Cyngor ar sut gall awdurdodau lleol gefnogi’r cynllun Cartrefi i Wcráin.
Cynnwys
Trosolwg a phwrpas
Er mwyn cefnogi uchelgais Cymru i ddod yn 'Genedl Noddfa', rydym yn parhau i gefnogi pobl sy'n cyrraedd o Wcrain gyda llety addas wrth iddynt gyrraedd a mynediad at wasanaeth cofleidiol, gan sicrhau eu diogelwch a'u galluogi i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus.
Mae’r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth i awdurdodau lleol am eu rôl hanfodol wrth gyflwyno cynllun Cartrefi i Wcráin yng Nghymru.
Mae cynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU yn dibynnu ar unigolion yn y DU, sydd â chaniatâd i aros am 6 mis o leiaf, yn gweithredu fel noddwr a pharu gyda phobl sydd wedi eu dadleoli o Wcráin.
Roedd llwybr Uwch-noddwr Llywodraeth Cymru yn lwybr cyflymach a mwy diogel i bobl sydd wedi eu dadleoli o Wcráin ddod i’r DU. Fe wnaeth ddileu'r angen i ymgeiswyr fod wedi eu paru â rhywun sy’n cynnig llety cyn cael caniatâd i deithio i’r DU.
Agorodd cynllun Uwch-noddwr Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2022 a chafodd ei oedi ar gyfer ymgeiswyr newydd ym mis Mehefin 2022.
Agorodd Llywodraeth y DU y Cynllun Estyn Caniatâd Wcráin i geisiadau ar 4 Chwefror 2025. Mae'r cynllun hwn yn rhoi caniatâd i ymgeiswyr cymwys aros yn y DU am hyd at 18 mis ychwanegol.
Mae’r canllawiau hyn yn amlinellu rôl cynghorau i gefnogi gwesteion o Wcráin sydd:
- yn cyrraedd o dan lwybr Uwch-noddwr Llywodraeth Cymru
- yn paru â rhai sy’n cynnig llety yng Nghymru drwy’r cynllun Cartrefi i Wcráin
- yn trosglwyddo i Gynllun Estyn Caniatâd Wcráin.
Nid yw’r canllawiau hyn yn berthnasol i bobl sy’n cael eu dadleoli sy’n dod i Gymru drwy’r Cynllun Teuluoedd o Wcráin.
Diffiniadau
Mae "Uwch-noddwr” yn cyfeirio at Lywodraeth Cymru yn ei rôl o dan lwybr Uwch-noddwr Llywodraeth Cymru.
Mae “lletywr” neu “lletwyr” yn cyfeirio at unigolyn, grŵp neu sefydliad sydd wedi eu cymeradwyo i roi llety i unigolyn neu aelwyd o Wcráin o dan y cynllun nawdd “Cartrefi i Wcráin”, neu sydd wedi cytuno i gymryd rhan yn llwybr Uwch-noddwr Llywodraeth Cymru. O dan gynllun Cartrefi i Wcráin efallai y cyfeirir at berson sydd wedi ei baru’n unigol fel “noddwr” neu “noddwyr”.
Mae “gwestai” neu “gwesteion” yn cyfeirio at unigolyn neu aelwyd a oedd yn preswylio’n flaenorol yn Wcráin, cyn 1 Ionawr 2022, sydd wedi sicrhau fisa o dan y cynllun “Cartrefi i Wcráin”, sy’n eu galluogi i gael llety gan noddwr (rhywun sy’n cynnig llety).
Er mwyn ymgeisio ar gyfer cynllun nawdd Wcráin rhaid i ymgeiswyr fod yn Wcreiniaid, neu’n aelod o deulu agos gwladolyn o Wcráin. Rhaid iddynt hefyd:
- fod yn preswylio yn Wcráin ar neu yn union cyn 1 Ionawr 2022 (gan gynnwys y rheini sydd bellach wedi gadael Wcráin)
- fod y tu allan i’r DU
- fod â noddwr cymwys yn y DU. Mae hyn yn cynnwys Llywodraeth Cymru fel uwch-noddwr
- wneud cais am fisa o dan gynllun nawdd Wcráin (Cartrefi i Wcráin)
- rhoi caniatâd i westeion aros yn y DU am hyd at 18 mis arall pan ddaw eu fisa presennol i ben
Mae "Cynllun Estyn Caniatâd Wcráin" yn cyfeirio at gynllun Llywodraeth y DU i gynnig rhagor o noddfa dros dro i Wcreiniaid ac aelodau cymwys o'u teulu sy'n byw yn y DU, a fydd yn:
- rhoi caniatâd i westeion aros yn y DU am hyd at 18 mis arall pan ddaw eu fisa presennol i ben
- rhoi i westeion yr un hawliau i weithio, astudio, rhentu a derbyn budd-daliadau
Cynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU
Cefndir a chymhwystra
Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y rheolau hyn a gall eu newid. Mae’r canllawiau hyn yn esbonio sut mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r cynllun hwn weithredu yng Nghymru. Gweler hefyd y fersiwn ddiweddaraf o'r canllawiau perthnasol ar wefan Llywodraeth y DU.
Noddwyr unigol
Gall person yn y DU enwebu person neu deulu o Wcráin i aros gyda nhw yn eu cartref neu mewn eiddo ar wahân.
Nid oes cyfyngiad ar nifer y bobl sy’n gallu manteisio ar y cynllun hwn. Mae'n dibynnu ar allu'r noddwyr (lletywyr unigol).
Mae pobl sydd wedi'u dadleoli o Wcráin yn gallu byw a gweithio yn y DU am hyd at dair blynedd. Gallant gael gafael ar fudd-daliadau, gofal iechyd, cyflogaeth a chymorth arall. Mae'n rhaid iddynt gael fisa a rhaid cynnal gwiriadau diogelwch safonol cyn y gellir rhoi fisa. Gall gwesteion sydd â fisa tair blynedd sy'n dod i ben wneud cais i'r Cynllun Estyn Caniatâd Wcráin 28 diwrnod cyn y dyddiad y daw eu fisa i ben.
Rhaid i westeion (ac aelodau o'u haelwyd sydd dros 16 oed) wneud cais am ddatgeliad manwl os ydynt yn lletya rhywun yn eu cartref eu hunain. Rhaid gwneud hyn pan fyddant yn cofrestru ar gyfer y llwybr Uwch-noddwr a chynllun Cartrefi i Wcráin.
Bydd yr awdurdod lleol hefyd yn gwneud gwiriadau. Bydd y rhain yn cynnwys gwiriadau cofnodion gwaith cymdeithasol ac awdurdodau lleol ar gyfer unrhyw risgiau neu bryderon amddiffyn plant neu oedolion.
I gael eich cadarnhau fel noddwr, rhaid i chi fod dros 18 oed a rhaid eich bod yn byw yn y DU; gyda chaniatâd i fod yn y DU am o leiaf 6 mis. Rhaid i chi fod yn ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig neu wedi setlo yn y DU a rhaid i chi basio'r gwiriadau cefndir. Disgwylir i letywyr ddarparu llety am o leiaf 6 mis. Fodd bynnag, mae gennym hefyd drefniadau ar wahân yng Nghymru ar gyfer lletywyr ymateb. Bydd lletywyr ymateb yn darparu llety am hyd at 75 diwrnod ar ôl i'r unigolyn gyrraedd Cymru. Mae hyn yn cefnogi'r broses o ddyrannu newydd-ddyfodiaid yn uniongyrchol i letywyr drwy'r cynllun uwch-noddwr.
Tan ddiwedd mis Mawrth 2025, bydd awdurdodau lleol yn gweinyddu taliadau 'diolch' o £500 y mis ar gyfer pob aelwyd sy'n darparu llety ar ran Llywodraeth y DU ac, ar gyfer lletywyr sydd yn eu blwyddyn gyntaf ar ôl cyrraedd y DU, ar ran Llywodraeth Cymru.
O 1 Ebrill 2025, bydd lletywyr cymwys yng Nghymru yn cael taliadau diolch o £500 y mis yn ystod y 12 mis cyntaf ar ôl i'w gwesteion gyrraedd y DU. Bydd £350 yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU a bydd £150 yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru. Wedi hynny, bydd y taliad lletya hwn yn gostwng i £350 y mis unwaith y bydd y gwesteion wedi bod yn y DU am 12 mis. Bydd y taliad diolch o £350 y mis hefyd ar gael i westeion ar Gynllun Estyn Caniatâd Wcráin. Fodd bynnag, bydd angen i'r lletywyr hyn ailymgeisio i'r awdurdod lleol am daliad diolch.
Mae hwn yn daliad 'diolch' nid yn daliad rhent neu unrhyw fath arall o daliad cytundebol. Bydd cyllid ychwanegol yn cael ei ddyrannu ar gyfer y taliadau hyn.
Er mwyn cyd-fynd â'r prosesau ariannol cyfredol ac i symleiddio'r broses atodol i letywyr, bydd yn ofynnol i'r awdurdod lleol dalu'r cyllid ychwanegol o £150 yn uniongyrchol i letywyr a'i hawlio yn ôl gan Lywodraeth Cymru ar eu ffurflenni hawlio chwarterol. Dylai'r hawliad gael ei rannu i adlewyrchu'r taliadau misol yn y chwarter hwnnw.
Lle mae awdurdodau lleol wedi penderfynu codi mwy na £500, eu cyfrifoldeb nhw fydd ariannu'r taliad ychwanegol.
Mae'r taliad diolch yn amodol ar gwblhau'r holl wiriadau gofynnol. Dim ond un taliad misol a delir i bob cyfeiriad mewn ôl-daliad waeth beth fo'r canlynol:
- nifer y gwesteion y darperir llety iddynt
- maint neu leoliad yr eiddo
Ni ddylid rhyddhau taliadau i noddwyr nes y bydd archwiliadau eiddo wedi eu cwblhau. Os na fydd y lletywr yn ymgysylltu â'r gwiriadau, neu os yw'r gwiriadau hynny'n tynnu sylw at bryderon, ni fydd y trothwy ar gyfer y taliad diolch wedi'i fodloni ac ni ddylid ei dalu.
Bydd y taliad hwn yn ddi-dreth. Ni ddylai effeithio ar hawl y noddwr i fudd-daliadau neu ostyngiad i'r dreth gyngor. Byddwn yn parhau i weithio’n agos ag awdurdodau lleol ar gyflenwi'r taliadau hyn.
Ni ddylai noddwyr/lletywyr godi rhent. Nid oes disgwyl iddynt dalu costau bwyd a chostau byw. Efallai y bydd noddwyr/lletywyr yn dymuno cynnig hyn yn enwedig yn ystod yr wythnosau cynnar tra bod y gwesteion yn ymgartrefu yn y DU. Ni ddylai noddwyr/lletywyr ddisgwyl i'w gwesteion wneud unrhyw waith di-dâl.
Ceir canllawiau pellach ynghylch cymhwystra lletywr ar y wefan Llywodraeth y DU: Talu noddwyr: Cartrefi i Wcráin.
Ceir rhagor o fanylion yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru i letywyr: Cartrefi i Wcráin: canllawiau i letywyr a noddwyr.
Cynllun Estyn Caniatâd Wcráin
Ym mis Chwefror 2024, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref y byddai Wcreiniaid ac aelodau cymwys o'u teuluoedd yn y DU sydd eisoes wedi cael caniatâd o dan un o gynlluniau eraill yr Wcráin yn gallu gwneud cais am y Cynllun Estyn Caniatâd Wcráin cyn i'w caniatâd presennol ddod i ben.
Bydd y cynllun hwn yn parhau i gynnig noddfa dros dro i bobl o Wcráin ac aelodau cymwys o'u teulu, a bydd:
- yn rhoi caniatâd o hyd at 18 mis i aros yn y Deyrnas Unedig
- yn rhoi'r un hawliau i waith, astudio, rhentu a derbyn budd-daliadau
- yn rhad ac am ddim i wneud cais.
Agorodd i geisiadau ar 4 Chwefror 2025. Mae rhagor o wybodaeth am gymhwystra a hawliau ar gael yng nghanllawiau'r Swyddfa Gartref: Gwneud cais am Gynllun Estyn Caniatâd Wcráin.
Bydd taliadau diolch yn cael eu hymestyn ar gyfer lletywyr y gwesteion sydd ar y Cynllun Estyn Caniatâd Wcráin. Bydd angen i noddwyr/lletywyr ailymgeisio am daliadau diolch er mwyn parhau pan fydd gwestai yn symud ymlaen i'r cynllun.
Ar ôl i'r cyfnod hwn ddod i ben, bydd y taliadau diolch yn dod i ben.
Mae canllawiau ar wahân gan Lywodraeth y DU ar gyfer cynghorau ac ar gyfer noddwyr/lletywyr ar Gynllun Estyn Caniatâd Wcráin.
Cyllid
Llif data a systemau
Rhannu data
Mae Llywodraeth Cymru yn cael ac yn rhannu’r data canlynol gydag awdurdodau lleol:
- Cartrefi i Wcráin: llwybrau Noddwr Unigol ac Uwch-noddwr
- cynigion o gymorth
Nid ydym yn cael unrhyw ddata sy’n ymwneud â phobl sy’n dod i Gymru o dan y cynllun Teuluoedd o Wcráin.
Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y data a rennir at data@llyw.cymru.
Cartrefi i Wcráin: llwybrau Noddwr Unigol ac Uwch-noddwr
Mae Llywodraeth Cymru yn cael data gan y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ynghylch noddwyr a dinasyddion sydd wedi gwneud cais am fisâu o dan lwybrau Noddwr Unigol ac Uwch-noddwr Cartrefi i Wcráin.
Rydym hefyd yn cael data ar ddinasyddion o Wcráin sy’n dod i’r DU o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin gan y Swyddfa Gartref.
Mae data am noddwyr, ymgeiswyr sydd wedi eu cymeradwyo, statws fisâu a phobl sy’n cyrraedd y DU yn cael eu rhannu gydag awdurdodau lleol drwy Wasanaeth Rhannu Data.
Mae Hysbysiad preifatrwydd Cynllun Cartrefi i Wcráin hefyd wedi’i gyhoeddi i roi gwybodaeth ynghylch sut y byddwn yn prosesu data personol, a bydd y ddau yn cael eu hadolygu’n rheolaidd.
Cynigion o gymorth
Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn data ynghylch cynigion posibl o lety a lletywyr ar gyfer dinasyddion o Wcráin. Caiff yr wybodaeth hon ei rhannu gyda’r awdurdodau lleol drwy’r gwasanaeth rhannu data.
Gwasanaeth Rhannu Data Cartrefi i Wcráin
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu gwasanaeth rhannu data cenedlaethol i gefnogi’r cynllun adsefydlu Cartrefi i Wcráin yng Nghymru.
Mae’n darparu mynediad diogel at un ffynhonnell ddata cyfredol i’r rheini sy’n rhoi cymorth i ddinasyddion o Wcráin sy’n dod i Gymru.
Mae’n helpu awdurdodau lleol i gefnogi unigolion yn ogystal â galluogi adrodd wrth Weinidogion Cymru a Llywodraeth y DU.
Teithio
Gall pobl sy'n cyrraedd o Wcráin gael mynediad am ddim at deithiau ymlaen am 48 awr. Gellir cael rhagor o fanylion ar wefan Llywodraeth y DU: Gwesteion sy'n teithio i'r Deyrnas Unedig ac oddi mewn iddi: Cartrefi i Wcráin.
