Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates wedi rhoi canmoliaeth i 'ddatblygiad gwych' safle Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru gwerth £84 miliwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y darnau olaf o ddur yn cael eu gosod yn eu lle yr wythnos hon i gwblhau'r fframwaith dur sy'n pwyso 4,600 tunnell wrth i safle ICC Cymru gael ei gwblhau cyn agor yn ystod yr haf y flwyddyn nesaf. Cynhadledd Asiantaeth Ofod y DU rhwng 9-11 Gorffennaf fydd y digwyddiad cyntaf i'w gynnal yn y ganolfan newydd. 

Bydd ICC Cymru yn cynnwys hyd at 5,000 o gynadleddwyr o fewn 26,000 metr sgwâr, sy'n ei gwneud y ganolfan fwyaf o'i bath yng Nghymru a de-orllewin Lloegr.

Ar ymweliad i weld y datblygiadau ar y safle, dywedodd Mr Skates, Gweinidog yr Economi:

"Mae'r gwaith sydd wedi'i wneud hyd yma'n pwysleisio pa mor dda yw'r prosiect hwn. Bydd Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yn ased eiconig, mawr i Gymru, gan ein galluogi i gystadlu ag unrhyw leoliad yn y DU a thu hwnt i ddenu amrywiol ddigwyddiadau pwysig fydd yn gwneud cyfraniad enfawr i'n heconomi.

"Mae eisoes yn rhoi cyfleoedd i fusnesau lleol drwy'r cyfnod adeiladu, ond bydd manteision economaidd y ganolfan gynadledda newydd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r adeilad newydd ei hun. Daw twristiaeth busnes â manteision amrywiol iawn, a bydd y ganolfan newydd yn caniatáu inni adeiladu ar ein henw da yn rhyngwladol fel rhai sy'n cynnal digwyddiadau mwyaf y byd.

"Bydd y prosiect hwn yn gwneud datganiad enfawr ar hyd goridor yr M4 ynghylch uchelgais gyffredin Llywodraeth Cymru a Gwesty'r Celtic Manor, ac rwy'n falch iawn bod popeth ar y llwybr iawn i gynnal digwyddiadau mawr, gan ddechrau gyda Chynhadledd Asiantaeth Ofod y DU yn 2019."

Bydd ICC Cymru yn cynnwys awditoriwm a neuadd arddangos 4,000 metr sgwâr fydd y neuadd ddawns heb bileri fwyaf yn Ewrop.

Mae'r lleoliad yn newid mawr o ran capasiti i Gymru ac i Westy'r Celtic Manor, i gynnwys digwyddiadau corfforaethol pwysig yn fyd-eang a chynadleddau corfforaethol, ac i adeiladu ar yr enw da a sefydlwyd drwy gynnal Cwpan Ryder ac Uwchgynhadledd NATO yn ystod y ddegawd ddiwethaf. Mae Llywodraeth Cymru a'r Celtic Manor yn bartneriaid 50:50 yn y prosiect hwn. 

Meddai Prif Weithredwr Gwesty'r Celtic Manor a Phrif Weithredwr ICC Cymru: 

"Bydd ICC Cymru yn newid y sefyllfa yng Nghymru ac mae'n gyfle unwaith mewn oes i'r wlad elwa o dwristiaeth busnes.

"Mae'r diwydiant digwyddiadau yn werth oddeutu £42 biliwn i economi'r DU. Mae hynny yn swm enfawr a dim ond 1.5% yw cyfran Cymru o hynny nawr gan nad oes gennym y lleoliad neu'r seilwaith. Bydd ICC Cymru yn newid hynny.

"Rydyn ni wrth ein boddau gyda sut y mae'r gwaith adeiladu yn datblygu, ac roedd yn bleser dangos y lle i Ysgrifennydd y Cabinet, gan ddangos yr hyn fydd yn lleoliad ysbrydoledig wrth iddo ddechrau dod i fodolaeth."