Neidio i'r prif gynnwy

Canlyniadau arholiadau allanol a gafodd eu sefyll gan ddisgyblion 15 oed neu 17 oed, sy'n cynnwys TGAU a Lefel A ar gyfer Medi 2018 i Awst 2019.

Disgyblion ym mlwyddyn 11

  • Y sgôr pwyntiau cyfartalog ar gyfer Llythrennedd yw 39.0, y sgôr pwyntiau cyfartalog ar gyfer Rhifedd yw 37.2(rr) a'r sgôr pwyntiau cyfartalog ar gyfer Gwyddoniaeth yw 36.8.
  • Y sgôr pwyntiau cyfartalog ar gyfer y Dystysgrif Her Sgiliau yw 36.4.
  • Y sgôr pwyntiau Capio 9 cyfartalog (fersiwn y mesur interim) oedd 354.4(rr).
  • Roedd perfformiad merched yn well na pherfformiad bechgyn ym mhob un o'r pum dangosydd hyn, ac roedd sgôr gyfartalog disgyblion sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim yn is na'r rheini nad oeddent yn gymwys.
  • Cyflawnodd 53.8% o ddisgyblion 5 TGAU (neu gymhwyster cyfwerth) gradd A*-C gan gynnwys Cymraeg/Saesneg a Mathemateg (trothwy cynwysedig Lefel 2).

(rr) Diwygiedig ar 23 Ionawr 2020.

Disgyblion 17 oed

  • Cyflawnodd 97.9% 2 radd A*-E ar lefel Safon Uwch (trothwy Lefel 3).
  • Cyflawnodd 58.4% 3 gradd A*-C ar lefel Safon Uwch.
  • Cyflawnodd 13.2%(r) 3 gradd A*-A ar lefel Safon Uwch.

(r) Diwygiedig ar 18 Rhagfyr 2019.

Nodyn

Yn dilyn adolygiad sylfaenol o'r system atebolrwydd ar gyfer ysgolion yng Nghymru, mae sawl mesur perfformiad interim wedi'u cyflwyno ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. Yn ogystal, mae'r holl fesurau eleni yn cael eu cyfrif ar sail cofnod cyntaf disgybl mewn cymhwyster yn hytrach na'u cofnod gorau fel yn y gorffennol. Mae hyn yn gwneud cymariaethau dros amser yn anoddach. Gweler y datganiad a'r nodiadau cysylltiedig am ragor o wybodaeth.

Adroddiadau

Canlyniadau arholiadau, Medi 2018 i Awst 2019: diwygiedig , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 964 KB

PDF
964 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Canlyniadau arholiadau, Medi 2018 i Awst 2019: nodiadau , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 324 KB

PDF
324 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Canlyniadau arholiadau, Medi 2018 i Awst 2019: tablau (diwygiedig) , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 81 KB

ODS
81 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.