Daeth y cynllun Tocynnau Croeso i ben ar 1 Ebrill 2024 ac nid yw bellach ar gael. O hyn allan, bydd angen i Wcreiniaid dalu i deithio ar fws neu drên yng Nghymru.
Efallai y byddant yn gymwys am un o'r cynlluniau teithio am ddim neu am bris rhatach sydd ar gael os ydynt:
- yn 60 oed neu’n hŷn
- yn anabl
- yn blentyn neu’n berson ifanc
I gael rhagor o wybodaeth am y rhain a thocynnau teithio rhatach eraill, gweler Traveline Cymru neu cysylltwch â'ch gweithredwr bysiau lleol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am gludiant ar gyfer dysgwyr oedran ysgol statudol ac ôl-16.
Rôl noddwyr a phobl sy’n cynnig llety
Bydd noddwyr a lletywyr yng Nghymru:
- o unrhyw genedligrwydd
- wedi cael o leiaf 6 mis o ganiatâd i aros yn y DU ac wedi pasio'r gwiriadau cefndir
Nid yw unigolion yn gymwys i gael taliadau lletya os ydynt yn rhoi llety i aelod o'r teulu. Ceir canllawiau llawn ar gymhwystra lletywyr ar wefan Llywodraeth Cymru: Cartrefi i Wcráin: canllawiau i letywyr a noddwyr.
Mae'n ofynnol i noddwyr a gwesteion:
- darparu llety addas am o leiaf 6 mis darparu llety addas am o leiaf 6 mis. Penderfyniad yn ôl disgresiwn yr awdurdod lleol yw a ydynt am gymeradwyo lletywyr sy'n gallu cynnig llai o gyfnod na'r 6 mis a argymhellir. Ond rhaid rhoi blaenoriaeth i sicrhau ymdeimlad o sefydlogrwydd i westai (gwesteion). Dylai'r awdurdod lleol ystyried y pwysau sy'n gysylltiedig â chefnogi gwestai i ddod o hyd i lety arall os na all noddwr ddarparu llety am 6 mis neu fwy. Os nad yw lletywyr yn teimlo y gallant ymrwymo i 6 mis, gallant gofrestru fel 'lletywr ymateb' os ydynt yn barod i gynnig llety am 75 diwrnod i newydd-ddyfodiaid trwy'r llwybr uwch-noddwr
- cynnal cyswllt rheolaidd â’r unigolyn maent yn ei noddi cyn iddo gyrraedd er mwyn helpu i wneud trefniadau at pan fydd yn cyrraedd y DU a chydlynu’r trefniadau hynny
- pan fo’n bosibl, cwrdd â’r unigolyn pan fydd yn cyrraedd a hwyluso trafnidiaeth i’w lety
- cyfeirio’r unigolyn at wasanaethau cyhoeddus a’i helpu gyda thasgau fel cofrestru â meddygfa leol
- gallai rhai darpar letywyr sy'n rhentu eu cartref fod â chytundeb tenantiaeth sy'n cynnwys teler sy'n dweud bod angen iddynt gael caniatâd gan eu landlord cyn cynnig llety i westai
- hysbysu awdurdodau lleol os ydynt yn ystyried neu'n penderfynu dod â'u trefniadau lletya i ben
Ceir rhagor o wybodaeth am rôl noddwyr yn y canllawiau i letywyr a noddwyr.
Rydym yn cynghori pob noddwr i ddarllen y canllawiau yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ffyrdd o gefnogi’r bobl sy’n cael llety ganddynt.
Llwybr Uwch-Noddwr Llywodraeth Cymru
Roedd llwybr Uwch-noddwr Llywodraeth Cymru wedi’i lunio i ddarparu llwybr mwy cyflym a mwy diogel i bobl o Wcráin ddod i le sy’n noddfa.
Roedd yn dileu’r angen i ymgeiswyr gael eu paru â noddwr unigol cyn cael caniatâd i deithio i’r DU. Trwy'r llwybr Uwch-noddwr, mae pobl yn cael eu dyrannu'n uniongyrchol i letywr lle bynnag y bo modd. Os na fydd gwesteiwr ar gael, darperir llety croeso tymor byr am 75 diwrnod. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd awdurdodau lleol yn darparu cymorth i'w helpu i ymgartrefu yng Nghymru.
Mae’r cymorth hwn yn cynnwys gwasanaethau iaith a chyfieithu ar y pryd, cofrestru gyda meddyg teulu, help i gofrestru ar gyfer cyfrif banc a mynediad at daliadau nawdd cymdeithasol.
Ar ôl i bobl gyrraedd Cymru, bydd yr awdurdodau lleol yn asesu anghenion pobl o ran llety, ac yn ceisio symud pobl i lety mwy hirdymor.
Gallai’r llety hwnnw fod yn eiddo rhent cymdeithasol neu breifat, neu’n eiddo sydd wedi’i gofrestru gan unigolyn drwy Cartrefi i Wcráin: cofnodi eich diddordeb.
Mae canllawiau pellach i awdurdodau lleol ynghylch dyrannu'n uniongyrchol i letywyr, llety croeso a llety symud ymlaen yn Cartrefi i Wcráin: fframwaith ar gyfer llety.
Rôl Llywodraeth Cymru
Trwy fabwysiadu’r dull uwch-noddwr, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cymorth i unigolion a theuluoedd sy’n cyrraedd y DU. Rydym wedi datblygu gwasanaethau cymorth i ddarparu trafnidiaeth, llety a gwasanaethau cofleidiol yn y DU, ac i gydweithio ag awdurdodau lleol i sicrhau llety parhaus yn ystod eu harhosiad yng Nghymru.
Rydym yn cydweithio’n agos ag awdurdodau lleol a’r trydydd sector er mwyn rhoi croeso cynnes iddynt drwy’r pecyn cymorth a llety cychwynnol hwn. Unwaith y bydd y rhai sy’n cyrraedd yn cael eu cefnogi i symud i lety mwy hirdymor, bydd yr awdurdod lleol yn darparu cymorth parhaus ac yn defnyddio’r platfform data cenedlaethol i gofnodi lleoliad pobl a’u cynnydd o ran cael gafael ar gyllid.
Rôl yr awdurdodau lleol
Yr Awdurdodau Lleol sy’n bennaf gyfrifol am ddarparu ar gyfer llwybr Uwch-noddwr Cartrefi i Wcráin. Mae’r dull yn debyg i raglenni adsefydlu blaenorol a bydd timau adsefydlu pob un o’r 22 o Awdurdodau Lleol yn cymryd rhan i gefnogi'r rhai sy’n cyrraedd i gael llety mwy hirdymor ledled Cymru.
Y broses gychwynnol yw:
- bydd person yn cyrraedd Cymru o dan y llwybr Uwch-noddwr a bydd llety cychwynnol rhywle yng Nghymru yn cael ei neilltuo iddynt
- bydd yr awdurdod lleol a phartneriaid yn cynnal asesiad brysbennu cychwynnol pan fyddant yn cyrraedd i weld a oes unrhyw anghenion brys
- bydd partneriaethau adsefydlu'r awdurdod lleol yn cydweithio â’r llety cychwynnol a’r rhai sy’n cyrraedd i nodi anghenion brys a rhai tymor hwy. Bydd y rhai sy’n cyrraedd yn derbyn cymorth ariannol cychwynnol, gwybodaeth leol am wasanaethau ac am yr ardal, cymorth i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, a chyngor a chymorth i gael mynediad at fudd-daliadau a gwasanaethau iechyd ac addysg
- gall y rhai sy’n cyrraedd gael mynediad at gymorth parhaus yn ôl yr angen drwy’r awdurdod lleol a’r trydydd sector
Mae gwasanaethau a chymorth arall y dylai awdurdodau lleol eu darparu i westeion mewn llety croeso yn cynnwys:
- mynediad at wasanaethau cyfieithu ar y pryd
- cymorth gwaith achos
- gwiriadau asesu risg a gwiriadau diogelu ar gyfer llety croeso penodol (bydd y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol yn cynghori ar hyn)
- eitemau hanfodol sydd eu hangen ar unwaith
- cysylltedd ffonau symudol a chardiau SIM
- cefnogaeth i integreiddio mewn cymunedau
- cydgysylltu lleol rhwng partneriaid cymorth
- ymgysylltu â Llywodraeth Cymru
Mae angen rhoi trefniadau penodol ar waith i alluogi darpariaeth lawn o wasanaethau ac i weithredu’r prosesau adsefydlu yn gyffredinol. Amlinellir y rhain yn y canllawiau hyn.
