Mae Carpeo Business Process Outsourcing, busnes gwasanaethau cwsmeriaid llwyddiannus, wedi lansio adran newydd, Carpeo Estate Planning.
Lleolir y busnes newydd mewn canolfan gyswllt newydd yng Nghasnewydd a’i nod yw creu 300 o swyddi gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
Mae’r cwmni, a reoleiddir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, yn cyflogi 250 o bobl yn Swindon a bydd yn agor y gangen newydd ym Mharc Cleppa, Dyffryn.
Ystyriwyd lleoliad yn Teeside yn wreiddiol ond sicrhaodd Llywodraeth Cymru i’r busnes ddod i Gymru drwy gynnig cymorth cyllid.
Bydd y ganolfan yn agor ym mis Mehefin ac mae’r busnes wrthi ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer 24 o swyddi ar bob lefel, i’w llenwi erbyn dyddiad y lansiad, gan godi i 60 erbyn diwedd y flwyddyn ac i 300 erbyn 2022.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
“Dyma fuddsoddiad cyntaf Carpeo yng Nghymru ac rwy’n hynod o falch bod y cwmni hwn yn ymuno â sector bywiog a llewyrchus sy’n cyflogi mwy na 30,000 o bobl mewn dros 200 o ganolfannau yng Nghymru.
“Mae gan Carpeo gynlluniau twf uchelgeisiol ac mae’n bosibl y bydd yn buddsoddi ymhellach yng Nghymru o’u herwydd. Felly, rwy’n croesawu eu bwriad i agor busnes newydd yng Nghasnewydd a fydd yn creu amrywiaeth o swyddi a chyfleodd hyfforddiant i bobl leol."
Dywedodd Mike Minahan, Prif Swyddog Gweithredol Carpeo Estate Planning:
“Drwy fod yn aelod o fwrdd Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru dros y 15 mlynedd diwethaf, rwy’n gwybod bod gan Gymru nifer o fanteision cystadleuol i’w cynnig i fusnesau canolfannau cyswllt. Mae rhinweddau’r bobl sydd ar gael, a’u profiadau o weithio ym marchnad y gwasanaethau a reoleiddir, yn fantais enfawr. Yn ogystal, mae acen pobl Cymru yn gydymdeimladol a chysurlon, rhywbeth sy’n bwysig iawn yn ein marchnad ni.
"Rydym yn falch dros ben o gael cynnig swyddi â thâl da, a chyfleodd gwaith, i Gasnewydd.”
Am ffi fach fisol, mae pobl sy’n aelodau o wasanaeth newydd Carpeo Estate Planning, sy’n seiliedig ar danysgrifiad, yn gallu manteisio ar wasanaethau fforddiadwy ar gyfer ysgrifennu ewyllys neu drefnu angladd. Gall aelodau hefyd ddefnyddio porthol disgownt er mwyn arbed miloedd o bunnau bob blwyddyn ar gyfer eu siopa cartref, gan gynnwys yn archfarchnadoedd Tesco, Sainsbury’s, Morrisons ac Asda.
Defnyddir meddalwedd arloesol ddibynadwy i adnabod y bobl hynny y mae’r adnoddau a’r gwasanaethau hyn yn arbennig o berthnasol ar eu cyfer ac sydd wedi profi anawsterau wrth weithredu ystad diewyllys. Mae marchnad bosibl o 3 miliwn o bobl wedi’i nodi.
Dywedodd Sandra Busby, Rheolwr Gyfarwyddwr, Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru:
“Mae’r cyhoeddiad hwn yn dangos unwaith eto bod Cymru yn gartref deniadol ar gyfer y busnesau canolfannau cyswllt mwyaf arloesol. Dros y ddau ddegawd diwethaf rydyn ni wedi gweithio i sicrhau mai Cymru yw dewis cyntaf sefydliadau sydd am redeg canolfan gyswllt lwyddiannus.”
Tyfodd trosiant Carpeo i £9.4M yn ystod y flwyddyn ariannol hon ac mae ganddo gynlluniau i’w gynyddu’n gyflym i £20M dros y pedair blynedd nesaf drwy ehangu i Gymru a rhannau eraill o’r DU.
Mae Carpeo Estate Planning yn cydweithio â Hugh James, darparwr mwyaf y DU ar gyfer gwasanaethau ysgrifennu ewyllysiau; Golden Leaves, arweinydd y farchnad o ran darparu cynlluniau angladd, a Broomfield & Alexander, cwmni cynghori proffesiynau.