Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae mwy a mwy o ddiddordeb mewn gwerthu unedau carbon coetir fel ffrwd incwm newydd bosib ar gyfer ffermwyr a pherchnogion tir yng Nghymru. Mae'r canllaw rhagarweiniol hwn yn tynnu sylw at faterion allweddol i reolwyr tir a pherchnogion eu hystyried cyn ymuno â marchnad sy'n newid yn gyflym. Ochr yn ochr â choetiroedd, mae cod carbon yn bodoli ar gyfer mawndir ac mae codau eraill yn cael eu datblygu ar gyfer ardaloedd fel pridd a pherthi, ond mae'r canllaw hwn yn ymwneud â charbon coetiroedd a'r Cod Carbon Coetiroedd yn unig.

Negeseuon allweddol

  • Rhaid i bob fferm a busnes ymroi i leihau allyriadau fel blaenoriaeth. Dim ond er mwyn gwrthbwyso unrhyw allyriadau sy'n weddill, nad oes modd eu hosgoi, y dylid defnyddio credydau carbon.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gwerthu unedau carbon i gwmnïau ac unigolion yn ffynhonnell incwm ddilys i berchnogion a rheolwyr tir. Gallai safbwynt Llywodraeth Cymru ynglŷn â phryd a sut y dylid eu gwerthu newid dros amser wrth i rôl marchnadoedd carbon gwirfoddol mewn cynlluniau sero net barhau i ddatblygu.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn argymell bod tirfeddianwyr yng Nghymru sy'n dymuno cynhyrchu a gwerthu unedau carbon coetir yn defnyddio'r Cod Carbon Coetiroedd.
  • Mae safon Cod Carbon Coetiroedd yn caniatáu i gwmnïau wrthbwyso carbon yn wirfoddol. Gall cwmnïau ddefnyddio unedau carbon fel "credydau" yn erbyn allyriadau.
  • Dim ond trwy blannu coetiroedd newydd y gellir cynhyrchu unedau carbon coetir a rhaid i brosiectau gofrestru cyn dechrau ar unrhyw waith ar y safle.
  • Mae creu coetiroedd a chynhyrchu unedau carbon yn ymrwymiadau tymor hir.
  • Efallai y byddwch am fesur eich gallu atafaelu carbon coetiroedd ar y fferm i wrthbwyso busnes y fferm yn y dyfodol yn hytrach na'u gwerthu fel credydau. Os ydych yn bwriadu gwerthu, cofiwch y gallai prisiau godi neu ostwng. 
  • Dyw Llywodraeth Cymru ddim yn cefnogi cynlluniau nad ydynt yn dilyn y safonau rhyngwladol ar gyfer marchnadoedd carbon.

Beth yw unedau carbon?

Atafaelu carbon yw'r broses o ddal neu dynnu carbon deuocsid o'r atmosffer. Mae coed yn gwneud hyn drwy ffotosynthesis, gan droi carbon deuocsid yn siwgrau sy'n cael eu troi'n bren. Gellir mesur faint o garbon sy'n cael ei dynnu, neu ei atafaelu, mewn unedau. Mae un uned garbon yn cyfateb i dunnell o garbon deuocsid a dynnwyd o'r atmosffer. Gall plannu coed i gynhyrchu a gwerthu unedau carbon fod yn un ffordd o sicrhau incwm o goetir. Mae prynu unedau carbon yn cynnig cyfle i gwmnïau sy'n ceisio gwrthbwyso allyriadau carbon nad oes modd eu hosgoi fel rhan o'u cynlluniau i gyrraedd targedau sero net.

I rai, mae gwrthbwyso carbon yn bwnc dadleuol ac mae eraill wedi codi pryderon y gallai credydau carbon gael eu defnyddio at ddibenion "gwyrddgalchu". Ystyr gwyrddgalchu yw pan fydd cwmnïau'n gwneud honiadau camarweiniol am gynaliadwyedd eu gweithgareddau. Er mwyn osgoi gwyrddgalchu, mae'n bwysig bod cwmnïau'n cymryd camau i leihau allyriadau a ddim yn dibynnu'n llwyr ar wrthbwyso i leihau eu heffaith amgylcheddol. Hefyd, rhaid i gwmnïau sicrhau bod unrhyw ddulliau gwrthbwyso maen nhw'n talu amdanynt yn gadarn ac yn wirioneddol ddal y carbon maen nhw’n honni ei ddal.

