Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog dros Gymunedau a Phlant, wedi cyhoeddi cyllid o £400,000 yn 2017-18 i helpu Cymru Well Wales i sefydlu canolfan i fynd i'r afael ag effaith profiadau niweidiol mewn plentyndod (ACE).

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod plant sy'n profi plentyndod anodd ac o ansawdd gwael yn fwy tebygol o fod ag iechyd meddwl gwael a datblygu problemau iechyd hirdymor wrth iddynt dyfu'n oedolion.       

Diben y ganolfan yw helpu sefydliadau, cymunedau ac unigolion ar draws Cymru i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol mewn plentyndod drwy ddwyn ynghyd bobl sydd â gwybodaeth, sgiliau a phrofiad yn y maes hwn.

Dywedodd Carl Sargeant:

"Mae profiadau niweidiol mewn plentyndod yn fygythiad mawr i les a ffyniant economaidd, ac mae'r ganolfan hon yn rhan o raglen waith ar draws y Llywodraeth yn y maes hwn a arweinir gan Cymru Well Wales.

“Rydyn ni'n cydnabod bod ymyrryd yn gynnar yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles yn y tymor hir. Fel llywodraeth, rydym am sicrhau bod ein polisïau'n mynd i'r afael â'r problemau sylfaenol sy'n gallu arwain at brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac sy'n cael effaith hirdymor ar ddyfodol plant."

"Rydym yn gwybod mai darparu amgylchedd diogel a chefnogol ar gyfer ein plant yw'r ffordd orau o sicrhau ein bod yn magu oedolion mwy iach a hapus sy'n cyfrannu at eu cymunedau a'r economi. Bydd y ganolfan yn cynyddu ein dealltwriaeth o brofiadau niweidiol mewn plentyndod a sut allwn gydweithio i helpu i leihau nifer y plant sy'n cael profiadau o'r fath."

Dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

"Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ymchwil yn y maes hwn sy'n pwysleisio'r cysylltiad rhwng profiadau niweidiol mewn plentyndod a phroblemau iechyd hirdymor. Mae'n hanfodol bod plant yn cael dechrau iach ym mhob agwedd ar eu bywyd er mwyn atal problemau iechyd a chymdeithasol hirdymor yn y dyfodol."

Ychwanegodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd dros Addysg:

"Mae ymchwil yn dangos bod gan blant sydd â lefelau uwch o les emosiynol, ymddygiadol, cymdeithasol ac addysgol, lefelau uwch o gyrhaeddiad academaidd ar gyfartaledd. Yn ogystal â gwella iechyd a lles plant, bydd lleihau profiadau niweidiol mewn plentyndod yn gwella ymddygiad plant yn yr ysgol, eu cyrhaeddiad addysgol a hefyd eu gallu i gael swydd yn y dyfodol."