Neidio i'r prif gynnwy

Nodyn: Nodwyd gwallau a effeithiodd ar y datganiad canlyniadau cyfrifiad gweithlu ysgolion 2019. Mae hyn yn effeithio ar y data cyhoeddwyd ar staff cymorth. O ganlyniad i hyn, rydym wedi adolygu’r fethodoleg defnyddiwyd i gyfrifo’r cyfrif pen ar lefel Cymru ac awdurdod lleol. Mae hyn yn effeithio unigolion sy’n gweithio mewn rolau lluosog o fewn ysgol a chyfrifwyd ddwywaith yn erbyn rolau cynorthwywyr addysgu a staff cymorth eraill.

Arweiniodd hyn at ostyngiad yn y cyfrif pen staff cymorth, a newidiadau mân yn y niferoedd yn ôl nodweddion staff. Mae’r data sydd wedi eu gyhoeddi ar StatsCymru ac yn y dangosfwrdd rhyngweithiol wedi’u newid yn unol â hyn. Ni newidiodd y data ar y nifer o athrawon yn ystod y broses hon.

Ystadegau arbrofol yw'r rhain am fod y data yn yr adroddiad hwn yn ymwneud â gwybodaeth a gasglwyd yn y Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion (CBGY) cyntaf yng Nghymru ym mis Tachwedd 2019.  Nid yw'r adroddiad yn ymwneud â chyfnod pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Mae'r datganiad hwn a’r tablau StatsCymru a dangosfwrdd ategol yn cynnwys gwybodaeth fanylach am y gweithlu ysgolion yng Nghymru, gan gynnwys data wedi'u dadansoddi fesul awdurdod lleol, sector a nodweddion eraill.

Athrawon

Mae gwybodaeth am athrawon mewn ysgolion (e.e. cyfrif pen, wedi'i rhannu yn ôl rhyw/oedran) wedi'i seilio ar wybodaeth a gyflwynwyd gan ysgolion yn natganiad Ysgol y CBGY.

Roedd 26,882 o athrawon mewn lleoliadau a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru ym mis Tachwedd 2019. Nifer yr athrawon ysgol gynradd oedd 13,328, gyda 11,171 mewn ysgolion uwchradd. O gyfanswm nifer yr athrawon, roedd 25,492 yn athrawon cymwysedig, gan gynnwys 12,667 mewn ysgolion cynradd a 10,562 mewn ysgolion uwchradd.

Image
Yn cynnwys dadansoddiad yn ol rhyw athrawon ar gyfer athrawon dosbarth, athrawon mewn swyddi arweinyddiaeth ac athrawon arall, ynghyg a holl athrawon.

Athrawon (cyfrif pennau) yn ôl categori staff ac ystod oedran ar StatsCymru

  • O'r holl athrawon mewn lleoliadau a gynhelir gan awdurdodau lleol, roedd 75.2% yn fenywod. 
  • Roedd rhaniad yr athrawon fesul rhyw yn amrywio ar draws sectorau, gyda 83.3% o'r holl athrawon mewn ysgolion cynradd yn fenywod, o gymharu â 66.4% mewn ysgolion uwchradd.
  • I'r gwrthwyneb, roedd menywod yn cyfrif am 66.0% o benaethiaid (gan gynnwys penaethiaid gweithredol a phenaethiaid dros dro) mewn ysgolion cynradd a 37.2% mewn ysgolion uwchradd.
  • Yn gyffredinol, roedd y gyfran fwyaf o athrawon rhwng 30 oed a 39 oed (32.7%). Mae hyn yn gyson ar gyfer pob sector ysgol ar wahân i Unedau Cyfeirio Disgyblion lle roedd y gyfran fwyaf o athrawon rhwng 40 oed a 49 oed (38.7%).
  • Roedd athrawon o dan 25 oed y cyfrif am 3.7% o'r holl athrawon, ac yn amrywio o 2.0% mewn ysgolion arbennig i 4.9% mewn ysgolion canol.
  • Roedd athrawon sy'n nodi eu bod yn Wyn-Prydeinig yn cyfrif am 95.2% o'r holl athrawon mewn lleoliadau a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru.
  • O gyfanswm nifer yr athrawon, gwnaeth 0.6% ddatgan fod ganddynt gyflwr iechyd corfforol neu iechyd meddwl neu salwch yn para neu y disgwylir iddo bara am 12 mis neu fwy.

Y Gymraeg: athrawon

  • O'r holl athrawon mewn lleoliadau a gynhelir gan awdurdodau lleol, dywedodd 30.5% fod eu gallu Cymraeg ar lefel ‘Uwch’ neu lefel ‘Hyfedredd’.
  • Roedd cyfran yr athrawon a ddywedodd fod eu gallu Cymraeg ar lefel ‘Uwch’ neu lefel ‘Hyfedredd’ yn amrywio fesul sector, o 11.1% mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion i 50.4% mewn ysgolion canol – mae hyn yn adlewyrchu’r gyfran uwch o ysgolion canol wedi’u categoreiddio fel cyfrwng Gymraeg neu dwyieithog. Y gyfran mewn ysgolion cynradd ac uwchradd oedd 32.3% a 28.0%, yn y drefn honno.
  • Cyfran yr athrawon a ddywedodd fod eu gallu Cymraeg ar lefel ‘Uwch’ neu lefel ‘Hyfedredd’ ond nad oeddent yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg oedd 15.4% (12.6% mewn ysgolion cynradd a 19.2% mewn ysgolion uwchradd).