Gwasanaeth Noddfa Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Gwasanaeth Noddfa Cymru. Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu gwasanaethau cyngor ac eiriolaeth i geiswyr lloches yng Nghymru.
Gall y gwasanaeth ddarparu'r gefnogaeth ganlynol:
- gwneud cais am gyfrif banc
- gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, Budd-daliadau Plant a Chredyd Pensiwn
- dod o hyd i ddosbarthiadau Saesneg
- Cyngor ar Gyflogaeth ac Addysg
- Gwneud apwyntiadau i drafod eich opsiynau tai
- Help i chwilio am lety
- Cyfeirio at gyngor a chanllawiau cyfreithiol a mewnfudo am ddim
- Cofrestru plant mewn ysgolion lleol
- Cofrestru gyda gwasanaethau iechyd
Mae'r gwasanaeth hefyd yn cynnwys cyngor cyfreithiol mewnfudo a ddarperir gan Asylum Justice, lle bo angen.
Gallwch atgyfeirio Ukrainians i'r gwasanaeth am gymorth drwy 0808 196 7273.
Os oes unrhyw gwestiynau am y gwasanaeth cysylltwch â: ukraine@services.wrc.wales
Gwasanaeth Integreiddio Aduno Teuluoedd
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi arian i'r Groes Goch Brydeinig i ddarparu cymorth integreiddio ataliol a chyfannol sy'n ystyriol o drawma i deuluoedd ffoaduriaid sydd wedi'u haduno, gan gynnwys aelodau o deuluoedd pobl o Wcráin sy'n cyrraedd Cymru drwy’r Cynllun Teuluoedd o Wcráin blaenorol.
Mae’r gwasanaeth yn darparu rhaglen gwaith achos, yn seiliedig ar anghenion aelodau o deulu pobl o Wcráin sy'n cyrraedd y wlad. Mae cynlluniau integreiddio pwrpasol yn cael eu sefydlu i helpu pobl i ymgartrefu, i gael mynediad at hawliau ac i gael cefnogaeth lle nodir eu bod yn agored i niwed.
Yn anffodus, nid oes gennym ddata ar y grantiau fisa aduno teulu i ffoaduriaid yng Nghymru nag ar y niferoedd sy'n cyrraedd drwy'r Cynllun Teuluoedd o Wcráin blaenorol. Felly, mae angen inni hyrwyddo’r cynllun drwy atgyfeiriadau a dull ‘caseg eira’. Rydym yn annog pob awdurdod lleol a phob sefydliad trydydd sector sydd mewn cysylltiad ag aelodau teulu sy'n cyrraedd i hyrwyddo'r gwasanaeth i'r unigolion hynny. Byddwn hefyd yn defnyddio rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo'r gwasanaeth.
Mae'r gwasanaeth yn weithredol, a gallwch gyfeirio Wcreiniaid, noddwyr ffoaduriaid, ac aelodau teulu sy'n cyrraedd trwy e-bostio FamilyReunionCymru@redcross.org.uk neu ffonio 01633 720 00 a dewis opsiwn 3.
Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol
Sefydlodd Llywodraeth Cymru y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol i gefnogi awdurdodau lleol, ac i gydlynu a chefnogi pobl i gyrraedd Cymru o dan y cynlluniau Cartrefi i Wcráin a Teuluoedd o Wcráin. Disodlodd y gwasanaeth hwn y Ganolfan Gyswllt, a ddarparwyd gan Gyngor Caerdydd, ym mis Medi 2024.
Mae'r Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol yn darparu gwasanaeth llinell gymorth rhwng 09:00 a 17:00, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn darparu cyngor a chymorth i deiliaid fisa cynllun yr uwch-noddwyr drwy eu taith ac ar ôl iddynt gyrraedd Cymru.
Mae’r tîm yn gwneud y canlynol yn bennaf:
- rhoi cyngor ar drefniadau teithio
- rhoi pobl mewn llety croeso yng Nghymru
- cynnal cynigion llety
- darparu cymorth symud ymlaen i westeion ac awdurdodau lleol
- cefnogi’r gwaith o gynnal a datblygu Platfform Data Wcráin.
- pan fo anghenion iechyd a lles neu hygyrchedd penodol
- pan fo pryderon diogelu
- pan na fo rhywun wedi cyrraedd ei gyrchfan ddisgwyliedig
- pan fo adleoliadau trawsffiniol i’w hystyried
- lle mae anifeiliaid anwes.
- noddwyr ffug
- achosion sy’n ymwneud â phlant dan oed ar eu pen eu hunain drwy’r Ffowndri
- rheoli cynigion llety
- cefnogi’r awdurdodau lleol
Mae'r tîm hefyd yn cefnogi anghenion llety mewn achosion mwy cymhleth, megis:
- pan fo anghenion iechyd a lles neu hygyrchedd penodol
- pan fo pryderon diogelu
- pan na fo rhywun wedi cyrraedd ei gyrchfan ddisgwyliedig
- pan fo adleoliadau trawsffiniol i’w hystyried
- lle mae anifeiliaid anwes
Dyma rai o'r meysydd eraill lle gall y tîm ddarparu cymorth:
- noddwyr ffug
- achosion sy’n ymwneud â phlant dan oed ar eu pen eu hunain drwy’r Ffowndri
- rheoli cynigion llety
- cefnogi’r awdurdodau lleol
Mae'r Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol yn cael ei gynnal gan awdurdod lleol Blaenau Gwent.
Rhadffôn o fewn y DU: 808 1751508
O’r tu allan i’r DU: 020 4542 5671 / +44 (0)20 4542 5671
E-bost: cymorth@noddfa.llyw.cymru.
Absenoldebau o lety croeso
Mae'n bosib y bydd disgwyl i Wcreiniaid a noddir gan Lywodraeth Cymru ar fisa Cartrefi i Wcráin, sy'n cael eu rhoi mewn llety croeso, aros yno am hyd at 75 diwrnod pan fyddant yn cyrraedd Cymru. Mae hyn yn rhoi amser i awdurdodau lleol eu cefnogi i ymgartrefu yng Nghymru a'u helpu i ddod o hyd i lety mwy hirdymor.
Mae angen i ni sicrhau cynaliadwyedd y llwybr Uwch-noddwr fel y gallwn barhau i gynnig llety i’r rheini sydd ei angen. Mae hyn yn golygu bod amgylchiadau lle gellir tynnu’r cynnig o lety croeso yn ôl yn ystod y chwe mis cyntaf, a hynny yn rhesymol. Mae hyn yn cynnwys torri’r Cod Ymddygiad a’r Cytundeb Ymddygiad Derbyniol.
