Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, wedi llongyfarch dysgwyr ledled Cymru sydd wedi cael eu canlyniadau Safon Uwch, Uwch Gyfrannol, Bagloriaeth Cymru Uwch a chymwysterau galwedigaethol y bore yma.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar ymweliad â Choleg Cambria yn Wrecsam, cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet â myfyrwyr oedd yn casglu eu canlyniadau. Dywedodd:

Mae heddiw yn ddiwrnod mawr i bawb sy'n cael eu canlyniadau ledled Cymru. Hoffwn longyfarch yr holl fyfyrwyr, yn ogystal â'n hathrawon a'n staff gwych yn ein hysgolion a'n colegau, am eu holl waith caled yn arwain at heddiw.

Arholiadau eleni yw'r cam olaf wrth i ni ddychwelyd at y trefniadau a oedd ar waith cyn y pandemig. Eleni, am y tro cyntaf ers y pandemig, cynhaliwyd arholiadau ac asesiadau Safon Uwch a Safon Uwch Gyfrannol gyda'r un trefniadau â chyn y pandemig. 

Mae'r canlyniadau yn unol â'r hyn roedden ni'n gobeithio ei weld ac maen nhw'n weddol debyg i ganlyniadau cyn y pandemig.

Dylai pob un ohonoch chi sy'n cael eich canlyniadau heddiw fod yn hynod falch o'r hyn rydych chi wedi'i gyflawni. Mae heddiw yn dystiolaeth o'ch penderfyniad a'ch dyfalbarhad.

Beth bynnag yw eich cynlluniau ar gyfer y cam nesaf yn eich bywyd, dymunaf bob lwc i chi i gyd. Mae llawer o ffyrdd i barhau â'ch dysgu. Efallai y bydd rhai ohonoch ar fin dechrau prentisiaeth neu swydd newydd neu efallai eich bod wedi sicrhau lle mewn prifysgol o'ch dewis, gan gynnwys rhai o'n sefydliadau gwych yma yng Nghymru.

Ond os ydych chi angen cyngor ar beth i'w wneud nesaf, mae digon o wybodaeth a chefnogaeth ar gael i chi, trwy eich ysgol neu goleg yn ogystal â'r Warant i Bobl Ifanc sy'n cynnig ystod o opsiynau.

 Byddaf yn parhau i ganolbwyntio ar wneud popeth o fewn fy ngallu i godi safonau a sicrhau bod pawb yn cael eu cefnogi i gyrraedd eu llawn botensial.