Heddiw, amlinellodd Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei nod uchelgeisiol o ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol.
Wrth gyflwyno Datganiad Llafar i'r Cynulliad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod y £1.3 biliwn a glustnodwyd dros dymor y llywodraeth hon i gefnogi'r gwaith o ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy a chyflawni'r dasg o fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru yn dangos uchelgais y llywodraeth yn y maes hwn.
Mae'r cynlluniau i gyflawni'r nod o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn cynnwys y canlynol:
- Parhau i gefnogi gwaith adeiladu ar gyfer tai cymdeithasol i'r rhai hynny sydd fwyaf agored i niwed drwy gynlluniau dibynadwy sydd eisoes wedi'u profi, gan gynnwys y Grant Tai Cymdeithasol.
- Cefnogi gwaith adeiladu ar gyfer mwy na 6,000 o gartrefi drwy'r cynllun Cymorth i Brynu. Bydd Cam II y cynllun yn sicrhau bod £290 miliwn yn cael eu buddsoddi tan 2021.
- Datblygu rhaglen adeiladu tai fwy uchelgeisiol - sy'n uchelgeisiol o ran cynllun, ansawdd, lleoliad ac effeithlonrwydd ynni y cartrefi y byddwn yn eu darparu.
- Cefnogi amrywiaeth o ddeiliadaethau ar gyfer tai, er mwyn ymateb i ystod eang o anghenion o ran tai.
- Datblygu cynllun Rhentu i Brynu a fydd yn cefnogi'r rhai hynny sy'n dyheu am brynu cartref eu hunain, ond sy'n ei chael yn anodd i gynilo blaendal sylweddol.
- Hybu sawl ffordd o allu perchen ar dŷ am gost fforddiadwy. Yn enwedig ar gyfer pobl sy'n prynu am y tro cyntaf mewn ardaloedd lle y maent yn aml yn methu â phrynu cartref oherwydd bod gwerthoedd yr eiddo lleol yn uchel.
Dywedodd Carl Sargeant:
“Mae adeiladu cartrefi yn sicrhau manteision pwysig sydd yn mynd yn gam ymhellach na dim ond rhoi to uwch pennau pobl. Ochr yn ochr â'r dystiolaeth helaeth fod tai o ansawdd da yn sicrhau manteision iechyd ac addysg i blant ac i deuluoedd, mae adeiladu cartrefi ar gyfer pob deiliadaeth yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar ein heconomi a'n cymunedau.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod yn bwysig i gadw'r stoc o dai cymdeithasol presennol sydd ar gael, a bod y ddeddfwriaeth i ddiddymu'r Hawl i Brynu a'r Hawl i Gaffael eisoes ar y gweill.
“Bydd hyn yn caniatáu inni sicrhau bod tai cymdeithasol fforddiadwy'n cael eu cadw'n ddiogel ledled Cymru, a bydd hefyd yn galluogi cymdeithasau tai a chynghorau i fuddsoddi'n hyderus mewn adeiladu cartrefi newydd” meddai.
Dywedodd Carl Sargeant y byddai Llywodraeth Cymru yn cadw ac yn cryfhau'r perthnasau cadarn â'r cymdeithasau tai, awdurdodau lleol ac adeiladwyr tai preifat.
“Yn y Cynulliad diwethaf, roedd y cytundeb â Chartrefi Cymunedol Cymru wedi chwarae rôl hanfodol i sichrau bod y nod o adeiladu 10,000 o gartrefi fforddiadwy yn cael ei gyflawni. Rydyn ni bellach yn trafod cytundeb tridarn â Chartrefi Cymundedol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau ein bod ni'n llwyddo i gyflawni'r targed newydd. Rwy'n falch iawn o'r hyn yr ydyn ni wedi'i gyflawni hyd yma, ac rwy'n croesawu cyfraniad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
“Rwy'n croesawu eu cyfraniad yn arbennig gan fod yr awdurdodau lleol erbyn hyn yn dechrau ystyried rhaglenni adeiladu eu hunain unwaith eto. Bydda i'n rhoi cyllid ychwanegol i gefnogi eu gweithgareddau adeiladu nhw. Byddwn ni'n cydweithio â'r awdurdodau hyn i nodi'r ffordd orau i gefnogi eu hymdrechion nhw. Ac felly at ei gilydd, rydyn ni'n disgwyl iddyn nhw ddarparu rhyw 500 o gartrefi yn ystod tymor hwn y llywodraeth.”
Ychwanegodd Carl Sargeant y byddai Llywodraeth Cymru'n parhau i weithio'n agos â'r datblygwyr drwy Raglen Ymgysylltu Adeiladwyr Tai i sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn lle deniadol i ddatblygwyr mawr a Busnesau Bach a Chanolig adeiladu tai. Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd sicrhau bod mwy o dir ar gael i'w ddatblygu. Dywedodd:
“Rydyn ni eisoes wedi cynnig datblygu tai ar nifer o safleoedd sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru. Rydyn ni'n parhau i ystyried beth arall y gallen ni ei wneud i ddod o hyd i fwy o dir yn y sector cyhoeddus sy'n addas ar gyfer tai.
“Prif nod ein rhaglen uchelgeisiol yw darparu pobl â thai fforddiadwy, diogel a chynnes mewn cymunedau cynaliadwy. Dw i ddim yn tanbrisio'r heriau y byddwn ni'n eu hwynebu i gyflawni ein targed uchelgeisiol. Ond, rydyn ni'n bwrw ymlaen i gryfhau ein perthnasau sydd eisoes yn rhai cadarn, yn sicrhau bod adnoddau sylweddol ar gael, ac yn ceisio hwyluso gwaith datblygu tai ar hyd a lled Cymru - ac rwy'n hyderus y bydd hyn oll yn ein helpu ni i lwyddo."