiniol”.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud rhagor o waith ar y broses ddiogelu sy’n ymwneud â noddwyr unigol a’r oedolion yn eu haelwyd.

Cam 2: Llywodraeth Cymru fel Uwch-Noddwr

O 25 Mawrth 2022 ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru yn dod yn Uwch-Noddwr dan y cynllun hwn, a bydd yn gallu noddi pobl yn uniongyrchol i ddod i’r Deyrnas Unedig. Caiff hyn ei wneud drwy broses cyrraedd ac integreiddio wedi’i strwythuro yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid gan gynnwys awdurdodau lleol a sefydliadau eraill yn y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat i ddod o hyd i Ganolfannau Croeso ar hyd a lled Cymru. O’r rhain, y bwriad yw y bydd pobl o Wcráin wedyn yn symud ymlaen i lety tymor canolig a thymor hirach, gan gynnwys drwy’r cynigion ‘lletya’ unigolion gan bobl yng Nghymru.

Bydd canllawiau ar wahân yn cael eu paratoi ar rôl awdurdodau lleol mewn perthynas â phobl sy’n dod i mewn i Gymru drwy’r llwybr hwn.

Cam 3: Sefydliadau fel noddwyr

Yn y camau nesaf, bydd sefydliadau a grwpiau cymunedol yn gallu noddi mwy nag un unigolyn.

Byddwn yn diweddaru’r canllawiau hyn gyda rhagor o wybodaeth am gamau yn y dyfodol maes o law.

Rôl noddwyr

Gofynnir i noddwyr:

  • darparu llety addas am o leiaf 6 mis
  • cadw mewn cysylltiad rheolaidd â’r sawl maent yn ei noddi cyn iddynt gyrraedd er mwyn helpu i drefnu a chydlynu eu trefniadau o ran cyrraedd y Deyrnas Unedig, cwrdd â nhw pan fyddant yn cyrraedd, a hwyluso’r broses o’u trosglwyddo i’w llety. Noder: Mae Canolfannau Cyrraedd hefyd yn cael eu rhoi ar waith i ddarparu cymorth ar unwaith pan fydd pobl yn cyrraedd os bydd angen hynny arnynt (gweler yr adran isod)
  • cyfeirio’r unigolyn at wasanaethau cyhoeddus a chynorthwyo gyda thasgau fel cofrestru gyda meddygfa leol.

Bydd rhagor o wybodaeth am rôl noddwyr yn cael ei amlinellu yng nghanllawiau’r Cynllun ar gyfer noddwyr unigol.

Rôl awdurdodau lleol

Mae gan awdurdodau lleol nifer o swyddogaethau pwysig o ran cynorthwyo pobl o Wcráin sy’n dod i Gymru.

Yn achos y cynllun Cartrefi i Wcráin, bydd disgwyl i awdurdodau lleol gynnig y categorïau cymorth a restrir isod.

Derbyn cychwynnol

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sefydlu Canolfannau Cyrraedd mewn porthladdoedd mynediad penodol a ledled Cymru i gynorthwyo ag unrhyw anghenion cyrraedd tymor byr. Bydd yr awdurdodau lleol yn yr ardaloedd hyn yn gweithio gyda Phartneriaeth Ymfudo Strategol Cymru a’r sector gwirfoddol i ddatblygu trefniadau derbyn, a gallent alw am gymorth cydlynu Fforymau Lleol Cymru Gydnerth.

Byddai’r trefniadau hyn yn cynnwys trefniadau cyfarfod a chyfarch sylfaenol yn ogystal â’r gallu i ddarparu cymorth dyngarol ar unwaith (a allai gynnwys symiau bach o gymorth ariannol brys, ar wahân i’r cymorth cyn Credyd Cynhwysol er enghraifft, y taliad interim a nodir isod).

O 20 Mawrth 2022 ymlaen, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynllun sy’n galluogi i bobl o Wcráin sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig i fod yn gymwys i gael un siwrnai ymlaen drwy ddefnyddio trên, bws, trên ysgafn a bws moethus. Bydd hyn yn rhad ac am ddim i unrhyw le yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Ar ben hynny, yng Nghymru mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi sefydlu cynllun chwe mis a fydd yn galluogi pobl o Wcráin i deithio’n rhad ac am ddim ar unrhyw un o wasanaethau TrC ar ôl dangos eu pasbort i oruchwylwyr a staff yr orsaf.

