Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant, Carl Sargeant, wedi galw ar landlordiaid cymdeithasol, cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol i helpu i daclo achosion Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth annerch cynhadledd ar gyfer Cymru gyfan ar y testun, dywedodd Carl Sargeant fod sefydliadau tai mewn sefyllfa dda i helpu i fynd i’r afael ag achosion Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol gan eu bod eisoes yn darparu cymorth hanfodol eang ac amrywiol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cymunedau mai ymyrryd yn gynnar, gweithio mewn partneriaeth a rhannu gwybodaeth oedd yr allwedd i ddod o hyd i ateb i’r broblem.

Ychwanegodd fod angen i landlordiaid cymdeithasol newid diwylliant eu sefydliadau er mwyn rhannu arferion da a’u mabwysiadu.

Dywedodd Carl Sargeant:

"Gall ymateb yn bositif ysgogi newid. Er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd rydw i am sefydlu grŵp llywio a fydd yn edrych ar ganfyddiadau astudiaeth beilot ddiweddar ar ddefnyddio asesiadau risg er mwyn sicrhau bod pob landlord cymdeithasol yn mynd i’r afael â’r diffygion a nodwyd.

"Ymysg pethau eraill, bydd y grŵp yn edrych i weld a oes angen i ni fesur perfformiad o fewn y sector tai cymdeithasol ar Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol."

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Cymunedau:

"Gobeithio y bydd sefydliadau yn edrych yn fanwl ar beth mwy y gallan nhw ei wneud i sicrhau rhoi mwy o sylw i ddioddefwyr yn eu ffordd o weithio a phroffil uwch i Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol."