Mae’r ystadegau ar ysgolion, athrawon a disgyblion yn cynnwys data ar gyfer awdurdodau lleol a Chymru ym mis Ionawr 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Canlyniadau'r cyfrifiad ysgolion
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Ar y cyfan, roedd 27 llai ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol nag yn Ionawr 2018. Yn bennaf mae hyn oherwydd uno ysgolion.
- Roedd 1,286 yn fwy o ddisgyblion (468,398) mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol nag ym mis Ionawr 2018.
- Mae’r ganran o ddisgyblion 5-15 oed sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim wedi cynyddu o 17.4% yn Ionawr 2018 i 18.3% yn Ionawr 2019.
- Roedd 23,593 o athrawon cymwysedig cyfwerth ag amser llawn mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, 277 yn llai nag Ionawr 2018.
- Roedd 103,976 o ddisgyblion gydag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion a gynhelir (22.2% o’r holl ddisgyblion), i lawr o 105,625 (22.6%) yn Ionawr 2018.
- Roedd 7.2% o ddisgyblion (7,581) mewn dosbarthiadau babanod o dros 30 o ddisgyblion; i lawr o 8.1% (8,695) ym mis Ionawr 2018.
Adroddiadau
Canlyniadau'r cyfrifiad ysgolion, 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 630 KB
PDF
630 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Canlyniadau'r cyfrifiad ysgolion, 2019: tablau , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 73 KB
ODS
73 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.