Hefyd, bydd cynllun bws am ddim o’r enw ‘Tocyn Croeso’ ar gael i bobl sy’n dod o Wcráin, sy’n darparu teithiau diderfyn am ddim ar y mwyafrif o wasanaethau bysiau lleol ar draws Cymru a’r rheini sy’n teithio yn Lloegr os ydynt yn dechrau neu’n gorffen yng Nghymru. Mae’r cynllun ‘Tocyn Croeso’ yn gynllun gwirfoddol y bydd cwmnïau bysiau’n gwirfoddoli i gymryd rhan ynddo. Bydd yn weithredol am chwe mis yn y lle cyntaf, o 26 Mawrth 2022. Mae rhestr o ‘Delerau ac Amodau’ llawn y cynllun yn ogystal â ‘Chwestiynau Cyffredin’ a rhestr o gwmnïau bysiau sy’n cymryd rhan hefyd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Dylai awdurdodau lleol hefyd ystyried darparu staff gofal cymdeithasol i ymateb i unrhyw bryder diogelu y gallai Llu’r Ffiniau dynnu sylw ato.

Dylai awdurdodau lleol hefyd ystyried darparu staff gofal cymdeithasol i ymateb i unrhyw bryder diogelu y gallai Llu’r Ffiniau dynnu sylw ato.

Rhannu data

Mae Llywodraeth Cymru yn cael data gan Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC) am noddwyr/pobl sydd wedi gwneud cais am fisas (gan gynnwys cyfeiriad y llety). Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybodaeth reolaidd i awdurdodau lleol am noddwyr ac ymgeiswyr a gymeradwywyd drwy drosglwyddiad ffeiliau diogel. Dylid anfon ymholiadau am ddata a gafwyd at data@llyw.cymru.

Archwiliadau diogelu

Mae gennym ddyletswydd gofal ar y cyd i sicrhau bod pobl sy’n cyrraedd Cymru o Wcráin yn cael eu hamddiffyn rhag risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Mae gennym hefyd gyfrifoldebau i ddiogelu aelodau'r aelwyd lle bydd pobl o Wcráin yn byw.

Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i hyrwyddo llesiant oedolion a phlant sydd mewn perygl ac maent yn cadw’r hawl i weld sut mae unigolion ac archwilio llety ar ôl iddynt gyrraedd. Mae canllawiau’r noddwyr yn nodi’n glir y bydd darpar noddwyr yn destun archwiliadau llety a diogelu.

Rhaid cynnal yr archwiliadau a amlinellir cyn gynted â phosibl ar ôl i’r awdurdod lleol gael gwybod bod cais am fisa wedi ei wneud. Dylid gwneud pob ymdrech i gynnal yr archwiliadau cyn cyrraedd, gan gydnabod na fydd hyn yn bosibl ym mhob sefyllfa. Rhaid i awdurdodau lleol wneud o leiaf un ymweliad wyneb yn wyneb naill ai cyn neu yn fuan ar ôl i unigolyn gyrraedd, er mwyn cadarnhau bod y llety’n addas a bod yr unigolyn yn iach ac nad oes unrhyw bryder difrifol o ran diogelu na lles.

Gan nad oes rhent yn daladwy ar gyfer llety o dan y cynllun, nid ydym felly’n disgwyl i awdurdodau lleol fynnu bod llety o’r fath yn cael trwydded Tŷ Amlfeddiannaeth (yn unol â’r diffiniad o Dŷ Amlfeddiannaeth yn Neddf Tai 2004, Adran 254 (2)(e)). Rhaid i awdurdodau lleol hefyd gynnal archwiliadau DBS sylfaenol ar bob oedolyn yn yr aelwyd sy’n noddi. Mewn aelwydydd lle mae’r bobl sy’n cyrraedd yn blant a/neu’n oedolion agored i niwed, bydd angen archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gyda rhestrau gwahardd ar gyfer pob oedolyn yn yr aelwyd sy’n noddi.

