Mae BLOODHOUND – y car cyflym iawn sydd wedi’i gynllunio i dorri y record 1,000mya a chreu record byd newydd ar gyfer cyflymder ar y tir i’w weld
Mae’r cwmni o Gasgwent – sy’n arbenigo mewn gweithgynhyrchu cyfres o offer codi symudol ysgafn – wedi cynllunio a chynhyrchu system godi bwrpasol ar gyfer y cerbyd i alluogi tîm BLOODHOUND i weithio ar bob rhan o’r car.
Mae gan REID Lifting gysylltiadau agos â’r prosiect, gyda dau o’u peirianwyr yn gwirfoddoli fel llysgenhadon BLOODHOUND STEM ac yn ymweld ag ysgolion i drafod y prosiect ac ysbrydoli’r genhedlaeth newydd ym mesydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianeg a mathemateg.
Bydd disgyblion o Ysgol Wyedean ac Ysgol Gynradd Thornwell yn cael cyfle i weld y car ac yn cael taith o amgylch y ffatri newydd cyn cwsmeriaid tramor a dosbarthwyr REID gael cyfle i wneud hynny yn y Gynhadledd Gwerthiant Rhyngwladol ddydd Iau 15 Mehefin, a’r agoriad swyddogol ddydd Gwener Mehefin 16.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid busnes o £680,000 tuag at ganolfan newydd 45,000 trd sg. y cwmni ar Ystad Diwydiannol Fferm Newhouse. Mae’r buddsoddiad a’r ehangu eisoes wedi creu 23 o swyddi o safon uchel, gan ddod â’r cyfanswm i 44.
Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
“Dwi’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r prosiect ehangu pwysig hwn sydd eisoes wedi creu nifer sylweddol o swyddi newydd yn lleol. Dwi hefyd yn cymeradwyo eu gwaith gydag ysgolion lleol yn annog disgyblion i astudio pynciau STEM ac yn dymuno pob llwyddiant i’r cwmni yn y dyfodol.”
Meddai’r Rheolwr-gyfarwyddwr Nick Battersby:
“Mae’r buddsoddiad yn y cyfleusterau ac yn nyfodol y cwmni eisoes yn gweld canlyniadau, gyda capasiti sylweddol uwch, amseroedd arwain byrrach a gweithlu sydd wedi’u hysgogi. Rydym yn falch iawn o allu dangos ein safle i bartneriaid rhyngwladol, cyflenwyr a’r gymuned leol.”
Mae wedi gweld twf o 50% mewn gwerthiant/trosiant yn y blynyddoedd diwethaf gan ragweld twf o 25% yn y flwyddyn a ddaw.
Mae’r cynnydd yng ngallu’r cwmni yn galluogi iddynt fodloni’r twf cynyddol am eu cynnyrch, sydd wedi’u defnyddio i godi a symud eitemau hynod werthfawr o’r Fatican, y Louvre a’r Amgueddfa Brydeinig.
Mae REID Lifting, sydd wedi elwa o gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddatblygu ei fusnes rhyngwladol bellach yn allforio 45% o’i gynnyrch gyda phrif farchnadoedd UDA, Awstralia, y Dwyrain Canol a Gorllewin Ewrop.