Neidio i'r prif gynnwy

Cael gafael ar y data ar ffurf electronig

Mae'r data sy'n sail i'r siartiau a'r tablau yn y datganiad hwn ar gael ar StatsCymru (gwasanaeth rhyngrwyd am ddim lle gall ymwelwyr weld, trin, creu a lawrlwytho tablau). Dewiswch Cyfnod Allweddol 4 (StatsCymru) ar gyfer data TGAU a data eraill sy’n gysylltiedig â Chyfnod Allweddol 4, a Lefel Uwch a Cyfwerth (StatsCymru) ar gyfer data Safon Uwch a data eraill sy'n gysylltiedig â Chyfnod Allweddol 5.

Cyd-destun

Cyhoeddiadau cysylltiedig

Mae'r ffigurau yn y cyhoeddiad hwn yn wahanol i'r ffigurau a gyhoeddwyd gan y Sefydliadau Dyfarnu ym mis Awst. Roedd ffigurau'r Sefydliadau Dyfarnu yn gysylltiedig â chanlyniadau'r meysydd pwnc unigol ar gyfer yr holl ymgeiswyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ni waeth beth oedd eu hoedran. Mae'r ffigurau a gyhoeddir yn y Datganiad Ystadegol Cyntaf hwn yn canolbwyntio ar berfformiad cyffredinol ymgeiswyr ym Mlwyddyn 11/15 oed a'r ymgeiswyr 17 oed hynny sy'n sefyll yr arholiadau hyn yng Nghymru yn unig. Mae'r ffigurau hyn ar gael ar wefan y Cyd-bwyllgor Cymwysterau (JCQ).

Gellir cael gafael ar y data ar gyfer Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban drwy ddilyn y dolenni isod. Noder bod y data a gynhyrchir gan y gweinyddiaethau hyn yn seiliedig ar ddisgyblion ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 4, ond ein bod ni'n cyhoeddi'r data hynny yn seiliedig ar ddisgyblion ym Mlwyddyn 11. Yn dilyn y newidiadau i lefelau cymwysterau, cywerthedd, diystyru a rheolau ailgofrestru yn Lloegr yn 2014, nid oes modd cymharu data ar gyfer Lloegr mwyach – gweler hefyd adran 5.5. Ni ellir cymharu data'r Alban gan fod y system arholiadau a'r cymwysterau yn wahanol yno.

I gI gael rhagor o wybodaeth neu gyngor ar gyfyngiadau cymariaethau rhyngwladol, e-bostiwch ystadegau.ysgolion@llyw.cymru.

Lloegr

GCSE and Equivalent Results in England (Adran Addysg)

A-Level and other 16-18 Results in England (Adran Addysg)

Gogledd Iwerddon

Qualifications and Destinations of Northern Ireland School Leavers (Adran Addysg)

Yr Alban

School leaver attainment and initial destinations: statistics (Llywodraeth yr Alban)

Rydym hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth am asesiadau athrawon mewn pynciau craidd a phynciau di-graidd yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnodau Allweddol 2 a 3, y gellir dod o hyd iddi ar y dudalen ystadegau ac ymchwil.

Ffynhonnell y data

Caiff yr ystadegau eu casglu ynghyd gan nifer o sefydliadau dyfarnu dros yr haf. Darparodd y sefydliadau dyfarnu canlynol ddata ar gyfer y datganiad hwn:

ABC Awards, Agored Cymru, AQA, ASDAN, Bwrdd Cysylltiedig yr Ysgolion Cerddoriaeth Brenhinol (ABRSM), Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (BCS), Cyngor Diogelwch Prydain (BSC), CACHE, City and Guilds, CCEA, Cambridge International Examinations (CIE), Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH), C Skills, EMTA Awards Ltd (EAL), ILM, IMI Awards Ltd (IMIAL), LIBF, NCFE, Rhwydwaith Cenedlaethol y Coleg Agored (NOCN), OCR, Pearson (Edexcel/EDI), Prince’s Trust, Rock School Ltd (RSL), Sports Leaders UK, VTCT, CBAC.

Diffiniadau

Cwmpas

Mae'r ystadegau yn y datganiad hwn yn cynnwys pob ysgol a gynhelir yng Nghymru. Dim ond canlyniadau ar gyfer disgyblion Blwyddyn 11 a disgyblion 17 oed a gafwyd gan y sefydliadau dyfarnu a restrir uchod a gaiff eu cynnwys. Caiff arholiadau a safwyd yn gynharach eu cynnwys hefyd. Caiff unrhyw arholiadau a gyflawnir gan ddisgybl cyn Blwyddyn 11 eu cadw'n ôl a'u cynnwys yn y flwyddyn ysgol pan fydd y disgybl yn dechrau Blwyddyn 11. Noder bod y wybodaeth yn y datganiad hwn yn ymwneud â phob ysgol ar gyfer ffigurau Cymru.

