Neidio i'r prif gynnwy

Bydd rhaglen sy’n helpu rhieni sydd heb waith i allu manteisio ar addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn cael ei hestyn hyd at 31 Mawrth 2020

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r rhaglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE) sydd werth £13.5 miliwn yn targedu rhieni sy’n wynebu anawsterau wrth ddod o hyd i ofal plant ac sydd, yn ei dro, yn eu rhwystro rhag manteisio ar addysg, cyflogaeth neu gyfleoedd i gael hyfforddiant.

Mae rhwydwaith o 43 o gynghorwyr PaCE ar draws Cymru gyfan mewn lleoliadau cymunedol, yn helpu pobl i ddod o hyd i wahanol atebion i oresgyn y rhwystrau i ddod o hyd i ofal plant fel y gallant fynd yn eu blaen a chael gwaith cynaliadwy. Mae’r rhaglen hon sy’n cael ei chyflwyno ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a’r Adran Gwaith a Phensiynau, yn adeiladu ar y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig drwy’r rhaglen Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf. Mae rhaglen yn cael ei chynnig y tu allan i ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf er mwyn ategu prosiectau eraill fel Cymunedau am Waith ac Esgyn.

Aeth yr Ysgrifennydd Cabinet, Carl Sargeant, i ymweld â’r YMCA yn y Barri lle mae cynghorydd PaCE yn gweithio ddwywaith yr wythnos i wneud y cyhoeddiad y bydd y rhaglen yn parhau.

Dywedodd Carl Sargeant:

“Gwyddom fod yna nifer o rwystrau all atal rhieni rhag cael gwaith gan gynnwys y swyddi sydd ar gael sydd ag oriau gwaith hyblyg neu addas a chost ac ansawdd gofal plant.

“Rydyn ni am helpu i greu cymunedau cryf lle mae yna bobl sy’n barod ac yn alluog i weithio.

“Hyd yma, mae cynghorwyr PaCE wedi bod yn effeithiol iawn yn dod o hyd i nifer o atebion i oresgyn y rhwystrau sy’n bodoli i ddod o hyd i ofal plant, ac mae hynny wedi cynnwys annog cyflogwyr i ystyried pobl sy’n rhan o’r rhaglen PaCE yn rhan amser er mwyn eu galluogi i wneud trefniadau gofal plant.

“Mae’n dda gen i felly gyhoeddi y bydd y rhaglen PaCE yn cael ei hestyn hyd at 31 Mawrth 2020 er mwyn helpu rhagor o rieni sydd heb waith i oresgyn y rhwystrau rhag gael gwaith.”