Mae’r ystadegau ar ysgolion, athrawon a disgyblion yn cynnwys data ar gyfer awdurdodau lleol a Chymru ym mis Chwefror 2022.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Canlyniadau'r cyfrifiad ysgolion
Amseru
Mae'r data mwyaf diweddar yn yr adroddiad hwn yn ymwneud â'r sefyllfa ym mis Chwefror 2022. Fel arfer byddai'r Cyfrifiad Ysgol Flynyddol ar Lefel Disgybl (CYBLD) yn cael ei gynnal ym mis Ionawr. Fodd bynnag, oherwydd lefel yr achosion coronafeirws (COVID-19) ym mis Ionawr 2022, gohiriwyd dyddiad y cyfrifiad i 15 Chwefror 2022. Gwnaed y penderfyniad hwn i ganiatáu i ysgolion ac awdurdodau lleol ganolbwyntio’r adnoddau sydd ar gael iddynt ar ailagor ysgolion a chefnogi dysgwyr sy’n dychwelyd ar ôl gwyliau ysgol y Nadolig.
Nodyn ar ansawdd a chwmpas y data
Mae’r data yma dros dro. Nid yw'r data wedi mynd trwy'r prosesau dilysu data arferol eto. Fel rhan o Setliad Cyllid Llywodraeth Leol Cymru, dychwelir y data i awdurdodau lleol i'w ddilysu'n derfynol. Er bod y mwyafrif o ysgolion yn gallu cyflwyno data cyn y dyddiad cau cychwynnol ar gyfer casglu data, nid oedd 2 ysgol yn gallu gwneud hynny. Dim ond yng nghyfrif yr ysgolion yn y prif bwyntiau y mae'r ysgolion hyn yn wedi’u cynnwys. Fe’u hychwanegir at gyhoeddiad terfynol cyfrifiad yr ysgolion ym mis Awst 2022. Felly bydd nifer y disgyblion a ddangosir yn y prif bwyntiau yn cynyddu rhywfaint pan gyhoeddir y data terfynol.
Felly dylai defnyddwyr fod yn fwy gofalus wrth gymharu data ar ddisgyblion a staff dros amser, yn enwedig lle mae carfannau bach.
Beth sy'n cael ei gyhoeddi?
Yn ystod y pandemig bu mwy o ddiddordeb mewn data ar gyfer ysgolion, yn enwedig o ran nifer y disgyblion sydd a hawl i gael prydau ysgol am ddim. Er mwyn llywio dadl gyhoeddus yn y dyfodol rydym wedi penderfynu cyhoeddi'r data dros dro cynnar hwn. Mae hyn yn sicrhau bod gan ddefnyddwyr fynediad at ystadegau swyddogol i amserlenni tebyg ag yn y blynyddoedd blaenorol. Oherwydd natur dros dro'r data, ar hyn o bryd nid ydym ond yn cyhoeddi set gyfyngedig o wybodaeth. Ym mis Awst 2022 byddwn yn rhyddhau ein cyfres lawn arferol o ddata trwy Daenlen Dogfen Agored a StatsCymru.
Prif bwyntiau
- Roedd 1,470 ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, 3 llai o’i gymharu ag Ebrill 2021.
- Roedd 470,244 disgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, 4,480 llai na mis Ebrill 2021. Roedd nifer y disgyblion yn uwch ym mis Ebrill 2021 yn rhannol oherwydd dyddiad y cyfrifiad diweddarach a oedd yn golygu bod mwy o ddisgyblion wedi dechrau mewn ddosbarthiadau meithrin erbyn dyddiad y cyfrifiad.
- O’r 380,139 disgybl 5 i 15 oed, roedd 23.6% yn gymwys am brydau ysgol am ddim, i fyny o 22.9% yn Ebrill 2021. Nid yw’r ffigurau yma yn cynnwys gwarchodaeth drosiannol (gweler isod).
- Roedd 24,608 o athrawon cymwysedig cyfwerth ag amser llawn mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, 666 (2.8%) yn fwy na mis Ebrill 2021.