Dim ond cymwysterau a ddyfarnwyd hyd at 31 Awst a gaiff eu cynnwys. Ni chaiff dyfarniadau newydd ar ôl y dyddiad hwnnw, nac unrhyw arholiadau a gaiff eu hailsefyll neu eu hailfarcio ar ôl y dyddiad hwnnw, eu cynnwys.

Hyd at 2005/06, dim ond cymwysterau TGAU, cyrsiau byr TGAU, GNVQ ac NVQ a gynhwysir yn yr ystadegau. O 2006/07, mae'r ystadegau yn cynnwys yr holl gymwysterau a gymeradwywyd i'w defnyddio ar gyfer dysgwyr cyn-16 neu 16-18 yng Nghymru. Ers cyflwyno'r diffiniad ehangach, cynhwyswyd amrywiaeth fwy o gymwysterau ac felly, cafwyd cynnydd yn y prif ddangosyddion perfformiad. Ceir esboniad o'r gwahanol fathau o gymwysterau ar wefan Gov.UK.

Diystyru

Caiff arholiad ei ddiystyru pan fydd disgybl yn cyflawni gradd uwch neu gymhwyster lefel uwch yn yr un grŵp pwnc. Os caiff cymhwyster ei ddiystyru, ni fydd yn cyfrif tuag at yr ystadegau a gyhoeddir yn y datganiad hwn, nac unrhyw ystadegau swyddogol eraill a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn diystyru cymwysterau tebyg yn y grwpiau pwnc canlynol:

Grŵp 1

Cymwysterau lefel mynediad, cyrsiau byr TGAU, cyrsiau TGAU llawn, cyrsiau TGAU galwedigaethol dwbl.

Grŵp 2

Safon UG, Safon UG galwedigaethol dwbl, Safon Uwch, Safon Uwch galwedigaethol dwbl, Tystysgrif Addysg Alwedigaethol UG, Tystysgrif Addysg Alwedigaethol Uwch, Tystysgrif Addysg Alwedigaethol Uwch dyfarniad dwbl.

Grŵp 3

Cymwysterau mathemateg annibynnol.

Grŵp 4

Sgiliau allweddol.

Grŵp 5

Y Dyfarniad mewn Cymwysiadau Digidol (AiDA), y Dystysgrif mewn Cymwysiadau Digidol (CiDA), y Dystysgrif Estynedig mewn Cymwysiadau Digidol (CiDA+) a'r Diploma mewn Cymwysiadau Digidol (DiDA).

Grŵp 6

Cymwysterau NVQ.

Grŵp 7

Cymwysterau BTEC a chymwysterau eraill.

Grŵp 8

Bagloriaeth Cymru.

Newidiadau o ran Cofrestriadau Lluosog

O 2018/19, dim ond canlyniadau'r dyfarniad cyntaf ar gyfer cymhwyster a gwblheir (gan gynnwys cymwysterau galwedigaethol) a fydd yn cyfrif tuag at fesurau perfformiad.

Mae'r newid hwn yn annog ysgolion i gofrestru dysgwyr pan fyddant yn hyderus eu bod yn barod i ennill y canlyniad gorau posibl ar eu cyfer. Nid yw'n atal dysgwyr rhag ailsefyll os bydd ysgol neu ddysgwr yn awyddus i wella ei chanlyniadau neu ei ganlyniadau, ond ni fyddai'r ail ganlyniad hwn yn cyfrif tuag at fesurau perfformiad yr ysgol, hyd yn oed os bydd y canlyniad yn uwch.

Newidiadau yn ystod blynyddoedd blaenorol

O 2015/16, gwnaethom newid i adrodd ar berfformiad ysgolion ar sail carfan Blwyddyn 11 yn hytrach na disgyblion 15 oed ar ddechrau'r flwyddyn. Mae carfan Blwyddyn 11 yn seiliedig ar nifer y disgyblion a oedd wedi'u cofrestru ar gofrestr Blwyddyn 11 yr ysgol ar ddiwrnod cyfrifiad yr ysgol.

Cyn 2015/16, roedd data yn seiliedig ar ysgolion prif ffrwd, ysgolion arbennig, ysgolion annibynnol ac Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCD). Nid oeddem yn cynnwys y disgyblion hynny a oedd yn cael addysg heblaw yn yr ysgol nad oeddent yn mynychu UCD. Mae'r data ychwanegol hyn ar gyfer addysg heblaw yn yr ysgol wedi'u cynnwys yn y broses baru ac felly wedi'u cynnwys yn ein canlyniadau o 2015/16.

Yn 2015/16, cyflwynwyd terfyn i werth cyfraniad cymwysterau nad ydynt yn gymwysterau TGAU i fesurau perfformiad. Mae hyn yn golygu y bydd gan unrhyw gymhwyster lefel 1 neu lefel 2 unigol uchafswm cywerthedd, o ran perfformiad, o 2 TGAU, sy'n berthnasol i bob mesur.

Roedd yr ystadegau yn y datganiad hwn yn ymwneud yn flaenorol â phob ysgol a gynhelir a phob ysgol annibynnol yng Nghymru. O 2015/16, cafodd ysgolion annibynnol eu tynnu o ffigurau Cymru. Y rheswm am hyn yw mai dim ond ar gymwysterau a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru i'w defnyddio mewn ysgolion y cesglir data. Gall ysgolion annibynnol ddewis cymwysterau eraill nad ydynt wedi'u cymeradwyo, megis cymwysterau TGAU Rhyngwladol, ac nid yw'r rhain wedi'u cynnwys yn ein ffigurau. Yn ogystal, mae cyfranogiad ysgolion annibynnol yn yr ymarferion gwirio data ysgolion a gynhelir yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd yn dueddol o fod yn isel

Roedd cyfnod arholiadau 2021/22 a 2022/23 yn flwyddyn drosiannol, lle dychwelwyd cymwysterau perthnasol disgyblion Cymru i arholiad ysgrifenedig. Nid oedd hwn yn ddychweliad cyflawn i arholiadau cyn-bandemig. I ddigolledu am unrhyw darfu ar amserlen yr ysgol, rhoddwyd dewis ehangach o gwestiynau o’r maes llafur i ddisgyblion a safodd arholiadau yn 2021/22, gyda Cymwysterau Cymru yn gosod canlyniadau hanner ffordd yn fras rhwng 2018/19 (y tro diwethaf i arholiadau gael eu sefyll) a chanlyniadau 2020/21. Wrth i ni drosglwyddo yn ôl i drefniadau asesu cyn-bandemig, roedd rhywfaint o gymorth yn parhau i fod ar gael i ddysgwyr a safodd arholiadau yn 2022/23. Roedd y cymorth hwn ar ffurf gwybodaeth ymlaen llaw ac ymagwedd gefnogol at raddio. Yn 2022/23 gosododd Cymwysterau Cymru y canlyniadau ar lefel genedlaethol yn fras hanner ffordd rhwng canlyniadau 2018/19 a 2021/22.

Dyfarnwyd graddau i ddisgyblion y dyfarnwyd cymhwyster iddynt yn ystod cyfnodau haf 2020 a 2021 yn seiliedig ar radd a bennwyd gan y ganolfan neu fodel gradd a aseswyd gan y ganolfan. Pennwyd graddau gan ysgolion a cholegau, yn seiliedig ar eu hasesiad o waith dysgwyr, gan ddefnyddio ystod o dystiolaeth (gan gynnwys asesiadau heblaw arholiad, ffug arholiadau, a gwaith dosbarth).

Prif Fesurau Cyfnod Allweddol 4

Cyflwynwyd cyfres newydd o brif fesurau interim ar gyfer 2018/19. Mae'r mesurau perfformiad interim yn cynnwys pum prif fesur, y mae pob un ohonynt yn seiliedig ar sgoriau pwyntiau:

  • Sgôr Capio 9 (Fersiwn y Mesur Interim)
  • Mesur Llythrennedd
  • Mesur Rhifedd
  • Mesur Gwyddoniaeth
  • Mesur Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru

Sgôr Capio 9 (Fersiwn y Mesur Interim)

Mae'r sgôr Capio 9 (Fersiwn y Mesur Interim) yn cyfrifo cyfartaledd y sgoriau ar gyfer y dyfarniadau gorau i bob dysgwr unigol yn y garfan, wedi'i chapio ar faint penodedig o gymwysterau TGAU neu gymwysterau cyfatebol. Fel gyda'r fersiwn flaenorol o fesur Capio 9, mae fersiwn y mesurau interim wedi'i chapio ar gyfanswm maint naw TGAU neu gymwysterau cyfatebol (y cyfeirir atynt fel 'slotiau' drwy'r ddogfen hon):

Mae tri o'r naw slot yn ei gwneud yn ofynnol dyfarnu pynciau a chymwysterau penodol er mwyn cyfrannu unrhyw bwyntiau tuag at y mesur. Mae'r slotiau hyn oll yn cyfateb i un TGAU o ran maint, gan ddynodi gofynion mewn Llythrennedd, Rhifedd a Gwyddoniaeth (TGAU yn unig) a chymryd y radd orau a gyflawnir ar gyfer pob slot o'r cymwysterau perthnasol. 