Cyflog athrawon

Mae gwybodaeth am gyflog (gan gynnwys cyflog cyfartalog a dosbarthiad ar draws yr ystodau cyflog) yn seiliedig ar wybodaeth a gyflwynwyd yn natganiad Cyflog, Adnoddau Dynol ac Absenoldeb y CBGY.  Cafodd cofnodion o'r datganiad hwn eu cysylltu â datganiad Ysgol y CBGY gan ddefnyddio'r set ddata ofynnol i ddarparu dadansoddiad fesul sector ysgol (h.y. cynradd, uwchradd, ac ati).  Lle nad oedd cofnod cyfatebol yn natganiad Ysgol y CBGY, mae'r sector wedi'i gofnodi fel ‘Arall’. Felly, ni fydd cyfansymiau data ar gyflog athrawon yn hafal i gyfansymiau data ar nodweddion athrawon uchod (gweler adroddiad ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: gwybodaeth Ggfndir’ am wybodaeth bellach).

Image
Yn cynnwys dadansoddiad ar gyfer athrawon dosbarth, penaethiaid (yn cynnwys penaethiaid gweithredol), holl swyddi arweinyddiaeth a chyfanswm holl athrawon. Mae holl swyddi arweinyddiaeth yn cynnwys penaethiaid.

Cyflog cyfwerth ag amser llawn cyfartalog (cymedr) athrawon yn ôl awdurdod lleol a swydd ar StatsCymru

  • O'r holl athrawon mewn lleoliadau a gynhelir gan awdurdodau lleol, roedd 24.9% ar y prif ystod cyflog ac roedd 59.6% ar yr ystod cyflog uwch. Roedd 13.9% ar yr ystod cyflog i arweinwyr.
  • Cyflog cyfwerth ag amser llawn cyfartalog (cymedr) yr holl athrawon mewn lleoliadau a gynhelir gan awdurdodau lleol oedd £40,114(r).
  • Roedd athrawon ystafell ddosbarth ar draws pob sector yn cael cyflog cyfwerth ag amser llawn cyfartalog o £37,135. Roedd y cyflog cyfwerth ag amser llawn cymedrig yn amrywio o fewn sectorau, gydag athrawon ysgol gynradd yn cael cyflog cyfartalog o £36,813 o gymharu â £37,446 ar gyfer athrawon ystafell ddosbarth ysgol uwchradd.
  • Roedd penaethiaid (gan gynnwys penaethiaid gweithredol) yn cael cyflog cyfartalog o £65,876 o gymharu â £58,400 ar gyfer yr holl athrawon mewn swyddi arwain.
  • Y cyflog cyfwerth ag amser llawn cyfartalog ar gyfer penaethiaid mewn ysgolion cynradd oedd £61,528 o gymharu â £89,331 ar gyfer penaethiaid mewn ysgolion uwchradd.

(r) Diwygiwyd ar 26 Chwefror 2021.

Staff cymorth

Mae gwybodaeth am staff cymorth mewn ysgolion (e.e. cyfrif pen, wedi'i rhannu yn ôl rhyw/oedran) wedi'i seilio ar wybodaeth a gyflwynwyd gan ysgolion yn natganiad Ysgol y CBGY.

  • Roedd 29,024(r) o staff cymorth mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru ym mis Tachwedd 2019, yr oedd 16,157 ohonynt yn Gynorthwywyr Addysgu.
  • Roedd y nifer mwyaf o staff cymorth yn gweithio mewn ysgolion cynradd, sef 18,055(r) gan gynnwys 12,119 o gynorthwywyr addysgu. Roedd 6,990(r) o staff cymorth mewn ysgolion uwchradd, gan gynnwys 2,178 o gynorthwywyr addysgu.
Image
Canran o staff cymorth yn ol rhyw sector ysgol yn 2019.  Mae'n cynnwys dadansoddiad o staff cymorth mewn ysgolion meithrin, cynradd, canol, uwchradd ac arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion.

Staff cymorth (cyfrif pennau) yn ôl categori staff a ystod oedran ar StatsCymru

  • O'r holl staff cymorth mewn lleoliadau a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru, roedd 90.6%(r) yn fenywod. Roedd cyfran y staff cymorth a oedd yn fenywod yn amrywio o 78.4%(r) mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion i 98.6%(r) mewn ysgolion meithrin. Roedd menywod yn cyfrif am 95.8% o staff cymorth mewn ysgolion cynradd a 79.8%(r) mewn ysgolion uwchradd.
  • Roedd y gyfran fwyaf o staff cymorth ym mhob lleoliad a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru rhwng 50 oed a 59 oed (28.4%).
  • Mae hyn yn amrywio ar draws cyfnodau ysgol. Roedd y gyfran fwyaf o staff cymorth rhwng 30 a 39 oed mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion (28.0%(r)), rhwng 40 a 49 oed mewn ysgolion cynradd (29.5%(r)) ac ysgolion canol (27.0%(r)) a rhwng 50 a 59 oed mewn ysgolion meithrin (30.1%(r)), ysgolion uwchradd (31.1%(r)) ac ysgolion arbennig (24.8%(r)).
  • Roedd staff cymorth sy'n nodi eu bod yn Wyn-Prydeinig yn cyfrif am 93.7% o'r holl staff cymorth mewn lleoliadau a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru.
  • O gyfanswm nifer y staff cymorth, gwnaeth 1.1% ddatgan fod ganddynt gyflwr iechyd corfforol neu iechyd meddwl neu salwch yn para neu y disgwylir iddo bara am 12 mis neu fwy.

(r) Diwygiwyd ar 26 Chwefror 2021.

Y Gymraeg: staff cymorth

  • O'r holl staff cymorth mewn lleoliadau a gynhelir gan awdurdodau lleol, dywedodd 17.2% fod eu gallu Cymraeg ar lefel ‘Uwch’ neu lefel ‘Hyfedredd’.
  • Roedd cyfran y staff cymorth a ddywedodd fod eu gallu Cymraeg ar lefel ‘Uwch’ neu lefel ‘Hyfedredd’ yn amrywio fesul sector, o 8.7% mewn ysgolion arbennig i 31.0%(r) mewn ysgolion canol. Y gyfran mewn ysgolion cynradd ac uwchradd oedd 18.3% a 15.8%, yn y drefn honno.

(r) Diwygiwyd ar 26 Chwefror 2021.

Athrawon a chynorthwywyr addysgu sy’n gwarchod eu hunain yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19)

Mae gwybodaeth o’r CBGY hefyd wedi’i defnyddio i gynnal dadansoddiad cychwynnol er mwyn amcangyfrif nifer yr athrawon a chynorthwywyr addysgu sy’n gweithio mewn ysgolion sydd wedi’u cynnwys ar y rhestr o gleifion a warchodir. Ar gyfer y dadansoddiad hwn, cafodd gwybodaeth am y gweithlu o ddatganiadau awdurdodau lleol ac ysgol y CBGY ei chysylltu â’r rhestr o’r cleifion a warchodir gan ddefnyddio enw cyntaf, cyfenw a dyddiad geni fel y meysydd cysylltu. Cynhaliwyd y gwaith hwn er mwyn mynd i’r afael ag anghenion gweithredol uniongyrchol mewn ymateb i bandemig COVID-19.

  • Mae 459 o athrawon sy’n gweithio mewn ysgolion yng Nghymru wedi’u cynnwys ar y rhestr o’r cleifion a warchodir.  Mae hyn yn cynrychioli 1.6% o’r athrawon yng Nghymru.
  • Mae 574 o gynorthwywyr addysgu sy’n gweithio mewn ysgolion yng Nghymru wedi’u cynnwys ar y rhestr o’r cleifion a warchodir.  Mae hyn yn cynrychioli 2.3% o’r cynorthwywyr addysgu yng Nghymru.

Mae’r ffigurau ar gyfer y dadansoddiad uchod yn cynnwys athrawon a chynorthwywyr addysgu oedd wedi’u cyflogi mewn ysgol ar y dyddiad cyfrifiad, ynghyd â rhai hynny oedd yn cael eu cyflogi yn ganolog gan awdurdodau lleol.  Felly, dylir cymryd gofal wrth gymharu’r ffigurau yn erbyn y nifer o staff ym mhrif data yr adroddiad yma oherwydd gwahaniaethau yn y methodoleg a ddefnyddiwyd.

Mae adroddiad ‘Athrawon a chynorthwywyr addysgu a warchodir yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19)’ yn rhoi rhagor o wybodaeth am y gwaith dadansoddi hwn.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae’r prif ystadegau hyn yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd yng nghasgliad cyntaf y CBGY ac, fel y cyfryw, cânt eu cyhoeddi fel ‘ystadegau arbrofol’.  Nid yw’r wybodaeth a gasglwyd ar gyfer 2019 wedi’i dilysu’n ffurfiol nac yn derfynol.  Fodd bynnag, mae’r broses yn cynnwys camau dilysu a gwirio awtomatig amrywiol er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel i lywio’r broses o lunio polisïau.

Mae ein hadroddiad ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: gwybodaeth gefndir’ yn rhoi rhagor o fanylion am wybodaeth allweddol am ansawdd a methodoleg.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Gareth Thomas
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: educationworkforcedata@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 121/2020(R)