Darllenwch y canllawiau ar ddiogelu a chaethwasiaeth fodern.

Plant ar eu pen eu hunain

Bydd rhai plant yn cyrraedd Cymru ar eu pen eu hunain fel Plant ar eu Pen eu hunain yn Ceisio Lloches (UASC). Rydym yn gweithio gyda’r Swyddfa Gartref i wneud trefniadau i adsefydlu plant o Wcráin. Byddwn yn rhoi diweddariad i awdurdodau lleol pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael. Mae trefniadau eisoes ar y gweill ac mae canllawiau a chyngor ymarferol ar gael

Bydd rhai plant yn cyrraedd Cymru ar eu pen eu hunain i aros gydag aelodau teulu sydd eisoes yn byw yma. Efallai y bydd trefniadau maethu preifat yn berthnasol. Byddwn yn trefnu hyn ymhellach gyda’n partneriaid yng Ngwasanaethau Plant yr awdurdodau lleol.

Caiff awdurdodau lleol eu hatgoffa y gallant geisio cyngor gan Children and Families Across Borders CFAB | Cangen y DU o’r Gwasanaethau Cymdeithasol Rhyngwladol.

Taliad interim

Dylai’r awdurdod lleol lle mae’r llety sy’n noddi ddarparu taliad interim o £200 y pen am gostau cynhaliaeth. Mae’r taliad o £200 yn cael ei gynnwys yn y tariff (gweler ‘Cyllid ar gyfer awdurdodau lleol’) ac nid oes angen ei ad-dalu. Bydd gan awdurdodau lleol ddisgresiwn o fewn y tariff i ychwanegu ato neu roi rhagor o gymorth i bobl drwy daliadau interim neu ychwanegol.

Darparu addysg

Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu lleoedd ysgol i blant oed ysgol. Bydd awdurdodau lleol yn cael cyllid ychwanegol i wneud hyn. Ceir rhagor o fanylion isod.

Gofal plant

Mae cymorth gyda chostau gofal plant ar gael gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Dylai awdurdodau lleol ddarparu cyngor ar y gwasanaethau cymorth i deuluoedd sydd ar gael drwy eu Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.

Atgyfeirio at wasanaethau

 Bydd pob teulu sy’n cyrraedd o Wcráin yn gallu cofrestru gyda meddyg teulu a chael mynediad at wasanaethau iechyd prif ffrwd – mae hyn yn cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl. Bydd cymorth iechyd ar gyfer y rheini sy’n cyrraedd Cymru yn cael ei ddarparu yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru 2018 ar gyfer Byrddau Iechyd ar Iechyd a Llesiant Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid. Pan fydd angen, dylai awdurdodau lleol weithio gyda byrddau iechyd lleol i gyfeirio, cynghori ac atgyfeirio at wasanaethau iechyd cyhoeddus arbenigol fel sy’n briodol, er enghraifft ar gyfer brechiadau (gan gynnwys y brechlyn Covid-19) neu sgrinio. Dylid darparu cyngor ar ragor o wasanaethau cymorth fel cwnsela a chymorth iechyd meddwl, gofal cymdeithasol i oedolion a gwasanaethau plant yn ôl yr angen. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfieithu deunyddiau i Wcreineg a Rwsieg i gefnogi iechyd meddwl a sefydlogrwydd cychwynnol y rheini sy’n cyrraedd o Wcráin. Mae’r rhain yn cael eu cyhoeddi ar wefan Straen Trawmatig Cymru. Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion hefyd wedi cyhoeddi deunyddiau cymorth penodol i helpu gyda sefydlogrwydd yn ystod y cyfnod adsefydlu cychwynnol.

Mae Llinell Gymorth Iechyd Meddwl CALL hefyd ar gael i gefnogi’r rheini sy’n cyrraedd Cymru a’u teuluoedd. Mae gan CALL fynediad at Language Line a gellir ei ddefnyddio pan fyddai’n well gan rywun gael cymorth mewn iaith ar wahân i Gymraeg a Saesneg.