Bydd y chwe slot arall yn adlewyrchu'r pwyntiau a roddir i chwe chymhwyster arall gorau'r dysgwr (heb gynnwys y dyfarniadau hynny sy'n cyfrannu at y tri slot pwnc-benodol a ddisgrifir uchod).

Mae hyn yn wahanol i'r fersiwn flaenorol o sgôr Capio 9, a oedd yn cynnwys pum slot penodol: un ar gyfer Cymraeg/Saesneg (cymwysterau iaith yn unig o 2017), un ar gyfer mathemateg – rhifedd, un ar gyfer mathemateg a dau ar gyfer gwyddoniaeth. Roedd hyn yn golygu mai dim ond pedwar slot oedd ar agor i ddewis lleol. Roedd natur benodol y mesur wedi arwain at gulhau dewisiadau cwricwlwm mewn rhai ysgolion, nad oedd er budd pennaf dysgwyr unigol. Dadansoddiad o'r sgôr Capio 9 interim (Fersiwn y Mesur Interim) ac esboniad o'r dull a ddefnyddir i gyfrifo'r mesur hwn.

Mesurau Perfformiad Pwnc (Llythrennedd, Rhifedd a Gwyddoniaeth)

Yn ogystal â bod yn un o slotiau craidd y sgôr Capio 9 (Fersiwn y Mesur Interim), mae Llythrennedd, Rhifedd a Gwyddoniaeth hefyd yn fesurau perfformiad ar wahân. Mae pob un yn gyfwerth ag un TGAU.

Mae'r holl fesurau hyn yn cyfrifo cyfartaledd y sgoriau ar gyfer pob dysgwr unigol yn y garfan, gan ddefnyddio'r radd orau o blith unrhyw rai o'r cymwysterau TGAU cymwys a ddyfarnwyd i ddysgwr. Rhestrir y cymwysterau hyn isod.

Llythrennedd

  • TGAU Saesneg Iaith
  • TGAU Cymraeg Iaith (iaith gyntaf yn unig)
  • TGAU Llenyddiaeth Saesneg
  • TGAU Llenyddiaeth Gymraeg

Rhifedd

  • TGAU Mathemateg
  • TGAU Mathemateg – Rhifedd

Gwyddoniaeth

  • TGAU Bioleg
  • TGAU Cemeg
  • TGAU Ffiseg
  • TGAU Gwyddoniaeth (Dyfarniad Dwbl)
  • TGAU Gwyddoniaeth Gymhwysol (Dyfarniad Dwbl)
  • TGAU Gwyddoniaeth Gymhwysol (Dyfarniad Sengl)

Mesur Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru

Mae mesur Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru yn cyfrifo cyfartaledd y sgoriau ar gyfer dyfarniadau Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru ar gyfer pob dysgwr unigol yn y garfan, p'un a yw'n ddyfarniad Sylfaen (Lefel 1) neu'n ddyfarniad Cenedlaethol (Lefel 2):

  • Tystysgrif Her Sgiliau Sylfaen (Bagloriaeth Cymru)
  • Tystysgrif Her Sgiliau Genedlaethol (Bagloriaeth Cymru)

Anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac anghenion addysgol arbennig (AAA)

Daeth Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (y Cod ADY) a rheoliadau i rym ar 1 Medi 2021 i sicrhau bod plant a phobl ifanc 0 i 25 oed yn gallu cael mynediad at gymorth ychwanegol i ddiwallu eu hanghenion sydd wedi’i gynllunio’n briodol a’i ddiogelu, gyda dysgwyr wrth galon y broses.

Mae datganiadau a chynlluniau fel cynlluniau addysg unigol (IEPs) a chynlluniau dysgu a sgiliau (LSP) yn cael eu disodli gan gynllun newydd o'r enw Cynllun Datblygu Unigol (CDU). Ni fydd y termau a'r data ar 'Ddisgyblion â datganiadau', 'Gweithredu Ysgol a Mwy', a 'Gweithredu Ysgol' bellach yn cael eu defnyddio na'u casglu pan fydd y broses o bontio a gweithredu'r system ADY wedi'i chwblhau.