Mae'r Cod Ymddygiad ar gyfer llety croeso yn nodi disgwyliadau ar westeion mewn perthynas ag absenoldebau o lety croeso. Mae hyn yn cynnwys:
- gofyn i westeion roi gwybod i staff os nad ydynt yn aros yn y llety dros nos
- disgwyl i westeion deithioyn ystod y cyfnod o 75 diwrnod mewn llety croeso ddim ond os yw'r teithio yn hanfodol, a cheisio cytundeb gan yr awdurdod lleol cyn gwneud trefniadau teithio
- cynghori gwesteion bod absenoldebau byr yn debygol o fod yn dderbyniol os nad yw eu cynlluniau teithio yn effeithio ar gynlluniau symud ymlaen. Bydd absenoldebau estynedig yn dderbyniol mewn amgylchiadau eithriadol yn unig. Os na chytunir ar yr absenoldeb ond eu bod yn dal i benderfynu teithio, mae'r gwestai mewn perygl o golli ei gynnig o lety croeso
Mae Cod Ymddygiad enghreifftiol ar gael yn Cartrefi i Wcráin: Fframwaith ar gyfer Llety. Dylai awdurdodau lleol ddarparu Cod Ymddygiad i westeion sy'n mynd i lety croeso i sicrhau eu bod yn deall yr hyn a ddisgwylir ganddynt yn ystod eu harhosiad.
Gellir defnyddio hyblygrwydd pan fydd gan westeion reswm da dros fod yn absennol yn ystod y cofnod o 75 diwrnod, fel argyfwng nad oedd modd ei ragweld, salwch neu farwolaeth perthynas; neu os oes angen iddo deithio i sefyll arholiad nad oes modd ei sefyll yn lleol. Bydd hyn yn cael ei ystyried fesul achos. Nid yw teithiau arferol at ddibenion gwaith neu fusnes fel arfer yn rhesymau da dros absenoldebau hir neu reolaidd.
Os yw awdurdod lleol o'r farn bod absenoldeb gwestai yn torri'r Cod Ymddygiad, rhaid iddo gyfeirio at ganllawiau'r awdurdod lleol ar reoli achosion o dorri Cod Ymddygiad.
Nid yw gadael eiddo yn yr ystafell gyfystyr â phresenoldeb a dylid rhoi gwybod i westeion y bydd pob eiddo yn cael ei symud a’u storio am gyfnod byr iawn yn dilyn hynny, os yn bosibl, cyn gwneud trefniadau i gael gwared ohonynt. Gellir codi tâl ar y gwesteion am unrhyw gostau ynghlwm â hyn.
Fframwaith llety
Mae'r canllawiau Cartrefi i Wcráin: fframwaith ar gyfer llety yn esbonio'r egwyddorion y mae angen i awdurdodau lleol eu hystyried wrth gartrefu pobl o Wcráin. Mae hyn yn cynnwys darparu llety ar ôl arhosiad mewn llety croeso neu lle mae lleoliad gyda lletywr wedi methu. Mae hefyd yn rhoi cyngor am daliadau ‘diolch’ i bobl sy’n cynnig llety.
Mae’r fframwaith yn egluro’r egwyddorion allweddol i helpu awdurdodau lleol gyda’r broses heriol o gydbwyso ein hymrwymiad i bobl o Wcráin ac i aelwydydd digartref sydd mewn llety dros dro.
Mae’r fframwaith yn cynnwys dulliau gweithredu a argymhellir ar gyfer cefnogi’r broses o baru pobl o Wcráin â lleoliadau gyda lletywyr neu mewn llety arall mwy hirdymor ledled Cymru. Mae hefyd yn cynnwys ail-baru pobl lle mae lleoliad cychwynnol wedi methu a bod angen cytuno ar leoliad newydd.
Eglurir y safonau disgwyliedig ar gyfer llety yn y canllaw hwn.
Gwiriadau ar gyfer unigolion
Bydd y rheini sy’n cyrraedd o dan y Cynllun Cartrefi i Wcráin wedi bodloni archwiliadau diogelwch rhyngwladol safonol cyn cael fisa. Bydd noddwyr a phob oedolyn ar aelwyd y noddwr hefyd yn destun archwiliadau cychwynnol Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC), cofnodion troseddol a’r Mynegai Rhybuddion gan y Swyddfa Gartref.
Bydd gwiriadau PNC yn dangos unigolion sydd wedi cael eu harestio, sydd wedi bod ar remand neu sydd wedi cael euogfarn neu rybudd yn unig. Dylai pob cais am wybodaeth gan yr Heddlu gael ei wneud drwy broses ffurfiol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Mae'r broses hon yn cynnwys gwirio gwahanol gronfeydd data'r heddlu. Mae'n rhoi'r sicrwydd gorau posibl na chollir gwybodaeth hanfodol a allai arwain at bryderon diogelu.
Gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Dylai awdurdodau lleol ddechrau'r cais DBS cyn gynted â phosibl ar ôl cael data am noddwyr a/neu westeion sydd ar y cynllun i noddwyr unigol. Dylent geisio sicrhau bod yr holl wiriadau yn cael eu cwblhau cyn gosod gwesteion mewn lleoliad, lle bo hynny'n ymarferol.
Os bydd yr awdurdod lleol yn cael gwybod fod noddwr a gwestai wedi'u paru ar ôl i'r gwestai fynd i fyw yn y llety, h.y. y noddwr a'r gwestai wedi paru eu hunain, dylai'r awdurdod lleol sicrhau bod gwiriadau DBS ac eiddo yn cael eu cynnal ar unwaith.
O ran paru gwestai a noddwr ar lwybr y cynllun i uwch-noddwyr, rhaid cwblhau'r gwiriadau DBS perthnasol cyn i'r gwestai ddechrau byw yn y llety.
Mae gan awdurdodau lleol hawl gyfreithiol i ofyn am wiriad manwl y DBS, sy'n cynnwys gwirio rhestri gwahardd plant ac oedolion ar gyfer holl noddwyr Cartrefi i Wcráin a phob unigolyn 16 oed a hŷn ar aelwyd y noddwr, os bydd angen.
Dylai'r awdurdod lleol ddefnyddio disgresiwn wrth benderfynu ar lefel y gwiriad sydd angen ei chwblhau ar noddwr (gwiriad Sylfaenol neu wiriad Manwl sy'n cynnwys gwirio rhestri gwahardd). Bydd hyn yn dibynnu ar bob sefyllfa lletya, gan gynnwys cyfansoddiad ac anghenion y gwesteion y mae'r noddwr yn gwneud cais i gynnig llety iddynt.
Rhaid i awdurdodau lleol ofyn am wiriadau DBS Manwl (sy'n cynnwys gwiriad o'r rhestri gwahardd perthnasol) ar gyfer y senarios canlynol:
- o ran noddwyr (ac unrhyw unigolyn arall ar yr aelwyd sy'n 16 oed a hŷn) sy'n cynnig llety i blant cymwys lle mae perthynas deuluol rhwng y noddwr a'r plentyn, yna dylid gofyn am 'Wiriad Manwl sy'n cynnwys gwirio rhestr wahardd plant' o fewn 'y gweithlu arall'.
