Canlyniad yr erlyniad ynghylch wyau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae cynnal Safonau Marchnata Wyau yn amddiffyn iechyd y cyhoedd ac yn diogelu’r cyhoedd rhag cynhyrchion sydd wedi’u cam-ddisgrifio. Mae hefyd yn amddiffyn busnesau da sy’n cynnal y safonau y gofynnir iddynt eu cynnal.
Ar 27 Medi 2023 cafwyd cynhyrchydd wyau yn euog o beidio â chydymffurfio â deddfwriaeth profion salmonela mewn ieir dodwy.
Mae’n drosedd mynd yn groes i'r gofynion hyn, hynny o dan Reoliad 16 ac Atodlen 3 o Reoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010.
Cafodd y busnes ddirwy o £1,000, ei orchymyn i dalu gordal o £100 i’r dioddefwr, a gorchymyn hefyd i dalu £2,121 o gostau’r erlyniad.
Cynhaliwyd yr erlyniad yn dilyn archwiliad o’r busnes wyau pan ganfuwyd nad oedd prawf salmonela wedi’i gynnal o’r haid o fewn y cyfnodau amser penodedig ac iddo roi wyau bwrdd Dosbarth A i'w bwyta gan bobl ar y farchnad. Nid oedd yn hysbys beth oedd statws iechyd y wyau hynny ac ni ddylent felly fod wedi'u gwerthu.
Mae’n bwysig iawn i Lywodraeth Cymru ein bod yn sicrhau bod busnesau sy’n darparu bwyd i bobl Cymru’n cadw at y gyfraith.