Neidio i'r prif gynnwy

Data sy’n cyflwyno canlyniadau profion cyfanredol ar gyfer pob disgybl ym mlynyddoedd 2 i 9.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Chwefror 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cymaroldeb

Mae sgorau safonedig yn ôl oedran yn darparu mesur o berfformiad cymharol yn unig. Mae sgôr o dros 115 yn nodi canlyniadau prawf sydd yn uwch na’r rhai ar gyfer rhan fwyaf y plant o’r un oedran. Mae sgôr o rhwng 85 ac 115 yn nodi canlyniadau prawf sydd yn cyfateb i ran fwyaf y plant o’r un oedran. Mae sgôr is na 85 yn nodi canlyniadau prawf sydd yn is na’r rhai ar gyfer rhan fwyaf y plant o’r un oedran.

Mae’r canlyniadau ar gyfer pob grŵp blwyddyn a phrofi wedi'u safoni yn annibynnol bob blwyddyn. Felly, ni all y data yn y datganiad hwn gael ei ddefnyddio i gymharu perfformiad cymharol o ddisgyblion rhwng y gwahanol brofion.

Nodwch gan fod y data wedi'u safoni yn annibynnol bob blwyddyn, ni ellir cymharu’r canlyniadau dros amser.