Y Cod Carbon Coetiroedd

Mae Llywodraeth Cymru'n argymell bod perchnogion tir yng Nghymru yn defnyddio'r Cod Carbon Coetiroedd gan ei fod yn cydymffurfio â safonau sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol ar gyfer marchnadoedd carbon, ac yn cael ei gefnogi a'i gynnal gan y llywodraeth. Mae'r Cod Carbon Coetiroedd ar waith ers 2011, ac o dan y rheolau mae angen i chi gofrestru cyn dechrau unrhyw waith ar y safle (plannu coed, paratoi tir, ffensys ceirw etc). Rhaid i waith plannu coed fod yn ychwanegol, sy'n golygu mai dim ond pe na bai’r plannu wedi digwydd heb gyllid carbon y dylid cofrestru prosiect plannu. Gallwch ddefnyddio gwefan Cod Carbon Coetiroedd i weld a yw'r coetir rydych chi'n bwriadu plannu arno yn bodloni'r meini prawf. Mae gwahanol rywogaethau o goed, sut maen nhw’n cael eu sefydlu a'r dull o reoli'r tir yn effeithio ar faint o garbon sy'n cael ei atafaelu. Gallwch gyfrifo hyn drwy roi manylion y coetir rydych chi'n bwriadu plannu arno ar daenlen ar wefan y Cod Carbon Coetiroedd. Rhaid i'ch coetir gydymffurfio â Safon Coedwigaeth y DU.

Mae angen i'r coetir rydych chi'n ei greu gael ei asesu gan sefydliad annibynnol er mwyn gwirio a dilysu'r unedau carbon a gynhyrchir. Y lleiafswm arwynebedd y gellir ei ystyried yng Nghymru yw 0.25 hectar. Rhaid talu am y prosesau gwirio a dilysu, felly dylech ystyried cydweithio ag eraill sy'n creu coetiroedd er mwyn rhannu costau parhaus. Efallai y bydd cynllunwyr coetiroedd yn gallu helpu gyda'r math hyn o drefniadau - mae dolen gyswllt i gynllunwyr coetir cofrestredig ar gael yn yr adran dolenni defnyddiol isod. Hefyd, rhaid plannu'r coetir gyda dwysedd o o leiaf 400 coesyn yr hectar, gyda'r gallu i gyrraedd o leiaf 20% o orchudd canopi.

Dan y Cod Carbon Coetiroedd, mae modd gwerthu carbon naill ai fel:

  • Unedau Dyroddi Arfaethedig (PIU) 

    Gelwir hyn yn "farchnad talu ymlaen llaw" ac mae'n addewid i gyflawni o dan y Cod Carbon Coetiroedd. Bydd faint o garbon deuocsid a all gael ei atafaelu yn cael ei amcangyfrifo dros amser, ac mae'r prynwr yn talu ymlaen llaw. Mae’r prisiau a delir am Unedau Dyroddi Arfaethedig fel arfer yn is na'r rhai ar gyfer Unedau Carbon Coetiroedd. Trwy brynu’r Unedau hyn, nid yw prynwyr yn gwrthbwyso eu hallyriadau carbonau yn uniongyrchol ond gallent ddweud eu bod ar y llwybr tuag at fod yn garbon niwtral.
     
  • Unedau Carbon Coetiroedd (WCU) 

    Gelwir hyn yn "farchnad talu trwy amser”. Dyma gredydau am garbon y mae'r coetir wedi'i atafaelu mewn gwirionedd – dros y pum mlynedd flaenorol fel arfer. Mae Unedau Dyroddi Arfaethedig yn cael eu trosi i Unedau Carbon Coetiroedd dros amser wrth i atafaeliad carbon gael ei wirio a'i ddilysu. Gan fod modd i gwmni ddefnyddio Unedau Carbon Coetiroedd i wrthbwyso eu hallyriadau ar unwaith, maen nhw'n dueddol o ddenu pris uwch.

Os byddwch yn cymryd rhan yn y Cod Carbon Coetiroedd bydd angen sicrhau bod eich coed yn cael eu rheoli'n dda fel bod carbon yn cael ei ddal a’i storio gydol cylch oes y prosiect. Dylech gynnal asesiad risg fel rhan o'r broses o ddylunio'r coetir. Mae trefniadau arbennig yn rhan o’r Cod Carbon Coetiroedd i gwmpasu colledion nad oes modd eu hosgoi fel stormydd difrifol neu glefyd coed. Mae'n gwneud hyn drwy greu cyfrif 'clustog' sy'n cadw rhai o'r Unedau Carbon Coetiroedd o bob prosiect mewn cyfrif a rennir lle gellir tynnu unedau i lawr neu eu benthyg i wneud iawn am y colledion hyn (os byddwch chi'n tynnu mwy i lawr nag a daloch i'r cyfrif clustog, yna bydd angen i chi ei ailgyflenwi trwy blannu mwy o goetiroedd neu brynu rhagor o Unedau Carbon Coetiroedd). Nid yw'r glustog yn cynnwys Unedau Dyroddi Arfaethedig. Byddai colledion carbon sydd ddim yn rhai nad oes modd eu hosgoi yn cyfrif fel 'diffyg' ac yn arwain at gosbau, felly efallai yr hoffech ystyried polisi yswiriant ar gyfer y carbon coetiroedd.

