Neidio i'r prif gynnwy

Bydd pencadlys newydd Trafnidiaeth Cymru o fewn adeilad Taff Vale ym Mhontypridd, gan ddod â channoedd o swyddi i’r dref.    

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw y newyddion cyn yr araith fawr gan Ken Skates pryd y bydd yn datgan y bydd yn rhaid i Gymru ddatblygu ei heconomïau rhanbarthol a rhyddhau eu potensial i sicrhau twf economaidd cytbwys ar draws y wlad.  

Bydd Gweinidog yr Economi yn annerch cynulleidfa fusnes yng Ngholeg y Cymoedd yn ddiweddarach heddiw a bydd yn pennu ei weledigaeth am Gymru ffyniannus a diogel.  

Wrth siarad cyn ei araith, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:   
“Rwy’n hynod falch bod Llywodraeth Cymru, yn ystod tymor olaf y Cynulliad wedi helpu bron 150,000 o swyddi yn uniongyrchol ledled y wlad, gyda nifer o gadwyni cyflenwi lleol.  
“Mae hynny wedi helpu inni sicrhau cyfradd diweithdra is na Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon a thwf cyflymach yn y gyfradd gyflogaeth na’r cyfartaledd yn y DU.  
“Fodd bynnag, fel economi rydym yn parhau i wynebu heriau mawr, yn enwedig wrth fynd i’r afael â gwahaniaethau rhanbarthol yn ein heconomi a sicrhau bod y manteision sy’n deillio o dwf economaidd yn decach ledled Cymru.  
“Ers 2010 mae ein dull o wethio wedi canolbwyntio ar ddatblygu prif sectorau ein heconomi yn genedlaethol. Mae hyn wedi arwain at rai llwyddiannau enfawr, yn enwedig ym meysydd gweithgynhyrchu uwch megis awyrofod a’r diwydiannau creadigol.  
“Fodd bynnag, nid yw twf y sectorau hyn a’r swyddi dawnus y maent wedi’u creu wedi bod yn gytbwys ledled Cymru ac felly nawr yw’r amser i ysgrifennu’r bennod nesaf yn hanes economaidd Cymru.  
“Wrth inni fynd i’r afael â heriau’r dyfodol, rwy’n credu bod angen inni ddod o hyd i ffordd wahanol o weithio trwy sicrhau fod pob rhanbarth yng Nghymru yn fwy cystadleuol.  Bydd hyn yn golygu galluogi pob rhanbarth i ddatblygu ei sectorau arbenigol ei hunain a’u nodweddion economaidd penodol eu hunain.  
“I gyd-fynd â hyn mae angen inni newid ein strwythurau datblygu economaidd o fewn y llywodraeth i weithio mewn partneriaethau agosach â’r rhanbarthau hynny, gan ddefnyddio sbardunau megis sgiliau, cysylltedd trafnidiaeth, caffael a’r seilwaith digidol i gyflymu twf economaidd yn yr ardaloedd hynny.  
“Y ffordd o fynd i’r afael â’r gwahaniaethau rhanbarthol hyn yw nid i droi ardaloedd yn erbyn ei gilydd, ond i gydweithio i sicrhau fod pawb yn rhannu manteision y twf hwn. Mae’n gwestiwn o degwch a dyna pam yr wyf eisiau datblygu economïau rhanbarthol Cymru a rhyddhau eu potensial i sbarduno twf mwy cytbwys ledled y wlad. Dyma’r unig ffordd y gallwn gadw at ein haddewid o swyddi gwell yn nes at adref a sicrhau fod pob ardal o Gymru yn gallu gwrthsefyll yr heriau economaidd y byddwn yn eu hwyneb dros y blynyddoedd nesaf yn well. 
“Heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi y bydd pencadlys newydd Trafnidiaeth Cymru yn dod â channoedd o swyddi o safon uchel i’r ardal.  
“Mae hyn yn newyddion gwych i’r dref, ond mae angen i hyn fod yn ddechrau ar rhywbeth mwy.  Mae angen inni hefyd gydweithio â phartneriaid o fewn yr awdurdodau lleol a’r sector preifat, yn ogystal â cholegau a phrifysgolion lleol i sicrhau bod y swyddi hyn yn sbarduno adfywiad a llewyrch ehangach yn lleol.
“Yn hwyrach heddiw byddaf yn cyfarfod pobl ifanc sy’n hyfforddi yn y ganolfan peirianneg rheilffyrdd yng Ngholeg y Cymoedd, partneriaeth gwerth £3miliwn rhwng Llywodraeth Cymru a’r coleg ac enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth a chynllunio ymlaen sy’n allweddol i lwyddiant economaidd rhanbarthol. 
“Trwy edrych ymlaen at y cyfleoedd sy’n codi o’r £1 biliwn a mwy y byddwn yn ei wario ar drydaneiddio, y Metro a’r masnachfraint rheilffyrdd, mae’n rhaid inni gydweithio i sicrhau bod mwy o fanteision y gwariant hwn yn aros yn ein cymunedau lleol a’u bod o fudd i’r cadwyni cyflenwi lleol.  
“Rydym yn wynebu heriau economaidd mawr, fydd yn cynyddu wedi inni adael yr UE, ansicrwydd byd-eang, a thoriadau lles a chyni gan Lywodraeth y DU.  
“Mae’n rhaid ymateb drwy gydweithio a datblygu economïau rhanbarthol mwy cadarn os ydym i greu economi gryfach a thecach i bawb ym mhob ardal o Gymru.”
Mwy o wybodaeth: Trafnidiaeth Cymru (dolen allanol).