Neidio i'r prif gynnwy

Mae Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, wedi cyhoeddi £4.4 miliwn ar gyfer 2017-18 i gefnogi gwasanaethau cynghori rheng flaen a Chyngor ar Bopeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd £2.2 filiwn yn cael ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau sy'n gallu cynnig cyngor uniongyrchol ar fudd-daliadau lles, tai, dyledion, rheoli arian a gwahaniaethu.

Bydd £2.2 filiwn pellach yn cael ei roi i Gyngor ar Bopeth Cymru i weithredu'r cynllun Cyngor Da, Byw'n Well. Mae'r cynllun hwn yn annog teuluoedd sydd â phlant anabl a phobl sy'n byw mewn ardaloedd o amddifadedd ac y mae tlodi'n debygol o effeithio ar eu hiechyd, i fanteisio ar fudd-daliadau. Mae hefyd annog pobl i fanteisio ar fudd-daliadau'n ymwneud â'r dreth gyngor a thai. 

Dywedodd Carl Sargeant:

"Mae gwasanaethau cynghori'n rhan bwysig o'n hymdrechion i fynd i'r afael â thlodi. Maent yn darparu cymorth ymarferol i bobl sy'n cael trafferth gyda'u harian neu angen help gyda'u budd-daliadau neu eu tai. Rwy'n falch o gadarnhau'r cyllid hwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Yn ystod hanner gyntaf 2016-17, ymatebodd sefydliadau cynghori i dros 33,150 o geisiadau am wybodaeth a chyngor, sy'n dangos pa mor fuddiol yw'r gwasanaethau hyn.

"Rwyf hefyd yn falch o fod wedi sicrhau arian i Gyngor ar Bopeth Cymru i weithredu'r cynllun Cyngor Da, Byw'n Well yn 2017-18. Un o brif nodweddion y prosiect hwn yw ei fod yn gweithio ar sail atgyfeiriadau ac yn cael ei ddarparu mewn lleoliadau cymunedol, sy'n golygu ei fod yn cyrraedd grwpiau difreintiedig a phobl sy'n llai tebygol o ofyn am gyngor eu hunain. Ers i'r prosiect hwn ddechrau yn 2012, mae wedi helpu dros 171,000 o bobl."