Canlyniadau'r cyfrifiad ysgolion: Ionawr 2023
Mae’r ystadegau ar ysgolion, athrawon a disgyblion yn cynnwys data ar gyfer awdurdodau lleol a Chymru ar gyfer Ionawr 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r datganiad ystadegol hwn yn cyflwyno data a gasglwyd o'r cyfrifiad blynyddol o ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae hefyd yn cyflwyno data ar gyfer ysgolion annibynnol. Mae’n adrodd gwybodaeth ar gyfer ysgolion, disgyblion, ethnigrwydd, cymwys i brydau ysgol am ddim, anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion addysgol arbennig, maint dosbarthiadau, athrawon a staff cymorth.
Cesglir y data yn yr adroddiad hwn gan Lywodraeth Cymru oddi wrth ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol mewn datganiad electronig o’r enw’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgybl (CYBLD) a chan ysgolion annibynnol mewn datganiad cyfanredol.
Data ar ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim
Ar ôl rhyddhau’r prif ystadegau hyn ar 25 Mai 2023, dadansoddwyd y data’n fwy manwl gennym fel rhan o’n rhaglen waith arferol a gododd rai pryderon ynghylch y data cymhwysedd i gael prydau ysgol am. Er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon hyn, fe wnaethom gynnal dilysiad ychwanegol o’r data hwn ar ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim gydag awdurdodau lleol. Gweler yr adran gwybodaeth ansawdd a methodoleg a diweddariad ein Prif Ystadegydd ar hyn.
Prif bwyntiau
- Roedd 1,463 ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, 7 llai o’i gymharu ag Chwefror 2022.
- Roedd 469,872 disgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, 1,259 llai na mis Chwefror 2022.
- O’r 383,065 disgybl 5 i 15 oed, roedd 22.2% yn gymwys am brydau ysgol am ddim. Gweler yr adran gwybodaeth ansawdd a methodoleg am ragor o wybodaeth ynglŷn ag ansawdd y data.
- Roedd 28.7% o ddisgyblion 5 i 15 oed yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu o dan warchodaeth drosiannol, i fyny o 26.9% ym mis Chwefror 2022.
- Roedd 63,089 disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion a gynhelir (13.4% o'r holl ddisgyblion), i lawr o 74,661 (15.8%) ym mis Chwefror 2022.
- Roedd 10,499 o ddisgyblion â Chynlluniau Datblygu Unigol o dan y system ADY newydd mewn ysgolion a gynhelir (16.6% o’r holl ddisgyblion a ADY neu AAA), i fyny o 3,330 (4.5%) ym mis Chwefror 2022.
- Roedd 24,884 o athrawon cymwysedig cyfwerth ag amser llawn mewn ysgolion a gynhelir, 228 yn fwy na mis Chwefror 2022.
Ysgolion a disgyblion
Mae’r adran yma yn cyflwyno data ar gyfer ysgolion a gynhelir gan yr ALl a disgyblion. Bydd yr awdurdodau'n talu eu costau'n rhannol o drethi’r cyngor ac yn rhannol o grantiau cyffredinol gan Lywodraeth Cymru.
Am ddiffiniadau o fathau o ysgolion (gan gynnwys sut y cânt eu dosbarthu yn nhermau iaith yr addysgu (cyfrwng)) gweler diffiniadau.
Sector | 2022 | 2023 |
---|---|---|
Meithrin | 8 | 6 |
Cynradd | 1,217 | 1,213 |
Canol | 23 | 27 |
Uwchradd | 182 | 178 |
Arbennig | 40 | 39 |
Ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol | 1,470 | 1,463 |
Annibynnol | 79 | 79 |
Cyfanswm | 1,549 | 1,542 |
Mae’r tabl yn dangos bod 1,463 o ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol ym mis Ionawr 2023, i lawr 7 o'i gymharu â mis Chwefror 2022. Roedd 79 o ysgolion annibynnol, dim newid o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Ffigur 1: Nifer yr ysgolion a gynhelir, yn ôl awdurdod lleol a chyfrwng, 2023 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 1: Siart bar pentyrru sy'n dangos nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg ym mhob awdurdod lleol. Caerdydd oedd â'r nifer uchaf o ysgolion yn gyffredinol ym mis Ionawr 2023 a Gwynedd oedd â'r nifer uchaf o ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Nifer yr ysgolion a gynhelir, yn ôl awdurdod lleol a chyfrwng (MS Excel)
[Nodyn 1] Ysgolion cynradd, canol ac uwchradd (ac eithrio ysgolion meithrin ac arbennig).
- Roedd 439 o ysgolion cyfrwng Cymraeg ym mis Ionawr 2023 gyda 108,866 (23%) o ddisgyblion yn cael eu haddysgu ynddynt.
- Addysgir rhan fwyaf o ddisgyblion yn Sir Fôn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Yn yr 18 awdurdod arall addysgir rhan fwyaf o ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
Sector | 2022 | 2023 |
---|---|---|
Meithrin | 611 | 406 |
Cynradd | 266,574 | 262,666 |
Canol | 22,516 | 26,168 |
Uwchradd | 175,957 | 174,948 |
Arbennig | 5,473 | 5,684 |
Ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol | 471,131 | 469,872 |
Annibynnol [Nodyn 1] | 10,034 | 9,840 |
Cyfanswm | 481,165 | 479,712 |
Mae'r tabl yn dangos bod 469,872 o ddisgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol, i lawr 1,259 o'i gymharu â mis Chwefror 2022. Roedd 9,840 disgyblion mewn ysgolion annibynnol (2.1% o'r holl ddisgyblion) ym mis Ionawr 2023, i lawr 194 o’i gymharu â mis Chwefror 2022.
[Nodyn 1] Ni chyflwynodd 10 ysgol annibynnol data yn 2022 ac ni chyflwynodd 5 ysgol annibynnol data yn 2023.
Mae'r holl ddata sy'n dilyn yn y datganiad hwn yn ymwneud ag ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol yn unig.
Ffigur 2: Cymhareb disgybl athro (CDA) yn ôl sector, 2008 to 2023
Disgrifiad o Ffigur 2: Siart llinell sy'n dangos cymarebau disgybl athro ar gyfer pob sector. Mae'r siart yn dangos mai ysgolion cynradd sydd wedi cael y gymhareb athrawon disgyblion uchaf dros y 15 mlynedd diwethaf.
Cymhareb disgybl athro (CDA) yn ôl sector (MS Excel)
- Roedd y gymhareb disgybl athro ym mis Ionawr 2023 ar ei uchaf mewn ysgolion cynradd gyda 20.9 ac yn isaf mewn ysgolion arbennig gyda 6.7. Roedd y gymhareb disgybl athro mewn ysgolion uwchradd yn 16.6.
- Mae’r cymhareb disgybl athro wedi gostwng ym mhob sector yn 2023. Gall hyn fod yn rhannol oherwydd cyllid Llywodraeth Cymru a ddarparwyd i ysgolion o dan y cynllun “recriwtio, adennill a chodi safonau” i recriwtio staff ychwanegol i gefnogi disgyblion yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19).
Cefndir ethnig
Dyma'r grŵp ethnig y mae'r disgybl yn uniaethu eu hunain ag ef.
Cefndir ethnig | Nifer | Canran |
---|---|---|
Gwyn | 362,945 | 89.6 |
Gwyn Prydeinig | 346,996 | 85.7 |
Teithiwr | 473 | 0.1 |
Sipsi/Roma | 831 | 0.2 |
Unrhyw gefndir Gwyn arall | 14,645 | 3.6 |
Cymysg | 15,565 | 3.8 |
Gwyn a Du Caribïaidd | 2,812 | 0.7 |
Gwyn a Du Affricanaidd | 2,305 | 0.6 |
Gwyn ac Asiaidd | 3,116 | 0.8 |
Unrhyw gefndir cymysg arall | 7,332 | 1.8 |
Asiaidd | 11,176 | 2.8 |
Indiaidd | 3,157 | 0.8 |
Pacistanaidd | 3,223 | 0.8 |
Bangladeshaidd | 3,270 | 0.8 |
Unrhyw gefndir Asiaidd arall | 1,526 | 0.4 |
Du | 5,354 | 1.3 |
Du Caribïaidd | 191 | 0.0 |
Du Affricanaidd | 4,618 | 1.1 |
Unrhyw gefndir Du arall | 545 | 0.1 |
Tsieineaidd | 976 | 0.2 |
Unrhyw gefndir ethnig arall | 6,400 | 1.6 |
Cyfanswm â chategori dilys | 402,416 | 99.3 |
Ddim yn gwybod | 2,659 | 0.7 |
Pob disgybl | 405,075 | 100.0 |
Mae'r tabl yn dangos fod 85.7% o ddisgyblion 5 oed a throsodd wedi nodi eu bod yn Wyn Prydeinig ym mis Ionawr 2023. Mae’r ffigwr hyn wedi gostwng ychydig ym mob un o’r pum mlynedd diwethaf gyda chynnydd yn y cefndiroedd ethnig eraill dros yr un cyfnod.
O'r disgyblion hynny o gefndir ethnig lleiafrifol y grwpiau mwyaf yw'r rhai o gefndir ethnig cymysg, Teithiwr neu Sipsi/Roma (15,565 o ddisgyblion), cefndir Gwyn heblaw Gwyn Prydeinig (14,645 o ddisgyblion), Asaidd (11,176) a Du (5,354); tra bod dros 6,400 o ddisgyblion yn nodi eu hunain fel grŵp ethnig arall.
Prydau am ddim
Mae disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau prawf modd penodol neu daliadau cymorth, sydd wedi eu hamlinellu yn y dudalen we ganlynol: Gwefan Llywodraeth Cymru: Prydau ysgol am ddim.
Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd (UPFSM)
Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, bydd holl blant ysgol gynradd Cymru yn cael prydau ysgol am ddim erbyn 2024. Dechreuodd y broses gyflwyno ym mis Medi 2022 gyda’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn darparu prydau ysgol am ddim i blant oed Derbyn o’r dechrau tymor yr hydref (Medi 2022) ac ymestyn y cynnig i flynyddoedd 1 a 2 heb fod yn hwyrach na dechrau tymor yr haf (Ebrill 2023).
Er bod y broses hon o gyflwyno prydau ysgol am ddim i’r rhai nad oeddent yn gymwys i’w cael o’r blaen wedi dechrau, nid yw’r data a gyflwynir yn y datganiad hwn yn adlewyrchu cyfanswm nifer y disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim ym mis Ionawr 2023. Yn hytrach, mae ond yn cynnwys nifer y disgyblion sy’n gymwys i brydau ysgol am ddim os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau penodol (fel yr adroddwyd mewn blynyddoedd blaenorol). Gweler y canllaw gwybodaeth prydau ysgol am ddim am fanylion llawn y meini prawf cymhwysedd a'r buddion.
Ffigur 3: Canran o ddisgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim, 2008 i 2023 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 3: Siart llinell yn dangos bod canran y disgyblion yn hysbys i fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn uwch yn 2023 nag yn y blynyddoedd cyn pandemig y coronafeirws (COVID-19).
Canran o ddisgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim (MS Excel)
[Nodyn 1] Disgyblion sy'n gymwys os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau prawf modd penodol neu daliadau cymorth. Mae'n bosibl bod pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio ar ansawdd y data hwn ac efallai ei fod wedi arwain at or-gofnodi'r data hwn yn 2020 i 2022. Gweler yr adran gwybodaeth ansawdd a methodoleg a diweddariad ein Prif Ystadegydd ar hyn.
[Nodyn 2] Oedran ar 31 Awst yn y flwyddyn flaenorol.
- Roedd 85,057 disgybl (22.2%) 5 i 15 oed yn hysbys i fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim ym mis Ionawr 2023.
- Roedd 95,187 disgybl (20.3%) o bob oedran yn hysbys i fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim ym mis Ionawr 2023.
Gwarchodaeth drosiannol ar gyfer prydau ysgol am ddim
Ar 1 Ebrill 2019 cyflwynodd Llywodraeth Cymru polisi gwarchodaeth drosiannol newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim. Daethpwyd â hyn i mewn i sicrhau bod prydau ysgol am ddim y disgyblion yn cael eu gwarchod yn ystod y cyfnod cyflwyno Credyd Cynhwysol.
Mae'r warchodaeth hon yn berthnasol i ddisgyblion unigol a bydd yn parhau tan ddiwedd eu cyfnod ysgol bresennol, sef diwedd ysgol gynradd neu ddiwedd ysgol uwchradd.
Dylai unrhyw ddisgybl a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wrth gyflwyno'r polisi ar 1 Ebrill 2019 hefyd gael gwarchodaeth drosiannol. Yn ogystal, dylid gwarchod unrhyw ddisgybl sydd wedi dod yn gymwys ar unrhyw adeg yn ystod y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol o dan y meini prawf cymhwysedd newydd.
2021 | 2022 | 2023 | |
---|---|---|---|
Disgyblion 5 i 15 oed | |||
Nifer yn gymwys am PYD [Nodyn 1] | 87,095 | 88,808 | 85,057 |
% yn gymwys am PYD [Nodyn 1] | 22.9 | 23.3 | 22.2 |
Nifer yn gymwys am PYD neu GD | 95,532 | 102,391 | 109,977 |
% yn gymwys am PYD neu GD | 25.2 | 26.9 | 28.7 |
Disgyblion pob oedran | |||
Nifer yn gymwys am PYD [Nodyn 1] | 99,135 | 100,305 | 95,187 |
% yn gymwys am PYD [Nodyn 1] | 20.9 | 21.3 | 20.3 |
Nifer yn gymwys am PYD neu GD | 108,447 | 114,992 | 121,550 |
% yn gymwys am PYD neu GD | 22.8 | 24.4 | 25.9 |
Mae'r tabl yn dangos fod 109,977 o ddisgyblion (28.7%) rhwng 5 a 15 oed yn hysbys i fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu warchodaeth drosiannol ym mis Ionawr 2023, i fyny o 102,391 o ddisgyblion (26.9%) ym mis Chwefror 2022.
Roedd 121,550 disgybl (25.9%) o bob oedran yn hysbys i fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim neu warchodaeth drosiannol mis Ionawr 2023, i fyny o 114,992 disgybl (24.4%) ym mis Chwefror 2022.
[Nodyn 1] Mae'n bosibl bod pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio ar ansawdd y data hwn ac efallai ei fod wedi arwain at or-gofnodi'r data hwn yn 2020 i 2022. Gweler yr adran gwybodaeth ansawdd a methodoleg a diweddariad ein Prif Ystadegydd ar hyn.
Anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac anghenion addysgol arbennig (AAA)
Mae gan blentyn anghenion arbennig os oes ganddynt anawsterau dysgu y mae angen darparu cymorth addysgol arbennig ar eu cyfer. Mae anhawster dysgu yn golygu bod gan y plentyn dipyn mwy o anhawster wrth ddysgu na’r mwyafrif o blant o’r un oedran neu fod gan y plentyn nam neu gyflwr iechyd neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain anabledd sy’n gofyn am gyfleusterau addysgol gwahanol i’r rhai y mae’r ysgol yn eu darparu fel rheol ar gyfer plant. Gall disgyblion ag anghenion addysgol arbennig gael Datganiad a roddir gan ALl neu gall yr ysgol nodi eu hanghenion. Yn yr ail achos, dônt o dan un o ddau gategori pellach: Gweithredu gan yr Ysgol neu Weithredu gan yr Ysgol a Mwy.
Newidiadau i ddata anghenion addysgol arbennig yn dilyn Gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
Daeth Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (y Cod ADY) a rheoliadau i rym ar 1 Medi 2021 i sicrhau bod plant a phobl ifanc 0 i 25 oed yn gallu cael mynediad at gymorth ychwanegol i ddiwallu eu hanghenion sydd wedi’i gynllunio’n briodol a’i ddiogelu, gyda dysgwyr wrth galon y broses.
Mae Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) yn gynlluniau statudol a grëwyd o dan y Ddeddf. Gall fod gan ddysgwr naill ai CDU a gynhelir gan yr ysgol neu CDU a gynhelir gan yr awdurdod lleol.
Mae gweithredu ar waith, gyda phlant yn symud o’r system anghenion addysgol arbennig (AAA) i’r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) mewn grwpiau dros 4 blynedd tan fis Awst 2025. Ar 20 Mawrth 2023, mewn ymateb i adborth gan y sector, cyhoeddodd Gweinidog Y Gymraeg ac Addysg estyniad i’r cyfnod gweithredu o 3 i 4 blynedd. Bydd hyn yn caniatáu mwy o amser i symud dysgwyr o'r system AAA i'r system ADY ac yn creu mwy o hyblygrwydd i'r cyrff hynny sy'n gyfrifol am y broses hon.
Mae’r Cod ADY wedi’i weithredu mewn partneriaeth ag arweinwyr trawsnewid addysg, partneriaid darparu a sefydliadau addysg, gyda rhaglen ddysgu a datblygu, a chreu rolau statudol newydd mewn awdurdodau lleol, ysgolion a’r gwasanaeth iechyd.
Roedd cyfrifiad ysgolion 2022 blwyddyn diwethaf yn cynrychioli’r cyflwyniadau cyntaf gan Gydlynwyr ADY penodedig ledled Cymru, fel rhan o Weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
Mae dadansoddiad o’r data, ynghyd ag adborth gan awdurdodau lleol yn awgrymu bod y gostyngiad yn nifer y disgyblion ADY/AAA dros y ddwy flynedd diwethaf o ganlyniad i adolygiad systematig gan ysgolion o’u cofrestrau ADY/AAA yn barod ar gyfer cyflwyno’r system ADY. Tynnwyd y disgyblion hynny ag anghenion lefel isel, na nodwyd bod ganddynt ADY/AAA cydnabyddedig, oddi ar y gofrestr.
Gofynnwyd hefyd i ysgolion beidio defnyddio’r categori ‘Anawsterau dysgu cyffredinol’ ac i ailasesu categori priodol o angen ar gyfer disgyblion o’r fath. Roedd y categori hwn wedi dod yn un cyffredinol ar gyfer y rhai yr oedd angen cymorth dal i fyny arnynt, gyda mân anghenion a/neu le'r oedd anghenion lluosog yn bodoli, yn lle ei fwriad gwreiddiol, sef dal dysgwyr a oedd yn aros am asesiad. Mae hyn wedi arwain at dynnu rhai disgyblion oddi ar y gofrestr os canfyddir nad oedd ganddynt ADY/AAA. Mae’r categori ‘Anawsterau dysgu cyffredinol’ wedi cael ei ddileu o gyfrifiad ysgolion 2023.
Yn ogystal, mae llawer o ddisgyblion ar Gynlluniau Gweithredu Gan Yr Ysgol (y rhai sydd angen y swm lleiaf o ddarpariaeth addysgol arbennig) wedi'u tynnu oddi ar y gofrestr ADY/AAA. Roedd hyn naill ai oherwydd bod eu hanghenion yn rhai tymor byr ond eu bod wedi parhau ar y gofrestr, neu nid oes angen darpariaeth ychwanegol neu wahanol i'r hyn a ddarperir ar gyfer dysgwyr eraill, y gellir mynd i'r afael â hi fel rhan o ddarpariaeth gyfannol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro’r niferoedd drwy gydol gweithredu’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod y data’n adlewyrchiad cywir o niferoedd a chategorïau’r dysgwyr ag ADY yng Nghymru.
Ffigur 4: Nifer a chanran y disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) neu anghenion addysgol arbennig (AAA) mewn ysgolion a gynhelir yn ôl math o ddarpariaeth, 2022 i 2023 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 4: Siart bar clwstwr yn dangos mai’r math mwyaf cyffredin o ddarpariaeth ADY neu AAA yn 2023 oedd Gweithredu gan yr Ysgol. Mae darpariaeth CDU wedi cynyddu o’i gymharu â 2022, tra bod mathau eraill o ddarpariaeth wedi gostwng wrth i ddisgyblion symud i’r system ADY newydd.
[Nodyn 1] Mae’r canrannau yn cynrychioli'r canran o’r holl ddisgyblion gyda’r mathau yma o ddarpariaeth AAA.
[Nodyn 2] Mae Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) yn gynlluniau statudol a grëwyd o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a ddaeth i rym ar 1 Medi 2021. Gall fod gan ddysgwr naill ai CDU a gynhelir gan ysgol neu CDU a gynhelir gan awdurdod lleol.
- Roedd 63,089 disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion a gynhelir (13.4% o'r holl ddisgyblion) ym mis Ionawr 2023, i lawr o 74,661 (15.8%) ym mis Chwefror 2022.
- Gostyngodd y nifer o ddisgyblion gyda darpariaeth Gweithredu gan yr Ysgol o 30 y cant a’r nifer o ddisgyblion gyda darpariaeth Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy o 29 y cant yn 2023.
- Roedd 10,499 o ddisgyblion â Chynlluniau Datblygu Unigol o dan y system ADY newydd mewn ysgolion a gynhelir (16.6% o’r holl ddisgyblion a ADY neu AAA), i fyny o 3,330 (4.5%) ym mis Chwefror 2022.
Ffigur 5: Adroddiadau o anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion a gynhelir yn ôl math yr angen, 2023 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 5: siart bar sy'n dangos nifer yr adroddiadau o bob math o anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig. Anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu oedd y math mwyaf cyffredin o ADY neu AAA yn 2023 ac yna anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol.
[Nodyn 1] O fis Ionawr 2017 caniatawyd ysgolion a gynhelir i adrodd gymaint o anghenion addysgol arbennig y disgybl sy'n ofynnol. Nid yw anghenion hyn wedi’u graddio ac felly ni ellir dangos unrhyw fath o AAA fel 'Prif Angen' y disgybl. Mae'r siart uchod yn dangos nifer o weithiau adroddwyd bob math AAA e.e. os yw mathau AAA 'Dyslecsia' a 'Dyspracsia' yn cael eu hadrodd ar gyfer disgybl yna mae’r disgybl yn cael ei gyfrif ddwywaith, unwaith o dan bob math. Bydd nifer o adroddiadau ADY neu AAA felly yn fwy na nifer y disgyblion sydd ag ADY neu AAA.
- Gwnaed 87,404 adroddiadau o’r fath o ADY neu AAA - cyfartaledd o 1.4 fesul disgybl sydd ag ADY neu AAA.
- Y math mwyaf cyffredin o angen a adroddwyd oedd 'Anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu', yn cynrychioli 33.1% o ddisgyblion ag ADY neu AAA.
- Yr uchaf nesaf oedd 'Anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol' (31.1%) ac yna 'Anawsterau dysgu cymedrol' (24.0%).
Maint dosbarthiau
Dosbarth | 2021 | 2022 | 2023 |
---|---|---|---|
Babanod | 25.3 | 24.9 | 24.8 |
Iau | 26.2 | 25.8 | 25.7 |
Mae'r tabl yn dangos bod maint dosbarthiadau babanod ac iau ar gyfartaledd wedi gostwng ychydig yn 2023. Gallai'r gostyngiad mewn maint dosbarthiadau ers 2021 fod yn rhannol oherwydd Cyllid Llywodraeth Cymru a ddarparwyd i ysgolion o dan y cynllun "recriwtio, adfer a chodi safonau" i recriwtio staff ychwanegol i gefnogi disgyblion yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19).
Mae dosbarthiadau babanod o fwy na 30 disgybl yn anghyfreithlon o fawr heblaw bod amgylchiadau penodol o'r enw 'eithriadau' wedi’u bodloni. Cyfraith maint dosbarth babanod.
Ffigur 6: Canran y disgyblion mewn dosbarthiadau babanod cyfreithlon neu anghyfreithlon o fawr, 2021 i 2023
Disgrifiad o Ffigur 6: Siart bar clystyrog yn dangos bod canran y disgyblion mewn dosbarthiadau cyfreithlon mawr wedi cynyddu yn 2023 tra bod y ganran mewn dosbarthiadau anghyfreithlon mawr wedi gostwng ychydig.
Canran y disgyblion mewn dosbarthiadau babanod cyfreithlon neu anghyfreithlon o fawr (MS Excel)
- Roedd 6,459 o ddisgyblion (6.5%) mewn dosbarthiadau babanod o dros 30 o ddisgyblion ym mis Ionawr 2023, i fyny o 5,992 o ddisgyblion (6.0%) ym mis Chwefror 2022.
- Roedd 302 o ddisgyblion (0.3%) mewn dosbarthiadau anghyfreithlon o fawr o dros 30 o ddisgyblion ym mis Ionawr, i lawr o 391 o ddisgyblion (0.4%) ym mis Chwefror 2022.
Athrawon a staff cymorth
Cyflwynwyd y Cyfrifiad Blynyddol o’r Gweithlu Ysgol (CBGY) yn 2019 i rhoi gwybodaeth mwy cynhwysfawr ar y gweithlu ysgol yng Nghymru ac i helpu lywio polisïau Llywodraeth Cymru ar materion sy’n ymneud â’r gweithlu ysgol yng Nghymru. Bydd y data yn cael eu defnyddio ar gyfer cynllunio’r gweithlu ac i fonitro cydraddoldeb ac amrywiaeth y gweithlu ysgol. Mae’r data sydd wedi’u cyhoeddi yn y datganiad ystadegol yma (Canlyniadau’r cyfrifiad ysgolion) wedi’u seilio ar gwybodaeth o’r Cyfrifiad Ysgol Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) a dylid parhau i’w defnyddio fel yr ystadegau swyddogol ar y gweithlu ysgol, a’u defnyddio ar gyfer cymhariaeth dros amser. Cyhoeddwyd y datganiad ystadegol CBGY diweddaraf ar 18 Gorffennaf 2023 fel ystadegau arbrofol. Unwaith bydd safon y data a gesglir trwy’r CBGY wedi’u sicrhau ac unrhyw wahaniaethau wedi’u hesbonio bydd y datganiad yma yn darparu’r ystadegau swyddogol ar y gweithlu ysgol yng Nghymru.
