Neidio i'r prif gynnwy

Mae Carl Sargeant wedi rhoi diolch i sefydliadau yn y sectorau tai a'r Lluoedd Arfog sydd wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r Llwybr Tai ar gyfer Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod y llwybr yw atal digartrefedd ymhlith cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog a'u helpu i ddod o hyd i lety addas.

Mae'n gweithredu un o'r wyth dymuniad a wnaed ym Maniffesto Cymru 2016 y Lleng Brydeinig Frenhinol, sef "Llunio dyfodol gwell i gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru".

Dywedodd Carl Sargeant:

"Rwy'n cymryd o ddifrif ein cyfrifoldeb tuag at yr aelodau hynny o'n cymunedau sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, neu sy'n dal i wneud hynny. Mae eu helpu i ddod o hyd i lety addas yn rhan bwysig o'r pecyn ehangach o gymorth sy'n eu cynorthwyo i ailafael mewn bywyd yn ein cymunedau.

"Byddwn yn parhau â'n gwaith i weithredu'r Llwybr Tai, yn enwedig ymhlith sefydliadau sy'n gweithio ar y rheng flaen o ran digartrefedd. Rydym hefyd yn bwriadu gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth drwy gyhoeddi cyngor i gyn-aelodau'r Lluoedd Arfog. Bydd hyn yn adeiladu ar gynnwys y Llwybr. Caiff y cyngor hwn ei dargedu at y rheini y mae disgwyl iddynt gael eu rhyddhau o'r Lluoedd Arfog yn ogystal â'r rheini sydd eisoes wedi'u rhyddhau. Bydd yn cynnwys cardiau cyngor i'r rheini sy'n ddigartref. Bydd y Llwybr hefyd yn cael ei rannu'n ehangach ymhlith sefydliadau sy'n darparu cymorth i gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.

"Rwy'n ddiolchgar i'r holl sefydliadau sydd wedi gweithio gyda ni ar y datblygiadau hyn. Mewn cydweithrediad â Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog a sefydliadau partner, byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaethau effeithiol i gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.”

Dywedodd Antony Metcalfe, Rheolwr Ardal ar gyfer y Lleng Brydeinig Frenhinol yng Nghymru: 
"Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn croesawu'r Llwybr Tai newydd ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â chymorth tai ar gyfer y gymuned hon yng Nghymru."Gofynnodd y Lleng Brydeinig Frenhinol am lwybr o'r fath yn ein maniffesto ar gyfer etholiad y Cynulliad Cenedlaethol yn 2016, a hynny'n dilyn sgwrs genedlaethol gyda chymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Dywedodd y gymuned wrthym eu bod yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar gyngor tai clir, a'u bod yn aml iawn yn cael cyngor anghyson ynghylch mynediad at dai yn eu hardaloedd lleol a oedd yn peri dryswch iddynt. Dylai'r ddogfen hon helpu i ddarparu gwybodaeth glir i gymuned y Lluoedd Arfog, a dylid ei defnyddio hefyd fel adnodd hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes tai fel bod pawb yn glir ynghylch y cymorth y gellir ei ddisgwyl."