- o ran noddwyr (ac unrhyw unigolyn arall ar yr aelwyd sy'n 16 oed a hŷn) sy'n cynnig llety i blant cymwys lle nad oes perthynas deuluol rhwng y noddwr a’r plentyn, yna dylid gofyn am ‘Wiriad Manwl sy’n cynnwys gwirio rhestr wahardd plant’ o fewn ‘y gweithlu plant’
- o ran noddwyr (ac unrhyw unigolyn arall ar yr aelwyd sy'n 16 oed a hŷn) sy’n cynnig llety i grŵp teuluol sy’n cynnwys o leiaf un gwestai sy’n blentyn (gwestai sy’n iau na 18 oed) ac nad yw’n perthyn i’r noddwr, dylid gofyn am ‘Wiriad Manwl sy’n cynnwys gwirio rhestr wahardd plant’ o fewn ‘y gweithlu plant’
- pan fydd angen mwy o gefnogaeth ar westai sy'n oedolyn, nad yw'n perthyn i'r noddwr, oherwydd oedran, salwch neu anableddau, a chynigir bod aelod o'r aelwyd noddi (16 oed a hŷn) yn rhoi'r gefnogaeth honno i'r gwestai, yna dylid cynnal gwiriad DBS Manwl (sy'n cynnwys gwirio rhestr wahardd oedolion) ar aelod(au) penodol yr aelwyd noddi a fydd yn rhoi'r gefnogaeth honno
Ym mhob achos arall, gan gynnwys os yw gwesteion yn cael eu hail-baru â lletywr newydd, dylai awdurdodau lleol ddefnyddio eu barn eu hunain i benderfynu a ddylid gwneud cais am wiriad DBS Manwl (sy'n cynnwys gwirio'r rhestr wahardd berthnasol). Os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu nad oes angen gwiriad DBS Manwl, dylid gofyn am wiriad DBS Sylfaenol ar gyfer noddwyr a phob unigolyn 16 oed a hŷn sydd ar yr aelwyd. Nid oes dyddiad dod i ben ar wiriadau cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Mater i'r rhai sy'n defnyddio'r gwiriad at ddibenion diogelu yw penderfynu a fyddant yn derbyn tystysgrif a gafwyd eisoes. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru: Cartrefi i Wcráin: Cynllun Estyn Caniatâd Wcráin - canllawiau i gynghorau.
Os yw gwiriad DBS yn datgelu troseddau blaenorol, dylai awdurdodau lleol gymryd barn gytbwys fesul achos wrth farnu addasrwydd yr unigolyn hwnnw (ac aelodau'r aelwyd) ar gyfer y rôl lletya, gan ystyried ffactorau fel:
- oedran yr unigolyn adeg y drosedd
- pa mor hir yn ôl y digwyddodd y drosedd
- natur y drosedd a'i pherthnasedd o ran y rôl lletya
- beth arall sy'n hysbys am ymddygiad yr unigolyn cyn y drosedd neu ers y drosedd
Dylai'r penderfyniad gael ei gofnodi'n glir a'i lofnodi gan y swyddog penodedig sy'n gwneud y penderfyniad. Efallai y bydd rhai awdurdodau lleol am gael panel i wneud y penderfyniad hwn, neu ddefnyddio eu prosesau presennol i ystyried achosion o'r fath, h.y. hwyluso cyfarfod amlasiantaeth neu drafod ag Uned Diogelu'r Cyhoedd.
Absenoldeb gwestai o drefniant lletya
Rydym yn cydnabod y gallai fod angen i westeion fod yn absennol dros dro o'u llety am wahanol resymau.
Os bydd gwestai i ffwrdd o'r llety am fwy na 4 wythnos yn olynol mewn un cyfnod, neu mae cyfnod o 4 wythnos yn olynol wedi mynd heibio ac nid yw'r gwestai wedi dychwelyd, bydd angen i'r lletywr hysbysu'r awdurdod lleol.
Os yw gwestai i ffwrdd am lai na 4 wythnos, nid oes angen i letywyr hysbysu'r awdurdod lleol. Fodd bynnag, os yw gwestai yn absennol ar sawl achlysur am lai na phedair wythnos, dylai lletywyr drafod y rhesymau dros hyn gyda'r gwestai a chysylltu â'r awdurdod lleol os oes ganddynt unrhyw bryderon.
Fodd bynnag, os yw’r absenoldebau’n dod yn batrwm, ac mae'r gwestai'n absennol ar sawl achlysur am lai na 4 wythnos, anogir lletywyr i drafod hyn gyda'r awdurdod lleol. Mae disgwyl i'r awdurdod lleol sicrhau bod modd cyfiawnhau'r rheswm dros fod yn absenoldeb yn aml, a bod lleoliad y lletywr yn cael ei ddefnyddio'n briodol. Gall yr awdurdod lleol farnu a yw'r trefniant lletya'n cael ei gamddefnyddio, ac ystyried a ddylid rhoi hysbysiad i'r lleoliad ddod i ben. Dylai'r awdurdod lleol geisio gweithio gyda'r gwestai a deall y rheswm yn y lle cyntaf, gan gynnwys egluro sut y gallai rhagor o absenoldebau effeithio ar y lleoliad.
Os bydd lletywr yn cael gwybod bod gwestai yn gadael yn barhaol, rhaid iddo hysbysu'r awdurdod lleol bod y trefniant lletya wedi dod i ben. Ni ddylent aros tan fod pedair wythnos o absenoldeb wedi mynd heibio cyn rhoi gwybod i’r awdurdod lleol.
Ar gyfer gwesteion sy'n aros gyda lletywyr ymateb, argymhellir bod gwesteion yn absennol yn ystod y lleoliad 75 diwrnod mewn amgylchiadau eithriadol yn unig. Dylid cyfyngu unrhyw absenoldeb hanfodol i 2 wythnos os yn bosibl. Hynny er mwyn sicrhau cymaint o amser â phosibl i'r gwesteion weithio gyda gweithwyr achos yn yr awdurdod lleol i ddod o hyd i lety tymor hirach. Os yw gwestai yn absennol yn ystod y cyfnod hwn, mae disgwyl i letywyr roi gwybod i'r awdurdod lleol.
Os oes gan awdurdod lleol reswm i gredu bod lletywr wedi dal gwybodaeth yn ôl i wneud hawliadau am daliadau diolch, mae gan yr awdurdod lleol yr hawl i wneud ymchwiliadau pellach. Gallai hynny olygu y bydd rhaid i'r lletywr dalu'r arian yn ôl.
Gwesteion sy'n absennol o lety noddi am fwy na 4 wythnos dros gyfnod parhaus
Unwaith y bydd yr awdurdod lleol yn cael gwybod am absenoldeb gwestai am gyfnod o fwy na 4 wythnos dylid oedi taliadau 'diolch' y lletywr. Dylai'r rhain ailddechrau cyn gynted ag y bydd y gwestai’n dychwelyd.
Dylid hefyd gynghori gwesteion sy'n cael budd-daliadau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, fod angen hysbysu'r Adran Gwaith a Phensiynau am unrhyw absenoldebau o'r DU.
Lles meddyliol a gofal iechyd
Atgyfeiriadau at wasanaethau. Caiff pob teulu o Wcráin gofrestru gyda meddyg teulu i gael mynediad at wasanaethau iechyd prif ffrwd. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl.
Mae'r canllawiau i Fyrddau Iechyd ar Iechyd a Lles Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid yn esbonio sut y dylid darparu cymorth iechyd. Dylai awdurdodau lleol weithio gyda byrddau iechyd lleol i gyfeirio pobl at lwybrau ar gyfer cael cyngor ac atgyfeiriadau at wasanaethau iechyd cyhoeddus arbenigol. Er enghraifft, ar gyfer brechiadau (gan gynnwys y brechiad Covid-19) neu sgrinio iechyd.
Dylid darparu cyngor ar wasanaethau cymorth pellach fel:
- sefydlogi cychwynnol
- cwnsela a chymorth iechyd meddwl
- gofal cymdeithasol i oedolion
- gwasanaethau plant
yn ôl yr angen.
Mae deunyddiau i gefnogi iechyd meddwl a helpu’r rhai sy’n cyrraedd o Wcráin sefydlogi i gychwyn wedi’u cyfieithu i Wcreineg a Rwseg. Mae'r rhain yn cael eu cyhoeddi ar wefan Straen Trawmatig Cymru.
Mae'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl wedi cynhyrchu pecyn cymorth i’w ddefnyddio’n uniongyrchol gan bobl sydd wedi profi digwyddiadau trawmatig. Mae hwn wedi'i gyfieithu i dros 20 o ieithoedd gwahanol (gan gynnwys Wcreineg a Rwsieg).