Ers 2021, mae gwybodaeth ar absenoldebau athrawon trwy salwch wedi’u casglu trwy’r CBGY. Mae’r casgliad CBGY yn cynnwys mwy o absenoldebau athrawon ysgol gan ei fod yn casglu data o ysgolion sydd wedi’u heithrio o gytundebau lefel gwasanaeth ar gyfer AD neu gyflogres gyda’u hawdurdod lleol. Felly, nid yw data ar absenoldebau athrawon trwy salwch yn cael eu casglu ar wahan o awdurdodau lleol bellach a bydd y data yn cael eu cyhoeddi fel rhan o’r datganiad ystadegol CBGY o hyn ymlaen.
Gweler ein hadroddiad ‘Canlyniadau Cyfrifiad Gweithlu Ysgolion: adroddiad ansawdd’ am fwy o fanylion ar y casgliad CBGY a chymharu eitemau data a gesglir yn y CBGY a CYBLD (ar gyfer athrawon wedi cymhwyso, absenoldebau athrawon trwy salwch a recriwtio a chadw athrawon).
2021 | 2022 | 2023 | |
---|---|---|---|
Athrawon wedi cymhwyso | 23,941 | 24,657 | 24,884 |
Staff cymorth | 23,779 | 24,517 | 25,812 |
Mae'r tabl yn dangos bod 24,884 o athrawon wedi cymhwyso cyfwerth ag amser llawn mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol ym mis Ionawr 2023, i fyny 228 o'i gymharu â mis Chwefror 2022.
Hefyd, roedd yna 25,812 staff cymorth cyfwerth ag amser llawn mewn ysgolion wedi’u cynnal gan awdurdodau lleol, cynnydd o 1,295 o’i gymharu â mis Chwefror 2022.
Diffiniadau
Ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol
Ysgolion a gynhelir gan yr awdurdodau lleol. Bydd yr awdurdodau'n talu eu costau'n rhannol o drethi’r cyngor ac yn rhannol o grantiau cyffredinol gan Lywodraeth Cymru.
Ysgolion cyfrwng Cymraeg
Mae Ysgolion Cynradd yn cynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg, Dwy Ffrwd a Throsiannol. Mae ysgolion Canol ac Uwchradd yn cynnwys Cyfrwng Cymraeg. Am fwy o wybodaeth, gwelir y nodiadau canllaw -nodiadau canllaw.
Ysgolion annibynnol
Ysgolion sy'n codi ffioedd ac a all gael eu hariannu hefyd gan unigolion, cwmnïau neu sefydliadau elusennol. Rhaid i bob ysgol annibynnol yng Nghymru gofrestru gyda Llywodraeth Cymru.
Ysgolion meithrin
Dan 5 oed.
Ysgolion cynradd
3/4 i 10 oed.
Ysgolion canol
3/4 i 16/18 oed.
Ysgolion uwchradd
11 i 16/18 oed.
Ysgolion arbennig
Ysgolion arbennig, rhai dydd a rhai preswyl, sy'n darparu addysg i blant ag AAA na allant gael eu haddysgu'n foddhaol mewn ysgolion prif ffrwd.
Cyfwerth ag amser llawn (FTE)
Mae niferoedd disgyblion FTE yn cyfrif disgyblion rhan-amser fel 0.5.
Mae FTE athrawon rhan-amser yn dynodi gwasanaeth athrawon mewn oriau fel cyfran o wythnos ysgol: 32.5 awr ar gyfer ysgolion a gynhelir a 26 awr ar gyfer ysgolion annibynnol.
Cymarebau disgybl athro (CDA)
Cyfrifir y rhain o'r nifer o ddisgyblion FTE, wedi eu rhannu gan y nifer o athrawon FTE (prifathrawon, pennaeth dros dro, pennaeth cynorthwyol, dirprwyon ac athrawon cymwysedig eraill).
Anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion addysgol arbennig
Disgyblion â datganiad
Disgyblion y mae'r awdurdod yn cadw datganiad o anghenion addysgol arbennig ar eu cyfer o dan Ran iv o Ddeddf Addysg 1996. Gall yr ALl gyhoeddi datganiad ar ôl asesu anghenion plentyn.
Gweithredu gan yr Ysgol
Pan mae athro dosbarth neu bwnc yn nodi bod y disgybl ag anghenion addysgol arbennig ac yn darparu ymyriad sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai a ddarparwyd fel rhan o gwricwlwm arferol yr ysgol.
Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy
Pan mae’r athro dosbarth neu bwnc a’r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn derbyn cyngor neu gefnogaeth gan arbenigwyr o’r tu allan, fel bod ymyriadau amgen sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai a ddarparwyd i’r disgybl trwy ‘Weithredu gan yr Ysgol’ yn bodoli. Mae’r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn arwain fel arfer, er cyfrifoldeb yr athro dosbarth neu bwnc yw’r ddarpariaeth dydd i ddydd.
Cynlluniau Datblygu Unigol
Mae Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) yn gynlluniau statudol a grëwyd o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a ddaeth i rym ar 1 Medi 2021. Gall fod gan ddysgwr naill ai CDU a gynhelir gan ysgol neu CDU a gynhelir gan awdurdod lleol.
Maint dosbarthiadau babanod
Rhoddodd Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a’r rheoliadau cysylltiedig ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i gyfyngu i 30 faint dosbarthiadau Derbyn o 1999 ymlaen; dosbarthiadau Derbyn a Blwyddyn 1 o 2000 ymlaen a dosbarthiadau Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 o 2001 ymlaen. Rhaid i ddosbarthiadau blynyddoedd cymysg neu Gyfnodau Allweddol cymysg gwrdd â’r terfyn, os yw’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn y blynyddoedd priodol, mae hyn yn cynnwys dosbarthiadau meithrin/derbyn cymysg.
Gwybodaeth ansawdd a methodoleg
Statws Ystadegau Gwladol
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 ac sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ddibynadwyaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.
Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Ceir eu dyfarnu fel statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoli Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried os ydy’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o gydymffurfiad â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ychwanegu i benderfyniadau a dadlau cyhoeddus. Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Gorffennaf 2010 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer (Saesneg yn unig).
Ers yr adolygiad diweddaraf gan Swyddfa ar gyfer Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:
- wedi'i ychwanegu at a gwella y wybodaeth am ddimensiynau ansawdd a disgrifio cysylltiadau â pholisi.
- cynhyrchu'r datganiad diweddaraf mewn fformat newydd i gynnwys siartiau sy'n rhoi mewnwelediad pellach i rywfaint o'r wybodaeth allweddol.
- gwneud mwy o ddata ar gael ar StatsCymru.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw i gynnal cydymffurfiad â’r safonau a ddisgwylir o Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu os yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu ar unrhyw bryd pan mae’r safonau uchaf heb eu cynnal, a’i ddyfarnu unwaith eto pan mae’r safonau yn cael eu hadfer.
Mae’r adran hon yn rhoi crynodeb o’r wybodaeth am yr allbwn hwn o dan bum agwedd ar ansawdd: Perthnasedd, Cywirdeb, Amseroldeb a Phrydlondeb, Hygyrchedd ac Eglurder, a Chymaroldeb. Mae hefyd yn ymdrin â materion penodol sy’n ymwneud ag ansawdd data 2023, ac yn disgrifio’r offeryn rheoli ansawdd a ddefnyddir yn y maes gwaith hwn.
Perthnasedd
Defnyddir yr ystadegau hyn o fewn a thu allan i Lywodraeth Cymru. Dyma rai o’r prif ddefnyddwyr:
- gweinidogion a Gwasanaeth Ymchwil y Senedd
- aelodau Senedd Cymru
- polisï addysg o fewn Llywodraeth Cymru
- rhannau eraill o Lywodraeth Cymru
- Estyn
- y gymuned ymchwilio
- myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
- dinasyddion unigol a chwmnïau preifat
Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amryw ffyrdd. Dyma ychydig o enghreifftiau:
- dyrannu adnoddau yn Setliad Cyllid Llywodraeth Leol Cymru a’r Grant Datblygu Disgyblion
- cyngor i weinidogion
- i hysbysu’r broses o wneud penderfyniadau o fewn polisïau addysg yng Nghymru, gan gynnwys ad-drefnu ysgolion
- i hysbysu Estyn yn ystod arolygiadau ysgolion
- maes addysg Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
- cyhoeddwyd ar Fy Ysgol Leol
- i gynorthwyo ymchwil mewn i gyrhaeddiad addysgol
Cywirdeb
Mae’r data yn y datganiad hwn yn cwmpasu’r holl ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn ogystal ag ysgolion Annibynnol.
Ar ôl rhyddhau’r prif ystadegau hyn ar 25 Mai 2023, dadansoddwyd y data’n fwy manwl gennym fel rhan o’n rhaglen waith arferol a gododd rai pryderon ynghylch y data cymhwysedd i gael prydau ysgol am. Er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon hyn, fe wnaethom gynnal dilysiad ychwanegol o’r data hwn ar ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim gydag awdurdodau lleol. Gweler diweddariad ein Prif Ystadegydd ar hyn.
Canlyniad y dilysiad ychwanegol hwn oedd bod rhai disgyblion a oedd ond yn derbyn prydau ysgol am ddim oherwydd gwarchodaeth drosiannol neu drwy'r polisi prydau ysgol am ddim cynradd cyffredinol wedi'u cofnodi'n anghywir fel rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim drwy'r meini prawf modd (mae disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau prawf modd penodol neu daliadau cymorth, gweler Prydau ysgol am ddim: gwybodaeth i rieni a gofalwyr).
Mesur | Gwreiddiol | Diwygiedig |
---|---|---|
Nifer sy'n gymwys i PYDd | 91,491 | 85,057 |
% sy'n gymwys i PYDd | 23.9 | 22.2 |
Nifer TP yn unig | 18,851 | 24,920 |
% TP yn unig | 4.9 | 6.5 |
Nifer sy'n gymwys i PYDd neu TP | 110,342 | 109,977 |
% sy'n gymwys i PYDd neu TP | 28.8 | 28.7 |
Mae’r tabl yma yn dangos, o ganlyniad i'r cywiriadau a dderbyniwyd gan awdurdodau lleol, fod canran y disgyblion rhwng 5 a 15 oed yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ym mis Ionawr 2023 trwy'r meini prawf prawf modd wedi'i ddiwygio i lawr o 23.9% i 22.2%. Mae'r data hwn bellach yn cael ei ystyried yn derfynol.
