Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r cyfan yn rhan o raglen adfywio canol trefi gwerth £110 miliwn Llywodraeth Cymru, Trawsnewid Trefi

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, mae'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, wedi cyhoeddi pecyn cyllido 'creu lleoedd' gwerth £15.2 miliwn i helpu canol trefi Cymru i ailadeiladu'n ôl.

Mae'r cyfan yn rhan o fuddsoddiad ehangach o £110 miliwn trwy gynllun Trawsnewid Trefi, rhaglen adfywio canol trefi Llywodraeth Cymru, sy'n ariannu prosiectau er budd cymunedau lleol yng nghanol trefi a dinasoedd yng Nghymru.

Mae'r pecyn cyllido newydd, sydd ar gael i holl Awdurdodau Lleol Cymru, wedi'i gynllunio i fod mor hyblyg â phosibl a bydd yn cynnig cefnogaeth ar gyfer ystod eang o brosiectau, o ddatblygiadau seilwaith gwyrdd a chreu llwybrau teithio egnïol, i welliannau mewnol ac allanol ar gyfer perchnogion busnes.

Yn ogystal, bydd yr arian yn cefnogi gwella marchnadoedd canol trefi, yn creu defnydd newydd ar gyfer adeiladau gwag, ac yn cefnogi gweithgaredd i gefnogi agenda 'trefi digidol' Llywodraeth Cymru - ymhlith prosiectau eraill i wneud i ganol trefi a dinasoedd Cymru ffynnu.

Wedi'i ddylunio mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol Cymru, bydd y pecyn cymorth o 
£15.2 miliwn yn cynnig mwy o hyblygrwydd a rheolaeth dros yr arian sydd ar gael ar gyfer prosiectau adfywio trefi - gydag un awdurdod arweiniol ym mhob rhanbarth yn gweinyddu'r gronfa.

Bydd yr hyblygrwydd mawr yn caniatáu i Awdurdodau Lleol ddewis pa drefi sy'n cael eu cefnogi a defnyddio'r ystod o opsiynau sydd ar gael sy'n gweddu orau i bob lleoliad unigol. 

Dewiswyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer gogledd Cymru, Cyngor Sir Powys ar gyfer canolbarth Cymru a Rhondda Cynon Taf ar gyfer de-ddwyrain Cymru. Yn y cyfamser, bydd Cyngor Sir Abertawe yn gyfrifol am ddyraniadau cyllid yn ne-orllewin Cymru. 

Ymhlith y rhai sy'n gymwys i wneud cais am gyllid mae awdurdodau lleol, busnesau canol tref, Ardaloedd Gwella Busnes a Chynghorau Tref a Chymuned.

Y gobaith yw y bydd y grant newydd, ochr yn ochr â phecynnau cymorth Trawsnewid Trefi eraill, gan gynnwys y £5.3 miliwn a gyhoeddwyd yr haf diwethaf i gefnogi canol y dref a masnachwyr yn ymateb i Covid-19 trwy ariannu addasiadau a gwella diogelwch y cyhoedd, yn helpu gydag ymdrechion adfer o'r pandemig - helpu i ddod â chyfle economaidd a chyflogaeth newydd yn ôl i ganol trefi Cymru.

Mae hyn yn unol â menter 'Canol y Dref yn Gyntaf' Llywodraeth Cymru ac uchelgais tymor hir i 30% o boblogaeth Cymru weithio ohoni, neu'n agosach at adref - trwy ailgodi adeiladau gwag yn ganolfannau cydweithredu ac annog sefydliadau'r sector cyhoeddus i osod swyddfeydd mewn lleoliadau yng nghanol y dref. Bydd gwaith Superfast Business Wales i wella cysylltedd ledled Cymru yn cynorthwyo hyn ymhellach, gyda busnesau ac unigolion yn cael eu hannog i archwilio eu hopsiynau cysylltedd a gwneud mwy yn ddigidol.

Bydd gwaith Llywodraeth Cymru i wella cysylltedd digidol ymhellach ledled Cymru hefyd yn helpu i gefnogi hyn gyda nifer o ymyriadau sy'n bodoli eisoes gan gynnwys Cronfa Band Eang Lleol gwerth £10 miliwn ac ystod o gynlluniau talebau i helpu'r rhai heb fynediad at fand eang cyflym iawn. Mae hyn yn ychwanegol at yr hyn a gyflwynir ar hyn o bryd, sef band eang ffibr-llawn gydag Openreach i oddeutu 39,000 eiddo gan ddefnyddio £56 miliwn o arian cyhoeddus. Anogir unigolion, busnesau, a chymunedau i archwilio eu hopsiynau cysylltedd i wneud mwy o ddefnydd o’r elfen ddigidol.

Dywedodd Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:

Mae canol ein trefi yn lleoedd unigryw, arbennig. Mae gan bob tref ei hanes balch ei hun, ymdeimlad o le a chof - gyda llawer o fywydau wedi'u siapio gan y trefi rydyn ni wedi ein magu ynddyn nhw, wedi symud iddyn nhw neu wedi ymweld â nhw.

Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod bod trefi yng Nghymru yn wynebu heriau enfawr yng ngoleuni Covid-19, a dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod canol ein trefi nid yn unig yn goroesi ond yn ffynnu yn y dyfodol.

Trwy gynnig y pecyn cymorth mwyaf eang a hyblyg i awdurdodau lleol Cymru trwy ein cronfa creu lleoedd newydd, rydyn ni wedi galluogi ein partneriaid rhanbarthol i benderfynu ar y gymysgedd fwyaf priodol o ymyriadau a sut i'w rhoi ar waith yn effeithiol mewn trefi ledled Cymru.

Ynghyd â grantiau rhaglen Trawsnewid Trefi ehangach, bydd hyn yn ein helpu i ailadeiladu ein trefi yng Nghymru ac i wireddu cynlluniau ehangach a nodwyd gan Lywodraeth Cymru - i agor cyfleoedd economaidd lleol newydd wrth greu lleoedd cynaliadwy i bobl Cymru fyw, gweithio, dysgu a mwynhau.