Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, ymrwymodd Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, i barhau i roi cymorth i’r rhaglenni Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth annerch cynhadledd ar y cyd rhwng Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod eu rhaglenni wedi helpu miloedd o deuluoedd ledled Cymru.

Dywedodd ei fod wedi penderfynu ailffocysu’r prosiectau strategol sydd wedi eu comisiynu gan y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn gallu gwneud hyd yn oed yn fwy i gefnogi rhieni, plant a phobl ifanc. Bydd hefyd yn sicrhau bod cysylltiad eglur rhwng gwaith y rhaglen ac atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

Yn ogystal, pwysleisiodd Ysgrifennydd y Cabinet lwyddiant rhaglen Dechrau’n Deg dros y ddegawd ddiwethaf. Dywedodd fod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddyblu nifer y plant sy’n elwa ar y rhaglen wedi’i gyflawni flwyddyn yn gynharach na’r disgwyl ac roedd hynny yn gyflawniad gwych.

Dywedodd Carl Sargeant:

“Yn ystod 2015-16, roedd Dechrau’n Deg wedi cefnogi 38,269 o blant a’u teuluoedd. Roedd hyn yn rhagori ar ymrwymiad gwreiddiol y Rhaglen Lywodraethu i ddyblu nifer y plant a oedd yn elwa ar y rhaglen honno i 36,000 erbyn 2016.

“Mae Dechrau’n Deg yn parhau i wella bywydau plant a theuluoedd sy’n byw yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Bydd awdurdodau lleol yn elwa ar fwy na £76 miliwn o gyllid refeniw yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Ychwanegodd:

“Mae’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf wedi cael canlyniadau rhagorol hefyd. Mae dull y Tîm o Amgylch y Teulu, yn benodol, yn creu teuluoedd mwy cadarn ac yn gwella eu gobeithion o gyflawni deilliannau cadarnhaol yn y tymor hir.

“Mae tystiolaeth o brosesau gwerthuso wedi dangos bod y rhaglen wedi arwain at newidiadau sylfaenol i ddiwylliant gwasanaethau a’r ffordd y cânt eu comisiynu. Mae hyn wedi cyfrannu’n uniongyrchol at sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn ateb anghenion teuluoedd.

“Rwy’n hynod falch o’r rhaglenni Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf ac mae’r egni, yr awydd a’r ymrwymiad aruthrol sydd wedi cael eu dangos wrth ddarparu’r rhaglenni hyn wedi gwneud cryn argraff arnaf.”