Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad o lenyddiaeth a thrafodaethau wedyn gyda 25 o ddarparwyr/ymarferwyr sgiliau sylfaenol ac arolwg o 200 o ddysgwyr ledled Cymru.

Yr amcanion oedd casglu gwybodaeth am safbwyntiau darparwyr ac ymarferwyr ynghylch yr heriau wrth geisio gwella capasiti sgiliau sylfaenol yng Nghymru a’r goblygiadau allweddol o ran polisi ac arferion yng Nghymru, ynghyd â nodi a thrafod unrhyw argymhellion.

Cyhoeddwyd y Strategaeth Sgiliau Sylfaenol i Gymru, ‘Geiriau’n Galw - Rhifau’n Cyfri’, gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Ebrill 2005, gan osod ymagwedd pum mlynedd i godi safonau llythrennedd a rhifedd yng Nghymru.

Strwythurir y Strategaeth yn ôl deg grŵp blaenoriaeth, a deg ‘thema llorweddol’, sy’n diffinio’r buddiolwyr arfaethedig a phrif feysydd ymyrraeth y Strategaeth.

Adroddiadau

Capasiti sgiliau sylfaenol yng Nghymru: canfyddiadau darparwyr a dysgwyr , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 477 KB

PDF
477 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.