Mae pobl yng Nghymru yn fwy bodlon ag ansawdd gofal eu meddygon teulu ac addysg, ond yn gynyddol bryderus ynglŷn â’r newid yn yr hinsawdd, yn ôl canlyniadau diweddaraf yr Arolwg Cenedlaethol a gyhoeddwyd heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg wyneb yn wyneb o 12,000 o bobl ledled Cymru. Mae'r astudiaeth yn casglu gwybodaeth ar amryw o bynciau gan gynnwys iechyd, ysgolion, chwaraeon, y celfyddydau a diwylliant. Roedd arolwg 2018-19 hefyd yn cynnwys nifer o gwestiynau newydd ynglŷn â’r Gymraeg a materion amgylcheddol.

Bydd Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill ledled Cymru yn defnyddio'r canlyniadau i lywio penderfyniadau a llunio polisïau i wneud Cymru yn lle gwell i fyw ynddo.
Dyma rai o’r canlyniadau allweddol o'r Arolwg Cenedlaethol yn 2018-19:

  • mae 83% o bobl yn fodlon neu’n fodlon iawn â’u bywydau
  • mae 93% o'r bobl a holwyd yn fodlon â gofal eu meddyg teulu (7% yn fwy na'r  llynedd) a 93% (+3%) yn fodlon â’r gofal a gawsant yn eu hapwyntiad ysbyty diwethaf yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol
  • mae 93% o bobl yn meddwl bod hinsawdd y byd yn newid. O'r rhain, roedd 37% yn bryderus iawn.
  • mae 90% o rieni yn fodlon ag ysgol gynradd eu plentyn ac 81% yn fodlon ag ysgol uwchradd eu plentyn
  • mae 43% o siaradwyr Cymraeg wedi dysgu’r iaith yn yr ysgol
  • mae 84% yn fodlon â’u mannau gwyrdd lleol
  • mae 80% yn fodlon â gwasanaeth ailgylchu eu hawdurdod lleol
  • mae 74% o bobl yn ailddefnyddio eu bagiau siopa eu hunain wrth siopa am fwyd y rhan fwyaf o'r amser

Wrth groesawu'r canlyniadau, dywedodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, Rebecca Evans:

"Mae'r Arolwg Cenedlaethol yn adnodd gwerthfawr gan ei fod yn rhoi trosolwg inni o farn pobl Cymru am lawer o agweddau ar eu bywydau.

"Eleni, fe wnaethom ni gyflwyno cwestiynau newydd a oedd yn canolbwyntio ar yr amgylchedd. Mae'n amlwg o'r canlyniadau bod ein deddfwriaeth datblygu cynaliadwy a’r amgylchedd, sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang, yn cael effaith gadarnhaol. Rhaid i ni fanteisio ar y momentwm hwn nawr wrth i ni ymdrechu’n galetach i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd."