Mae Canolfan LifePoint wedi’i hehangu a’i hadnewyddu gyda chymorth £308,768 gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru sy’n cyfateb i ghyfraniad yr Eglwys ei hun.
Mae Canolfan LifePoint wedi’i hehangu a’i hadnewyddu gyda chymorth £308,768 gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru sy’n cyfateb i ghyfraniad yr Eglwys ei hun.
Yn agoriad swyddogol Canolfan Lifepoint, dywedodd Carl Sargeant, yr Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant:
"Rwy wedi mwynhau cwrdd â staff a gwirfoddolwyr y ganolfan a chael cyfle i weld y gwaith sydd wedi'i wneud o ganlyniad i'r grant gan y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol.
"Bydd y ganolfan mewn sefyllfa dda i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn ogystal â chyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddi yn y dyfodol. Bydd yr ystod o weithgareddau a fydd ar gael hefyd yn rhoi cyfle i bobl o bob oed gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd.
“Mae’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn gwneud llawer mwy na gwella adeiladau. Mae’r Rhaglen yn magu hyder pobl leol i allu cymryd mwy o ran yn eu cymunedau mewn modd sy’n gwella’u bywydau bob dydd.
"Mae’r rhaglen wedi darparu cyfanswm o dros £16 miliwn o bunnau i 60 o brosiectau ar draws Cymru hyd yn hyn.”