Carl Sargeant wedi dweud ei fod yn falch o'r cynnydd sydd wedi'i wneud ers pasio'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) ychydig dros ddwy flynedd yn ôl.
Nod y Ddeddf yw gwella'r gwaith o atal camdriniaeth, a gwarchod a chefnogi'r unigolion sy'n cael eu heffeithio gan drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Ers i'r ddeddfwriaeth ddod i rym, mae llwyddiannau yn y maes yn cynnwys penodi'r Cynghorydd Cenedlaethol cyntaf ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a chyhoeddi strategaeth genedlaethol.
Mae'r dathliad yn cyd-fynd ag ail-lansio ymgyrch Croesi'r Llinell Llywodraeth Cymru sy'n mynd i'r afael â'r pwnc o gam-drin emosiynol gan bartner.
Dywedodd Carl Sargeant ei fod eisiau parhau i gydweithio â sefydliadau eraill i warchod a chefnogi'r dioddefwyr.
Dywedodd Carl Sargeant:
“Rydyn ni'n parhau i wneud cynnydd wrth roi mesurau ar waith i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Yn ogystal â phenodi'r Cynghorydd Cenedlaethol cyntaf a llunio Strategaeth Genedlaethol, rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol a fydd yn helpu gweithwyr proffesiynol i ymdrin â sefyllfaoedd lle maen nhw'n cael gwybod am gamdriniaeth. Bydd hefyd yn sicrhau bod hyfforddiant cyson ar gael i arbenigwyr.
"Mae cynllun peilot "Gofyn a Gweithredu" wedi cael ei lansio mewn dau leoliad i ddechrau, gan ofyn i weithwyr proffesiynol fel ymwelwyr iechyd a swyddogion tai sylwi ar symptomau camdriniaeth ac i ofyn i gleientiaid a ydyn nhw'n cael eu cam-drin. Y bwriad yw ei gyflwyno'n genedlaethol yn hwyrach eleni. Ar ben y cynlluniau hyn, mae peth o'r gwaith ry'n ni wedi'i wneud wedi canolbwyntio ar blant a phobl ifanc i sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw perthynas iach a sut i adnabod problemau.
"Ry'n ni'n cydnabod bod lle i wella o hyd mewn rhai meysydd a byddwn yn parhau i ddatblygu'r sylfeini sydd wedi'u gosod eisoes i greu sector gryfach, mwy cadarn i gefnogi unigolion a theuluoedd sydd naill ai mewn perygl neu sy'n ei chael yn anodd ymdopi â chanlyniadau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol."