Rydym yn datblygu cynigion ar gyfer cyfleuster profi rheilffyrdd modern yn y De.
Cynnwys
Crynodeb
Statws y Prosiect: cynllunio
Rhanbarth/sir: De Cymru
Dyddiad cychwyn: diwedd 2017
Dyddiad Cau: 2023/2024
Cost: tua £150m
Partneriaid: Cyngor Castell-nedd Port Talbot a chyngor Powys
Beth rydyn ni’n ei wneud
Rydym yn datblygu cynigion ar gyfer canolfan profi rheilffyrdd. Bydd hyn yn sicrhau profion ar gerbydau a’r seilwaith. Fe’i lleolir ym mhwll glo wyneb Nant Helen a golchfa glo Onllwyn ym mhen uchaf Cwm Dulais a Thawe.
Mae cynigion ar gyfer pwll glo wyneb Nant Helen yn cynnwys:
- trac trydan allanol cyflymder uchel (6.9km) i brofi cyflymderau hyd at 110mya
- trac trydan mewnol cyflymder isel (4.5km) i brofi cyflymderau hyd at 40mya
- amgylchedd platfform ddeuol
Mae cynigion ar gyfer safle golchfa Onllwyn yn cynnwys:
- canolfan ymchwil, datblygu, addysg a hyfforddi/cynadledda
- canolfan/swyddfa gweithrediadau a rheoli
- cyfleusterau staff
- storio cerbydau/cilffyrdd
- cyfleuster cynnal a chadw cerbydau
- seilwaith cyfarpar llinellau uwchben 25kv
Bydd y seilwaith yn cynnwys:
- llwybrau mynediad
- maes parcio i staff
- system ddraenio
- goleuadau
- cysylltedd uwch ar gyfer cyfathrebiadau symudol ac ar dir
- teledu cylch cyfyng
- ffensiau perimedr/diogelwch (a all gynnwys rheoli sain yn ôl y gofyn)
- uwchraddio cysylltiad ac arwyddion llinell cangen Castell-nedd ac Aberhonddu.
Pam rydym yn ei wneud
Rydym am ddarparu canolfan ragorol yn y DU ar gyfer profi trenau. Rydym yn hyderus y bydd y ganolfan yn denu buddsoddwyr. Bydd yn darparu gwasanaeth hanfodol i weithgynhyrchwyr trenau yn y DU a thramor, gweithredwyr rhwydwaith, y diwydiant ehangach a’r gadwyn gyflenwi. Am ddegawdau i ddod bydd:
- yn sicrhau bod gwasanaethau i deithwyr a chludwyr nwyddau yn cael eu datblygu’n gyflym
- yn sicrhau effeithlonrwydd sylweddol ar gyfer y diwydiant
- yn cyflymu prosiectau arloesol a chefnogi allforion Cymru a’r DU
- yn darparu swyddi a hyfforddiant o ansawdd uchel yn lleol
Cynnydd presennol
Rydym wedi ymrwymo i Gytundeb Menter ar y Cyd gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Powys. Mewn partneriaeth, rydym yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu uwchgynllun. Gan weithio gyda phartneriaid yn y diwydiant rydym wedi datblygu cynllun busnes manwl. Bydd hyn yn ein galluogi i fwrw ymlaen â’r prosiect.
Rydym wedi gofyn i lywodraeth y DU gadarnhau ei chymorth ac ymrwymo cyllid i helpu i gyflawni’r prosiect hwn.
Mae cais cynllunio Celtic Energy ar gyfer cloddwaith wedi’i gymeradwyo yn haf 2020. Gellir addasu’r tir i’w ddefnyddio yn y dyfodol gan gynnwys fel cyfleuster profi a storio.
Sut ydym yn ymgynghori
Gwnaethom ymgynghori ar gynigion yn hydref 2019.
Rydym wedi yn cynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio am gyfnod o 4 wythnos yn hydref 2020.
Yr Amserlen
Ymgynghoriad cyhoeddus: hydref 2020
Cyflwyno cais cynllunio: diwedd 2020
Cymeradwyaeth cynllunio: diwedd 2020
Paratoi / adeiladu’r safle: 2021 i 2023
Achredu / dilysu: 2021 i 2023
Gweithredu Cam 1: 2023
Yn llwyr weithredol: 2025
Y camau nesaf
Yn dilyn yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio, byddwn yn cwblhau’r cynlluniau terfynol ac yn cyflwyno cais cynllunio.