Pecyn cymorth Cefnogi pobl sydd wedi dioddef digwyddiadau trawmatig:
Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi cyhoeddi deunyddiau cymorth i helpu gyda sefydlogi yn ystod y cyfnod ailsefydlu cychwynnol. Mae hyn yn cynnwys taflen ddefnyddiol am ymdopi ar ôl digwyddiad trawmatig, sy’n cynnwys gwybodaeth ar gyfer unrhyw un sydd wedi profi digwyddiad trawmatig, a gall hefyd helpu rhywun sy’n adnabod person sydd wedi profi digwyddiad trawmatig. Mae’r daflen hon ar gael mewn dros 20 o wahanol ieithoedd (gan gynnwys Wcreineg a Rwseg).
Mae Llinell Gymorth Iechyd Meddwl CALL ar gael i gefnogi pobl a'u teuluoedd sy'n cyrraedd Cymru. Mae CALL yn defnyddio Llinell Iaith os oes rhywun eisiau cael help mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg. Mae gwybodaeth am Linell Gymorth Iechyd Meddwl CALL hefyd wedi'i chyfieithu i 20 o ieithoedd gwahanol (gan gynnwys Wcreineg a Rwseg):
Mae'r canllawiau cymorth i Bobl sydd wedi'u Dadleoli yng Nghymru mewn Llety Preifat ar gyfer noddwyr wedi cael eu cyhoeddi gan Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod Cymru. Mae'r ddogfen yn cynnwys dolenni at adnoddau Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar ymdopi ar ôl digwyddiad trawmatig.
Mae Hyb Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod Cymru yn rhan o Ganolfan Cydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Maent wedi datblygu ystod o adnoddau sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael ag effeithiau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, eu hatal a’u lliniaru. Mae hyn yn cynnwys adnodd hyfforddi wedi'i recordio ymlaen llaw a ddarperir i'r rhai sy'n cefnogi pobl sydd wedi'u dadleoli.
Mae Canolfan Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod Cymru hefyd wedi cyhoeddi taflen i esbonio effeithiau gweld neu ddioddef digwyddiadau gofidus, sydd wedi'i chyfieithu i sawl iaith. Mae hon wedi'i chynnwys yn y ddogfen adnoddau iechyd meddwl a gyhoeddwyd ar wefan Straen Trawmatig Cymru. Maent hefyd wedi cyhoeddi gwybodaeth ddefnyddiol ar y cymorth iechyd a llesiant sydd ar gael ar gyfer pobl sydd wedi’u dadleoli.
Mae gwybodaeth am ddeall a delio â galar (yn Wcreineg) ar gael gan Cruse Bereavement Support.
Mae'r wybodaeth yn cynnwys cyfarwyddiadau cam wrth gam ar sut i ffonio llinell gymorth Cruse a chael help drwy gyfieithydd. Mae erthygl ar eu gwefan am golled drawmatig mewn gwrthdaro a rhyfel.
Diogelu
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod diogelu yn ystyriaeth ganolog yn y systemau, y polisi a'r cyngor sy'n cael eu datblygu i gefnogi dyfodiad pobl o Wcráin. Gwyddom fod hyn hefyd yn flaenoriaeth i awdurdodau lleol a phartneriaid diogelu perthnasol.
Mae nifer o wahanol ffyrdd y bydd pobl o Wcráin a phobl o Gymru yn dod i fyw ar un aelwyd. Mae'r canllawiau hyn yn ymwneud â chynllun noddi unigol Llywodraeth y DU, sef Cartrefi i Wcráin. Caiff y cynllun ei adolygu a’i ddiweddaru’n rheolaidd.
Yn gyffredinol, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gyflawni eu swyddogaethau diogelu statudol presennol mewn perthynas â'r cynllun noddi unigol hwn, fel y byddent ar gyfer unrhyw boblogaeth arall yng Nghymru. Caiff y cyngor ar gofnodi ac ymateb i bryderon diogelu am blant neu oedolion sydd mewn perygl (fel y'u diffinnir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) ei egluro yn Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Gall y tîm Rheoli Achosion gefnogi a chynorthwyo awdurdodau lleol i sicrhau bod gwesteion yn cael eu cadw'n ddiogel a bod unrhyw bryderon yn cael eu datrys yn gyflym.
Gofynnir i awdurdodau lleol gyfeirio ymholiadau o'r fath gan roi’r manylion cyswllt canlynol:
- rhadffôn o fewn y DU: 808 1751508
- o’r tu allan i’r DU: 020 4542 5671 / +44 (0)20 4542 5671
- e-bost: cymorth@noddfa.llyw.cymru
Caethwasiaeth fodern
Darllenwch y canllawiau i awdurdodau lleol ar ddiogelu a chaethwasiaeth fodern.
Addysg a gofal plant
Nawdd cymdeithasol
Does dim pwerau gan Lywodraeth Cymru i newid cyfreithiau na pholisïau ar fewnfudo, dim ond Llywodraeth y DU all wneud hynny. Pan fo person yn cyrraedd y DU, y Swyddfa Gartref sydd yn penderfynu ar ei statws mewnfudo. Bydd dogfennau mewnfudo neu fisâu gan bobl sydd yn dod i Gymru o Wcráin o dan gynlluniau’r Swyddfa Gartref er mwyn dangos eu hawl i weithio a hawlio budd-daliadau.
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi gwaredu rhai amodau cymhwyso seiliedig ar breswylfa penodol ar gyfer pobl o Wcráin. Mae pobl o Wcráin sy’n dod i’r DU o dan gynlluniau fisa penodol y Swyddfa Gartref yn esempt rhag y prawf preswylio arferol a’r prawf presenoldeb yn y gorffennol. Golyga hyn y gallant ymgeisio am fudd-daliadau penodol yn syth ar ôl cyrraedd.
Does dim pwerau gan Lywodraeth Cymru o ran:
- y system budd-daliadau lles gan gynnwys budd-daliadau ar gyfer pobl anabl
- cymorth i bobl sy’n chwilio am waith
- cymorth i bobl gael gwaith
- mynediad at fudd-daliadau fel Credyd Cynhwysol
Mae’r rhain yn cael eu rheoli gan Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU.
Mae budd-daliadau seiliedig ar incwm i blant, fel Budd-Dal Plant a Chredyd Treth Plant, yn cael eu rheoli gan Cyllid a Thollau ei Mawrhydi Llywodraeth y DU.
Gostyngiadau ac eithriadau’r dreth gyngor
Bydd person sydd wedi dod i Gymru o dan y cynllun nawdd Cartrefi i Wcráin ac yn parhau i fyw yn llety’r noddwr yn cael ei ddiystyru at ddibenion y dreth gyngor. Bydd hyn yn gwarchod hawl y rhai sy’n cynnig llety i’r gostyngiadau canlynol:
- gostyngiad o 25% i un oedolyn cymwys yn yr aelwyd sy’n noddi neu
- gostyngiad o 50% pan fo’r holl bobl yn yr aelwyd sy’n noddi eisoes wedi eu diystyru
Ni fydd yr un sy’n cynnig llety yn colli unrhyw eithriad i’r dreth gyngor os bydd yn cynnig llety i berson sydd â fisa o dan gynllun nawdd Cartrefi i Wcráin.
Os yw’r un sy’n cynnig llety yn darparu llety mewn ail gartref yna ni chodir premiwm uwch y dreth gyngor. Bydd yr unigolyn sy'n byw yn yr eiddo yn agored i dalu'r dreth gyngor ar y raddfa safonol.
Bydd unigolyn neu deulu o Wcráin sy’n byw mewn llety ar wahân yn atebol i dalu cyfradd safonol y dreth gyngor. Mae Llywodraeth Cymru am iddynt gael mynediad at gymorth y dreth gyngor i leihau faint mae’n rhaid iddynt ei dalu os yw’n briodol.
O fis Ebrill 2023, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud darpariaeth yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor fel bod pobl o Wcráin yn gymwys i gael cymorth gyda’r dreth gyngor.