Wrth gynhyrchu unedau carbon rhaid ymrwymo i newid defnydd y tir yn barhaol er mwyn ei wneud yn goetir, a hefyd i gynnal y coetir fel storfa neu ddalfa carbon coetiroedd. Wrth blannu coed dylech hefyd ddefnyddio dulliau paratoi tir nad sy'n amharu fawr ddim ar y pridd, er mwyn osgoi rhyddhau gormod o garbon o'r pridd. Bydd hyn yn golygu gorfod ailblannu unrhyw ardaloedd a gollwyd trwy ffactorau fel tân, afiechyd a stormydd i sicrhau parhad credydau carbon sydd wedi eu gwerthu. Mae'r rhain yn ymrwymiadau tymor hir ac, wrth werthu coetir, mae angen i berchnogion tir sicrhau bod darpar brynwyr yn ymwybodol o'r rhwymedigaethau hyn.

Mae rhagor o wybodaeth am y Cod Carbon Coetiroedd y DU (ar woodlandcarboncode.org.uk).

Cadw neu werthu Credydau Carbon Coetiroedd

Bydd angen i chi benderfynu a ydych am werthu eich unedau carbon neu eu cadw at eich defnydd eich hun (neu gymysgedd o'r ddau). Os ydych yn dewis eu gwerthu, maen nhw wedi eu 'tynnu'n ôl' a dim ond y prynwr all ddefnyddio'r unedau hynny ar gyfer gwrthbwyso. Does gennych chi ddim hawliad iddyn nhw yn y dyfodol. Does dim pris sefydlog ar gyfer unedau carbon, ac fe allen nhw fod yn werth mwy neu lai yn y dyfodol.       

Os ydych yn ffermwr, efallai y byddwch am gadw eich unedau nes eich bod yn deall faint o garbon mae'ch busnes fferm yn ei allyrru ac a ydych am eu defnyddio fel credydau i wrthbwyso eich allyriadau eich hun. Hefyd, efallai y bydd angen unedau carbon arnoch yn y dyfodol os oes angen i chi ddangos eich bod yn garbon niwtral, er enghraifft i gwmni rydych yn ei gyflenwi. Ni allwch ddefnyddio'r unedau carbon rydych wedi'u gwerthu neu wedi’u hymrwymo i brynwyr i wrthbwyso eich allyriadau eich hun. Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Cyswllt Ffermio: Carbon (ar busnes cymru).

Mae cynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn cynnwys Camau Gweithredu Cyffredinol sydd â'r nod o atafaelu carbon, gan gynnwys lefel isaf o orchudd coed. Bydd coetiroedd lle mae credydau carbon wedi'u gwerthu yn cyfrif tuag at isafswm gorchudd coed dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, er bod angen cwblhau'r manylion o ran sut y bydd hyn yn effeithio ar gyfraddau talu a sut y caiff cyfraddau atafaelu carbon eu cyfrifo. Dylai hyn fod yn ei le ar gyfer dechrau'r cynllun yn 2025. 

Gallwch werthu Unedau Dyroddi Arfaethedig ac Unedau Carbon Coetiroedd i gwmnïau sy'n ceisio gwrthbwyso eu hallyriadau yn y DU, er mai dim ond Unedau Carbon Coetiroedd y gellir eu defnyddio gan gwmnïau at ddibenion adrodd. Mae Unedau Carbon Coetiroedd yn dueddol o ddenu pris gwell nag Unedau Dyroddi Arfaethedig ond mae'n rhaid i chi aros yn hirach gan fod angen eu dilysu. Gall lleoliad y prosiect, ei fudd i fywyd gwyllt, cymunedau a dŵr hefyd effeithio ar y pris, ac mae prynwyr yn aml yn chwilio am fwy na dim ond gwrthbwyso carbon. Mae rhai sefydliadau'n cynnig gwasanaethau broceriaeth a/neu reoli coetiroedd sy'n gallu cynnwys trefnu gwirio a dilysu credydau carbon a dod o hyd i brynwr. Mae'n gallu bod yn anodd rhagweld pa bris gewch chi am eich unedau carbon. Mae prisiau yn amrywio o £10 i £30 yr uned ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu y gallech dderbyn cyfanswm o rhwng £1,000 a £15,000 yr hectar dros oes y prosiect.

