Neidio i'r prif gynnwy

Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant Carl Sargeant wedi diolch i'r grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog am barhau i godi materion sydd o ddiddordeb yn ymwneud Cymuned y Lluoedd Arfog.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn 13eg cyfarfod y grŵp, dywedodd Carl Sargeant bod y grŵp amlasiantaeth hwn yn taflu goleuni gwerthfawr ar anghenion cymuned y Lluoedd Arfog gan nodi ffyrdd posibl o wella’r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu.

Dywedodd Carl Sargeant:

“Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o safon uchel i gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Mae’r Grŵp Arbenigol yn dwyn ynghyd bobl sydd â gwybodaeth fanwl am faterion sy’n effeithio ar y gymuned hon mewn meysydd fel iechyd, addysg a thai.

“Byddwn yn cael trafodaethau cadarnhaol rhwng yr holl aelodau yn y cyfarfodydd ac rwy’n awyddus i hyn barhau, fel bod modd nodi materion sydd o ddiddordeb i gymuned y Lluoedd Arfog a mynd i’r afael â nhw gyda’n gilydd.”