Mae’r cynlluniau ar gyfer adeiladu canolfan profi trenau ar hen safle glo brig ym mlaenau cymoedd Dulais a Thawe wedi cymryd cam mawr ymlaen heddiw, gyda chyhoeddi bod Llywodraeth Cymru’n neilltuo £50 miliwn i ddatblygu’r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer y Rheilffyrdd (GCRE).
Bydd y ganolfan profi seilwaith a thechnoleg rheilffyrdd a threnau yn creu cyfleuster unigryw yn y DU ac Ewrop i gefnogi arloesedd diwydiant rheilffyrdd y DU a’r byd, ac yn cynnwys profion ar dechnolegau gwyrdd blaengar. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Chynghorau Cast-nedd Port Talbot a Phowys i ddatblygu cynlluniau ar gyfer y GCRE, a fydd yn cael ei hadeiladu ar safle gwaith Glo Brig Nant Helen yn yr Onllwyn sydd ar hyn o bryd yn cael ei redeg gan Celtic Energy.
Er mwyn cynnal cam cynta’r prosiect, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau benthyciad o £50 miliwn o gyfalaf i Gyngor Powys. Yn gynharach yn y mis, addawodd Llywodraeth y DU hyd at £30 miliwn ar gyfer y prosiect yn ei Chyllideb Wanwyn.
Yn gam nodedig eraill, mae bargen opsiwn tir wedi’i chwblhau ar gyfer safleoedd gwaith glo brig Nant Helen a golchfa’r Onllwyn, sy’n golygu bod Celtic Energy yn rhoi’r holl dir sydd ei angen ar gyfer y prosiect. Caiff cais cynllunio ffurfiol ei gyflwyno’r wythnos hon ar gyfer adeiladu’r ganolfan fodern a phwrpasol ar gyfer profi a dilysu seilwaith, systemau a cherbydau rheilffyrdd. Bydd y Ganolfan yn sbarduno arloesi, buddsoddi a thwf yn y diwydiant trenau yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig a’r byd.
I fynd â’r prosiect yn ei flaen, caiff cwmni GCRE newydd ei greu i droi’r prosiect o fod yn gynllun sy’n cael ei arwain gan y Llywodraeth gyda chefnogaeth diwydiant i gynllun sy’n cael ei arwain gan ddiwydiant gyda chefnogaeth y Llywodraeth.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd:
“Mae hyn gam bras iawn ymlaen yn ein cynlluniau i agor canolfan o fri rhyngwladol gyda’r gallu unigryw i integreiddio ag Ewrop. Bydd y GCRE yn ‘fagned’ pwerus i ddenu diwydiant mawr byd-eang i Gymru. Bydd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau hanfodol a phlatfformau ymchwil, datblygu ac arloesi eang i weithgynhyrchwyr, rheolwyr rhwydweithiau, y diwydiant ehangach, y gadwyn gyflenwi ac academia yn y DU a’r tu hwnt. Bydd yn dod â manteision amlwg uniongyrchol i’n cwmni cenedlaethol, Trafnidiaeth Cymru.
“Trwy gydweithio â’n partneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, byddwn yn darparu swyddi a chyfleoedd hyfforddi o safon uchel fydd yn cefnogi allforion o Gymru am ddegawdau i ddod.”
Cafodd menter ei sefydlu ar y cyd yn 2019 rhwng Llywodraeth Cymru a Chynghorau Powys a Chastell-nedd Port Talbot i ddatblygu a darparu’r prosiect. Mae’r cynigion hyn yn ffrwyth cydweithio â phartneriaid a thrafod ac ymgynghori helaeth â rhanddeiliaid a’r gymuned leol.
Dywedodd Nigel Brinn, Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a’r Amgylchedd yng Nghyngor Sir Powys:
“Rydym yn falch iawn bod Llywodraethau Cymru a’r DU wedi cadarnhau eu bod yn gallu buddsoddi yn y prosiect hynod bwysig hwn ar y ffin â Phowys. Mae pawb yng Nghyngor Sir Powys yn fawr iawn eu croeso i’r cyfle hwn i gynllun mor arloesol ac economaidd fuddiol ar gyfer adfer ac ôl-ddefnyddio’r safle.
“Rydym yn eiddgar i fwrw ymlaen cyn gynted â phosibl â’r prosiect gyda Phartneriaid y Gyd-fenter, Llywodraeth Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot. Rydym yn ymroi’n llwyr i wneud popeth posibl i chwarae ein rhan i ddarparu prosiect sydd o wir werth rhyngwladol.
“Mae llawer yn cydnabod cyfleoedd a photensial y prosiect hwn ac rydym wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod cymaint o fuddiannau â phosibl yn dod i’r rhanbarth. Testun cyffro hefyd yw’r cyfle y bydd y buddsoddiad cychwynnol hwn yn ei greu i weithio â phartneriaid ymchwil a datblygu i sefydlu’r Ganolfan Ragoriaeth hon ar gyfer y Rheilffyrdd.”
Dywedodd Nicola Pearce, Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Amgylchedd ac Adfywio yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot:
“Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Powys wedi gweithio’n galed gyda nifer o bartneriaid i gyrraedd y garreg filltir bwysig hon. Cyn belled â’i fod yn cael caniatâd cynllunio ac ati, bydd y cynllun yn creu canolfan o fri rhyngwladol ar gyfer ymchwil, datblygu a phrofi technoleg rheilffyrdd, ac yn greu cyfleoedd mawr ar gyfer twf economaidd i Gymoedd y De a phob rhan o Gastell-nedd Port Talbot.
“Rydym yn disgwyl ymlaen at barhau i weithio â Llywodraeth Cymru a’n partneriaid eraill i gynnal y prosiect hwn.”
Mae’r cynlluniau hyn yn ychwanegiad pwysig at y strategaeth sy’n cael ei chreu gan Celtic Energy ar gyfer y safle, hynny yn dilyn cymeradwyo eu cynigion adfer yn Ebrill 2020 a chymeradwyo’r ail ganiatâd cynllunio ym mis Gorffennaf 2020.
Dywedodd Will Watson, Prif Weithredwr Celtic Energy:
“Wrth i’n gwaith cloddio glo brig ddod i ddiwedd ei fywyd naturiol, rydym wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau bod y cymunedau lleol yn cael parhau i elwa ar swyddi bras a chynaliadwy wrth i ni arallgyfeirio’n safleoedd o lo i eiddo, twristiaeth ac ynni gwyrdd.
“Rydym yn falch iawn bod prosiect y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Rheilffyrdd wedi cyrraedd carreg filltir bwysig arall ac rydym yn disgwyl ymlaen at barhau â’r berthynas weithio agos â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a’r diwydiant rheilffyrdd i’n helpu i ddarparu canolfan o fri rhyngwladol fydd yn dod â buddiannau i bobl leol a’r byd."
Ychwanegodd Richard Walters, Cadeirydd Celtic Energy:
“Fel rhan o’r prosiect, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y cenedlaethau sydd wedi dibynnu cyn hyn ar y diwydiant glo am waith lleol, yn cael parhau i elwa ar waith cynaliadwy. Bydd cyfleoedd iddynt nawr gefnogi a hyrwyddo’r diwydiant rheilffyrdd sydd ar gynnydd yma yng Nghymru ac ar draws y DU.”