Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, wedi cyhoeddi ei fod yn sefydlu grŵp arbenigol i ystyried yr holl wersi sy'n codi o ganlyniad i drychineb Tŵr Grenfell, a sut y maent yn berthnasol i Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daeth y cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet wrth iddo roi diweddariad i Aelodau'r Cynulliad ar y camau sy'n cael eu cymryd yng Nghymru yn dilyn y tân yn Nhŵr Grenfell.

Bydd y grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o'r sectorau tai cymdeithasol a'r gwasanaethau tân, a'r Prif Gynghorydd Tân ac Achub i Ysgrifennydd y Cabinet fydd yn cadeirio.

Dywedodd Carl Sargeant:

"Mae pawb, wrth gwrs, wedi’u harswydo wrth weld y digwyddiad trychinebus yn Nhŵr Grenfell yng ngorllewin Llundain yr wythnos ddiwethaf. Rwy'n cydymdeimlo'n fawr â phawb y mae'r digwyddiad wedi effeithio arnynt." 

Dywedodd fod trafodaethau cychwynnol brys wedi'u cynnal â'r holl landlordiaid cymdeithasol preswyl yng Nghymru. 

Dywedodd Carl Sargeant:

"Mae landlordiaid cymdeithasol preswyl Cymru yn berchen ar 36 o flociau o fflatiau sy'n cynnwys saith llawr neu ragor.

"Mae landlordiaid cymdeithasol wedi dweud wrthym ni nad yw'n ymddangos bod unrhyw un o'r rheini yn cynnwys y math o orchudd a oedd wedi'i ddefnyddio ar Dŵr Grenfell. Mae systemau chwistrellu wedi'u gosod mewn saith bloc yng Nghymru, ac wrth gwrs, fel rhan o'r newidiadau a gyflwynwyd fel rhan o Fesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011, byddai'n rhaid i unrhyw flociau newydd neu unrhyw waith adnewyddu i flociau presennol gynnwys system chwistrellu. Cafodd y gofynion eu cyflwyno ar gyfer fflatiau a thai ar 1 Ionawr 2016.

"Bydd gosod system chwistrellu mewn tai newydd ac fel rhan o raglenni adnewyddu yn cyfrannu'n fawr at y gwaith o leihau'r perygl o farwolaeth ac anafiadau oherwydd tân. Mae rhai cynghorau a chymdeithasau tai yng Nghymru eisoes wedi gwneud hyn.

"Rwy'n gobeithio bod hyn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i breswylwyr y safleoedd hynny."

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet y bydd y grŵp arbenigol hefyd yn ystyried pa mor barod fyddai Cymru i ddelio â digwyddiad tebyg i Grenfell pe byddai achos fel hyn yn codi.

Dywedodd:

"Mae angen i ni sicrhau bod gennym y gallu i ddelio â hynny a dysgu unrhyw wersi sy'n codi o'r digwyddiadau yn Llundain.

"Mae fy swyddogion a minnau mewn cyswllt rheolaidd â'r llywodraethau yn Lloegr a'r Alban i sicrhau ein bod yn rhannu gwybodaeth a'r hyn rydyn ni'n ei ddysgu.

"Cam cynnar yn y broses yw hwn ac ni fyddwn yn gwybod y gwir yn llawn am yr hyn a ddigwyddodd yn Nhŵr Grenfell am amser i ddod. Er hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llawn i weithredu ar sail y canfyddiadau hynny, gan wneud popeth y gallwn yn y cyfamser i gadw pobl Cymru yn ddiogel rhag tân."