Dim ond i wrthbwyso eu hallyriadau yn y DU y gall cwmnïau ddefnyddio credydau carbon o'r Cod Carbon Coetiroedd. Os ydych yn gwerthu unedau carbon, efallai y byddwch am ystyried a oes manteision gwneud hynny i fusnesau ac unigolion sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Mae rhai cwmnïau'n hoffi cefnogi cynlluniau plannu coed yn eu milltir sgwâr oherwydd bod hyn o help wrth farchnata ac ymwneud â'r gymuned leol. Os byddwch yn gwerthu eich credydau carbon i sefydliadau y tu allan i Gymru, mae'r carbon sy'n cael ei atafaelu yn cael ei gofnodi yn rhestr nwyon tŷ gwydr Cymru ac, ar hyn o bryd, mae’n cyfrif tuag at dargedau hinsawdd statudol Cymru yn hytrach na'r rhan o'r DU y cânt eu gwerthu iddynt. Gallai hyn newid yn y dyfodol, er enghraifft pan fydd y penderfyniadau am gredydau carbon a wnaed yn COP26 yn weithredol.

Os ydych yn dewis gwerthu unedau carbon, eich cyfrifoldeb chi o hyd yw sicrhau bod y coed yn goroesi ac yn parhau i ddal carbon gydol oes eich cytundeb gyda'r prynwr. Os yw'r coed yn cael eu dinistrio gan ddigwyddiadau fel tân, sychder neu stormydd bydd angen i chi blannu rhai newydd yn eu lle i wneud iawn am y credydau a werthwyd.

Pa bethau eraill sydd angen eu cadw mewn cof?

  • Dyw cofrestru i werthu carbon ddim yn golygu caniatâd i blannu coed. Efallai y bydd angen hyn arnoch hefyd (gweler Coetiroedd a fforestyd (ar Gyfoeth Naturiol Cymru).
  • Yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd, gallwch dderbyn cymorth ariannol ar gyfer creu coetiroedd, er enghraifft drwy gynlluniau grant (gweler Coetiroedd a fforestyd (ar Gyfoeth Naturiol Cymru) a pharhau i werthu'r carbon ar yr amod eich bod yn gallu bodloni rheolau ychwanegol y Cod Carbon Coetiroedd. Mae rheolau ychwanegol yn golygu na fyddai'r prosiect wedi mynd rhagddo heb gyllid carbon. Dylech ddefnyddio'r taenlenni ar wefan Woodland Carbon Code i wirio hyn. 
  • Dim ond carbon sy'n cael ei storio drwy greu coetir newydd y gellir ei werthu, a rhaid i brosiectau gofrestru cyn dechrau gwaith ar y safle (plannu coed, paratoi tir, ffensys ceirw etc.).
  • Caiff prosiectau eu monitro neu eu 'gwirio' bob 5 mlynedd i ddechrau ac yna o leiaf bob 10 mlynedd i wneud yn siŵr bod y coed yn tyfu fel y dylent, a bod y prynwr yn ariannu cynllun atafaelu carbon dilys. Os yw pethau'n mynd o chwith, fel achosion o dân neu glefydau, cyfrifoldeb y perchennog tir yw ailblannu.
  • Gall y math o rywogaethau, dwysedd plannu a dull sefydlu i gyd effeithio ar faint o garbon sydd ar gael i'w werthu.
  • Gall prisiau credydau carbon fynd i fyny neu i lawr. Mae Unedau Carbon Coetiroedd yn dueddol o ddenu pris gwell nag Unedau Dyroddi Arfaethedig ond mae'n rhaid i chi aros yn hirach.
  • Gall ffermwyr tenant gofrestru ar gyfer y Cod Carbon Coetiroedd cyn belled â'u bod wedi cael caniatâd gan y perchennog tir.

Mae'r Broses Carbon Coetiroedd yn cynnwys sawl cam, gan gynnwys ymrwymiad parhaus i fonitro a gwirio prosiectau. Mae'r camau'n cynnwys:

  • Cynllunio/Cyn cofrestru
  • Cofrestru
  • Dilysu
  • Monitro
  • Gwirio
  • Parhau i fonitro a gwirio (bob 10 mlynedd dros oes y prosiect)

Dolenni defnyddiol