Mae prosiect gwerth £4 miliwn ar gyfer trawsnewid camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn ganolfan antur wedi derbyn cyllid gan yr UE.
Ymwelodd y Gweinidog Twristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas, â basn camlas Pantymoile, Pont-y-pŵl, yr wythnos hon er mwyn cyfarfod â phartneriaid y prosiect a gweld y cynlluniau.
Mae'r prosiect ar y cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Glandŵr Cymru - Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru, yn rhan o raglen ehangach o Gyrchfannau Denu Twristiaeth a gyllidir gan Lywodraeth Cymru a'r UE, ac a arweinir gan Croeso Cymru, sy'n anelu at greu 11 o gyrchfannau arbennig ar draws Cymru. Nod prosiect Triongl Antur Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yw datblygu hamdden awyr agored, twristiaeth a gweithgarwch hamdden ar hyd camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn Nhorfaen a Chaerffili a chysylltu ag ucheldir Mynydd Maen.
Trwy fuddsoddi mewn seilwaith a chanolfannau i ymwelwyr sydd gerllaw bydd y prosiect yn datblygu'r posibiliadau economaidd sydd ynghlwm wrth y gamlas fel lleoliad o fri i ymweld ag ef, i fyw ynddo ac i weithio ynddo. Bydd yn sbarduno buddsoddiad a chyfleoedd gwaith ar gyfer cymunedau lleol. Caiff ymwelwyr eu hannog i roi cynnig ar chwaraeon antur drwy fanteisio i'r eithaf ar yr ucheldir naturiol a'r dreftadaeth gyfoethog sy'n bodoli rhwng Torfaen a Rhisga.
Mae prif elfennau’r prosiect yn cynnwys:
- adeiladu Canolfan Weithgareddau i Ymwelwyr ym masn camlas Pontymoile ym Mhont-y-pŵl,
- seilwaith a fydd yn gwella mynediad at fasn camlas newydd yn Ne Sebastopol,
- adfer y gamlas yng Nghwmbrân ac ar hyd coridor y gamlas.
- ei gwneud hi'n bosibl i ddefnyddio mwy o hyd y gamlas er mwyn creu atyniad treftadaeth,
- darparu rhagor o lety i ymwelwyr (glampio) a chanolfan antur yng Nghoedwig Cwmcarn. Bydd y gwaith yma'n cyd-fynd â'r gwaith o greu maes parcio newydd a gwell llwybrau cerdded a beicio o'r gamlas i mewn i'r tirwedd ehangach.
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Gweinidog Twristiaeth:
"Mae prosiectau fel hyn wrth wraidd ein huchelgais i helpu cymunedau'r Cymoedd i ddathlu ac elwa i'r eithaf ar eu hadnoddau naturiol a'u treftadaeth. Ein nod, drwy'r rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth, yw canolbwyntio ymdrechion a buddsoddiad ar brosiectau allweddol ym mhob rhanbarth er mwyn cael effaith go iawn ar broffil Cymru yn y farchnad gystadleuol fyd-eang hon. Bydd y datblygiad hwn yn cymell llawer iawn o bobl i ymweld â'r ardal ac rwy'n edrych ymlaen at weld y cynlluniau rwyf wedi'u gweld yn dwyn ffrwyth."
Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, aelod gweithredol dros yr amgylchedd yng Nghyngor Torfaen:
"Gall Torfaen gynnig chwaraeon antur amrywiol iawn, o heicio, beicio mynydd, rhedeg ar dir uchel a hyd yn oed baragleidio ym mryniau Blaenafon, i chwaraeon dŵr ar y gamlas a chronfa ddŵr Llandegfedd ym Mhont-y-pŵl. Mae gennym hefyd ein llethr sgïo ein hunain a rhai o'r llwybrau beicio gorau yn ne Cymru.
"Bydd y prosiect hwn yn ein galluogi i gysylltu cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr ar draws Torfaen a Chaerffili gan ddefnyddio'r gamlas a Mynydd Maen fel lleoliad ar gyfer chwaraeon dŵr, cerdded, beicio ac mewn rhai mannau farchogaeth rhwng y gwahanol leoliadau. Bydd y gwelliannau y bydd yn ein galluogi i'w gwneud ar hyd y gamlas hefyd yn cefnogi busnesau lleol newydd ac yn creu swyddi lleol."
Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sy'n gyfrifol am yr economi a thwristiaeth:
"Rwy'n falch iawn fod Triongl Antur Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu wedi derbyn cyllid gan yr UE. Bydd y buddsoddiad hwn yn annog mwy o ymwelwyr i archwilio'r dirwedd naturiol ac arbennig y gall yr ardal ei chynnig, a hefyd i brofi'r cyfleusterau gwych sy'n cael eu cynnig yng Nghoedwig Cwmcarn. Caiff y cyllid ei ddefnyddio ar gyfer cynnal nifer o brosiectau gan gynnwys adeiladu podiau glampio ychwanegol a chanolfan antur yng Nghoedwig Cwmcarn. Bydd y ganolfan newydd yn creu cyfleoedd gwych ar gyfer hamdden anffurfiol gan gynnwys cyfleuster weiren wib newydd a chyffrous."
Dywedodd Richard Thomas, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Glandŵr Cymru:
"Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yw un o'r camlesi harddaf yn y byd. Mae'n llawn gweithgarwch a bywyd gwyllt ac yn cynnig ffordd o fyw llawer mwy hamddenol. Rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn y cyllid hwn. Bydd y ganolfan antur yn ysgogi rhagor o ddiddordeb yn y gamlas, sy'n golygu y bydd modd i fwy o bobl ei mwynhau a mwynhau'r manteision o ran iechyd a llesiant y gall ei hamgylchedd unigryw eu cynnig."