Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad gan y Prif Weinidog yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones:

“Roedd Carl yn ffrind yn ogystal â chydweithiwr a dwi mewn sioc ac yn drist iawn am ei farwolaeth. Fe wnaeth Carl gyfraniad mawr i fywyd cyhoeddus Cymru a gweithiodd yn ddiflino dros y bobl roedd e’n eu cynrychioli fel Gweinidog ac Aelod Cynulliad.

“Fe fydd e’n golled fawr i ein plaid ac i’r Senedd. Mae fy nghydymdeimladau gyda'i deulu ar yr amser anodd hwn.”