Neidio i'r prif gynnwy

Mae Canolfan Gymorth Gymunedol newydd yn agor yng Nghanolfan Siopa Aberafan heddiw i ddarparu cymorth, arweiniad a chyngor ar ailhyfforddi i unigolion a busnesau y mae penderfyniad Tata Steel UK i ddefnyddio dulliau mwy gwyrdd o wneud dur ym Mhort Talbot yn effeithio arnynt.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cyfleuster, sy'n cael ei agor gan undeb Community, gyda chymorth ariannol Llywodraeth Cymru, yn cefnogi ac yn darparu cyngor pwrpasol i Tata a gweithwyr y gadwyn gyflenwi, eu teuluoedd a busnesau yr effeithir arnynt yn ogystal ag un pwynt cyswllt corfforol.

Bydd hyn yn cynnwys cyfeirio pobl at gymorth sydd ar gael gan y Gronfa Cymorth Cyflogaeth. Caiff y gronfa hon ei chefnogi gan £13.5 miliwn sydd wedi’i ryddhau gan Lywodraeth y DU o Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot. Bwriad y Gronfa yw helpu gweithwyr unigol i ddod o hyd i swyddi, dysgu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau mewn meysydd lle y mae swyddi gwag.

Bydd gwybodaeth a chymorth allweddol ar gael gan gynghorwyr o amrywiaeth o asiantaethau a sefydliadau, gan gynnwys Cyflogadwyedd Castell-nedd Port Talbot, Gyrfa Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau, UKSE ac Acorn.

Bydd y Ganolfan Gymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener i bawb sy’n wynebu penderfyniad Tata i ddod â chynhyrchiant dur cynradd i ben ym Mhort Talbot, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio mewn cwmnïau’r gadwyn gyflenwi a'r rhai sy'n byw y tu hwnt i ardal Castell-nedd Port Talbot.

Wrth ymweld â'r Ganolfan Gymorth Gymunedol heddiw, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Chadeirydd Bwrdd Pontio Tata, Jo Stevens:

Bydd y ganolfan arloesol hon yn gweithredu fel siop un stop i helpu i ddarparu cymorth i’r gweithwyr y mae'r newidiadau yn Tata yn effeithio arnynt.

Rwy'n benderfynol o wneud popeth yn fy ngallu i gefnogi’r gweithwyr a’r busnesau y mae'r newidiadau yn Tata Steel yn effeithio arnynt. Dyna pam mae'r bartneriaeth newydd hon o lywodraethau, undebau a'r cyngor lleol yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod y dref yn cael yr hyn sydd ei angen arni.

Mae'r cyllid gan Lywodraeth y DU, drwy'r Bwrdd Pontio, eisoes yn gwneud gwahaniaeth. Rydym yn gwybod bod llawer iawn o waith i'w wneud o hyd, ond rydym eisoes wedi gweld pobl yn llwyddo i ddod o hyd i swyddi newydd o ganlyniad uniongyrchol i'r £13.5 miliwn a ddarparwyd gennym.

 Hefyd wrth ymweld â'r Ganolfan Gymorth, dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

Byddai'n well gennym i gyd fod mewn sefyllfa lle nad oedd angen y Ganolfan Gymorth Gymunedol hon. Ond, mae'n bwysig ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd wrth inni edrych tua'r dyfodol a sicrhau bod y gefnogaeth orau ac ehangaf bosib yno i bobl sy'n gorfod dygymod â phenderfyniadau Tata.

Bydd y Ganolfan hon - sy'n cael ei hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru - yn darparu hynny’n union. Bydd yn gweithio ochr yn ochr â'r hybiau cyflogadwyedd sydd eisoes wedi'u sefydlu a'r cyllid sy'n cael ei ddarparu gan gronfa bontio £80 miliwn Llywodraeth y DU.

Byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu, ochr yn ochr â'n partneriaid ar y Bwrdd Pontio, i ddarparu'r cymorth a'r gefnogaeth gywir i bawb sydd eu hangen.

Mae tua 2,800 o weithwyr Tata yn wynebu diswyddiadau ledled y DU wrth i'r cwmni bontio i ddulliau mwy gwyrdd o wneud dur.

Yr wythnos diwethaf, roedd y cwmni wedi rhoi'r gorau i weithrediadau yn ffwrnais chwyth 4 ynghyd ag asedau gwneud dur a haearn cysylltiedig eraill, gan ddod â'r  gwaith o wneud haearn ar safle Port Talbot i ben. Bydd cynhyrchu dur ar y safle yn ailddechrau yn 2027 drwy fuddsoddi £1.25 biliwn mewn ffwrnais arc trydan i wneud dur, gan ddefnyddio dur sgrap o'r DU.

Dywedodd Roy Rickhuss CBE, Ysgrifennydd Cyffredinol undeb Community:

Rwy'n hynod ddiolchgar i'r holl sefydliadau sydd wedi dod at ei gilydd i helpu i sefydlu ein Canolfan Wasanaethau hanfodol. Mae cyfnod anodd o'n blaenau, ond mae'r fenter hon yn dangos ein bod yn dal i gofio am bobl Port Talbot ac y gallwn, drwy gydweithio, sicrhau gwell yfory i bawb y mae'r diswyddiadau yn Tata Steel yn effeithio arnynt.

Dywedodd llefarydd dros Tata Steel:

Rydym yn ymwybodol iawn o effaith ein rhaglen ailstrwythuro gyfredol ar weithwyr, partneriaid, contractwyr a'r gymuned ehangach.

Fel rhan o'n cyfraniad o £20 miliwn i gronfa'r Bwrdd Pontio, rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r gost o sefydlu, adnewyddu a rhedeg y Ganolfan Gymorth yma yng Nghanolfan Siopa Aberafan er mwyn sicrhau bod cymorth ar gael i bawb sydd ei angen.

Gwahoddir busnesau'r gadwyn gyflenwi y mae'r newid i wneud dur drwy ddefnyddio ffwrnais arc trydan ym Mhort Talbot yn effeithio arnynt i geisio cyllid i oresgyn heriau tymor byr yn ystod y cyfnod pontio, yn ogystal â helpu busnesau i ailffocysu wrth baratoi ar gyfer cyfleoedd twf newydd.

Mae Cronfa Hyblyg Pontio'r Gadwyn Gyflenwi sy'n cael ei hwyluso gan Busnes Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot yn rhan o gronfa gymorth gyffredinol gwerth £80 miliwn a ddarperir gan Lywodraeth y DU drwy'r bwrdd pontio trawslywodraethol.

Mae canolfan wybodaeth ddigidol yn gallu cyfeirio’r gweithwyr a’r busnesau perthnasol at gymorth yn Hyb Gwybodaeth Pontio Tata Steel - Cyngor Castell-nedd Port Talbot (npt.gov.uk).