Efallai bod nifer y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim drwy'r meini prawf modd hefyd wedi cael eu dros gofnodi yn 2020 i 2022, ond nid yw'n bosibl adolygu'r data hwn. Gall y dros gofnodi hyn fod yn rhannol oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), a gyflwynodd her sylweddol i ysgolion ac awdurdodau lleol ac a arweiniodd yn uniongyrchol at atal neu ganslo nifer o gasgliadau data. Hefyd, hyd yn oed pan aeth casgliadau yn eu blaen, mae'n bosibl bod pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi cael goblygiadau pellach ar ansawdd y data na fyddai wedi bod yn amlwg ar unwaith. Fel y dangosir isod, effeithiwyd ar gyfrifiadau'r ysgol yn 2020 i 2022 gan bandemig y coronafeirws (COVID-19):
- Ni chynhaliwyd y broses ddilysu derfynol arferol yng nghyfrifiad Ionawr 2020 fel rhan o Setliad Cyllid Llywodraeth Leol Cymru oherwydd y cyfyngiadau symud cenedlaethol cyntaf o fis Mawrth 2020.
- Gohiriwyd cyfrifiad 2021 tan fis Ebrill 2021 oherwydd yr ail gyfyngiadau cenedlaethol yng Ngwanwyn 2021.
- Gohiriwyd cyfrifiad 2022 tan fis Chwefror 2022 oherwydd dychweliad graddol ar gyfer disgyblion yn dilyn gaeaf 2021.
Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) / Cyfrifiad Ysgolion (Ffurflen STATS1)
Mae data’r ysgolion yn deillio o'r dychweliadau Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion a'r dychweliadau STATS1 a anfonir gan ysgolion sydd ar agor ar ddiwrnod y Cyfrifiad ym mis Ionawr bob blwyddyn. Caiff y dychweliadau eu hawdurdodi gan brifathrawon, a'u dilysu gan Awdurdodau Lleol. Oherwydd lefel yr achosion coronafeirws (COVID-19) ym mis Ionawr 2022, gohiriwyd dyddiad y cyfrifiad i 15 Chwefror 2022. Roedd cau ysgolion rhwng Rhagfyr 2020 a Mawrth 2021 oherwydd y pandemig coronafeirws (COVID-19) yn golygu bod dyddiad cyfrifiad 2021 wedi’i ohirio tan 20 Ebrill 2021.
Mae CYBLD yn gasgliad data electronig o ddata ar lefel disgybl ac ysgol a ddarperir pob mis Ionawr gan bob ysgol a gynhelir. Mae ysgolion yn cofnodi data ar eu disgyblion a’u hysgol trwy gydol y flwyddyn yn eu meddalwedd System Gwybodaeth Rheoli (MIS). Mae’r data yn cael ei chyfuno i ffeil electronig CYBLD a’i gyrru i Gynulliad Cymru trwy DEWI, system rhannu data diogel ar y we, a ddatblygwyd gan Gynulliad Cymru. Mae DEWi yn dilysu’r data mewn nifer o ffyrdd er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel ar gyfer creu polisi a chyllido.
Mae ysgolion annibynnol yng Nghymru hefyd yn llenwi ffurflen STATS 1.
Amseroldeb a phrydlondeb
Mae’r data cyfrifiad yn y datganiad hwn yn dangos y sefyllfa ar Ddydd Mawrth 17 Ionawr 2023. Roedd DEWi ar gael i lanwytho ffeiliau ar 17 Ionawr 2023. Wedyn gofynnwyd i ysgolion ac awdurdodau lleol ddilysu eu data yn y cyfnod dilysu, a ddaeth i ben ar 5 Mai 2023. Following concerns relating to free school meal eligibility data, an additional validation period was carried out in June and July 2023.
Hygyrchedd ac Eglurder
Mae’r Datganiad Ystadegol Cyntaf hwn yn cael ei hysbysebu ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar yr adran Ystadegau o wefan Llywodraeth Cymru. Yn cyd-fynd ag ef mae Taenlen Dogfen a mae tablau manylach ar StatsCymru, gwasanaeth y gellir ei ddefnyddio am ddim sy’n caniatáu i ymwelwyr weld, trin, creu a lawrlwytho data. Fe fydd y data hefyd yn cael ei gyhoeddi ar Fy Ysgol Leol, gwefan a ddyluniwyd i agor mynediad i ddata ysgolion i rieni a phawb arall sydd â diddordeb yn eu hysgol leol.
Cymharedd
Dyma’r data diweddara ar gyfer:
Lloegr
Ystadegau: niferoedd ysgolion a disgyblion (GOV.UK)
Ystadegau: addysg a hyfforddiant y DU (GOV.UK)
Yr Alban
Ystadegau ac ymchwil (Llywodraeth yr Alban)
Gogledd Iwerddon
Ystadegau addysg (Yr Adran Addysg, Gogledd Iwerddon)
Deddf Allegiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021. yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Geraint Turner
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 73/2023