- Roedd 74,595 disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion a gynhelir (15.9% o'r holl ddisgyblion) ym mis Chwefror 2022, i lawr o 92,668 (19.5%) ym mis Ebrill 2021. Gweler y nodyn isod.
Newidiadau i ddata anghenion addysgol arbennig yn dilyn Gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
Daeth Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (y Cod ADY) a rheoliadau i rym ar 1 Medi 2021 i sicrhau bod plant a phobl ifanc 0 i 25 oed yn gallu cael mynediad at gymorth ychwanegol i ddiwallu eu hanghenion sydd wedi’i gynllunio’n briodol a’i ddiogelu, gyda dysgwyr wrth galon y broses.
Mae plant yn symud o’r system anghenion addysgol arbennig (AAA) i’r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) mewn grwpiau dros 3 blynedd, er mwyn sicrhau digon o amser i feithrinfeydd, ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion ac awdurdodau lleol drafod y cymorth sydd ei angen ac i baratoi cynlluniau.
Mae’r Cod ADY wedi’i weithredu mewn partneriaeth ag arweinwyr trawsnewid addysg, partneriaid darparu a sefydliadau addysg, gyda rhaglen ddysgu a datblygu, a chreu rolau statudol newydd mewn awdurdodau lleol, ysgolion a’r gwasanaeth iechyd.
Mae cyfrifiad ysgolion 2022 yn cynrychioli’r cyflwyniadau cyntaf gan Gydlynwyr ADY penodedig ledled Cymru, fel rhan o Weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
Mae dadansoddiad o'r data yn awgrymu bod y gostyngiad oherwydd dau reswm allweddol. Yn gyntaf, gofynnwyd i ysgolion roi’r gorau i ddefnyddio’r categori ‘Anawsterau dysgu cyffredinol’ ac i ailasesu categori priodol o angen ar gyfer disgyblion o’r fath. Gallai hyn fod wedi arwain at dynnu rhai disgyblion oddi ar y gofrestr os nodwyd nad oedd ganddynt AAA neu ADY mwyach.
Yn ail, mae llawer o ysgolion wedi adolygu eu cofrestrau anghenion addysgol arbennig fel rhan o baratoi ar gyfer cyflwyno’r Ddeddf ADY. Y rhai a gofrestrwyd fel rhai â Chynllun Gweithredu Ysgol, sef y categori blaenorol lle'r oedd angen y cymorth lleiaf, oedd y categori mwyaf o gymorth i'w dynnu oddi ar y gofrestr AAA. Roedd y gostyngiadau mwyaf o ran blynyddoedd ysgol oedd mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar ac ysgolion cynradd.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro’r niferoedd drwy gydol gweithredu’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod y data’n adlewyrchiad cywir o niferoedd a chategorïau’r dysgwyr ag ADY yng Nghymru.
Gwarchodaeth drosiannol ar gyfer prydau ysgol am ddim
Ar 1 Ebrill 2019 cyflwynodd Llywodraeth Cymru polisi gwarchodaeth drosiannol newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim. Daethpwyd â hyn i mewn i sicrhau bod prydau ysgol am ddim y disgyblion yn cael eu gwarchod yn ystod y cyfnod cyflwyno Credyd Cynhwysol.
Mae'r warchodaeth hon yn berthnasol i ddisgyblion unigol a bydd yn parhau tan ddiwedd eu cyfnod ysgol bresennol, sef diwedd ysgol gynradd neu ddiwedd ysgol uwchradd.
Dylai unrhyw ddisgybl a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wrth gyflwyno'r polisi ar 1 Ebrill 2019 hefyd gael gwarchodaeth drosiannol. Yn ogystal, dylid gwarchod unrhyw ddisgybl sydd wedi dod yn gymwys ar unrhyw adeg yn ystod y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol o dan y meini prawf cymhwysedd newydd.
O'r 380,139 o ddisgyblion rhwng 5 a 15 oed, roedd 26.9% yn gymwys am brydau ysgol am ddim neu warchodaeth drosiannol ym mis Ebrill 2021, i fyny o 25.2% yn Ebrill 2021.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Canlyniadau'r cyfrifiad ysgolion: ym mis Chwefror 2022 (dros dro) , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 8 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.