Mae plant yn symud o'r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) i'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mewn grwpiau dros bedair blynedd, er mwyn sicrhau digon o amser i feithrinfeydd, ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion ac awdurdodau lleol drafod y cymorth sydd ei angen ac i baratoi cynlluniau.

Yn ystod y cyfnod pontio, caiff plant a phobl ifanc eu hadrodd mewn un o bedwar categori tra bod y ddwy system yn rhedeg ochr yn ochr.

Cynlluniau Datblygu Unigol

Mae Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) yn gynlluniau statudol a grëwyd o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, ar gyfer dysgwyr sydd wedi’u darganfod ag anghenion dysgu ychwanegol. Gall dysgwr fod ag CDU a gynhelir mewn ysgol neu CDU a gynhelir gan awdurdod lleol. 

Disgyblion â datganiadau

Disgyblion lle mae'r awdurdod yn cynnal datganiad o anghenion addysgol arbennig o dan Ran IV o Ddeddf Addysg 1996. Gall datganiad fod wedi'i gyhoeddi yn flaenorol gan yr awdurdod lleol ar ôl asesu anghenion plentyn. 

Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy

Pan mae’r athro dosbarth neu bwnc a’r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn derbyn cyngor neu gefnogaeth gan arbenigwyr o’r tu allan, fel bod ymyriadau amgen sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai a ddarparwyd i’r disgybl trwy ‘Weithredu gan yr Ysgol’ yn bodoli. Mae’r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn arwain fel arfer, er cyfrifoldeb yr athro dosbarth neu bwnc yw’r ddarpariaeth dydd i ddydd.

Gweithredu gan yr Ysgol

Pan mae athro dosbarth neu bwnc yn nodi bod y disgybl ag anghenion addysgol arbennig ac yn darparu ymyriad sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai a ddarparwyd fel rhan o gwricwlwm arferol yr ysgol.

Talgrynnu a symbolau

Mewn tablau lle mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu i'r digid terfynol agosaf, gall ymddangos fod anghysondeb rhwng swm yr eitemau cyfansoddol a'r cyfanswm a ddangosir.

Defnyddiwyd y symbolau canlynol drwy'r cyhoeddiad:

[n/a] - ddim ar gael

[suppressed] - mae'r ffigur yn llai na 5, neu'n seiliedig ar ffigur sy'n llai na 5.

Gwybodaeth allweddol am ansawdd

Mae'r adran hon yn darparu crynodeb o wybodaeth am yr allbwn hwn yn erbyn pum dimensiwn ansawdd: Perthnasedd, Cywirdeb, Amseroldeb a Phrydlondeb, Hygyrchedd ac Eglurder, a Chymharedd. Mae hefyd yn ymdrin â materion penodol sy'n ymwneud ag ansawdd data 2016, ac yn disgrifio'r adnodd rheoli ansawdd a ddefnyddiwyd mewn perthynas â'r maes gwaith hwn.

Perthnasedd

TCaiff yr ystadegau eu defnyddio o fewn Llywodraeth Cymru a chan eraill i fonitro tueddiadau addysgol ac fel sylfaen ar gyfer gwaith dadansoddi pellach o'r data sylfaenol. Ymhlith rhai o'r defnyddwyr allweddol, mae'r canlynol:

  • gweinidogion a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru
  • Estyn
  • adrannau eraill y llywodraeth
  • y gymuned ymchwil
  • consortia addysg rhanbarthol, Awdurdodau Lleol ac ysgolion
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • dinasyddion unigol, cwmnïau preifat a'r cyfryngau

Caiff yr ystadegau hyn eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys:

  • monitro strategaethau addysg fel Ailysgrifennu'r Dyfodol a strategaethau polisi ehangach fel y cynllun gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi
  • cefndir cyffredinol ac ymchwil
  • i'w cynnwys mewn adroddiadau a dogfennau briffio
  • cyngor i Weinidogion
  • pecynnau data craidd addysg Cymru gyfan
  • cymariaethau a meincnodau rhwng Awdurdodau Lleol ac ysgolion
  • llywio'r broses o benderfynu ar bolisïau addysg yng Nghymru, gan gynnwys ad-drefnu ysgolion
  • llywio gwaith ESTYN wrth gynnal arolygiadau o ysgolion
  • maes addysg Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
  • helpu ag ymchwil i gyrhaeddiad addysgol