Ni fydd hyn yn effeithio ar filiau treth gyngor cartrefi sy’n lletya pobl o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin. Hefyd bydd pobl o Wcráin sydd yn byw mewn llety ar wahân yn cael mynediad at Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.
Gall pobl o Wcrain sy'n aros mewn eiddo sy’n llety croeso (er enghraifft airbnb) fod yn ddarostyngedig i'r dreth gyngor. Anogir Wcreiniaid i ymgysylltu â thimau treth gyngor yr awdurdod lleol i sicrhau bod unrhyw ostyngiadau i'r dreth gyngor yn cael eu cymhwyso.
Cyflogaeth
Caiff cymorth i bobl o Wcráin sydd yn ceisio cyflogaeth ei reoli gan Lywodraeth y DU yn yr Adran Gwaith a Phensiynau. Bydd cymorth cyflogaeth yn cael ei asesu ar lefel leol gan dimau adsefydlu. Bydd Anogwyr Gwaith yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cyfeirio unigolion at gymorth cyflogadwyedd a sgiliau addas.
Bydd yr Anogwyr Gwaith yn cynnal asesiadau unigol. Bydd gan bobl o Wcráin fynediad at amrywiaeth o gymorth cyflogadwyedd a sgiliau sydd wedi ei deilwra at eu hanghenion unigol.
Dylai busnesau sydd am gynnig gwaith nodi ei bod yn bwysig bod gwesteion yn cael amser i orffwys ac adennill nerth. Mae’n bosibl na fyddant ar gael i gychwyn gweithio ar unwaith. Rhaid i gynigion llety beidio bod yn gysylltiedig â chynigion cyflogaeth.
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cyflwyno proses newydd i gyflogwyr rannu manylion swyddi gwag posibl. Dylai cyflogwyr gwblhau templed ar-lein trwy gynnig yr Adran Gwaith a Phensiynau i bobl sydd wedi dod i'r DU o Afghanistan neu Wcráin
Pan fydd templed llawn wedi ei gyflwyno, bydd aelod o dîm yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cysylltu â’r cyflogwr arfaethedig i drafod y swydd wag. Bydd swyddi gwag addas ar gael i unrhyw un sy’n chwilio am gyflogaeth ar draws Rhwydwaith y Ganolfan Waith.
Gall Gwasanaeth Cymru’n Gweithio ddarparu cyngor gyrfaoedd a chymorth cyflogaeth personol. Mae’r gwasanaeth am ddim ac ar gael i unrhyw un sydd yn 16 oed neu hŷn ac sy’n byw yng Nghymru.
Gall Cymru’n Gweithio fod o gymorth drwy gynnig:
- gwybodaeth, cyngor ac arweiniad am yrfaoedd
- cymorth i ddod o hyd i gyfleoedd gwaith
- cymorth â CV a cheisiadau am swyddi
- paratoi ar gyfer cyfweliad am swydd
- cymorth dileu swydd a diweithdra
- cymorth i ymgeisio am gyllid
- cyngor ac anogaeth ar newid gyrfa
- help i uwchsgilio a chael mynediad at hyfforddiant
- atgyfeirio at wasanaethau cyflogadwyedd eraill
Gall Cymru’n Gweithio hefyd helpu pobl sy’n ceisio noddfa drwy ddarparu mynediad at y canlynol:
- llinell iaith er mwyn cael gwasanaeth cyfieithu yn ystod apwyntiadau
- ymgynghorwyr sy’n arbenigo mewn cynorthwyo ffoaduriaid a’r rheini sy’n ceisio noddfa
- trosglwyddo cymwysterau tramor i gymwysterau cyfatebol a gydnabyddir yn y DU i’r rheini sy’n gwneud cais am waith neu hyfforddiant
Manylion cyswllt Cymru’n Gweithio:
- ffôn 0800 028 4844
- Gwefan
- galw heibio i ganolfan Gyrfa Cymru
Mae canllawiau penodol wedi’u datblygu i gefnogi recriwtio pobl o Wcráin i’r sector gofal plant.
Anifeiliaid anwes o Wcráin
Rhaid i gathod, cŵn neu ffuredau sy’n dod i’r DU fodloni gofynion iechyd llym iawn. Gweler Dod â’ch anifail anwes i Gymru o Wcráin: cwestiynau cyffredinam ragor o wybodaeth. Mae'r rheolau hyn yn wahanol i Loegr a'r Alban gan fod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu peidio llacio'r gofynion cwarantîn yng Nghymru ar gyfer cathod, cŵn a ffuredau.
Mae’n bosibl y bydd angen cael trwydded oddi wrth yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar gyfer adar, cnofilod a mamaliaid bach eraill. Rhaid cadw’r adar a’r mamaliaid bach hyn mewn man caeedig o dan do am 30 o ddiwrnodau. Rhaid iddynt beidio â dod i gysylltiad ag unrhyw anifeiliaid anwes eraill neu â bywyd gwyllt arall. Nid yw’r gofynion hyn yn gymwys i ymlusgiaid nac i anifeiliaid di-asgwrn-cefn.
Mae’n bwysig gofyn i’r noddwr sy’n lletya a yw’n hapus i dderbyn anifeiliaid anwes ac, os felly, y mathau o anifeiliaid anwes y gall eu derbyn. Mae’n bosibl nad yw rhai pobl yn hoff o rai mathau o anifeiliaid neu eu bod yn methu â’u goddef. Mae’n bosibl bod gan rai pobl sy’n lletya, neu aelodau o’u haelwyd, alergeddau a fyddai’n ei gwneud yn anodd lletya anifail anwes.
Os bydd anifail yn cael ei osod dan gwarantin, mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn cael gwybod am hyn cyn gynted â phosib, ac yn cael gwybod ar ba ddyddiad y bydd yn cael ei ryddhau. Bydd hyn yn ein galluogi ni i gynllunio ar gyfer rhyddhau’r anifail, naill ai i lety addas ar gyfer anifeiliaid anwes gyda’i berchennog, neu i lety anifeiliaid.
Mae’n bosibl bod y capasiti i letya anifeiliaid anwes mewn lletyau croeso yn gyfyngedig. Mae’n bosibl y bydd rhaid lletya cathod, cŵn a ffuredau sy’n bodloni gofynion APHA rywle arall. Fel arfer bydd hyn yn golygu eu cadw mewn llety cŵn neu lety cathod. Dylai fod gan yr awdurdod lleol restr o lety cŵn a llety cathod cofrestredig yn ei ardal. Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi costau cennel am y 75 diwrnod cyntaf pan na ellir lletya anifeiliaid anwes mewn llety croeso cyfeillgar i anifeiliaid anwes.
Ni ddylai neb gyrraedd ei lety yng Nghymru gydag anifail anwes nad yw’n bodloni gofynion APHA. Dylid ceisio arweiniad oddi wrth APHA ar unwaith os oes pryderon nad yw anifail anwes yn cydymffurfio â’r gofynion.
Manylion cyswllt
Ffôn +44 (0)3000 200 301 opsiwn 2
E-bost: ukrainepettravel@apha.gov.uk
Gellir cyflwyno tystiolaeth ar ffurf trwydded APHA neu basbort anifail anwes. Mae’n bosibl y bydd angen i APHA anfon swyddog i asesu’r anifail. Dylai lletywyr, gweithwyr achos awdurdodau lleol a, lle bo'n briodol ac yn bosibl, pherchnogion y llety croeso ofyn i berchennog yr anifail anwes gadw'r anifail dan do. Rhaid i’r anifail beidio â dod i gysylltiad ag anifeiliaid anwes eraill, bywyd gwyllt, na phobl. Rhaid i swyddogion APHA fod wedi eu bodloni bod yr anifail yn cydymffurfio â’r gofynion cyn y caniateir iddo fyw gyda’r teulu.
Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar anifeiliaid anwes sy’n bodloni holl ofynion APHA.