Neidio i'r prif gynnwy

Nod yr adroddiad hwn yw pennu gallu'r farchnad gofal plant presennol i ddarparu ar gyfer y galw posibl am ofal plant yn y dyfodol, yn enwedig pan gyflwynir y Cynnig Gofal Plant newydd.

Roedd hyn yn cynnwys tri phrif gam:

  • Nodi'r cyflenwad gofal plant a lle mae wedi'i leoli
  • Nodi pa ardaloedd yng Nghymru sy'n debygol o fod â galw uwch am ofal plant
  • Cymharu'r cyflenwad a'r galw posibl

Mae'r adroddiad yn ceisio mapio cyflenwad gofal plant ledled Cymru i alw posibl, wedi'i gyfrifo gan nifer y plant o dan 4 oed o fewn pellter teithio rhesymol i leoliadau gofal plant cofrestredig.

O ganlyniad, mae amcangyfrif o argaeledd gofal plant, sef cymhareb y cyflenwad i'r galw, wedi'i gyfrifo fel nifer yr oriau sydd ar gael i bob plentyn yn seiliedig ar ofal plant sydd ar gael yn eu hardal.

Adroddiadau

Capasiti Gofal plant yng Nghymru: mapio'r ddarpariaeth gofal plant yn erbyn y galw posibl amdano , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 7 MB

PDF
7 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Capasiti Gofal plant yng Nghymru: mapio'r ddarpariaeth gofal plant yn erbyn y galw posibl amdano (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 387 KB

PDF
387 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ymchwilydd

Rhif ffôn: 0300 060 4400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.