Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant, Carl Sargeant, wedi lansio ymgyrch newydd i roi cyfle i rieni ddweud eu dweud am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw o ran gofal plant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth lansio’r ymgyrch #TrafodGofalPlant mewn canolfan Dechrau’n Deg yn Sir y Fflint dywedodd Carl Sargeant ei fod yn awyddus i wrando ar farn rhieni a dysgu am eu profiadau o ofal plant yn rhan o’r gwaith o ddatblygu’r cynnig.

Bydd rhieni’n cael eu hannog yn rhan o’r ymgyrch #TrafodGofalPlant i roi adborth am eu profiadau drwy arolygon a chyfryngau cymdeithasol.

Mae gwaith eisoes ar droed i ddatblygu a darparu’r cynnig gyda’r bwriad o gyflwyno’r cynlluniau peilot cyntaf ym mis Medi 2017.

Dywedodd Carl Sargeant: 

“Mae gofal plant yn galluogi rhieni i weithio gan gyfrannu at gynyddu twf economaidd, mynd i’r afael â thlodi a lleihau anghydraddoldeb. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd a manteision hirdymor i’n plant ac yn cynnig cyfleoedd iddynt yn eu bywydau. Dyna’r rheswm y mae datblygu cynnig ar gyfer gofal plant hyblyg ar lefel uwch yng Nghymru yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Rydyn ni am gynnig gwell cynnig ar gyfer gofal plant i rieni, i fusnesau ac i’r economi.

“Bydd ein cynnig ar gyfer gofal plant yn darparu 30 awr o ofal plant di-dâl yr wythnos i rieni sy’n gweithio ac sydd â phlant tair a phedair oed. Bydd y cynnig ar gael am 48 wythnos y flwyddyn. Rydyn ni’n benderfynol o gael hyn yn iawn felly dyna pam rydyn ni am glywed beth sydd gan rieni i’w ddweud.

“Rydw i am gynnwys rhieni yn y gwaith o ddatblygu’r cynnig ar gyfer gofal plant yn ystod y ddwy flynedd nesaf er mwyn dod o hyd i’r model mwyaf effeithiol o ddarparu gofal plant o safon.

“Mae lansio’r ymgyrch #TrafodGofalPlant heddiw yn gam pwysig ymlaen i ni ddatblygu ein cynnig ar gyfer gofal plant.”