Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth Ken Skates wedi dweud wrth aelodau'r Cynulliad bod y cynlluniau ar gyfer creu canolfan o fri rhyngwladol ar gyfer profi trenau wedi cymryd cam anferthol ymlaen.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ers cyhoeddi ym mis Mehefin 2018 bod yr Achos Amlinellol Strategol ar gyfer Canolfan Ragoriaeth y Rheilffyrdd yng Nghymru, ynghyd ag arian cam nesa' datblygu'r prosiect, wedi'u cymeradwyo, mae camau mawr wedi'u cymryd yn y 12 mis diwethaf.

Mae'r sylw bellach i gyd ar y safle a ffefrir yn Onllwyn/Nant Helen yng Nghwm Dulais.

Gan ffurfio Cytundeb Cyd-fenter â'r awdurdodau sy'n ffinio â'r safle, Castell-nedd Port Talbot a Phowys, mae Llywodraeth Cymru'n chwilio am ddyfodol ar ôl glo ar safle sydd wedi'i adfer yn briodol a'i brynu ar y ddealltwriaeth ei fod wedi'i baratoi'n addas ar gyfer adeiladu'r ganolfan brofi. Bydd hynny wrth gwrs yn gofyn am gytundeb â'r perchennog presennol, Celtic Energy.

Mae Llywodraeth Cymru a phartneriaid y gyd-fenter yn cydweithio hefyd i lunio a chyflwyno cais cynllunio ffurfiol ar gyfer y prosiect. Mae llawer iawn o waith eisoes wedi'i wneud ac mae arolygon o'i effaith ar yr amgylchedd wedi'u comisiynu. Dylai cais cynllunio ffurfiol fod yn barod i'w gyflwyno erbyn dechrau 2020, a bydd yn amodol ar ymgynghori eang â'r gymuned leol a rhanddeiliaid eraill ar y cynigion.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:

"Yn unol â'r ffordd newydd o weithio y mae'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn ei disgrifio, mae'r prosiect hwn yn mynd â ni i gyfeiriad newydd. Yn hytrach nag adweithio i anghenion busnesau unigol, mae hwn yn ymateb i ofynion diwydiant cyfan. Ein nod yw creu canolfan fydd yn denu goreuon y busnes ac yn eu hannog i fwrw gwreiddiau dwfn a gwerthfawr yng Nghymru.

Dywedodd y Cyng. Rosemarie Harris, Arweinydd Cyngor Sir Powys: 

“Rydym yn falch o gydweithio â Llywodraeth Cymru a’n cymdogion, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, ar y prosiect arloesol hwn. Bydd yn golygu bod cyfleuster profi o bwys rhyngwladol yn cael ei adeiladu ym Mhowys.
“Rhaid croesawu’r cyfle i ddod â buddsoddiad mawr i’r rhanbarth a fydd hefyd yn esgor ar fanteision economaidd cysylltiedig. Rydym yn edrych ymlaen at fwrw ymlaen â’r prosiect gan sicrhau bod y cyfle unigryw hwn yn darparu cymaint o fudd economaidd â phosibl.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot:

"Mae'n gyfnod cyffrous ac mae'r awdurdod yn disgwyl ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Powys i gynnal y prosiect. Oherwydd pwysigrwydd anferth y prosiect hwn i'r diwydiant, byddai cael bod yn rhan ohono yn bluen yng nghap yr awdurdod hwn a Chymru gyfan yn wir.

Rhagwelir y bydd angen £100m o fuddsoddiad ar y prosiect. Byddai'n cyflogi rhyw 400 o bobl yn y cam, adeiladu a hyd at 150 o weithwyr parhaol ar ôl i'r ganolfan agor.

Mae'r Gweinidog Trafnidiaeth eisoes wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, i ofyn am eu cefnogaeth. Mae'r Ganolfan yn adlewyrchu'n llwyr amcanion polisi Llywodraeth Cymru a rhai Llywodraeth y DU.