Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb

Cyflwyniadau – Croesawodd Huw Irranca-Davies, AC, y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, yr aelodau i gyfarfod cyntaf Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr (y Grŵp Cynghori). Tynnodd sylw at gamau i gefnogi’r tair blaenoriaeth genedlaethol i ofalwyr, a gyhoeddwyd ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr, ym mis Tachwedd 2017. Trafodwyd pob math o bynciau fel codi proffil gofalwyr di-dâl; amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol; ac annog prosiectau arloesol i gefnogi gofalwyr.

Trafodwyd Cylch Gwaith drafft y Grŵp Cynghori, a chafwyd llu o sylwadau a chynigiwyd diwygiadau i’w hadolygu, er mwyn cytuno arnynt yn y cyfarfod nesaf.

Cafodd cynllun blynyddol y gofalwyr (2018-19) ei gyflwyno, a oedd yn darparu trosolwg o’r grant penodol a’r cyllid a ddyrannwyd i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol gan Lywodraeth Cymru er mwyn bwrw ymlaen i gyflawni yn erbyn y tair blaenoriaeth genedlaethol i ofalwyr yn 2018-19.

Bu’r aelodau yn trafod manteision creu Grŵp Ymgysylltu ac Atebolrwydd newydd a allai helpu a hwyluso mwy o ofalwyr unigol i gymryd rhan yn nhrafodaethau’r Grŵp Cynghori, gan gynrychioli carfanau gwahanol o ofalwyr e.e. gofalu am unigolion â dementia, gofalu am rywun â phroblemau camddefnyddio sylweddau, a gofalwyr ifanc.

Trafodwyd trefniadau cadeirio’r grŵp yn y dyfodol. Nid oedd Cadeirydd wedi’i ddewis eto – ac un opsiwn oedd cael un o swyddogion Llywodraeth Cymru yn Gadeirydd, ac aelod o’r Grŵp Cynghori yn gyd-gadeirydd o bosib.

Awgrymodd yr aelodau bynciau trafod posib yng nghyfarfod nesaf y Grŵp Cynghori, gan gynnwys: seibiant i ofalwyr; adroddiad Ailystyried Seibiant Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru; a sut cafodd cyllid blynyddol £1 filiwn Llywodraeth Cymru ei ddefnyddio i ategu eu gwaith gyda phartneriaethau gofalwyr.

Pwyntiau gweithredu sy’n codi

  • Safbwyntiau a syniadau ar sefydlu’r Grŵp Ymgysylltu ac Atebolrwydd ac aelodaeth ohono;
  • Aelodau i gyflwyno eu syniadau ac/neu enwebiadau ar gyfer rôl cadeirydd y Grŵp Cynghori a chyd-gadeirydd posib.