Cywirdeb

Bydd ysgolion ac awdurdodau lleol yn cael cyfle i asesu’r canlyniadau dros dro o ran cywirdeb, a byddant yn darparu gwybodaeth ddiwygiedig lle bo’n berthnasol.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae'r data yn ymwneud â'r holl gymwysterau a gyflawnir rhwng 1 Medi a 31 Awst o'r flwyddyn academaidd. Mae'r ffigurau bellach yn cynnwys unrhyw arholiadau a gaiff eu hailraddio, unrhyw arholiadau a gaiff eu hailsefyll ac unrhyw gymwysterau coll lle y darparodd ysgolion dystiolaeth o fewn y cyfnod amser a neilltuwyd neu lle y darparwyd tystiolaeth yn awtomatig gan y sefydliadau dyfarnu.

Hygyrchedd ac eglurder

Caiff y Datganiad Ystadegol Cyntaf hwn ei rag-gyhoeddi ac wedyn ei gyhoeddi ar adran Ystadegau gwefan Llywodraeth Cymru. Fe'i hategir gan dablau manylach ar StatsCymru (a ddiweddarir ym mis Rhagfyr), sef gwasanaeth am ddim lle gall ymwelwyr weld, trin, creu a lawrlwytho data.

Mae data lefel ysgol ar gael trwy wefan Fy Ysgol Leol. Ni fydd y data dros dro hwn yn cael ei ychwanegu at Fy Ysgol Leol ond bydd data terfynol ar gyfer y flwyddyn academaidd yn cael eu hychwanegu yn ddiweddarach ym mis Ionawr.

Cymharedd a chydlyniaeth

Yn dilyn Adolygiad Wolf o Addysg Alwedigaethol yn Lloegr, diwygiadau i gymwysterau TGAU yn Lloegr a newidiadau eraill a gyflwynwyd gan yr Adran Addysg yn Lloegr, nid oes modd cymharu data ar gyrhaeddiad Cyfnod Allweddol 4 yng Nghymru a Lloegr mwyach. Mae'r prif wahaniaethau fel a ganlyn:

  • Mae data ar gyfer Lloegr yn cyfyngu maint cymwysterau galwedigaethol i uchafswm o un TGAU. Ers 2015/16, mae data ar gyfer Cymru yn cyfyngu maint cymwysterau galwedigaethol i uchafswm o ddau TGAU, yn dilyn yr argymhelliad yn yr Adolygiad o Gymwysterau. Cyn hyn, nid oedd cyfyngiad ar faint cymwysterau galwedigaethol, ac roedd llawer o ddewisiadau yn gyfwerth â phedwar TGAU o ran maint.
  • Dim ond y cofrestriad cyntaf ar gyfer unrhyw arholiad a all gyfrif o fewn data ar gyfer Lloegr, ni waeth beth fo'r radd. Defnyddir y radd orau yng Nghymru.
  • Mae Lloegr wedi newid y ffordd y mae'n diystyru cymwysterau ac o ganlyniad, nid oes modd i gymwysterau cyffredinol a chymwysterau galwedigaethol tebyg gyfrif yn ei ystadegau. Nid yw'r cyfyngiad hwn yn berthnasol yng Nghymru.

Ceir gwybodaeth am ddiwygio cymwysterau TGAU yn Lloegr yn ogystal ag Adolygiad Wolf o Gymwysterau Galwedigaethol (Adran Addysg a'r Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau) ar wefan Gov.UK.

Ceir rhagor o wybodaeth am Adolygiad Wolf o Addysg Alwedigaethol hefyd yn y datganiad ystadegol GCSE and Equivalent Results in England 2013/14 (Revised) (Adran Addysg). Yng Nghymru, dechreuodd yr Adolygiad o Gymwysterau o flwyddyn academaidd 2015/16. Mae hyn yn golygu y bydd y ffordd rydym yn cyfrifo ein mesurau perfformiad yn newid. Bydd hyn yn effeithio ar gymharedd dros amser, ac yn cyfyngu ymhellach ar ein gallu i gymharu cyrhaeddiad addysgol yng Nghymru â gweddill y DU. Gweler yr Adolygiad o Gymwysterau i gael rhagor o wybodaeth.

Trwydded Llywodraeth Agored

Mae'r holl gynnwys ar gael o dan Drwydded Llywodraeth Agored f3.0, oni nodir fel arall.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Stephen Hughes
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099