Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch gwerth £20m ym Mrychdyn yn codi cynhyrchiant yn y rhanbarth ac ynghyd â buddsoddiad Bargen Twf Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru mewn seilwaith, yn caniatáu i'r rhanbarth gyflawni ei uchelgais economaidd, meddai Lesley Griffiths, Gweinidog Gogledd Cymru heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roedd y Gweinidog yn annerch cynulleidfa o fusnesau a oedd yn mynychu digwyddiad Arddangos Ffatri Ddigidol yn y ganolfan fodern ble gwahoddwyd gweithgynhyrchwyr o Gymru i weld offer Gwirio Cynnyrch a Phrosesau (PPV) newydd, a ariannwyd gan y Sefydliad Technoleg Awyrofod (ATI).

Agorodd Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC) Cymru, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru ac a reolir gan Brifysgol Sheffield, ym mis Tachwedd 2019 ac fe'i sefydlwyd i hybu enw da presennol y rhanbarth am ragoriaeth mewn gweithgynhyrchu.  Ar ddechrau'r pandemig chwaraeodd ran bwysig yng nghonsortiwm VentilatorChallengeUK, gyda gweithwyr Airbus yn cynhyrchu 2,000 o beiriannau anadlu yr wythnos yno.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Gogledd Cymru:

Bydd AMRC Cymru yn rhoi hwb i gynhyrchiant drwy sbarduno arloesedd mewn dylunio, gweithgynhyrchu a sgiliau i sicrhau a chynnal swyddi gweithgynhyrchu gwerth uchel i genedlaethau'r dyfodol ddod.

Mae'n gwella enw da Gogledd Cymru fel lle i fuddsoddi a gwneud busnes. 

Mae'n rhoi ffocws i fusnesau, gan gynnwys busnesau bach a chanolig, ar gyfer diogelu eu gallu gweithgynhyrchu yn y dyfodol, nodi a chefnogi'r camau nesaf i ddatblygu gweithlu hyblyg gwydn, gwerth uchel a medrus iawn, sydd yn ei dro yn gallu helpu i ddarparu'r cynhyrchion, y gwasanaethau a'r technolegau sy'n angenrheidiol ar gyfer economi'r dyfodol.

Gall AMRC gefnogi busnesau i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'r angen i ddatgarboneiddio.

Wrth i ni edrych ymlaen at yr adferiad yn dilyn y pandemig, rydym yn gwybod bod y buddsoddiad a wnaed yn AMRC Cymru yn rhoi'r rhanbarth mewn sefyllfa gref ar gyfer y dyfodol.  Rydym eisoes wedi gweld gwaith trawiadol yn cael ei wneud yma, a gwn y byddwn yn gweld llawer mwy o enghreifftiau dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.