Gwaith a Budd-daliadau

Dylai awdurdodau lleol gynorthwyo pobl i gael gafael ar apwyntiadau mewn Canolfan Byd Gwaith leol i gael asesiadau budd-daliadau ac i chwilio am waith. Gosododd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddeddfwriaeth a ddaeth i rym ar 21 Mawrth 2022 i eithrio pobl sy’n dod i’r Deyrnas Unedig o Wcráin rhag gorfod bodloni’r prawf preswylio arferol a’r prawf presenoldeb yn y gorffennol (sy’n golygu ei bod yn rhaid i rywun fyw yn y Deyrnas Unedig am dri mis cyn cael hawlio rhai budd-daliadau). Mae’r ddeddfwriaeth hon yn berthnasol i’r holl brif fudd-daliadau lles, fel credyd cynhwysol, credyd pensiwn a budd-dal tai, taliad annibyniaeth personol, lwfans byw i’r anabl i blant, lwfans gofalwr, a lwfans gweini. Gosodwyd deddfwriaeth hefyd i sicrhau bod pobl o Wcráin yn gallu cael Budd-dal Plant o’r diwrnod byddant yn cyrraedd y Deyrnas Unedig.

Llety brys

Mae’n bosibl y bydd rhai achosion lle bydd y berthynas rhwng y noddwr/gwesteion yn chwalu a’r unigolyn yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref. Bydd dyletswyddau digartrefedd statudol awdurdodau lleol yn berthnasol yn yr achos hwn. Efallai y bydd pobl hefyd yn cyrraedd ac nad yw’n bosibl iddynt gyrraedd llety eu noddwr neu’r Ganolfan Groeso yn syth ac y bydd angen rhoi llety argyfwng iddynt dros dro. Bydd disgwyl i awdurdodau lleol ddarparu llety brys, neu ddod o hyd i lety arall yn lleol – gan weithio gyda’r Fforwm Lleol Cymru Gydnerth. 

Rydym yn cydnabod y pwysau cyfredol ar letyau dros dro ar draws Cymru ac ni fyddem yn disgwyl i’r rheini sy’n ffoi o Wcráin gael blaenoriaeth uwchlaw eraill sydd mewn llety dros dro drwy ein dull ‘neb heb help’. Os oes galw cyson am lety brys sy’n fwy na’r ddarpariaeth yn lleol, dylai awdurdodau godi hyn gyda Llywodraeth Cymru drwy’r Rheolwyr Cysylltiadau sy’n gweithio gyda thimau digartrefedd awdurdodau lleol. Byddwn yn parhau i edrych ar y mater o lety brys, a dewisiadau llety hirdymor, mewn partneriaeth â llywodraeth leol.

Integreiddio cymunedol

Bydd awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu i integreiddio pobl o Wcráin i’w cymunedau lleol. Bydd hyn yn arbennig o bwysig mewn ardaloedd o’r wlad nad oes ganddynt gysylltiadau cryf â’r diaspora Wcrainaidd o bosibl. Mae grŵp cyfeirio ar gyfer cysylltiadau ag Wcráin wedi’i sefydlu, af ydd yn ffynhonnell gymorth ddefnyddiol

Gallai’r cymorth integreiddio gynnwys trefnu digwyddiadau cymunedol, defnyddio hyrwyddwyr cymunedol a rhwydweithiau rhyng-ffydd, cynyddu cyswllt/rhyngweithio awdurdodau lleol â phobl o Wcráin, mynediad at wasanaethau cyfieithu a gweithio gyda mudiadau sector gwirfoddol lleol a grwpiau ffydd i helpu i gyfeirio at gyngor a chefnogaeth.

Gweinyddu taliadau i noddwyr

Bydd noddwyr yn gymwys i gael ‘taliad diolch’ dewisol o £350 y mis, cyn belled â bod y trefniant nawdd yn bodoli, am hyd at gyfanswm o 12 mis. Bydd uchafswm o un taliad misol ar gyfer pob cyfeiriad a delir mewn ôl-ddyled, ni waeth faint o bobl sy’n cael eu lletya, ac ni waeth beth yw maint na lleoliad yr eiddo, gan gynnwys penderfynu sut bydd awdurdodau lleol yn cael gwybod pan ddaw’r trefniant noddi i ben.

