Neidio i'r prif gynnwy

Dywedodd Carl Sargeant, mai blaenoriaeth iddo oedd rhoi terfyn ar gysgu ar y stryd a sicrhau bod pob person ifanc yn gallu dod o hyd i lety fforddiadwy sy'n bodloni ei anghenion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth annerch cynhadledd i nodi hanner can mlynedd ers sefydlu Crisis, galwodd Ysgrifennydd y Cabinet ar sefydliadau i weithio ar y cyd i gynnig atebion arloesol er mwyn cael pobl oddi ar y stryd i fyw mewn cartrefi eu hunain.

Dywedodd Carl Sargeant:

“Rydyn ni wedi llwyddo i wneud cynnydd mawr drwy gyflwyno deddfwriaeth sy'n torri tir newydd. Rydyn eisoes wedi helpu i atal digartrefedd ar gyfer 8,800 o aelwydydd yng Nghymru ers i'r ddeddfwriaeth ar ddigartrefedd ddod i rym. Er gwaethaf hynny, rydyn ni'n wynebu cynnydd sydyn mewn cysgu ar y stryd, ac yn gwybod bod pobl ifanc yn ei chael hi’n anodd i ddod o hyd i lety a all fod yn sylfaen iddyn nhw ddatblygu dyfodol gwell i'w hunain.

“Mae'n gwbl annerbyniol bod rhai o'n cyd-ddinasyddion yn parhau i gysgu ar ein strydoedd heb unrhyw ddewis boddhaol arall, ac rwy'n benderfynol o leihau achosion o gysgu ar y stryd.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod achosion cysgu ar y stryd yn gymhleth, ac yn aml mae'n dechrau fel canlyniad i brofiadau penodol yn gynnar yn ystod eu bywydau. Felly, mae'n bwysig i unigolion gael y cymorth sy’n addas iddynt, er mwyn eu helpu i oresgyn eu problemau.

Ychwanegodd Carl Sargeant:

“Rhaid inni ailystyried ein strategaeth i helpu unigolion sy'n agored i niwed i osgoi digartrefedd neu ddianc rhagddo. Rhaid i'n nod roi sylw i sicrhau atebion hir dymor cyn gynted ag sy'n bosibl, a chynnig adnoddau sy’n rhoi sylw i helpup pobl i ailddatblygu eu bywydau yn eu cartrefi eu hunain.”