Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn datgelu cynlluniau ar gyfer canolfan profi rheilffyrdd arloesol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wedi denu CAF yma hefyd i adeiladu ein canolfan fodern gyntaf ar gyfer gweithgynhyrchu trenau, mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r galw clir gan bob cwmni rheilffyrdd mawr i sefydlu 'Canolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd'.

Byddai hyn yn cynnig cyflymu y broses arloesi mewn dull bwrpasol, yn profi cerbydau a seilwaith, storio, datgomisiynu, cynnal a gwasanaethu asedau'r diwydiant a'r gadwyn gyflenwi ehangach.  

Dywedodd Ken Skates, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth:

“Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a CAF eu cyfleuster gweithgynhyrchu modern cyntaf ar gyfer trenau yng Nghymru. Mae'r ffatri bron â'i chwblhau, ac mae trenau i'w defnyddio gan bobl Cymru yn dechrau cael eu hadeiladu yno cyn bo hir.

“Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddais fanylion y gwasanaeth rheilffyrdd newydd, trawsnewidiol, carbon isel ar gyfer Cymru a'r Gororau.  

“O ddechrau o'r dechrau ychydig flynyddoedd yn ôl, mae Cymru bellach yn datblygu fel cartref i'r diwydiant rheilffyrdd yn y DU.  Ond megis dechrau yw hyn. Rwyf am i Gymru gael ei chydnabod ledled y DU ac Ewrop fel canolfan bwysig i'r diwydiant rheilffyrdd. Roedd y Cynllun Gweithredu Economaidd yn arwydd o ddull newydd o greu cyfleoedd i ddatblygu ein heconomi. Rwyf bellach yn dechrau pennod newydd o weithredu'r cynllun hwnnw.”

Mae nifer o safleoedd posibl ar gyfer y ganolfan yn parhau i gael eu hystyried, ond mae un yn ymddangos fel yr opsiwn a ffefrir - sef y safle gwaith glo brig nad yw bellach yn cael ei ddefnyddio yn Nant Helen, ar ffin rhwng Powys a Chastell-nedd Port Talbot a safle golchfa Onllwyn sy'n dal i weithio.

Ychwanegodd Ken Skates:

“Mae'r ardal hon ar ben Cwm Dulais wedi bod yn ddibynnol ar y diwydiant glo ers cenedlaethau. Gyda'r cyfnod hwn yn dod i ben, mae posibiliadau enfawr ar gyfer buddsoddi gan ddefnyddio sgiliau presennol a rhai newydd.

“Mae hwn hefyd yn brosiect allai wneud cyfraniad pwysig i gyflawni amcanion Tasglu'r Cymoedd gan gynnig swyddi o safon uchel a'r sgiliau i'w gwneud.

“Rwyf felly wedi gofyn i Lywodraeth Cymru symud ymlaen i gam nesaf datblygu achos busnes, fydd yn golygu parhau i weithio mewn partneriaeth glos.  Rydym yn amcangyfrif y bydd cyfleuster pwrpasol fel hyn yn costio £100 miliwn i'w ddapraru, ac nid  yw'n brosiect allai fynd yn ei flaen heb gymorth lleol, buddsoddiad y sector preifat ac ymrwymiad y gweithgynhyrchwyr, cwmnïau cerbydau, cwmnïau'r rhwydwaith ac amrywiol randdeiliaid eraill i'w gefnogi nawr ac yn y dyfodol.

“Nid wyf am wneud gormod o addewidion ac yna beidio â chyflawni digon. Ond rwyf yn datgan yn gyhoeddus heddiw, os y gallwn grynhoi y brwdfrydedd sylweddol yr ydym wedi'i weld hyd yma, yna byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ymroi i gamau nesaf y prosiect hwn - gan weithio tuag at gwblhau y ganolfan ragoriaeth gyffrous, integredig hon.”