Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan ac arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Andrew Morgan wedi cyhoeddi mwy na 500 o welyau gofal llai dwys a phecynnau gofal cymunedol ychwanegol ar gyfer Cymru y gaeaf hwn, er mwyn helpu pobl i gael gofal yn agosach at eu cartrefi ac i ryddhau gwelyau ysbyty.
Bydd y gwasanaeth ‘Cam i Lawr’ yn cefnogi pobl i ddychwelyd i’w cymunedau pan na fydd angen triniaeth yn yr ysbyty arnynt mwyach ond efallai y bydd angen rhagor o amser, cymorth, a gofal arbenigol arnynt. Mae gwasanaethau gofal yn y cartref yn cael hwb hefyd i alluogi rhagor o bobl i ddychwelyd i’w cartrefi eu hunain.
Mae 508 o welyau a phecynnau gofal cymunedol ychwanegol wedi’u cadarnhau gan fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol hyd yn hyn, ac mae llawer mwy yn cael eu trafod ar hyn o bryd.
Cânt eu darparu drwy gyllid Cronfa Integreiddio Rhanbarthol Llywodraeth Cymru ac adnoddau’r awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd eu hunain.
Yr wythnos hon, fe wnaeth Llywodraeth Cymru hefyd gyhoeddi £70 miliwn ychwanegol i sicrhau y bydd gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael y Cyflog Byw Gwirioneddol. Mae hynny’n rhan o ymdrechion ehangach i recriwtio a chadw gweithwyr gofal cymdeithasol a chryfhau’r sector i helpu i gefnogi’r GIG wrth iddo wynebu un o’i aeafau anoddaf.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:
“Mae ein gwasanaeth iechyd yn wynebu galw digynsail y gaeaf hwn. Ond rydyn ni’n gwybod bod rhai pobl yn aros yn yr ysbyty yn hirach nag sydd angen. O ganlyniad, mae hyn yn cael effaith ddifrifol ar bobl sy’n aros am lawdriniaethau ac yn creu oedi ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans. Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed gyda byrddau iechyd ac awdurdodau lleol ers misoedd i sicrhau bod gennym ddigon o welyau cymunedol y gaeaf hwn ac mae gwaith yn dal i fynd rhagddo i sicrhau rhagor o welyau. Rwy’n gobeithio gallu cyhoeddi rhagor o welyau yn fuan. Drwy’r fenter newydd hon gallwn nid yn unig ofalu am bobl yn agosach at eu cartrefi ond hefyd ryddhau rhagor o welyau yn ein hysbytai.”
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:
“Rydyn ni’n gwybod bod pawb eisiau dychwelyd i’w cymuned cyn gynted â phosib, yn dilyn arhosiad yn yr ysbyty. Ond mae’r prinder yn y gweithlu gofal cymdeithasol ar hyn o bryd yn golygu nad yw hynny bob amser yn bosib. Arhosiad tymor byr mewn cyfleuster ‘Cam i Lawr’, yw’r peth gorau nesaf, ac yna cynnal adolygiad a throsglwyddo’r unigolyn gartref cyn gynted â phosib.
Yr wythnos hon, fe wnaethon ni hefyd gyhoeddi buddsoddiad o £70 miliwn i weithwyr cymdeithasol gael y Cyflog Byw Gwirioneddol. Mae hyn yn rhan o’n strategaeth tymor hwy i hybu recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol yng Nghymru ac i sicrhau y gall y system ofal ateb y galw yn y dyfodol.”
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:
“Rydyn ni’n gwybod bod y sector iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol o dan bwysau aruthrol. Bydd y pecynnau arloesol hyn yn helpu i ddatblygu capasiti camu ymlaen a gwella llif ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol. Byddant hefyd yn helpu i leihau pwysau ar feysydd fel rhyddhau pobl o’r ysbyty a’r effaith y gall hyn ei chael ar restrau aros am ambiwlans a derbyn pobl i’r ysbyty. Mae’r capasiti cynyddol hwn yn y gymuned, a grëwyd gan gynghorau drwy weithio mewn partneriaeth â’r sector iechyd ac a gefnogir gan ein darparwyr gofal cymdeithasol, yn enghraifft o’r atebion ymarferol sy’n dwyn ffrwyth yn sgil cydweithio rhwng y sector iechyd, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Gobeithiwn y bydd ganddo fanteision pendant ac effeithiau cadarnhaol i unigolion, yn enwedig dros gyfnod y gaeaf pan fo gwasanaethau yn parhau i fod o dan bwysau sylweddol.”
Mae pobl sy’n cael eu cyfeirio at gyfleusterau ‘cam i lawr’ yn cynnwys y rhai sy’n ddigon iach yn feddygol i adael yr ysbyty, nad ydynt bellach yn bodloni’r meini prawf ar gyfer gwely ysbyty acíwt ond sydd angen gwasanaethau gofal a chymorth na ellir eu darparu yn eu cartrefi eu hunain. Maent hefyd yn cynnwys pobl sydd angen arhosiad tymor byr gan eu bod yn cael eu hystyried yn anniogel i ddychwelyd i’w cartref tra maent yn aros am ddyddiad cychwyn ar gyfer pecyn gofal cymunedol.
Bydd unigolion, eu teuluoedd a’u gofalwyr yn cael gwybodaeth am eu cynlluniau gofal.