Awdurdodau lleol fydd yn gweinyddu’r taliadau ‘diolch’ hyn i noddwyr. Bydd y taliad hwn yn ddi-dreth ac ni ddylai effeithio ar hawl y noddwr i fudd-daliadau na statws treth awdurdod lleol. Ni ddylid rhyddhau taliadau i noddwyr nes y bydd archwiliadau eiddo wedi eu cwblhau. Mae Canllawiau Cartrefi i Wcráin ar gyfer Noddwyr yng Nghymru yn cynnwys canllawiau ar ddisgwyliadau ynglŷn â lletyau fel atodiad. Dylai awdurdodau lleol fod yn ymwybodol o’r canllawiau hyn. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol ar gyflenwi'r taliadau hyn.

Cymorth ehangach

Dylai awdurdodau lleol ystyried a fyddai’n bosibl iddynt gefnogi neu weithio gyda’r trydydd sector i gefnogi noddwyr i helpu’r person neu’r teulu y maent yn ei noddi i ymgartrefu. Gallai hyn gynnwys cynorthwyo’r rheini sy’n gymwys i gael mynediad at gymorth ariannol, agor cyfrif banc, dod o hyd i waith, a chofrestru gyda meddyg teulu a deintydd.

Cyllid ar gyfer awdurdodau lleol

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn darparu cyllid ar gyfradd o £10,500 y pen, gan gynnwys y gwasanaethau iechyd cymunedol y mae awdurdodau lleol yn eu comisiynu fel arfer, am y flwyddyn gyntaf, i gynorthwyo teuluoedd i ailadeiladu eu bywydau a’u hintegreiddio’n llawn i gymunedau. Bydd hyn yn cael ei weinyddu yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru. Nid yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn benodol ynghylch a fydd cyllid ar gael ar ôl y flwyddyn gyntaf.

Disgwylir y bydd awdurdodau lleol hefyd yn gweinyddu’r taliadau ‘diolch’ ar y gyfradd o £350 y mis i bob aelwyd sy’n noddi (sydd ar ben y £10,500). Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael y swm priodol o gyllid ar gyfer y taliadau hyn, ond bydd yn disgwyl i gynghorau dalu costau gweinyddu.

Bydd cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau addysg i blant o deuluoedd sy’n cyrraedd o Wcráin, eto am y flwyddyn gyntaf i ddechrau, fesul disgybl ar gyfer y tri chyfnod addysg ar y cyfraddau blynyddol a ganlyn:

  • blynyddoedd cynnar (2 - 4 oed) £3,000
  • cynradd (5-11 oed) £6,580
  • uwchradd (11-18 oed) £8,755

Mae hyn yn cynnwys cymorth i blant ag anghenion addysgol arbennig.

Rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol ddefnyddio’r cyllid hwn i dalu eu holl gostau cysylltiedig (ar gyfer darparu gwasanaethau cyngor ac ar gyfer gweinyddu taliadau). Rydym yn cydnabod, fodd bynnag, y gallai nifer fach o awdurdodau lleol wynebu costau hanfodol ychwanegol y tu hwnt i’r hyn y gellid yn rhesymol ei ystyried yn wariant arferol ac nad yw ar gael drwy fecanweithiau cyllido prif ffrwd eraill. Rydym yn barod i ystyried yr achos dros ragor o gyllid ac rydym yn barod i ystyried hawliadau am gostau o’r fath ar sail eithriadol yn unig, ond byddwn yn monitro’r goblygiadau cost hyn yn ofalus.

Bydd rhagor o fanylion am sut bydd y cyllid yn gweithredu yn cael eu rhannu cyn bo hir. 

Canllawiau ar gyfer y dyfodol a neu atodol

Bydd y canllawiau a nodir uchod yn cael eu diweddaru a’u hehangu gyda rhagor o fanylion wrth i Lywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol ar fanylion eu rôl yn y cynlluniau i gefnogi pobl o Wcráin sy’n cael eu derbyn yng Nghymru.